Diwrnod yn Nolgellau/Llefydd o nod 1
← Yr addoldai ymneillduol | Diwrnod yn Nolgellau gan Robert Thomas Williams (Trebor Môn) |
Y fynwent a'r eglwys → |
Y SWYDDFEYDD ARGRAPHU.
Saif Swyddfa Y Goleuad" (perchenog, Mr. E. W. Evans) yn Smithfield Lane, ar gyfer gorsaf rheilffordd y Great Western, er y fl. 1877; a Swyddfa "Y Dysgedydd" a'r "Dydd," yn Heol Meurig: perchenogion, Mri. W. Hughes a'i Fab. Dyma hen argraphdy R. Jones, John Pugh, tad y diweddar Mr. D. Pugh, cyfreithiwr, Treffynon; Evan Jones, a'r argraphydd presenol yn gwneyd y pedwerydd. Troir o'r Swyddfeydd hyn weithiau safonol, mewn arddull ragorol, ac nid oes yn Nghymru weithfäoedd i argraphu llyfrau o nodwedd uwch gan un cyhoeddwr nac anturiaethwr.
Y LLWYN.
Saif y palasdy henafol ac anfeiliedig hwn ar fin y dref, o fewn ergyd dryll i Ddolgellau, ac yn y darn gogleddol o honi, a ger y ffordd a arweinia y teithydd i ac o'r dref i'r Bala. Y trigianydd yw John Evans. Y mae i'r ty hwn ei hanes hynod a ganlyn: Yn nheyrnasiad Harri'r VIII. preswylid y Llwyn gan Lewis Owen, neu y Barwn Owen, fab Owen ab Hywel ab Llewelyn, Ysw. Hanai o'r cyff anrhydeddusaf yn Nghymru. Meddai ar etifeddiaeth o £300 y flwyddyn, yr hyn y pryd hynny oedd yn swm gwych ac uchel.
Am y naill gyfrif a'r llall, penodwyd ef gan Harri'r VIII. yn Is-ystafellydd a Barwn-Ganghellydd Gwynedd. Bu'n Sirydd Meirionydd o 1546 hyd 1555, ac yn Aelod Seneddol o 1547 hyd 1552 a '54. Ceid cym'dogaeth Llanymawddwy, y pryd hwn, yn llawn o wehilion cymdeithas, dyhirwyr lladronllyd, yn cael eu gwneyd i fyny o herwhelwyr (poachers) ac yspeilwyr wedi ffoi i'r parth hwn o'r wlad, i ddilyn eu harferion drygionus, trwy ladrata neu ladd; a'u bod ar waith, yn ol y Brut, yn amser Cadwgan ab Bleddyn ab Cynfyn, ac Owain ei fab, yr hwn a elwid "Owain Fradwr," a Syr Owain, oblegid iddo fyned i Lys Lloegr a chael parch ac urddas. Ar ol dianc oddiyno, a gwneyd llawer byd o ystrywiau anfad, efe a ddechreuodd y Gwylliaid; a bernir i epil ei garenydd Gwilym Goch, Arglwydd Mawddwy, fod yn cadw i fyny'r ysbeiliaeth am oesoedd. Bernir mai cwlion anfad Rhyfeloedd y Rhosynau oedd y ffoaduriaid hyn, wedi taraw ar fangre dawel ac unig i fanteisio ar eu harferion drwg. A y rhai hyn i faes ffermwr a dygent oddiyno fuwch, neu ddafad, ac ni feiddiai neb eu beio, ac yr oedd y parth hwn wedi ei droi yn lloches lladron, ac yn encilfa yspeilwyr o'r fath waethaf. Ond wedi hir gwyno a dioddef, anfonodd y Llywodraeth orchymyn i'r Barwn Siôn Owen, a Wyn ab Meredydd o Wydir, i wneyd cais at lanhau y wlad oddiwrth y giwaid ysgymun hyn, a'u chwalu, bob copa walltog, yn hen ac yn ieuanc, trwy rym deddf, a gorchymyn y brenin.
