Diliau Meirion Cyf I/Bronwnion, Dolgellau
← Y Llwyn, ger Dolgellau | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Y diweddar Robert Roberts, Caergybi → |
BRONWNION, DOLGELLAU
BRONWNION bery'n enwog—am oesau
Uwch meusydd blodeuog;
Mor wiwddestl a mawreddog
Mae'n edrych dan glaerwych glog.
O'i gwmpas mae teg wempog—gadeiriawl
Goed irion gwyrdd—ddeiliog,
Lle hawddgar i'r gerddgar gog,
A'r eos fwyngu rywiog.
Band hyfryd ar hyd yr haf—eu gwelir
A golwg prydferthaf;
Parhant yn eu tyfiant daf,
Nis gwywant hirnos gauaf.
Llonwych rodfeydd dillynion—sy yno,
Rhwng rhosynau gloywon,
Oll yn ferth, mor brydferth bron
A sawrus flodau Saron.
Ei syw fad addurniadau—a'i harddwch
A urddant Ddolgellau;
Gwir ethol ragoriaethau
Ddyry'r blagur pur i'n pau.
Sylwer mai Williams haelwedd—ŵr anwyl,
Yw'r uniawn etifedd;
Caffed fyd hyfryd a hedd
I'w einioes yn ei annedd.
A'i seirian deulu siriawl—hynawsaidd,
Fo'n oesi'n grefyddawl,
Ac esgyn wed'yn i wawl
Cain wiwfyg Gwynfa nefawl.