Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Marwolaeth David Owen, Bwlchcoch, ger Dolgellau

Oddi ar Wicidestun
Marwolaeth Jane Jones, Llanelltyd Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Marwolaeth Lydia Jones, Dolgellau

MARWOLAETH DAVID OWEN

BWLCHCOCH, GER DOLGELLAU

Ow! Dafydd, wiwrydd wron—fu'n oesi
Yn fynwesawl Gristion,
Y brawd mwynaidd, llariaidd, llon,
A ddygwyd i fedd eigion.

Du ofid ar ol Dafydd—bair edwi
Brodyr a chwaeriorydd;
Dyn oedd ef da yn ei ddydd,
Cry' ei afael mewn crefydd.

Trem alarus, trwm i Laura,—Wenferch,
Fu anfon i'r gladdfa
Mor gynnar, darpar ei da
Gu addien brïod gwiwdda.

Selog, dduwiol was hylwydd,—y'i cafwyd,
Cyfaill pur didramgwydd;
Bu'n weithgar iawn mewn llawn llwydd,
A'i rodiad yn ddiw'radwydd.


Nodiadau

[golygu]