Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Y Dysgedydd etto

Oddi ar Wicidestun
Y Dysgedydd Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Myfyrdod y Bardd wrth fyned dros Fynydd Hiraethog

Y DYSGEDYDD ETTO

Daioni llawn dywenydd—a gafwyd
O gyfoeth DYSGEDYDD,
Gwersi glân, dyddan bob dydd,
Llawnion i bob darllenydd.


Da genym wel'd dy gynnydd—mor enwog,
Mireinwych DDYSGEDYDD,
Tydi mae llu'n farnu fydd
Goleudeg haul y gwledydd.

Mal tirion afon mewn tangnefedd—tardd
Heb ddim twyll na serthedd;
Mwynhad o'th ffrydiau mewn hedd
Ddigonant Dde a Gwynedd.


Mawryga'r fwyn Gymreigiaith—ymorol
Am eiriau dilediaith,
Llwyr goetha, nithia'r hen iaith
O'i sothach, hyd yn seithwaith.

Bydd dreiddiawl, siriawl dan ser—a manwl
Gyda mwynaidd dymher,
Dysg i Gymru barchu'n bêr
Wyth gymaint ar iaith Gomer.

Llwyddiant fo i'th allweddau—i agor
Ar wiwgoeth drysorau,
Gan gyson egluro'n glau
Iawn addas wirioneddau.


Nodiadau

[golygu]