Gorchymynodd L. Owen i fagad o wyr arfog wneyd eu hymddangosiad ger ffauau'r drwgweithredwyr, a rhuthro ar "Wylliaid Cochion Mawddwy," ar y 25ain o Ragfyr—nos Nadolig; a'r canlyniad fu i 80 ohonynt, ar lanerchau Mawddwy, y Dugoed, a Mallwyd, gael eu cymeryd yn garcharorion, a chael eu cospi yn ol eu haeddiant. Y rhai a ddiangodd a benderfynasant ymddial o'u cuddfanau yn y Dugoed. Yn mhen ychydig amser wedi'r rhuthr hwn, bu raid i'r Barwn fyned i Frawdlys Maldwyn (i'r Amwythig, neu Drallwm, meddid), ac i aflwyddo ei ffordd taflodd y mileiniaid ddarnau o goed ar draws y fynedfa mewn glyn coediog, er manteisio ei ddyfodiad ef a'i osgordd a'u gwyliadwriaeth ddyfal. Pan wnaethant eu hymddangosiad, danfonodd y gwaed-gwn gawod o saethau atynt, un o ba rai a aethai trwy ben L. Owen, fel ag y bu farw'n ddioed. Ffödd pawb am eu bywydau oddigerth câr iddo, John Lloyd o Geiswyn, gan amddiffyn y corff, ac ni cha'dd ef un niwed nac anhap. Dyddiad yr anffawd farwol ydoedd Hyd. 11, 1555. Wedi hyn, cododd y wlad oll yn eu herbyn, a mynwyd eu diwreiddio oll, wreiddyn a changen; lladdwyd llawer o honynt fel creaduriaid direswm, a gweddillion angau o honynt a ddiangasant i Wanas, at gâr iddynt o'r enw Siôn Rhydderch, yr hwn a'u cuddiodd mewn tâs wair, dros yspaid, ond a'u bradychodd wed'yn i law deddf, eithr ereill a adawsant y wlad, ac ni chlywyd air am danynt mwyach. Dywed Gwilym Berw yn "Y Perl" Awst, 1901, fod Mr. O. Owen, Hendre, Abergynolwyn, a brodor o Dalyllyn, Meirion, ac a anwyd yn 1812, yn ddisgynydd o'r Barwn Owen, ac "y gall olrhain linach ei henafiaid rai canoedd o flynyddau yn ol; ac y medr iachau dyn ac anifail, asio esgyrn, trwsio briwiau, a thynu dannedd cystal a nemawr feddyg." Fel y canlyn yr englynodd Meurig Ebrill i'r plas uchod:—
Llwyn eirian, gwiwlan, golau,—Llwyn siriol,
Llawn o sawrus flodau!
Llwyn enwog gerllaw Nannau,
Llwyn y beirdd a'u llawen bau.
Llwyn hen ydyw'n llawn hynodion—llachar,
A lloches cantorion:
Llwyn deiliog dan frigog fron,
Llwyn curawg yn llawn acron
Llwyn prydferth, mawr werth i Meirig—nesu
Bob noswyl arbenig:
Llwyn destlus, trefnus, lle trig
Difalch a rhydd bendefig.
Man anwyl yw'n min Wnion,—y ffriwdeg
Loyw ffrydiawl afon:
Canfyddir mewn cain foddion
Lwyni heirdd hyd lanau hon.
Gerddi rhosynog urddawl. — a llawnion
Berllenydd cynyrchiawl,
Per ffrwythau, llysiau llesawl,
Dillynion gwychion mewn gwawl.
Da adail pur odidog—yw'r annedd
Gywreinwych a chaerog
Mae coed fyrdd, mewn glaswyrdd glög.
O'i gwmpas yn dra gwempog
LLYS BRADWEN.
I henafiaethydd byddai gweled gweddillion hen balas Ednowain. Bendew, ger Dolgellau yn wledd a difyrwaith. Mab i Bradwen oedd Ednywain, a phenaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, ac yn ei flodeu yn y 12fed ganrif, neu yn nheyrnasiad Llewelyn ab Iorwerth, o gylch 1194, a meddai lawer iawn o feddianau yn sir Feirionydd. Ceir gweddillion yr hen Lys hwn ger glan ogleddol afon Pant y Llan, a'r lle a elwid "Maes Pant y Llan," ond yn amser Bradwen gelwid y fangre Maes Crygenan, oddiwrth (a) pherthynai gynt (b) dyddyndy o'r enw hwn. Yr oedd y Llys yn un eang ac yn arddangos adeilad dwbl, yr adran fwyaf, yn y pen lletaf yn 100 tr., a'r pen arall yn 91 tr. Yr adran arall a fesura ffordd arall oddeutu 96 tr., ac ar yr ochr gyferbyniol oddeutu 92 tr. Saif y ddosran arall mewn un pen iddi 38 tr., neu efallai ychydig lai. Ceir ei hyd oll yn 44 tr., ac oddifewn y mesurir fel uchod. Pan ymwelodd T. Pennant (Tours in Wales) â'r lle safai, meddai, ddwy garreg ar bob tu i'r fynedfa, ond erbyn heddywi (1904) y maent wedi eu dymchwel o'u safle henafol,—syrthiodd y naill yn 1863, a'r llall yn 1876. Dywed traddodiad a hanes y byddai'r hen L. Morris yn cymeryd yr ail faen i orphwyso ei fraich pan