Neidio i'r cynnwys

Diliau Meirion Cyf I/Deuddeg Gwae

Oddi ar Wicidestun
Caseg Ddu Capt. Anwyl, Brynadda, Dolgellau Diliau Meirion Cyf I

gan Morris Davies (Meurig Ebrill)

Priodas Mr. C. R. Jones, a Miss Tibbot

DEUDDEG GWAE

GWAE'R dyn cecrus, gresynus groesineb,
Gwae'r enllibiwr, fradwr, byr fo'i rwy'deb,
Gwae'r rhagrithiwr, gau leisiwr, gwael oseb,
Gwae y masweddwr, wydiwr diwiwdeb,
Gwae'r hustyngwr, swynwr llawn casineb,
Gwae'r anudonwr, daerwr diwireb,
Gwae'r absenwr, swniwr heb rasineb,
Gwae'r balch diwylder heb elwch duwioldeb,
Gwae'r cybydd teryll, erchyll ei archeb,
Gwae'r dyn di rin, fo'n byw mewn glythineb,
Gwae'r meddwyn ynfyd coeglyd rhwth cegwleb,
Gwae'r anllad yn anad neb—a fyddo
Gwedi'i gadwyno gyda godineb.


Nodiadau

[golygu]