Diliau Meirion Cyf I/Oedran Meurig Ebrill ac Isaac Jones o'r Llwyn yn y flwyddyn 1850
← Y Gauaf | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Lletyrhys, Brithdir |
OEDRAN
MEURIG EBRILL AC ISAAC JONES O'R LLWYN,
Yn y flwyddyn 1850
TR'UGAIN a deg, 'rwy'n mynegi,—'n gyfan
A gefais o flwyddi
Eisoes, faint etto i oesi
Sy gan i'n ol nis gwn i.
Isaac sydd yn cydoesi—â Meurig,
Ond marw a raid ini;
Ganwyd ni'n dau heb gyni
'Run awr, am ddim ar wn i.