Diwrnod yn Nolgellau/Y fynwent a'r eglwys
← Llefydd o nod 1 | Diwrnod yn Nolgellau gan Robert Thomas Williams (Trebor Môn) |
Llefydd o nod 2 → |
Y FONWENT NEWYDD A'I BEDDARGRAFFAU.
I hoffydd llên y fonwent, ac i un a gâr rodio'n fyfyriol yn mhlith y beddau gan ystyried breuolder bywyd ac ansicrwydd dyddiau dyn i fyw, dichon y bydd y beddargreiff canlynol yn at-dyniad digonol i rywun i dd'od i "erw Duw" am fyfyr a thawelwch. Agorwyd y corphlan hwn yn y flwyddyn 1815, ac er hynny mae rhif y lladdedigion yn llu mawr o dan draed teyrn marwolaeth.
(Tu Dwyreiniol.)
BEDD DAFYDD IONAWR.
Bu farw Mai XII.,
MDCCCXXVII.
Ei Oedran,
LXXVII.
(Tu Gogleddol.)
M. S.
Bardi Christiani
Ob. A.D. MDCCCXXVII.
Aetat Suae LXXXVII.
Ddarllenydd, pan sylwi ar fedd Dafydd Ionawr gelli fod yn sicr i ti edrych ar fangre a geidw weddillion un o feib hynotaf yr Awen Gymreig hen lanc a fu "tros ei ben a'i glustiau" mewn cariad à rhian dêg unwaith, ond a siomwyd ynddi, ac un a ddibrisiai gyfoeth a helyntion masnach i ymhwedd â'r Awen (hon fu ei dduwies bellach), a dyddorol iawn ydoedd ei weled ar lanau'r Wnion yn dra mynych yn cyflawni ei gampau,-lluchio ei ffon a neidio fel gwallgofddyn, pan ddygai greadigaethau newyddion, mewn llên a barddas ar fyrddau'r byd. Cofir ei "hearty laugh," a phan ddisgynodd y "tân sanctaidd" ar ei ben, un tro, anghofiodd ei hun ar lwybr peryglus, a lawr ag ef i ddyfroedd yr afon, yr hyn a'i cadwodd ar dir gwell a phellach o'r Wnion yn y dyfodol. Dewi Wyn a'i galwai'n "hen ddyn trwynsur," am na chawsai dderbyniad i mewn i'w dŷ a chroesaw ganddo, pan alwodd âg ef yn Nolgellau; ac nid oedd J. Jones, Glanygors, werth botwm corn gan D. Ionawr oherwydd ysgafnder ei awen. Cyhoeddwyd prif waith ei oes—Cywydd y Drindod, yn 1793, a chrwydrodd trwy chwe' sir y Gogledd mewn "sporting jacket" lâs, laes, gyda llogell anferth i gadw ysgrif o'r gwaith mewn copperplate, fel yr ysgrifenai ef, a het a chantel lydan, a ffon anferth yn ei law—un na fuasai undyn yn ddiolchgar o gael ei fesur â hi. Ond er ei holl lafur ni chafodd ond 52 o enwau am 53 o gopïau—dim ond 13 allan o sir Feirionydd! tra y gwerthasai Twm o'r Nant 2000 o "Gardd o Gerddi," ychydig amser cyn hynny. Ei aflerwch mewn llawer dull a modd a barodd ei golled hon. Cyfarfyddodd â dau dro trwstan yn Llanelwy: camgymerodd Esgob Bagot am un o'i wasanaethddynion, a sathrodd droed y prelad yn y drws, yr hyn a surodd y clerigwr fel na roddodd ei enw yn danysgrifydd at ei lyfr. Nid ystyriai fod yr un o offeiriaid ei oes yn werth eu gwrando, a hynny, mae'n ddiameu, ar gyfrif eu cam—fuchedd, canys Eglwyswr ydoedd ef; ond gwrandawai gyda blas ar John Elias, Christmas Evans, a Charles o'r Bala.
Gwledd frâs i galon ac ysbryd Dafydd Ionawr ydoedd yr englyn canlynol:—
Caed blodau gorau ac aeron—gynau
Yn ein Gwynedd ffrwythlon:
Ganwyd Ionawr mawr Meirion
Yr un mis a Gronwy Mon.
"Ar gof—golofn Dafydd Ionawr," medd Cell Meudwy (Elis Owen, F.S.A., Cefn-y-meusydd), "y ca'r darllenydd yr englyn canlynol:—
Dafydd Ionawr, mawr fydd Meirion—yn hir
lawn, herwydd ei meibion ;
Y Bardd oedd fardd i feirddion,
I goffhau ei fedd gaiff hon.#
Hefyd, toddeidiodd Hwfa Môn ac ereill yn rhagorol am dano. Cyhoeddwyd holl weithiau'r bardd yn gyfrol dlôs, yn 1851, dan olygiaeth y diweddar Nicander, ac a argraffwyd gan Mr. E. Jones, Dolgellau, yn gyflwynedig i'r Parch. J. Jones, M.A., Borthwnog. Eto,―
In Loving Memory
of
THOMAS HARTLEY,
Youngest Son of Robert N. Williams, and Elizabeth his Wife,
Who Died January 25th, 1893,
Aged 10 Years.
Also the above
ROBERT NANNEY WILLIAMS,
Who Died April 2nd, 1896,
Aged 54 Years.
