Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Diarhebion viii

Oddi ar Wicidestun
Diarhebion iv Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Diarhebion ix

DIARHEBION VIII

DOETHINEB nefol oddifry
Sydd yn llefaru'n firain,
Yn foneddigaidd heb ddim trais
A'i llafar lais mae'n llefain.

Mewn lleoedd uchel iawn yn glau,
Lle gwelir llwybrau lawer,
Y mae hi'n sefyll yn ddiwad
I weini'n rhad bob amser.

Gerllaw y pyrth, yn mhen y dref,
Mewnmodd digyfref beunydd,
Ac wrth y drysau'n ddigon clir
Y clywir ei lleferydd.

Arnoch chwi, wŷr, drwy gariad mawr,
'Rwy'n galw'n awr heb gelu,
Ac at feib dynion mae fy llais,
Dewisgar gais, i'w dysgu.

Ha! ha! ynfydion trawsion trwch,
Dychwelwch yn orchwylus,

A byddwch chwithau, anghall wŷr,
O galon bur ddeallus.

Gwrandewch, mi draethaf i chwi'n awr
Ryw bethau mawr ardderchog,
Agoraf fy ngwefusau'n fflur
Ar bethau pur odidog.

Fy ngenau draetha'n hyf mewn hedd
Wirionedd yn ddiwyrni;
A ffiaidd gan fy ngwefus fầd
Yw gweniaith a drygioni.

Holl eiriau teg fy ngenau glwys
Sydd gymhwys a digamwedd,
A diau nad oes ynddynt chwaith
Na threisiawl iaith na thrawsedd.

Y maent hwy oll yn amlwg iawn
I'r neb a'u llawn ddeallo;
Ac O, mor uniawn ynt i'r rhai
Gwybodus a'u defnyddio.

Derbyniwch f'addysg er eich clod,
Nid arian darfodedig,
A gwir wybodaeth a'ch gwna'n ddoeth,
O flaen aur coeth bathedig.

Gwell yw doethineb ar y llawr
Na'r gemau gwerthfawrocaf,
Mil mwy dymunol ydyw hon
Na'r holl drysorion penaf.


Myfi, Doethineb, driga'n nghyd
A chall dduwiolfryd gwiwlan;
Gwybodaeth, cynghor, yn ddiffael,
'Rwyf fi'n ei gaffael allan.

Can's ofn yr Arglwydd yw casâu
Niweidiawl ddrygau balchder,
Ac uchder ysbryd drwg ei naws,
A'r genau traws ysgeler.

Mi bïau gynghor uwchlaw neb,
A gwir ddoethineb hefyd;
A deall ydwyf o fawr werth,
Mi bïau nerth a bywyd.

Trwof fi teyrnasu yn dda
Ar ddynion wna brenhinoedd,
Penaethiaid hefyd wnant iawn farn,
Yn gadarn mewn brawdlysoedd.

Trwy f' addysg i rheoli wna
T'wysogion yn dra hawddgar,
A'r pendefigion fyddant bur,
A duwiol farnwyr daear.

Y sawl a'm carant yn ddiau
A garaf finnau'n hylwydd;
A'r sawl a'm ceisio'n fore iawn
A'm cânt drwy lawn foddlonrwydd.

Gyda myfi mae cyfoeth mâd,
Yn nghyda rhad anrhydedd,
A golud a chyfiawnder mau
Sydd i barhau'n ddiddiwedd.


Gwell yw fy ffrwyth i nag aur coeth,
Mae'n gyfoeth anllygredig,
A'm cynnyrch sy'n rhagorach rhan
Nac arian detholedig.

Hyd ffordd cyfiawnder mewn iawn hwyl,
Rai anwyl, y'ch arweiniaf;
Ac ar hyd canol llwybrau barn
Eich Llywydd cadarn fyddaf.

Pair hyn i'r rhai a'm caro'n gu
Gael etifeddu sylwedd,
A llanw eu trysorau wnaf
Ac a'u mawrhaf yn rhyfedd.

Yr Arglwydd a'm meddiannodd i
A hylwydd fri yn helaeth,
Cyn iddo 'rioed amlygu'n g'oedd
Weithredoedd creadigaeth.

Er tragwyddoldeb, cyn bod dim,
Mewn iawnwisg y'm heneiniwyd!
Cyn crëu y nef na'r ddaear lawr,
Mor wiwgar y'm mawrygwyd!

Pryd nad oedd dyfnder i'w goffâu,
Na phrenau na dyffrynoedd,
A chyn bod ffrydiol lesol iawn
Ffynhonau'n llawn o ddyfroedd,

Cyn gosod seiliau cedyrn clir
Mewn addurn i'r mynyddau,
O flaen cyfleu mewn prydferth ddrych
Yr holl fireinwych fryniau,


Cyn gwneud o hono'r ddaear gron,
A'r meusydd ffrwythlon welir,
Na llunio uchder llwch y byd,
A'r cwbl i gyd ganfyddir,

Pan barotodd efe'n hardd iawn
Y nefoedd lawn dysgleirder,
A phan osododd gylch yn glawr
Ar wyneb mawr y dyfnder,

Pan gadarnhaodd ef yn glau
'R cymylau wrth y miloedd,
A phan y nerthodd i barhau
Ffynhonau y dyfnderoedd,

Pan roddes ddeddf i'r môr ar g'oedd,
A'r dyfroedd yn ddiderfyn,
A'u rhwymo fel na wnaent osgoi,
Na thòri mo'i orchymyn,

Yr oeddwn gydag ef, mae'n ddir,
Yn meddu gwir lawenydd,
A cher ei fron myfi yn filwch
Oedd ei hyfrydwch beunydd.

Mawr lawenychu'r oeddwn ar
Drigfanau'r ddaear dirion;
Fy hyfryd serch a'm h'w'llys da
Oedd gyda meibion dynion.

Yn awr, gan hyny, na nacewch,
O feibion, gwrandewch arnaf,
Gwyn fyd a gadwant fy ffyrdd i,
Y rhei'ny a fendithiaf.


Derbyniwch addysg yr awr hon,
A byddwch ddoethion hefyd;
Nac ymwrthodwch byth â hi,
Cyfrana i chwi fywyd.

Gwyn fyd y dyn wrandawo ar
Fy eres ddoethgar eiriau,
Gan wylio'n ddyfal a didawl
Yn rasawl wrth fy nrysau.

Y neb a'm caffo i mewn pryd
Gaiff fywyd yn dragywydd,
Meddiannu hefyd byth a wna
Ewyllys da yr Arglwydd.

Ond sawl a becho'n f'erbyn i,
Mae'n rhaid ei gosbi'n ddiau;
A'i unig enaid y gwna gam,
Fe syrth i ddryglam angau.


Nodiadau

[golygu]