Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Fflangell i Borthweision

Oddi ar Wicidestun
Rhydymain, Meirionydd Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

I ofyn Ysgyfarnog gan Thomas Hartley, Ysw

FFLANGELL I BORTHWEISION

Heb lwyddiant bum yn bloeddiaw—er gofid,
Ar gyfer Abermaw;
Dyrchefais fy llais a'm llaw,
Gwiriondeb, neb yn gwrandaw.


Ffei! aros wrth у fferi—am oriau
Bu Meurig mewn oerni;
Ystyriwch mewn tosturi
Fod awr yn rhy fawr i fi.

Dau ddynyn diddaioni—dir ydych,
A rwydwyd gan ddiogi;
Ar dymhor oer rhaid i mi
Deithio'r nos o'ch achos chwi.

Ni feiddiaf, rhag ofn im ' foddi,—mwy byth
Fyn'd mewn bâd ar weilgi;
Aed cwch tyllog i'w grogi,
Nid da'r môr, ond tir i mi.


Nodiadau

[golygu]