fyddai, yn 1808, yn pregethu'r Efengyl i'r lluaws yn y lle. Rhoddir ar ddeall mai yn y darn helaethaf o'r palas y bywiai'r penaeth, ac mai llys barn ydoedd y gyfran arall o hono. Gelwir Bradwen yn Arglwydd Dolgellau, ond a ydyw yn rhywbeth oddi— eithr dynodiant y Llys hwn? Ychydig, os nad dim, a geir am Bradwen mewn hanes,—ei enw sydd fwyaf adnabyddus, ac ymwthia felly ger bron fel person ffugiol, eto gelwir y Llys ar ei enw, a cheir rhifres helaeth o bersonau yn perthyn i'w achau, mal y gwelir ar y terfyn. Ceid Bradwen yn wr o urddas mawr, yn ol yr achau, serch fod henafiaethwyr yn gwahaniaethu ychydig parthed y llinellau. Y mae'r Parch. Ed. Jones, Llandegai, yn ei alw'n Arglwydd Llys Bradwen, ac yn Arglwydd Meirionydd, tra y ceisia Robert Fychan, o Hengwrt, ei wneyd yn ddim ond Arglwydd Llys Bradwen yn unig, tra y ceid y tywysogion a'u disgynyddion, meddai, yn arglwyddi Meirionydd yn olynol a rheolaidd, serch y perchenogai yr oll o Dal y Bont, a rhai tiroedd yn Nghantref Ystumaner. Achau Llys Dolgellau: Ednowain ab Bradwen, ab Idnerth, ab Dafydd Esgid Aur, ab Owain Aurdorchog, ab Llewelyn Aurdorchog ab Coel, ab Gweryd, ab Cynddelw Gam, ab Elgyd, ab Gwerysnadd, ab Dwywe Lythyr Aur, ab Tegog, ab Dyfnarth, ab Madog Madogion, ab Sandde Bryd Angel, ab Llywarth Hen, ac Ednowain oedd dan Gruffydd ab Cynan, tywysog Aberffraw, yn Môn,
Yn ol y Cam. Regis., dyma arf-bais Ednowain:—"Gules three snakes enowed in a triangular knot argent." "Tair neidr arianaidd. mewn cwlwm trionglog yn y maes rhuddgoch." Yn ol Gwilym. Lleyn ar Achau Arglwydd Mostyn, deillia y pendefig hwn o Ednowain ab Bradwen (Golud yr Oes, tud. 459).
LLETY'R LLADRON.
Ar ochr ddeheuol Bwlch Oerddrws caiff y teithydd fangre fechan o ymgudd, lle'r arferai haid o ddrwgweithredwyr ymguddio, er manteisio ar ddiniweidrwydd ac eiddo'r sawl a elai heibio, mewn cyfnodau pell yn ol. Cyfeiriai eu ffau at dri phwynt: Dolgellau, Rhydymain a Dinas Mawddwy, a gwae'r bobl hynny at ddelid ganddynt. Yr oeddynt o wehelyth "Gwylliaid Cochion Mawddwy."
CAERYNWCH.
Yn ddiau, cara'r ymwelydd gael cipolwg ar y palasdy prydferth uchod, a saif ar esgynlawr deg, ac yn cael ei gysgodi gan wigfa urddasol, uwchlaw rheilorsaf fechan Bont-newydd. Yn hen ddeddfau'r Cymry sonir am Maeldaf ap Ynhwch Unarchen ap Ysbwys ap Ysbwch, ac mai tramoriaid oeddynt, a'u dyfod yma gydag Uthr ac Emrys, gan ymsefydlu ohonynt yn Moel Esgidion (Esgityawn), gan awgrymu "Moel Caerynwch." Dywed traddodiad y byddai marchnadoedd Dolgellau yn cael eu cynal ger y Foel hon yma ceir y "Farchnad Fawr," a'r Farchnad Fach."
Caerynwch ydoedd breswylfod y Barwn Richards, y cyfreithiwr enwog a anwyd yn nghym'dogaeth y Brithdir, Tachwedd, 1752. Addysgwyd ef yn Rhuthyn; aeth i Rhydychen, a dringodd risiau Ilwydd hyd ei etholiad i Gymrodoriaeth Michael yn Ngholeg y Frenhines. Cyn hir sangodd ddadleufa Cymdeithas Anrhydeddus y Deml Fewnol. Bu'n brif ynad Caerlleon yn 1813, ac yn y flwyddyn ganlynol yn un o Farwniaid yr Argedlys, a bu i farwolaeth Syr Alexander Thompson yn 1814, fod yn achlysur i'w dderchafu'n Arglwydd Brif Farwn y llys dywededig. Ei wraig ydoedd Catherine, merch ac etifeddes R. Vaughan Humphreys. Caer Ynwch, a breintiwyd hwy å deg o blant. Bu farw'n Llundain Tachwedd 11eg, 1823, yn 71 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Eglwys y Deml. Fel cyfreithydd a barnwr ceid ei benderfyniadau yn ddiysgog, ac fel cyfaill safai'n uchel yn ngolwg yr holl wlad. Y Barwn Richards oedd prif destyn Cymreigyddion Caernarfon Mawrth 1af, 1824, pan yr enillodd y diweddar henafiaethydd a bardd, Mr. Owain Williams o'r Waunfawr y wobr am yr Awdl Farwnad oreu iddo, ar ei gydymgeiswyr Gwilym Cawrdaf of Ddolgellau; Robert Owen, Caernarfon, a W. Williams, Dinbych.
