Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Marwnad Evan James (Ieuan ap Iago)

Oddi ar Wicidestun
Merched Ieuainc Dolgellau Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Coffadwriaeth J. Williams, Dolgellau

MARWNAD EVAN JAMES,
(IEUAN AP IAGO)

Bardd o Lanfachreth, swydd Feirion, yr hwn a ymadawodd â'r fuchedd hon Medi 18fed, 1804.

GALAR o bryd bwygilydd—a chroesau,
Echrysawl ystormydd,
Rhyw chwerw boen a chur beunydd
Dwys iawn, i'm gorfodi sydd.


Angau, gawr nerthfawr ei nôd—gyrhaeddiff
Bob graddau i'r beddrod,
Gorfydd ei finiawg arfod
Bob dyn ar hynt, bawb dan rhod.

Dygodd fy ngharedigol—wir gyfaill,
Wr gwiwfwyn crefyddol,
Minnau gaf ofid mewnol
Mawr iawn yma ar ei ol.


Mewn hiraeth trwmgaeth bob tro rwy'n myfyr
Am Ifan ap Iago;
Wyf yn brudd o'iddwfn briddo
Mewn main rych yn min man ro.


Torrwyd fy athraw tirion—abl ieithydd,
O blith daearolion
I'r dugaeth feddrod eigion,
Mydr frawd, lle madra ei fron.

Gŵr awenyddawl, myg ei rinweddau,
Digam ei rodiad, da'i gymeriadau,
Llon urddunawl ŵr, llawn o wir ddoniau,
Dethol ydoedd, a doeth ei ddaliadau,
Gwiw nodawl rydd ganiadau—a brydodd,
Fe gywir eiliodd rif o garolau.

Braw dygn i'w briod wiwgar,—dda, gallwych,
Oedd golli hardd gydmar,
Egr wyla ddeigr o alar,
Ffrwd gerth, am ei phriod gwâr.

Minnau a briwiau i'm bron—fy hunan,
Wyf hynod ddigalon,
Am guddio'm mrawd, llestrgwawd llon,
Mawrwych, yn mhlith y meirwon.


Nodiadau

[golygu]