Diliau Meirion Cyf I/Merched Ieuainc Dolgellau

Oddi ar Wicidestun
Ysgol Frutanaidd Dolgellau Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Marwnad Evan James (Ieuan ap Iago)

MERCHED IEUAINC DOLGELLAU.

Canmoliaeth iddynt am eu hymdrechion llwyddiannus
i werthu tocynnau er cynnorthwy arianol i'r Ysgol flaenorol.

RHINWEDD gwaith da rhïanod—a urddodd
Ein harddwych gyfarfod,
Cannoedd o fàn docynod
Werthasant, rhyglyddant glod.


Aethon ' yn heirddion mewn hwyl—gu wempawg
O gwmpas eu gorchwyl,
Yn drefnus, gweddus, a gwyl,
Ar unwaith, do, rai anwyl.


Gonest fuont heb gynen—na phoethwyllt
Effeithiau cenfigen,
Mal un corff, nes llwyr orphen
Yn goeth bur eu gwaith i ben.


Gwelwyd eu bod o galon—yn meddwl
Am addysg i'r tlodion,
A rhoi'r ysgol haeddol hon
Uwch eraill dan ei choron.


Haeddent gael clod cyhoeddus—ac hefyd
Eu cyfarch yn barchus,
Hawdd iawn yr ân' hwy'n ddi rus,
Gwyddom, at bob gwaith gweddus.

Effeithiau doniau rhyw deg—yn nerthol
Wnan ' wyrthiau heb attreg;

A gwir chwaeth eu geiriau chweg
Agorant galon gàreg.

Gwae'r dynion geir i'w denu—â bwriad
Wiberaidd o'u llygru;
Cyrcher i delm carchar du
Y gwylliaid i'w flangellu.


Nodiadau[golygu]