Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Diarhebion iv

Oddi ar Wicidestun
Job xiv Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Diarhebion viii

DIARHEBION IV

GWRANDEWCH, O blant, ar addysg tad,
Atebawl fwriad diball,
Ac erglywch genyf gynghor cu
I dawel ddysgu deall.

Can's rhoddaf i chwi addysg dda,
Yr hon a'ch gwna yn ddoethion;
Ac na wrthodwch chwithau fyth
Fy nghyfraith ddilyth gyfion.

Yr oeddwn i yn fab i'm tad,
Diarchar fâd ei orchwyl,
Yn dyner hefyd a dinam
Yn mynwes fy mam anwyl.

Efe a'm dysgai yn ddidwyll
Mewn gwiwrwydd bwyll rhagorol,
A'i holl gynghorion oedd, mae'n ddir,
Yn addysg wirioneddol.


Cais wir ddoethineb yn ddiball,
Cais berffaith ddeall hefyd,
Na wyra chwaith o'r llwybr cu
Sy'n arwain fry i'r bywyd.

Byth nac ymâd, er allo neb,
A gwir ddoethineb nefol,
Ond car hi'n fwy na dynol gêd,
Hi'th wared yn dragwyddol.

Y penaf peth yn drysor gwiw
I'th enaid yw doethineb,
Ac â'th holl nerth a'th gyfoeth mâd
Cais ddeall a duwioldeb.

Dyrchafa di ddoethineb dda,
Cei wledda mewn cu lwyddiant,
A hithau a'th ddyrchafa di
I fythawl fri heb fethiant.

Doethineb nef rydd i ti hawl
O annherfynawl fwyniant,
Ychwaneg ras i'th ben rydd hon,
A choron o ogoniant.

Gan hyny gwrando'n awr, fy mab,
A derbyn f'arab eiriau,
Blyneddoedd d'einioes a sicrheir,
Ac amlheir dy ddyddiau.

Dy ddysgu'r ydwyf heddyw'n ddir
Yn ffordd y wir ddoethineb,
Ac yn dy dywys yn ddiwâd
Yn llwybrau mâd uniondeb.


Pan rodiech, dy gerddediad fydd
Yn hynod rydd a heini';
A phan y rhedech, heb ddim cam
Agweddiad, ni thramgwyddi.

Ymafael dithau mewn gwir ddysg,
A cymer addysg heddyw,
A chadw hefyd hon bob pryd,
Dy odiaeth fywyd ydyw.

Na ddos, er dim a ddel i'th ran,
I lwybr yr annuwiolion,
Na rodia chwaith i borthi'th flys
Hyd ffordd drygionus ddynion.

Gochel hi beunydd, ac na ddos
Byth byth yn agos iddi;
Ond cilia draw, mae hyny'n well,
A chadw'n mhell oddiwrthi.

Ni huna'r cas ynfydion certh
Nes gwneuthur anferth ddrygau,
Eu cwsg yn llwyr ei golli wnant,
Nes cwympant ryw eneidiau.

Eu hymborth beunydd yn llawn tra
Yw bara annuwioldeb,
A'u diod ydyw gwinoedd trais,
Dibrisiant lais doethineb.

Ond llwybr y cyfiawn mawr ei fri
Sydd fel goleuni 'sblenydd,
Yr hwn lewyrcha'n hardd ei bryd
Yn fwyfwy hyd ganolddydd.


Ond ffordd y rhai drygionus sydd
Yn d'w'llwch cudd diwelliant;
Ni wyddant wrth ba beth anfyg,
Trwm gaddug, y tramgwyddant.

Fy mab, gan hyny, gwrando'n glau
Fy ngeirian a'm cynghorion,
Gogwydda'th glust fel bachgen call,
A deall f'ymadroddion.

Na âd i'm doeth orch'mynion chwaith
Fyn'd ymaith o dy olwg,
Ond cadw hwynt yn ngheudod llon
Dy galon yn ddigilwg.

Can's bywyd ydynt yn ddiffael
I'r sawl sy'n cael eu meddu,
Ac iechyd hefyd i'w holl gnawd,
A phenaf ffawd i ffynu.

Cadw dy galon, a gwna frys,
Yn ddiesgeulus hynod,
O honi allan mewn iawn bryd
Mae bywyd pur yn dyfod.

Bwrw oddiwrthyt draw bob gau
Daeogaidd enau digus,
A'r hollwefusau troeawg ffol,
Dwl, eithaf hudoliaethus.

Edrych yn mlaen a'th lygaid tau,
A dal d'amrantau'n union;
Na ddyro'th glust i wrando chwaith
Ar ffiaidd iaith ynfydion.


Ystyria lwybr dy draed yn dda,
A threfna'th ffyrdd yn uniawn,
A dilyn reol pur air Duw,
Gan gofio byw yn gyfiawn.

Na thro ar dde na'r aswy law
I wyraw at anwiredd,
Ond cerdd yn mlaen heb lwfrhau
Hyd ganol llwybrau rhinwedd.


Nodiadau

[golygu]