"Y PARC."
Ceir yr annedd-dy diaddurn hwn mewn llanerch anghysbell a rhamantus, uwchlaw'r afon Arran, lle tyf llawer o goed; ac os bydd i'r teithydd gymeryd dyddordeb yn y llofruddiaeth a fu yma, tros 20 mlynedd yn ol, fe fwria ymaith yr helbul a gaiff wrth ddringo'r llwybr budr a charegog a'i harweinia hyd ato. Oni bai am yr amgylchiad hwn ni ddodasid engy'r Parc" ar lechres. hanesiaeth i geisio hudo'r ymwelydd tuag ato, ar a ddaw i Ddol- gellau a'r cylch.
Cadwaladr Jones oedd ŵr ieuanc tua 25 mlwydd oed, ac ymddengys oddiwrth amryw dystiolaethau a ddygwyd o'i blaid ar y prawf, gan feistriaid a chydweithwyr iddo, ei fod yn gymeriad eithaf dymunol ar y cyfan-yn ŵr ieuanc o dymher hynaws, ac o duedd ewyllysgar i wneyd cymwynas pan ofynid hynny oddiar ei law. Tua blwyddyn cyn y llofruddiaeth ymbriododd C. Jones, a chymerodd fferm fechan a elwir y "Parc," yr hon a saif mewn mangre wyllt a mynyddig uwch Dolgellau, a'r hwn lecyn sydd wedi ei ddu-nodi am oesau a chenedlaethau i ddyfod. Yn gwasanaethu gyda thad y carcharor yn Coedmwsoglog," yr oedd dynes o'r enw Sarah Hughes, tua 37 mlwydd oed, yr hon, yn ol addefiad ei chwaer, Margaret Hughes, ar y prawf, oedd yn fam i ddau o blant anghyfreithlon, y rhai ni thadogodd ar neb. Dydd. Sadwrn, yr 2il o Fehefin, 1877, ymadawodd S. Hughes o'r Coedmwsoglog, a daeth i dŷ ei chwaer grybwylledig, M. Hughes, lle yr arhosodd hyd ddydd Llun, ar yr hwn ddydd yr aeth ar ryw negeseuon i'r dref: a dyna y dydd diweddaf y gwelwyd hi yn fyw a thestyn y siarad drwy yr holl gymydogaeth, y dyddiau dilynol, oedd S. Hughes ar goll. Ac er dyfal a manwl chwilio y glynoedd, yr afonydd, a'r coedwigoedd, tywyllwch a orchuddiai yr amgylchiad. Ond fel y dywed yr hen air, Llofruddiaeth a fyn ddyfod i'r amlwg." Yn mhen tua chwech wythnos, sef ar yr 16eg o Orphenaf, canfyddwyd rhanau o gorph dynol yn nofio mewn gwahanol fanau o'r afon Arran, y rhai a adnabyddwyd fel gweddillion corph y ddynes golledig, Sarah Hughes; ac nis anghofir y rhawg y cyffro a'r arswyd a syrthiasai ar drigolion hen gwmwd tawel Dolgellau wrth weled y naill ran ar ol y llall o gorph y lofruddiedig yn cael eu hestyn o'r afon, Ilifeiriant yr hon a ymddangosai fel yn anfoddog i guddio y llofruddiaeth yn nyfnder y môr, Bellach, dyma sicrwydd fod llofruddiaeth wedi ei gyflawni, ond pwy oedd y llofrudd ? Oherwydd rhesymau neillduol, wele weision cyfiawnder, yn foreu ar y 18fed o Orphenaf, yn neshau at Y Parc," cartrefle fyrbarhaol C. Jones.. Haws yw i'r darllenydd ddychymygu nag ni ddysgrifio y teimladau a raid fod yn meddianu y gwr ieuanc pan edrychodd drwy y ffenestr, a gweled y swyddogion yn sefyll yn wyliadwrus o flaen ei anneddle. Mae yn ddiameu iddo glywed llais croch cyfiawnder yn taranu drwy ei gydwybod euog, "Ti yw y dyn!" oblegid cawn ef yn ebrwydd yn cyffesu, gan ddywedyd wrth y swyddwyr, "Waeth i chwi heb drafferthu yn mhellach: yr ydw i yn dymuno dyweud mai fi ddaru"! A chan arwain y swyddogion i ardd fechan gerllaw ei dy, dangosodd iddynt y llecyn y bu gweddillion y druanes lofruddiedig yn gladdedig am tua chwech wythnos; ac yn y fan wele fedd yn agoryd ei safn ac yn cyd-dystiolaethu â chyffesiad y carcharor.
