Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Dechreu y Gwanwyn

Oddi ar Wicidestun
Y Bardd yn ei Gystudd Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Y Mormoniaid

Y MORMONIAID

MAE "Seintiau'r dyddiau diweddaf,"—dallaidd,
Yn dwyllwyr i'r eithaf;
Gelynion eon Duw Naf
Yw'r rhithweilch, o'r rhyw waethaf.


Proffesant, gawriant mewn geiriau—madraidd,
Y medrant wneud gwyrthiau;
Ond bleiddiaid yw'r gwylliaid gau,
Coleddant ddweyd celwyddau.

Didanc ddewiniaid ydynt—a bwriad
Gwiberaidd sydd ganddynt;
Olyniaid Endoriaid ynt,
Dyna y gwir am danynt.


Nodiadau

[golygu]