Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Cristion Tawel

Oddi ar Wicidestun
Marwolaeth John Pugh, (Ieuan Awst) Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Torwr Addunedau

Y CRISTION TAWEL

Y awr anwyl a gâr rinwedd—mae hwnw
Am ennyn tangnefedd,
A dewis yn ddiduedd
Hau da i bawb hyd y bedd.

Rhyw afiach sothach rhy sal—yw croesder
I'r Cristion ei gynnal;
Y dyn da nid yw'n dial,
Dywed ef mai Duw a dal.

A chalon dirion bob dydd—mal Enoc,
Molianna'i Greawdydd,
Gan geisio rhodio'n ŵr rhydd,
Rhag briwdod a rhwyg bradydd.


Nodiadau

[golygu]