Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Y Ser

Oddi ar Wicidestun
Priodas Mr. C. R. Jones, a Miss Tibbot Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Thomas Ellis, baban y Parch. R. Ellis, Brithdir

Y SER

MAE'R ser yn uchder y nen—oddiarnom,
Yn addurno'r wybren;
Eu drych sy'n burwych dros ben
Ar ol machludo'r heulwen.

Heirdd lampau golau, gwiwlon,—a dysglaer,
Megys dysglau gloewon;
Fe daera'r prif awduron
Mai bydoedd yw'r lluoedd llon.

Lloer a ser, eu lleuer sydd,—dealler,
Yn deilliaw'n ysblenydd,

O wawl araul yr haul rhydd,
Llyw difai, yn llaw Dofydd.


Nodiadau

[golygu]