Arhosaf yng Nghysgod fy Nuw

Oddi ar Wicidestun
Neidio i'r panel llywio Neidio i'r bar chwilio

Emyn gan Henry Lloyd (ap Hefin) (1870-1946) yw Arhosaf yng nghysgod fy Nuw

Arhosaf yng nghysgod fy Nuw,
I mewn yn nirgwlwch y nef;
Dan adain ei gariad 'rwy'n byw,
Fe'm gwrendy cyn clywed fy llef:
Pe curai trallodion yn hy
I'm herbyn fyl tonnau y môr,
Mi ganaf wrth deimlo mor gry' -
Fy nghraig a'm cadernid yw'r Iôr.


Nid ofnaf rhag dychryn y nos
Na'r saeth a ehedo y dydd;
Diogel bob munud o'm hoes
A fyddaf yng nghastell fy ffydd;
Eiddilaf ryfelwr wyf fi
I ymladd â nerthoedd y ddraig,
Ond caf fuddugoliaeth a bri
A Duw hollalluog yn graig.