Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Marwolaeth Ieuan Gwynedd

Oddi ar Wicidestun
Marwolaeth pump o Feirdd yn y flwyddyn 1847 Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Marwolaeth Jane Jones, Llanelltyd


MARWOLAETH IEUAN GWYNEDD

Ow! ein gwenawl Ieuan GWYNEDD gwron
Hawddgaraf ein tudwedd;
Gwae Walia, (fu'n hir goledd,)
Roi eị fath yn ei oer fedd.

Llafuriodd, a'i holl fwriad—drwy synwyr
Dros iawn lywodraethiad,
Gorwych oedd grym ei gariad
At bendant lesiant ei wlad.

Dolurus gydalaru—ar unwaith
Ceir rhïanod Cymru,

Am у call ŵr gemawg cu,
Hoff anwyl, wnai'u diffynu.

Nodiadau

[golygu]