Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Y Gauaf

Oddi ar Wicidestun
Y Person yn darllen Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Oedran Meurig Ebrill ac Isaac Jones o'r Llwyn yn y flwyddyn 1850

Y GAUAF

Y GAUAF llwm, drwm ei dro,—du olwg,
A'n daliodd ni etto;
Cannoedd lawer sy'n cwyno
Gan ias ei hin erwin o.


Rhai welir ar eu haelwyd,—yn gulion,
A gwelwedd wynebllwyd,
Ar rynu gan fawr anwyd,
Ac hwyrach rhy fach o fwyd.

Llwydaidd yn mhob dull ydynt—a dillad
Go dyllog sy ganddynt,
Gwrthddrychau'n ddiamhau ynt
Sy'n werth i syniaw wrthynt.

Ochain yn wan eu hiechyd,—dihoeni,
A'u heinioes yn aethlyd,
Dyddfu mewn annedwyddfyd
Mae degau drwy barthau'r byd.

Ow! ' rhai bach, mae'n arw eu bod—mor adill,
Mawr ydyw eu rhyndod;
Pwy all ddweyd maint eu trallod,
A'u braw dan gurwlaw ac ôd.

Rhwyddaidd gyfranu rhoddion—yn wiwlwys
A wnelo'r boneddion,
I eiddilod tylodion,
Yr adeg gaeth rwydawg hon.


Nodiadau

[golygu]