A dyna olygfa gwerth i ieuengctyd i fyfyrio am dani yw meddwl am y gwr ieuanc, C. Jones, yn cefnu am byth ar ei gartref, priod ieuanc ei fynwes, a'i blentyn bach diniwed; yn cael ei gymeryd i'r carchar, a'r Llyfr ddiystyrasai, sef Gair Duw, yn ei logell. Da genym ddeall mai ei brif waith yn ystod y pedwar mis y bu yn aros ei brawf ydoedd darllen y Beibl, a gwrandaw ar weinyddiadau ei gynghorwyr crefyddol.
Yn ystod ei brawf yn Mrawdlys Caerlleon, ymddygodd C. Jones yn yr un dull tawel a hunan-feddianol ag a'i hynododd o'r dechreu. Cafodd brawf teg ac anrhydeddus; rheithwyr diduedd a deallus; amddiffynydd galluog. Barnwr doeth a chymedrol; yn nghyda chyfieithydd medrus yn mherson y diweddar Mr. Pugh, cyfreithiwr, Treffynon, ond brodor o Ddolgellau, yr hwn a wnai yr holl weithrediadau yn ddealladwy i'r carcharor. Eithr, er pob ymdrech galluadwy o eiddo y dadleuydd dysgedig dros yr amddiffyniad, a chrynhoad cymedrol y Barnwr, nis gallodd y rheithwyr gonest yn amgen na dychwelyd rheithfarn o Euog yn erbyn y carcharor anffodus. Yr oedd cadwen y tystiolaethau, yn nglŷn â'i hunan-gondemniad, mor orthrechol fel nad oedd modd osgoi y canlyniad. A chyda theimladau dwysion y cyfryw a ddadguddiai y dyn gystal a'r barnwr cyhoeddwyd dedfryd marwolaeth ar y truan C. Jones.
Prin y gallaf feddwl i ddyn o deimladau tyner, ac o arweddi Gristionogol fel C. Jones, fwriadu y llofruddiaeth hwn; ond iddo, trwy gael ei ddigio a'i gythruddo, ar funyd gyffrous daraw Sarah Hughes â chareg yn ei phen, a'i lladd. Pe buasai C. Jones wedi rhoi ei hun i fyny a chyfaddef ei drosedd, credaf y daethai trwyddi yn lled ysgafn. Gwnaed deisebau ar ei ran gan dri lle-Dolgellau, un tros wyth mil o enwau; a Chaerlleon ac Aberystwyth, yn cynwys eu heddynadon a'u maerod.
Y VIA OCCIDENTALIS RUFEINIG.
Wrth syllu'n fanwl cenfydd yr ymwelydd ddarnau o'r uchod yn rhedeg trwy y dref, o'i gorsaf yn Menapiǣ (Ty Ddewi) i Seguntium (Caerynarfon): rhed ger Trawsfynydd, ac mewn lle a elwid "Pen- y-stryd," gwelir dernyn ohoni'n lled blaen. Rhedai y ffordd uchod ar hyd yr holl sir, o gyfeiriad y De, o orsaf Loventium, yn sir Aberteifi, gan redeg i'r Gogledd, heibio gwersyll mawr Pennal, a gorsaf Hereri Mons, hyd Segontium, a chyn cyrhaedd yno ceir darnau eraill ohoni. Ond ymdngys imi fod dwy sarn Rhufeinig yn rhedeg trwy gantref Meirionnydd, ac un ohonynt wedi ei gwneu mor foreu a'r ganrif gyntaf o'r cyfnod Cristionogol, h.y. wedi dyfodiad Agricola yma yn 78 O.C
Rhęd y Via Occidentalis ar lan Fawddach, trwy blwyfi Llanfachreth a Thrawsfynydd, hyd i afael a Dyfi ym Mhennal, ac y mae'n hawdd i lygaid yr hynafieithwr ei dilyn yn y lleoedd hyn. Rhęd y sarnau gyda'u gilydd am rai milltiroedd o Gastell Tomen y Mûr (Heriri Mons), yn nghyfeiriad Pen-y-stryd, ac un arall ymganghena trwy Gwm Prysor, tros y mynydd i Gaer Gai,[1] hyd Lanuwchllyn, ac yma ymwahana â'r lleill.
