Diliau Meirion Cyf I/Y Llwyn, ger Dolgellau
← Talyllyn a Dolffanog | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Bronwnion, Dolgellau → |
Y LLWYN, GER DOLGELLAU
Llwyn eirian, gwiwlan, golau,—Llwyn siriol,
Llawn o sawrus flodau,
Llwyn enwog gerllaw Nannau,
Llwyn y beirdd a'u llawen bau.
Llwyn hen ydyw'n llawn hynodion—llachar,
A lloches cantorion,
Llwyn deiliog dan frigog fron,
Llwyn eurawg yn llawn aeron.
Llwyn prydferth, mawrwerth i Meurig—nesa
Bob noswyl arbenig;
Llwyn destlus, trefnus, lle trig
Difalch a rhydd bendefig.
Man anwyl yw'n min Wnion—y ffriwdeg
Loyw ffrydiawl afon;
Canfyddir mewn cain foddion
Lwyni heirdd hyd lânau hon.
Gerddi rhosynog urddawl—a llawnion
Berllenydd cynnyrchiawl,
Per ffrwythau, llysian llesiawl,
Dillynion, gwychion mewn gwawl.
Da adail pur odidog—yw'r annedd
Gywreinwych a chaerog;
Mae coed fyrdd mewn glaswyrdd glog
O'i gwmpas yn dra gwempog.