Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Marwolaeth John Pugh, (Ieuan Awst)

Oddi ar Wicidestun
Marwolaeth Morgan Jones, Gwernbarcud Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Cristion Tawel

MARWOLAETH JOHN PUGH, YSW.
:(IEUAN AWST), DOLGELLAU.

Mis Chwefror, dymhor oer du,—ow! darfu't
Ein dirfawr golledu,
Lleddaist ein bardd, coethfardd cu,
Do, yn union, dan wenu.

Briw, godwrdd, braw ac adwyth—oedd ei farw
I'w ddifyrus dylwyth;
Mae galar du'n llethu llwyth
Ieuan Awst, awen ystwyth.

Gwr oedd a garai ryddid—y gwerin,
A gwiriai'i addewid;
Gorthrymder a llymder llid
Ni oddefai'n ddiofid.


Nodiadau

[golygu]