Ond y ddwy gyntaf. Yn Pen-y-stryd yr ymwahana y rhai hyn, neu efallai ger Dolgain; yna cyfeiria trwy goed Cefndeuddwr, hyd Rhyd Meirion, ac a heibio'n orllewinol i Gadair Idris. Yna a trwy Drawsfynydd hyd Lan Fachraith, tros fynydd Bwlchrhoswen, tua Nannau tros yr Wnion, tros Lwybr Cam Redynen am fynydd Gwastadfryn. Wedi hyn ceir hi ar Ffridd Nancaw Fawr, ger Nancaw Bach; yna croesa Gwm Llanfihangel, Cwm yr Aber, a thrwy Daran yr Hendre a'r Daran Fach, i ochr tir Pennal. Yna cyfeiria am afon Dyfi hyd Gefn Cader, lle yr oedd gorsaf Rufeinig
Yr ail Sarn o Domen y Mûr a ręd trwy Gae Mawr, trwy Drawsfynydd, trwy fangre y saif gorsaf y G. W. yn y Bala, trwy Gae Deintur, trwy Rhos Ucha, y Tyddyn Bach, Gilfach Wen, Pen-y-stryd; o'r lle olaf am Gwm Dolgain, ger Bedd Porus a Maen-hir (Llech Idris), gan groesi y Cain i dir Dol y Mynach. Yna cerdd heibio Pistyll Cain hyd Fryn y Gâd, trwy dir Pant-glas a Brynllin, gan groesi y Fawddach i Lan Fachraith, hyd fynydd Rhiwfelen. Wedyn gwelir darnau ar fynydd Dolcynafon, Cefn yr Eryr, ac yn Rhyd-y-main. Yr ochr arall i Rhyd Wnion, enwir hi'n Ffordd Elen, ac ä trwy Gotres Lwyd, Pantpanel, hyd Ty'n-y-coed heibio Ty Newydd Ucha, trwy Bwlch Oerddrws.
Croesa un arall Gwm Prysor, ac aiff dan yr enw Ffordd Elen, trwy Goed Cae Du trwy Gae Eithin, Pant-seler, Dola-dinas, Nant Bwlch, Nant Moel Croeso, tros fynydd-dir Bryn Du, trwy ffridd Naid Filltir heibio i Lyn Aethlun a Bryn Clynog. Cyn yma ond yn y man cyfeiria at afon Prysor, a Chastell Bryn Clynog. Gwelir darn ohoni wrth Foel Dôl Haidd, Moel yr Wden a chroesa Foelydd y Tŵr a'r Geifr, gan redeg i blwyfi Trawsfynydd a llanuwchllyn Rheda drachefn heibio Gwter Ddu, uwchlaw Cors Moel Llechi, trwy sarn y Frenhines, Cefn Amnodd trwy Ffridd Castell, Hendre Blaenlliw, Ffridd Bach, LIiw a Buarth y Meini tros Fanciau Beddau y Cawri, Castell y Waen, hyd Gae'r Gai - hen orsaf y Rhufeinwyr,-hyd ben Llyn Tegid (Ab Baran), trwy Dyddyn y Gyrn &c., &c.
Yn fwy o gywreinrwydd y dodais y llinellau henafol uchod i fewn, nag o feddwl y cymer unrhyw ymwelydd y drafferth i ganlyn un droedfedd o'r ffordd, oddieithr na byddo yn henafěaethydd brwd o galon a phen.
FFYNON FAIR.
Perthynai i bob plwyf a llan eu ffynnonau cysegredig gynt: pa le bynag y byddai sant yn cyhoeddi ei fendith a'i râd byddai ffynon yn bwrw ei dyfroedd bendithiol i iachau anhwylderau amrywiol yr ardal ; ac i wneud pethau yn well enwid yr unrhyw ar enw y sant a fyddai yn gosod i lawr sylfeini yr Eglwys, a byddai hyn yn sicr o asio Cręd y lluaws ofergoelus ynddi yn well fyth. Ac ond i'r teithydd sylwi, gelwid hon ar enw y Wyryf Santaidd, mam ein Gwaredwr a dyna enw hefyd hen Eglwys y plwyf, St. Mair, ac nid oes odid Lan yn Nghymru na cheir ffynon sanctaidd gan y saint hynny a fu'n gosod i lawr gręd a bedydd, fel ag y tueddir fě i gredu weithiau fod cymaint o rwymau ar ddyn i gerdded at ffynon am fendith corph ag a fyddai cychwyn am y Llan am amgeledd ysbrydol! Er yr ofergoel ynglŷn hon, bu ei dwfr pur yn feddyginiaeth at wahanol afiiechydon a thrachefn ni fu namyn "Ystęn Duw i estyn dŵr" Rai blynyddau'n ol cafwyd amryw fathodau ynddi, a rhai yn dwyn delw ac argraff o Trajan ac Hadrian, Ymerhawdwyr Rhufain Ar y naill ceid y geiriau hyn:—
IMP. TRAIANO AVG. GER DAC. P.M.TR.P COS.
V.P.P.S.P.O.R. OPTIMO PRINC.
Acar y llall y llythyrenau canlynol:—
IMP. CAESAR TRAIAN. HADRIANVS AVG.P.M. TR.
P. COS' 111.
Gwnaed maenwaith i ddiogelu y ffynon, ac i hwyluso y ffordd i ymwelwyr â hon, yn y blynyddau 1838—50, trwy arian y cyhoedd, ond er hynny y mae Ffynon Fair wedi syrthio i annhrefn, ac yn ddiwerth yn nghyfrif y trigolion ac ereill.
FFYNON Y GRO.
