Oleuni mwyn, trwy'r gwyll sy'n cau bob tu

Oddi ar Wicidestun
Arhosaf yng Nghysgod fy Nuw Oleuni mwyn, trwy'r gwyll sy'n cau bob tu

gan John Henry Newman


wedi'i gyfieithu gan John Morris-Jones

635[1] Arwain Fi.
10. 4. 10. 4. 10. 10.

1 OLEUNI mwyn, trwy'r gwyll sy'n cau bob tu,
O! arwain fi;
Pell oddi cartref wyf, a'r nos yn ddu,
O! arwain fi;
Cadw fy nhraed; ni cheisiaf weled dim
O'r tir sy draw; un cam sy ddigon im.

2 Nid oeddwn gynt yn ymbil am i'th wawr
Fy arwain i;
Dethol fy ffordd a fynnwn; ond yn awr,
O arwain Di.
Carwn y llachar ddydd; er ofnau'r hynt
Bu falch fy mryd; na chofia'r amser gynt.

3 Diau dy allu, a'm bendithiodd cyd,
A'm harwain i
Dros waun a rhos, dros graig a chenlli, hyd
Pan wawrio hi,
A'r engyl gyda'r wawr yn gwenu fo,
A gerais er ys talm, a gollais dro.

—John Henry Newman cyf John Morris-Jones

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 635, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930