Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Y diweddar Robert Roberts, Caergybi

Oddi ar Wicidestun
Bronwnion, Dolgellau Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Rhydymain, Meirionydd

Y DIWEDDAR ROBERT ROBERTS,
CAERGYBI.
Englynion a gyfansoddwyd wrth wrando arno yn
darlithio ar Seryddiaeth yn Nolgellau yn 1825.

GŴR doniawl, breiniawl, llawn bri—arabaidd,
Yw Roberts, Caergybi;
Gwnaeth ddangos, y nos, i ni
Bur anian yr wybreni.

Seryddwr, awdwr odiaeth,—deallydd
Dull y greadigaeth;
Amlygu'n wiwgu a wnaeth
Hen addurn anianyddiaeth.

Anrhegodd Gymru yn rhagor—â darlun
O'r du oerwlyb ddyfnfor,
A'r llun y mae gorllanw môr,
Da gofiant, yn dygyfor.


Nodiadau

[golygu]