Diliau Meirion Cyf I/Cyfarchiad i Mr. J. Jones, Gof, Tanycoed, ger Towyn
← Diolchgarwch am Ffon | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Rhaiadr Cain, Trawsfynydd |
CYFARCHIAD I MR. J. JONES
GOF, TANYCOED, GER TOWYN, MEIRION.
HENFFYCH, Siôn, gwron a garaf—gwiwfyg
Ben Gof ardderchocaf,
Puredig i ti prydaf
Newydd gerdd, a'th nawdd a gaf.
Dy nawdd yn bur hawdd rhoddi—iawn destan,
Ond ystyr fy nhlodi,
Tyst eraill fod tosturi,
Hen stor, yn dy fynwes di.
Dygwyddodd, rhedodd i'm rhan,—ddu golled,
Hawdd gallaf fi gwynfan;
Nid diachos 'rwy'n tuchan
Mewn anfad amgylchiad gwan.
Rhyw ddiwrnod, parod mae pall—yn dirwyn,
E dòrodd fy mwyall;
Mae'n awr heb gel, gwel y gwall,
Oes yn wir, eisiau un arall.
Wrth ddulio nerth y ddwylaw—pren caled,
Prin coeli, 'rwy'n tybiaw,
Dyrnodiaid wnai i'r dur neidiaw,
A'r min a drodd i'r man draw.
Y da ŵr hael, cael durio hon—eilwaith,
Yw 'nihalawg eirchion,
Genyt ti, er bri i'm bron,
Fy llonwych gyfaill union.
Dy glod, y parod ŵr pur,—hyd Wynedd
A daenaf yn eglur,
Am fwyall ddiball ddabur,
Ddeil ei min i ddulio mur.