Yr olaf uchod (a drigianai yn Y Llwyn) ydoedd ysgolhaig gwych, a boneddwr calon-garedig a llogell-agored at bob achos teilwng.
Eto,
'I will lay me down in peace and my rest."
Sacred
To the Memory of
THOMAS PAYNE,
Born January 16, 1797, Died April, 1854,
The only son of Thomas Payne, once of Furness Compton, andof Eliza (Healch), his wife.
At sixteen he was Ensign in the Carnarvonshire Militia, under
Colonel T. Asheton Smith, whence he volunteered for service
in the Peninsula. He was present at Salamanca, Vittoria,
The passage of the Biddoossoa (when he had two horses killed
under him), and at St. Jean De Livez. In this parish he lived
many years as a Surveyor, Civil Engineer, and Land Agent.
The Torrent Walks were designed by him, &c., &c.
Eto,-
Sacred to the Memory
Of the Rev. RICHARD HUGHES, B.A.,
One of His Majesty's Justices of the Peace for this County,
Rural Dean of Estmaner,
And Rector of this Parish 30 years.
(Yna ei rinweddau amrywiol mewn bywyd. Mynegir yr arferai Mr. Hughes lanw swydd cwnstabl, pan y byddai eisiau hynny gyda meddwon a dynion anhydrin ereill yn y dref.)
BRYNHYFRYD, NEU "PLAS Y PERSON."
Yma'r erys Dr. Walker, a dyma hen annedd holl glerigwyr Dolgellau, cyn adeiladu'r persondy presenol yn 1873, ac yma carai aros holl Farnwyr Brawdlysoedd Meirionydd ar a ddelai i Ddolgellau.
EGLWYS LLANFAIR BRYN MEURIG.[1]
Dyma Eglwys Dolgellau, yn ogystal ag Eglwys Sant Mair. Saif ar Fryn Meirig, enw a ddeillia oddiwrth Meurig ap Ynyr Fychan ap Cadwgan, un o henafiaid teulu anrhydeddus Nannau. Camden a ddyddia'r eglwys hon cydrhwng y blynyddau 1551 a 1623; ei bod yn lled daclus yn allanol, ond oddifewn yn debyg i ysgubor, polion yn ddwy rês yn dal i fyny'r tô, a brwyn (pabwyr) yn daenedig tros ei lloriau. Tynir sylw'r ymwelwr at faen yn dwyn y darlleniad hwn:—
"Yr Eglwys hon a adeiladwyd 1716, ac a adgyweiriwyd 1864.
Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dŷ Dduw, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid.' Preg. v. 1."
Ac ar lechfeini yn ymyl ceir yr englynion canlynol yn gerfiedig:—
Anneddfawr sanctaidd noddfa,—gôr breiniol,
Ger bron Duw a'r dyrfa:
Er dim na thyred yma,
Y dyn, ond â meddwl da.
Awn i'w Borth a'n aberthau,—gwedd dduwiol,
Gweddiwn ar liniau:
Am drugaredd breisgwedd brau
Yn un nod i'n heneidiau.
Bu eglwys lai yn sefyll gynt ar lawr yr eglwys hon. Bu llawr yr eglwys bresenol yn loriedig drwyddi â beddfeini, canlyniad aflerw ac anheilwng o gladdu meirwon yn yr eglwysi, yn yr 8fed ganrif. Dynodir yr unrhyw heddyw â beddfeini lliwiedig, ac à choed, a'r llawr hwn a ystyrir yn uwchlawr, er y flwyddyn 1856. Cyfrifir mai adeiladydd yr eglwys hon yw yr Archddiacon G. Lewis, yr hwn sy'n gladdedig yn ei changell (chancel)'. Ei roddion iddi ydynt bwrdd yr allor o farmor du, &c. Perthynai llofft iddi gynt ar ei chŵr gorllewinol, ond symudwyd yr uwchrodfa hon yn 1809. Clochdy petryal a fedd, yn cynwys wyth o glychau, o'r flwyddyn a enwyd; eithr yn flaenorol ni cheid namyn un, pa un a chwilfriwiwyd wrth ddathlu clod aer ac etifedd Caerynwch, pan y daeth i'w oed. Y mae'n gorphwys yn ei llawr, ar ei thu gogleddol, weddillion yr Archddiacon White, odditan fynor—faen caboledig lliwiedig, ac yn dwyn ei enw a'i amryfal rinweddau mewn bywyd. Efe a anrhegodd yr eglwys â'r ffenestr orwech nesaf i'w orweddfa. Cyfansoddwyd marwnad ryglyddus am yr Archddiacon gan Robert Lewis, un o destynau Cyfarfod Llenyddol Gwŷr ieuainc Dolgellau.
"CAPEL GWANAS"
a saif ar fferm yr Erw Goed. Adeiladwyd hwn oddeutu'r flwyddyn 1740, gan foneddwr nas gwn ei enw, gogyfer à gwasanaeth Eglwysig, ond ni ddefnyddiwyd ef i'r cyfryw amcan. Am i un Elis Jones drigo ynddo y ca'dd ei enwi fel uchod.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Robert Lewis, un o drigianwyr hynaf y dref, ac a fu'n canu clychau Eglwys St. Mair ar achlysur Coroniad tri o Benau Coronog Prydain Fawr, a noswyliodd trwy angau Rhagfyr 5ed, 1903, yn 87 mlwydd oed.