Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Priodas Mr. C. R. Jones, a Miss Tibbot

Oddi ar Wicidestun
Deuddeg Gwae Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Y Ser

PRIODAS
MR. C. R. JONES, A MISS TIBBOT.

LLEWYRCHODD, debrodd dibrin—wawr araul,
Ar oror Llanfyllin,
Pair godiad, mawrhad a rhin,
Drwy y foesawl dref iesin.

Deddyw degwedd dydd digas—y gwneddwyd
Gweinyddu priodas,
Deuddyn â bywyd addas,
Boddlongar, tringar eu tras.


Cadwaladr doethgadr ŵr da—ma unwyd
A'i anwyl Marïa;
Hawddamori'r ddau yma—a digoll
Oreudeg arfoll ar hyd eu gyrfa.

Mewn bri hir oesi'n rasawl—a gaffont,
Yn gu hoff a siriawl,
Dan aden gref Duw nefawl,
A gwynfyd o hyd i'w hawl.

Mal Abram ddinam ddoniau—a Sarah,
Seirian ei chynneddfau,
Byw mewn cariad, c'lymiad clau,
Y byddont hyd eu beddau.

Eu hil wiw ferth o'u hol a fo—gannoedd,
Yn gwenawl flaguro;
Cu rinwedd a'u corono
Yn delaid, freiniaid y fro.


Nodiadau

[golygu]