Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Rhydymain, Meirionydd

Oddi ar Wicidestun
Y diweddar Robert Roberts, Caergybi Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Fflangell i Borthweision

RHYDYMAIN, MEIRIONYDD

Yn Rhydymain gain deg wedd—pregethir
Pur goethwych wirionedd,
Efengyl eryl eurwedd,
Gan ffyddlon genhadon hedd.

Yno ceir dan wên cariad—iawn frodyr
Unfrydol yn wastad,
Rydd ddilys wir addoliad
I Dduw Nêr, y Muner mâd.

Ymgynnull mae ugeiniau—yn fynych
O fewn i gynteddau
Tŷ Iôr hedd, i gael gwledd glau
Yn ei waed i'w heneidiau.

Yno ca'dd llawer enaid—ei gynnal,
A'i gânu yn delaid;
Duw'r heddwch o'r llwch a'r llaid—a'u cododd,
Fyny eu dygodd i'r nef fendigaid.

Diattal parhaed etto—yr achos,
I oruchel lwyddo;
Dyger i dŷ Duw Iago
Holl ddynion y freinlon fro.


Nodiadau

[golygu]