Diwrnod yn Nolgellau/Yr addoldai ymneillduol
← Sefydliadau | Diwrnod yn Nolgellau gan Robert Thomas Williams (Trebor Môn) |
Llefydd o nod 1 → |
YR ADDOLDAI YMNEILLDUOL.
Y METHODISTIAID CALFINAIDD.
Saif "Bethel," capel prydferth a helaeth y Methodistiaid Calfinaidd, yn Smithfield Street, ac a adeiladwyd yn y flwyddyn 1877, gyda'r göst o £2500. Deil gynulleidfa o 2000. Rhif yr eglwys yw 260, a'r gweinidog yw y Parch. R. Morris, M.A., B.D. Ymddengys i'r Methodistiaid Calfinaidd bregethu eu hathrawiaeth gyntaf yn Nolgellau yn 1766, a phan ymwelodd y cenadon cyntaf cawsant y dref mewn cyflwr ysbrydol tra isel, ac felly y parhaodd hyd y Diwygiad Methodistaidd. Dywed "Methodistiaeth Cymru " na chafwyd hanes gymaint ag un offeiriad duwiol a glän ei foes wedi bod yn gweinyddu yn y dref, ond fod yr oll yn treulio bywyd anllad a phenrydd! Bu y llafurus a'r hynod Hugh Owen, Bronyclydwr, a Mr. Kenrick yma yn pregethu yn y Ty Cyfarfod," fel ei gelwir hyd heddyw; ond er eu hymdrechion a'u diwydrwydd ni chaed yr ysgogiad cyffredinol: achubwyd ambell un trwy eu gweinidogaeth, eithr yr un oedd ansawdd foesol y dref hyd ddechreu'r 18fed ganrif. Bu Howel Harris, Daniel Rowlands (lletyai ef mewn siop yn ymyl y Liverpool Arms), Vavasor Powel, Peter Williams, Mr. Ffoulkes (o'r Bala), Mr. Evans (Llanuwchllyn), Mr. Jones (Llangan), Lewis Evan (Llanllugan), a John Owen (Berthen-gron), yn cynyg y "newyddion da" i'r trefwyr. Danfonwyd yr olaf allan o'r dref heb gymaint a chael rhoi gair o gynghor i'r ychydig saint a'r bagad erlidwyr, a dywedir mai mewn corlan defaid ar Fryniau'r Eglwys, yn Llanilltyd, y bu ef a nifer fach of frodyr yn cynal cwrdd eglwysig, gan ddechreu oddeutu haner nos. Bu i ymyriad deddf gwlad leddfu gryn lawer ar fôr tonog erledigaeth, a chawn i'r Efengyl daflu ei dylanwad ar galonau a phenau y bobl, fel ag y bu i erlidwyr crefydd ddyfod i ganmawl goruchwyliaeth grâs a gweinidogion y Testament Newydd. Hefyd, mae gan yr enwad hwn ei" Salem," ar ffordd Y Gader," dan ofal ei gweinidog llafurus, y Parch. R. Ernest Jones—eglwys amlwg mewn gweithgarwch a rhif.
Y TREFNYDDION WESLEYAIDD.
Cenfydd yr ymwelydd gapel tlws a gwerthfawr yr enwad hwn yn Wesley Street. Addoldy mor ddiweddar a'r f. 1880 ydyw; gwariwyd £3000 arno, a chynwysa 600 o eisteddleoedd, a rhifa'r eglwys 160. Y gweinidogion ydynt y Parchn. D. Thomas, Dolgellau; J. Cadvan Davies, 'Bermo, &c., a nifer o bregethwyr cynorthwyol. Cylchdaith Dolgellau, a gweinidogaeth symudol. Yn y f. 1802, daeth y Parchn. O. Davies, Wrecsam, a J. Hughes, Aberhonddu, i'r dref, a phregethodd Mr. Hughes oddiar y garreg-farch ger y Plas-newydd, oddiwrth Ioan iii. 16. Pregethodd yn gryf ar Gariad Duw." Wedi hyn ymwelodd y Parch. E. Jones, Bathafarn, a Mr. W. Parry, Llandegai, a'r lle, a phregethodd y naill oddiwrth Actau xxviii o a'r llall oddiwrth Jona xi. 9. Pregethasant drachefn gerllaw y Plas-isa, a'r nos Sul a'r Llun canlynol yn nghapel y Crynwyr, yr hwn oedd ddwy filltir yn y wlad. Yr ymweliad nesaf ydoedd eiddo'r Parchn. J. Maurice a G. Owen, a phregethasant ill dau yn y Plas-isa, ac yn fuan drachefn daeth Mr. E. Jones, a nodwyd, a phregethodd gydag arddeliad mawr. Pregethodd drachefn wrth y Bont-fawr, yn nhy Howel Jones, lle buwyd yn cynal odfeuon grâs am 25 mlynedd; yna symudwyd i Fronheulog, a Mr. Jones oedd y cyntaf i sefydlu. y gyfeillach eglwysig, a'r noson y'i galwyd gyntaf ymunodd 52, ac yma buwyd yn pregethu am ddwy flynedd, sef hyd y cafwyd y capel cyntaf, yn 1806. O hynny hyd yn awr bu llawer codiad a chwymp yn nglŷn â'r enwad hwn; profodd aml un o'r aelodau yn anffyddlon, daliodd ereill eu tir yn rhagorol. Bu baich o ddyledion a chyfrifoldeb yn drwm ar ysgwyddau'r brodyr ffyddlon, ond trwy râs ac amynedd lloriwyd y pethau hyn gan gariad Duw, fel ag y daeth yr Arch i orphwys yn ysgafnach ar feddyliau a chyd-wybodau y rhai ffyddlawn a selog, fel y gallasent lawenhau a dyweyd, "O'r Arglwydd y mae hyn oll, a rhyfedd yw yn ein golwg ni."
