Diliau Meirion Cyf I/Rhagdraeth

Oddi ar Wicidestun
Rhagymadrodd Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Y Cynnwysiad

RHAGDRAETH

GORCHEST Barddoniaeth ydyw bod y meddyliau yn newydd, yn darawiadol, ac yn aruchel; a'r iaith â pha un y byddont wedi eu gwisgo yn goethedig, yn ddillyn, ac yn eglur. Pa le bynag y byddo cyfansoddiad o'r fath, y mae yn sicr o gael ei ddarllen a'i wrando gyda mwy o ystyriaeth a theimlad nac unrhyw draethiad cyffredin. Goleuo, cynhesu, a boddhau, ydyw effeithiau nodweddiadol gwir awenydd. Os na bydd y pennill yn taro yn fwy grymus ar y glust a'r galon na rhydd iaith , nid barddoniaeth ydyw. Gall pob dyn rimynu, ond nid pawb a all gyrhaedd y teimlad byw.

Y mae Barddoniaeth Meurig Ebrill yn eglurhad ymarferol ar hyn. Nid ydym yn mynegu hyn heb ystyried fod ganddo ddarnau diffygiol; ond ar y cyfan, a'i gymeryd oll yn nghyd, ceir ei fod yn ateb i reol prawf barddoniaeth. Y mae ei linellau yn syml, heb fod yn ddiaddurn; y maent yn gyffredin, heb fod yn annaturiol; y maent yn ddealladwy, heb fod yn isel; y maent yn dlws, heb fod yn rhodresgar; ac y maent yn nerthol, heb fod yn afrywiog. Ni all neb eu darllen heb gael ei foddhau.

Nid oes neb, wedi eu clywed, a ammheua gywirdeb rhagfynegiad ei hen athraw barddonol, Twm o'r NANT, am dano er's tros hanner can mlynedd yn ol, yn ol manteision y genedl y pryd hwnw, sef, ei fod yn ei ystyried yn un o'r Beirdd ieuainc mwyaf gobeithiol yn Nghymru.

Y mae y Gwaith hwn yn dangos dedwyddwch mewn disgyn iad buan at enaid pob testun y cenir arno. Yn hyn y mae yn tra -rhagori ar nifer o'r Pryddestau meithion sydd wedi eu pynio ar gefn y wlad yn ddiweddar, y rhai sydd mor lawn o ryw fath o "wlith, a blodau , a ffrydiau, ac awelon, a thywyniadau , a nentydd, a gerddi, " a'r cyffelyb, nes y mae gwir farddoniaeth wedi cael ei chladdu yn hollol o'r golwg! Yn mha rai o honynt, wedi gwneud ychydig eithriadau, y ceir dwy linell gwerth eu hail adrodd ? Beth sydd yn eu cynnal i fyny heblaw canmoliaethau cardodedig? Nid ydym yn petruso dywedyd, fod gan yr hen Feurig aml englyn sydd yn fwy o bwysau yn nhafol gwir farddoniaeth, na channoedd o'r llinellau gweigion, trystiol, a orfolir gan gyfeillion, y rhai a addefant, wedi i ddyddordeb y mynyd basio, mai canmol er mwyn canmol oedd yr holl folawd o'r dechreu i'r diwedd. Y mae yn y Gwaith hwn deilyngdod syml a deifl garneddi o'r cyfryw i'r cysgod.

Nid ydym yn y sylwadau hyn yn ceisio codi y Gwaith hwn i'r dosbarth uchaf, ond yr ydym yn hơni iddo le yn rhestr barddoniaeth y wlad. Y mae ambell herlod wedi codi yn ddiweddar i fesur a phwysoy Beirdd, ac ni chaniatânt le i neb yn y rhestr ond y cyfeillion a'u molant. Cof yw genym am y ddadl ar adeiladaeth y Senedd-dai newyddion , pa un a ga'i Cromwell le yn mysg brenhinoedd Lloegr ai peidio: ac wedi chwilio, a mesur, a dyfalu, wele, yr oedd y lle yn rhy gyfyng i gerflun Oliver gael ei wthio i mewn rhyngddynt! Ond y gwir ydoedd, yr oedd cauad allan y Diffynwr yn gosod mwy gannwaith o hynodrwydd ar ei enw! Dichon na chafodd Awdwr DILIAU MEIRION le yn mysg y prydyddion breintiedig; ond nid oedd hyny yn ei gau allan o restr Beirdd ei wlad, mwy nac y gallasai culni rhagfarn gloi Cromwell allan o restr llywyddion Brydain Fawr.

Hyderwn y caiff y Llyfr hwn y derbyniad a deilynga, ac y caiff yr hen Fardd ei loni yn fawr wrth weled fod i'w Waith le yn serchiadau darllenwyr drwy yr holl wlad. Dyma ei brif nôd a'i ddymuniad ef. Dywedodd un awenydd, "Yr wyf fi yn foddlon i chwi gael gwneud cyfreithiau fy ngwlad, os caf finnau wneud ei chaneuon." Felly y dywed yr Awdwr hwn. Y mae ysbrydoliaeth yr Awen, yn ddiweddar, dan obaith mwynhad oddiwrth y DILIAU, wedi bod yn foddion i godi ei feddwl, ac adfywio ei nerth corfforol, wedi cystudd gorweiddiog hirfaith o saith mlynedd, fel y mae erbyn hyn dan adferiad eilfydd i adgyfodiad neu greadigaeth o newydd! Caiff eraill gymeryd arnynt yr holl ofalon bydol, os mynant, ond iddo yntau gael gwasgu digon ar DDILIAU yr awen.

R. PARRY (Gwalchmai.)

FFESTINIOG, Meh. 25, 1853.