Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Diolchgarwch am Ffon

Oddi ar Wicidestun
Arwyrain Boddlonrwydd Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Cyfarchiad i Mr. J. Jones, Gof, Tanycoed, ger Towyn

DIOLCHGARWCH AM FFON
I Mr. Evan Jones, Garddwr, Nannau,
dros Mr. Ellis Williams, Maentwrog

Yn union i Arddwr Nannau—gyraf
Gu eres ganiadau,
Nid coegwaith, llawn gweniaith gau,
Mal gwelir, ond mawl golau.

Gyraist, 'rwy' heddyw'n gwiriaw—i'm hanerch,
Mae hyny'n fy moddiaw,
Ffon hawddgar, lungar o'th law,
Dilwgr y daeth i'm dwylaw.

Ffon union a phen enwawg,—ffon iraidd,
Ffon aruthr ardderchawg,
Taeru mae pobl Maentwrawg
Na welir un o'i hail rhawg.

Da Ifan, mwy yw d'ofal—am danaf,
Na dynion fy ardal;
Mae'r ffon,—ca' hon i'm cynnal,
Ifan Siôn, pan af yn sal.

Gallu wna ballu bellach,—a minnau
Sy'n myned yn wanach,
Crefaf am ffon beth cryfach,
Ddalio byth, o'th ddwylo bach.

Heddyw, am a ge's, heb ddim gwall—yn dawel,
'Rwy'n diolch, ŵr doethgall;

A phan yri ffon arall,
Cei glod eglur, pur, heb ball.

Nodiadau

[golygu]