Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Y Person yn darllen

Oddi ar Wicidestun
Yr Amaethwyr a'r Bugeiliaid Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Y Gauaf

Y PERSON YN DARLLEN.

SYLWAIS yn graff is haulwen—ar agwedd
Clerigwr yn darllen;
Rhyw nac yn lle gwir acen
Ro'i'r gwr bach bob gair o'i ben.

Darllenwr, llusgwr llesgwedd,—pais laeswen,
Pwysleisiwr mwngleredd,
Fel hen Bab o flaen y bedd,
A'i eiriau yn o oeredd.

Nid da, heb wall, i'm tyb i,—ond oerllyd
Mae'n darllen ei weddi;
Rhy ddirym, fel rhyw ddyri
Lled benrhydd ei hedrydd hi.

Rhoi ambell wers i'r hen Berson—ddylai
Ei ddilys ddysgyblion;
Darllenai, gawriai'r gwron
Yn dda bur 'rol dysgu'r dôn.


Nodiadau

[golygu]