Dilynaf fy Mugail drwy f'oes

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Mae Dilynaf fy Mugail drwy f'oes yn emyn gan Benjamin Francis (1734 – 14 Rhagfyr 1799)

Dilynaf fy Mugail drwy f’oes,
er amarch a gw’radwydd y byd;
a dygaf ei ddirmyg a’i groes,
gan dynnu i’r nefoedd o hyd;
mi rodiaf, drwy gymorth ei ras,
y llwybyr a gerddodd efe;
nid rhyfedd os gwawdir y gwas,
cans gwawd gafodd Arglwydd y ne’.


Nid oes arnaf g’wilydd o’i groes –
ei groes yw fy nghoron o hyd:
ei fywyd i’m gwared a roes
fy Ngheidwad a’m prynodd mor ddrud;
dioddefodd waradwydd a phoen,
a’r felltith ar Galfari fryn;
f’anrhydedd yw canlyn yr Oen –
yr Oen a ddioddefodd fel hyn!