Rhęd y ffynon hon yn ffrwd loew ar wastadedd tir y Llwyn, gan daflu ei dwfr yn gawodau i'r Wnion, ger y Bont Fawr, ar y tu gogleddol iddi. Bu i'r ffordd haiarn newid gwely y darddell hon, fel nad ymddengys fel yn y dyddiau o'r blaen Bu Dafydd Ionawr awdwr hyglod cywyddau y Drindod, yn nyfroedd rhedegog ffynon, ar gyfer y Llwyn, ac oddiwrth ei englynion canmawl yn Ngwaith y bardd a gyhoeddwyd gan Mr. R. O. Rees, ymddengys i'r awenydd gael meddyginiaeth oddiwrth rhyw afiechyd anhysbys i ni, ac mai ger gwyneb yr hen blasdy a nodwyd y chwarddai ei dyfroedd tan wenau haul. Dyfynaf ei englynion :
O flin haint ac o aflan hwyl—farwol
Adferodd fi eilchwyl:
Cefais iechyd, hyfryd hwyl
Yn y ffynon hoff anwyl.
Yn min dwyffordd mewn dyffryn — gwyrdd y tardd
Gerddi teg gyferbyn;
I fardd ac i oferddyn
Yn gan' gwell nag yw gwin gwyn.
Brenhinbren derwen sydd dyst — haul eurwawr
Sydd laraidd oleudyst
D'wedant (a digon deudyst)
Ewch i hon a dim ni chyst
FFYNON Y FFRIDD ARW
Mae y darddell lygadlon hon i'w chael ar graig, ar fin y ffordd, yn nghyfeiriad Pont yr Aran, tua milltir o'r Bont Fawr. Ac os gwnai dwfr Ffynon Fair iachau y gewynwst, byddai i hon gryfhau yr holl gyfansoddiad dynol. Sonid am "Ffynon Rydd" a "Ffynon Lygaid," mangre y naill yn mynyddau "Cymru Fu" ydoedd mewn clawdd yn muarth Brynmair a'r llall ger plasdy o'r enw The Rock Cottage.
LLETY'R MWRDRWR
Ceir yr annedd adfeiledig hon ar lethr y mynydd, uwchlaw ffordd yr hen stage coach o Ddolgellau i'r BaIa, ac ar gyfer Y Llwyn a gorsaf y rheilffordd. Ca'dd yr enw uchod, medd traddodiad, am i'r "Hwntw Mawr" ddianc o gell ei garchar, lle saif Gwesty'r "Einion" hyd yma a chysgu noswaith ynddo cyn ei ddienyddiad. Dywed yr hen Bobl fod gweddillion o'r trawst crogi yn aros eto yn neu odeuty adfeilion yr hen garchar
Y FARCHNADLE
Fel mynychwyr lluosog trefi eraill Cymru cyrchai lluaws gwlad a gwerthai y maelwyr eu nwyddau amrywiol—ymenyn, cigau, dofednod, &c.—ar yr heol a lleoedd anghyfleus ereill, yn nghanol gwynt a gwlaw, cyn y fl. 1870, pryd yr agorwyd y marchnad—dy â chiniaw cyhoeddus yn ei phrif lofft — 76 tr. wrth 39 tr. Dyddiau ei marchnad ydynt Mawrth a Sadwrn
DOLSERAU
sydd balas harddwych, ac yn meddiant Charles Edwards, Ysw., er y fl. 1858. Disgyna, fel ei hynafiaid-Oweniaid Dolserau, a Lewis Owen, y barwn o'r Llwyn, o Ednywain Bendew ab Bradwen. Pendog, un o Bymtheg Llwyth Gwynedd; ac o'r ochr arall of Ednowain ab Bendew, un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, ac o Madog Meredydd, Tywysog Powys Fadog, yr hwn oedd yn ŵyr i Bleddyn ab Cynfyn. Nis gellid dilyn y teuluoedd hyn trwy eu. llin hir o achau amrywiol, mewn traethawd o derfynau prin fel hwn, eithr ymfoddloned yr ymchwilydd a'r ymwelydd â'r hyn a fynegwyd, gan gyfeirio llygad a meddwl at waith helaethach, "Cantref Meirionydd," gan y diweddar R. Prys Morris.
BRONWNION.
Preswylfod eang a harddwych Cyrnol Wicklam a saif ar lethr dymunol, ar ffordd Rhyd-wèn, ac fe ddichon i'r englynion clodforus canlynol o eiddo Meirig Ebrill greu awydd yn rhywun am wel'd yr adail gadarngref a wena mewn hoen a balchder uwch dyfroedd tryloewon yr Wnion henafol:-
Bronwnion bery'n enwog-am oesau
Uwch meusydd blodeuog;
Mor wiwddest a mawreddog
Mae'n edrych dan glaerwych glôg.
O'i gwmpas mae teg wempog-gadeiriaw!
Goed irion gwyrdd-ddeiliog;
Lle hawddgar i'r gerddgar gôg,
A'r eos fwyngu rywiog.
Band hyfryd ar hyd yr haf-eu gwelir
A golwg prydferthaf:
Parhant yn eu tyfiant daf,
Nis gwywant hirnos gauaf.
