Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Torwr Addunedau

Oddi ar Wicidestun
Cristion Tawel Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Yr Amaethwyr a'r Bugeiliaid

TORWR ADDUNEDAU

ARFAETHU 'rwyf fi weithion—mydryddu
Mâd rwyddwych englynion
O hèr i ddrwg arferion
Anwar sydd yn yr oes hon.

Ni feiddiaf, gwiriaf mewn geiriau,—miniog,
Ddim enwi personau;
Onid gwell nodi gwallau
Hudolion gŵyrgeimion, gau?

Llwyr yw'r cwyn, ceir llawer cant—o ddynion
A ddinam addawant,
Ond prin iawn y cyflawnant
Eiriau llon mwynion eu mant.


Arferion bryntion mewn bro—gwyn aethus,
Yw gwenieithawl addo;
Ond nid hir cedwir mewn co'
Ymgyrhaedd am gywiro.

Rhyw ddiriaid goriaid geirwon,—taeogaidd,
Wnant deg addewidion,
Am wirio sillau mawrion
Eu gwers hir, 'does gair o son.

Niweidiawl yw addunedu—'n ffodus,
A pheidio byth dalu,
C'wilyddus yw coleddu
Erchylldod y ddefod ddu.

'Sawl dyr ei air bair heb wad—yn oerddig
Anurddo'i gymeriad,
Gwna hyn e'n fawddyn anfad,
Llwyd—ddu gör lled ddigariad.

Bawaidd ymddwyn mewn beiau—at eraill,
Wna tòrwyr ammodau;
Eu rhithiawg wyrawg eiriau
Drygnwyd, sydd fel breuddwyd brau.

Mae'n bechod hynod i'w henwi—mae'n warth,
Mae'n wrthun ddireidi,
A chas y pair achosi
Braw a nych yn ein bro ni.

Gweddus wrth fwyndeg addo—yw meddwl
A oes modd cywiro;
Os nad oes, rhag drygfoes dro—twyllodrus,
A gwall enbydus, gwell i ni beidio.


Er clod, 'rol gwneud ammodau,—yn bybyr
Gwnawn bob ymdrechiadau
I dalu'n glir, gwir nid gau—heb attal
Yn ddianwadal ein haddunedau.

Ein rheol fuddiol hyd fedd—fo gwiwrwydd,
Fyg air y gwirionedd;
Os dilynwn hwn mewn hedd—ni lithrwn,
Etto ni ŵyrwn mwy at anwiredd.


Nodiadau

[golygu]