Diliau Meirion Cyf I/Towyn, Meirion, a'i Ffynnon
Gwedd
← Claddedigaethau Celwyddwyr, Cybyddion, Meddwon, Godinebwyr, a Lladron | Diliau Meirion Cyf I gan Morris Davies (Meurig Ebrill) |
Gwragedd Rhinweddol → |
TOWYN, MEIRION, A'I FFYNNON
HYFRYDLON, rhadlon, a rhydd,—le tawel,
Yw Towyn, Meirionydd;
Am ei ffynnon, son mawr sydd,
Dreigladwy, drwy y gwledydd.
Dw'r oeraidd, puraidd, o ddarpariaeth—deg
A digoll rhagluniaeth;
Drwy Dduw Nêr dyroddi wnaeth
I gannoedd feddyginiaeth.
Mor hoff, ca'dd amryw gloffion—wir iechyd
Wrth ymdrochi'n gyson
Foreu a hwyr yn nwfr hon,
Nes daethant yn ystwythion.
Rhinwedd yr oerddwfr hynod—a bery,
Heb arwydd o balldod,
A'i darddiad rhydd fydd i fod
Drwy oesoedd daear isod.