Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Erfyniad am Goed Derw gan T. Hartley, Ysw., Llwyn

Oddi ar Wicidestun
Coffadwriaeth am y Tywysog Frederick Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Cabledd

ERFYNIAD AM GOED DERW
GAN T. HARTLEY, YSW., (BARDD IDRIS) LLWYN,
I wneud Meinciau Haf.

I'r Llwyn, a hyny er lles,—prysuraf,
Heb hir siarad rhodres,
Traethaf trwy deg fy neges,
Wrth y Bardd, tra tardd y tes.


Fy araith, heb fyfyrio,—na dwnad,
Fel dyn yn gwenieithio,
Mewn trefn fydd dweyd, am un tro,
Yn gyson beth wy'n geisio.

Cardod o flaenion cordiau—i wneuthur
Iawn ethol gadeiriau,
Rhai ceimion, gwydnion, i'w gwau
'N Gothic a Liptic weithiau.

Os caf, anfonaf yn fwyn—hynawsaidd
Hen asyn a chertwyn,
I'r goedwig dewfrig i'w dwyn
Yn ddilwgr ar ddwy olwyn.


ATEBIAD BARDD IDRIS

Y Ffridd Arw yw'r ffordd orau—i Meurig
Ymorol am briciau,
Dyna'r gwir, y rhai'n sy'n gwau
'N Liptig a Gothig weithiau.

Cychwynwch, ewch eich hunan,—yn gadarn
I'r goedwig yn fuan,
Efo'r lli' a'r fwyall lân
'Rhai hyllaf tòrwch allan.

Nodiadau

[golygu]