Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Marwolaeth Jane Jones, Llanelltyd

Oddi ar Wicidestun
Marwolaeth Ieuan Gwynedd Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Marwolaeth David Owen, Bwlchcoch, ger Dolgellau


MARWOLAETH JANE JONES,
PRIOD MR. JOHN JONES, CRYDD, LLANELLTYD.

Och! ruthrawl ingawl angau—diorfod
Yw dy erfawr saethau;
Dygi i'r bedd, du hagr bau,
Rai anwyl, llawn o rinau.

Galar, heb le i 'mogelyd,—a daenodd
Hyd wyneb Llanelltyd,
Rhoed gwraig hawddgar freingar fryd,
Gu eirioes, yn y gweryd.

Soriant i'w rhiaint seirian—a ffrewyll
I ei phrïod mwynlan;
Galarus ynt gloi ar Sian
Garuaidd yn y graian.

Ei brodyr sydd yn brydio—a'i hunig
Chwaer hynaws sy'n wylo;
Tan goddiant cadwant mewn co'
Ei gwiwder cyn eu gado.

Hon ydoedd wraig hynodol—ddiwegi,
O ddygiad crefyddol;
Gerwin hiraeth engiriol,
Gwirir hyn, geir ar ei hol.

Hunodd a phwys ei henaid—ar rinwedd
Crist, yr Oen bendigajd,
Y teilwng aberth telaid,
A'r Iawn yn gyflawn a gaid.


Nodiadau

[golygu]