Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Y Mormoniaid

Oddi ar Wicidestun
Dechreu y Gwanwyn Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Marwolaeth pump o Feirdd yn y flwyddyn 1847

Y MORMONIAID

MAE "Seintiau'r dyddiau diweddaf,"—dallaidd,
Yn dwyllwyr i'r eithaf;
Gelynion eon Duw Naf
Yw'r rhithweilch, o'r rhyw waethaf.


Proffesant, gawriant mewn geiriau—madraidd,
Y medrant wneud gwyrthiau;
Ond bleiddiaid yw'r gwylliaid gau,
Coleddant ddweyd celwyddau.

Didanc ddewiniaid ydynt—a bwriad
Gwiberaidd sydd ganddynt;
Olyniaid Endoriaid ynt,
Dyna y gwir am danynt.


Gwallus, anweddus swynyddion,—heintus,
Tuhwnt i'r hen Simon;
Hadl addig hudolyddion
Drygionus, barus o'r bôn.

Honant iddynt eu hunain—draddodiad
Dreiddiadwy mal lefain;
Athrofa waetha' Rhufain,
Dan felldith, yw rhith y rhai'n.

Gwae'r dynion rydd grediniaeth_i'w ffyrnig
Uffernol athrawiaeth;
Allai diawl, hyll hudoliaeth,
Yn llawn gwŷn, gynllunio'i gwaeth?

Gwylied pob dyn o'i galon—fyth goelio'r
Fath gelwydd echryslon;
Ymaith a'r druth ddiffaith hon
Fel niwl o flaen awelon.


Nodiadau

[golygu]