Llonwych rodfeydd dillynion-sy' yno,
Rhwng rhosynau gloywon:
Oll yn ferth, mor brydferth bron
A sawrus flodau Saron.
Ei syw fâd addurniadau—a'i harddwch
A urddant Ddolgellau:
Gwir ethol ragoriaethau
Ddyry'n blagur pur i'n pau.
Sylwer mai Williams haelwedd—ŵr anwyl,
Yw'r uniawn etifedd;
Caffed fyd hyfryd a hedd
I'w einioes yn ei annedd.
A'i seirian deulu siriawl—hynawsaidd,
Fo'n oesi'n grefyddawl,
Ac esgyn wed'yn i wawl
Cain wiwfyg Gwynfa nefawl.
BRYN Y GWIN
sydd annedd urddasol a saif ar lecyn tra dymunol gerllaw i'r dref. Bu y plas hwn yn gartref i amryw deuluoedd o nôd uchel, ac yn neillduol i'r diweddar H. Reveley, Ysw., un o brif ynadon swydd Feirion, yr hwn a fu farw Tach. 9, 1851, yn 79 mlwydd oed. Trwy y boneddig hwn y daeth Reveley yn gyfenw yn nheulu Bryn y Gwin, yr hwn a briododd â Jane, ferch R. H. Owen, Yswain, o Fryn y Gwin. Ganwyd i'r ddeuddyn hyn H. J. Reveley, Ysw., ac Is-gadben Dirprwyol swydd Feirionydd, ac Uchel-Sirydd yn 1859. Priododd ei gyfnither Siân, ferch Agernon Reveley, Ysw., a wasanaethai yn Bengal. Disgynai o du ei fam o Lewis Owain, y barwn a lofruddiwyd gan Wylliaid Cochion Mawddwy, ac o du ei dad o'r Perciaid, gynt duciaid Northumberland, y Selbys, yr Ordes, y Burells, a'r Miltfords, o Gastell Mittford, ac o'r Greys, o Gastell Chillingham. Dywed achau y Reveleys, y gallant trwy y Mowbrays, duciaid Norfolk, a'r Plantagenets, olrhain eu disgyniad o'r teyrn Iorwerth I., treisiwr y Cymry a'u gwlad! a thrwy Marged ei wraig, ferch Phylip, y "calon-galed," Brenin Ffrainc. Mae ein gofod yn rhy brin i ddilyn achau y gŵr enwog hwn trwy Owain Glyndwr, Madog Foel, y Pulestoniaid, hyd Annie Clara, a briododd H. Llwyd Williams, Ysw., meddyg a heddynad yn Nolgellau. Fel y canlyn y canodd Meurig Ebrill ar ddydd. priodas H. J. Reveley, Ysw.:—
Wele iawn achos i lawenychu,
Heddyw priodwyd, gwaith hawdd yw prydu,
Hugh Reveley, Yswain, a'i fungain fwyngu,
Ein beirdd hyfedrus wnan' beraidd fydru
Eu priodasgerdd, felusgerdd lwysgu,
A mila unant i ymlawenu,
Gan weddaidd deg weinyddu yn barchus,
Ar duedd ddawnus, er eu dyddanu.
Ac ar farwolaeth H. Reveley, Ysw., yr englynodd fel hyn:—
Ymdaenodd, lledodd trallodion—trosof,
Tra isel yw 'nghalon;
Clwyfwyd, merwinwyd fy mron,
Gan aethus gyni weithion.
Ingawl genadon angau—ergydiant
Eu rhwygiadol saethau;
Gwŷr mawrion, pigion ein pau,
Orfyddant i oer feddau.
Daeth chwerwder, blyngder, cur blin,—oer athrist,
Fel aruthrol ddrycin:
Sef noswyl, arwyl erwin,
Frwynawg, erch, i Fryn y Gwin.
Arddelid ei wir ddilys
Eiriau llad gan wŷr y llys;
Gnawd i bob gradd oedd addef
Eglurdeb ei burdeb ef;
Yn ben astud bu'u eistedd,
Enyd hir, fel Ynad Hedd,
A blaenawr llwyddfawr a llon,
Da'i nôd, i'w gydynadon;
Cawr o ddyn cywir oedd ef,
Teg wiwfryd, sad, digyfref;
Diornaidd bor cadarnwych,
Caed erioed, yn cadw'i rych.
Gwae ni bawb gau yn y bedd
Ganwyll ynadon Gwynedd
Nodiadau
[golygu]- ↑ Placed on an eminence. Camden says it was a castle built by onc Caius, a Roman. The Britons ascribe it to Gai, foster brother to King Arthur. It probably was Roman, for multitudes of coins have been found in the neighhourhood, and it is certain that it has been a fortress to defend this pass. Row. Fychan, Ysw., boneddwr a llenor, a chyfieithydd Ymarfer o Dduwioldeb, &c., a fywiai yma'n amser Siarl I.