YR ANNIBYNWYR.
Yn ol Annibyniaeth Cymru." tud. 452, ceid Dolgellau yn un o orsafau arbenig yr hyglodus H. Owen, Bronyclydwr, bob tri mis, yn y Ty Cyfarfod." Bu gweinidogaeth yr Annibynwyr yn absenol yma am gan' mlynedd wedi marwolaeth Mr. Owen, ond wedi ymsefydlu o Mr. Pugh yn weinidog yn y Brithdir, pregethid ganddo ef a gweinidogion y cylchoedd yn y dref. Pregethid yn Llanilltyd cyn dechreu yma, a deuai aelodau oddiyno i gynorthwyo'r brodyr. Yn Mhen-bryn-glas y dechreuwyd pregethu gyntaf (Ebrill, 1808), pryd y prynodd Mr. Pugh addoldy'r Methodistiaid Calfinaidd yn y dref, a'r tai perthynol am £500, a bu'r ddwy blaid yn pregethu yn yr un lle, hyd nes yr oedd capel y M. C. yn barod. Evan Jones, tad Ieuan Gwynedd, oedd y cyntaf i ddechreu'r aelodaeth eglwysig. Gwelodd yr achos aml chwyldroad chwerw, rhai aelodau brwdfrydig ar y cychwyn, ond yn flin a'u gilydd, ac yn cefnu ar eu Duw a'u haddoldy, ond ereill yn dal y ddrycin fel y derw diysgog ar lawr dol. Bu ymdrechion Mr. Pugh yn rhagorol yn mhlaid yr achos: talodd £60 trwy gasgliad yn Llundain. Bu Mr. Pugh farw Hydref 28ain, 1809. Ymledai darn o wlad 18 milltir o hyd, a 12 o led, o Ddrws-y-nant i'r Abermaw, ac o Fwlchoerddrws i'r Ganllwyd heb weinidog i'r achos hwn ar y cyntaf, a'r holl eglwysi dan ddyled, oddigerth Rhydymain: £230 ar gapel Brithdir, trwy'r ty newydd a adeiladwyd gan Mr. Pugh; £20 ar Lanilltyd; £160 ar gapel y Cutiau, a £300 ar gapel Dolgellau. Casglodd Mr. W. Hughes, Dinas Mawddwy, £100 yn Neheudir Cymru; Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, £20 yn yr Amwythig; Parch. W. Williams, y Wern, £40 mewn gwahanol leoedd. Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr yn Athrofa Gwrecsam, ydoedd y gweinidog cyntaf yma, yr hwn a fu'n haul a thad i'r achos yn ei holl ranau, a than ei weinidogaeth ef y cychwynodd y Mri. O. Owen, Rhesycae, ac E. Evans, o Langollen, i faesydd eu gweinidogaeth. Y diweddar Mr. Thomas Davies, o'r "Green," a gyfrifid yn Apostol yr Ysgol Sabbothol. Gwr o'r Castellmarch, Llanrhaiadr-Mochnant, ydoedd, ac awdwr "Hyfforddwr yr Ysgol Sul," o'r hwn yr argraphwyd gwerth £100 o gopiau. Ei olynydd ffyddlon oedd Mr. Thos. Davies, o Athrofa Aberhonddu, a urddwyd Gorphenaf 21, 22, 1858. Symudodd ef yn mhen pedair mlynedd i eglwys Saesonaeg Painswick, Caerloyw, a bu'r eglwys heb weinidog am flynyddau. Caed addoldy newydd prydferth ar ffordd Penybryn, o werth £2000, trwy'r tir, ac agorwyd ef Meh. 4ydd a'r 5ed, 1868, a'r flwyddyn ganlynol daeth Mr. E. A. Jones, Llangadog, yn weinidog iddo, yr hwn a urddwyd gan y Parchn. J. Williams, Castellmawr; J. M. Davies, Maescwnwr; J. Jones, Machynlleth W. Griffith, Caergybi; J. Roberts, Llundain; W. Roberts, Aberhonddu; N. Stephens, Sirhowy, a W. Rees (Gwilym Hiraethog) Ganwyd Cadwaladr Jones yn Deildreuchaf, Llan- uwchllyn, Mai, 1783, a bu farw Rhagfyr 5ed, 1867, yn 85 mlwydd oed. Cyhoeddwyd cofiant dyddorol am dano gan y diweddar Barch. R. Thomas (Ap Fychan). Y gweinidog presenol-Parch. W. Parri Huws, B.D., er y flwyddyn 1896.
Y BEDYDDWYR.
Saif eu capel yn Heol y Gader, o'r brif-ffordd, ychydig latheni ar y chwith. Dwg y dystiolaeth ganlynol:
Capel Juda,
A adeiladwyd A.D. 1800.
A ail-adeiladwyd 1839.
"O Arglwydd ein Duw, yr holl amlder hyn a barotoisom ni i
adeiladu i ti dy i'th enw sanctaidd; o'th law di y mae, ac
eiddo ti ydyw oll."
Agos ar ei gyfer, ar y chwith, fel yr eir i'r dref, ceir capel Seisonig yr Annibynwyr (Rev. H. N. Henderson).