Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Myfyrdod y Bardd wrth fyned dros Fynydd Hiraethog

Oddi ar Wicidestun
Y Dysgedydd etto Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Coffadwriaeth am y Tywysog Frederick

MYFYRDOD Y BARDD
WRTH FYNED DROS FYNYDD HIRAETHOG,
Mawrth 19eg, 1825

BRONYDD a lleithdir brwynawg—a mân-wellt,
Yw Mynydd Hiraethawg,
Lle dyrus a rhwystrus rhawg,
Anaele, ar hin niwliawg.

Lle anial rhwng y Bala—a Dinbych,
Ond ambell gysgodfa;
Lle tirion bryd hinon ha'
Gerwin ar rew ac eira.


Minnau, ar ben y mynydd,—yn guferth
A gofiais am Gruffydd,
Bardd doniawg Hiraethawg, rhydd,
Ffynnon yr hoff awenydd.

Baen uthr bryd, bu'n athraw braf—bu urddwr
I'r beirddion enwocaf;
Adgofio yn effro wnaf
Am y gwron mygaraf.


Nodiadau

[golygu]