Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Coffadwriaeth am y Tywysog Frederick

Oddi ar Wicidestun
Myfyrdod y Bardd wrth fyned dros Fynydd Hiraethog Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Erfyniad am Goed Derw gan T. Hartley, Ysw., Llwyn

COFFADWRIAETH
AM Y TYWYSOG FREDERICK, DUC CAEREFROG.
Bu farw Ionawr 5ed, 1827, yn 64 oed.
[ENGLYNION AROBRYN.]

Och! alar, heb le i ochelyd,—dolur
A'n daliodd yn ddybryd,
Trystfawr olwynion tristfyd
Sy'n gwau drwy holl barthau'r byd.


Rhyw lwythawg farwolaethau—awr dduoer
Orddiwes bob graddau;
'Does dan rhod yn bod un bau
I dd'engyd o wydd angau.

Torodd ein Rhaglaw tirion—dewisawl
Dywysog y Brython;
A'r gwr a gawsai'r goron
Ar ol ei frawd araul fron.

Siglawdd y deyrnas hyglod—yn dwyn baich
O dan bwys y dyrnod;
Duc CAEREFRAWG, nerthawg nôd,
Eurfyg, a ga'dd ei orfod.

Yn ei oes dadleu a wnaeth—ŵr doniawl,
Er dinystr Pabyddiaeth;
Mynai'i dwyn i'r gadwyn gaeth,
Gan agor drws Cris'nogaeth.

Mewn hwyl ei anwyl enaid—a garai
Y gwir Brotestaniaid;
Rhag wynebdrist Bapistiaid
Yn llew dwys cyfrwys ei caid.


Nodiadau

[golygu]