Diwrnod yn Nolgellau (testun cyfansawdd)
← | Diwrnod yn Nolgellau (testun cyfansawdd) gan Robert Thomas Williams (Trebor Môn) |
→ |
I'w lawr lwytho ar gyfer darllenydd e-lyfrau gweler Diwrnod yn Nolgellau |
DIWRNOD YN NOLGELLAU:
Y LLEOEDD MWYAF DYDDOROL Y GELLIR YMWELED
A HWY YN Y DREF A'R GYMYDOGAETH.
(THE MOST INTERESTING PLACES TO VISIT DURING A DAY'S
TRIP AT DOLGELLEY AND NEIGHBOURHOOD).
——————
Mor swynol yw Dolgellau, yn nghesail bryniau ban,
Dan wenau côg a meillion, a thawel, fwynaf fan.
GAN
R. THOMAS WILLIAMS (TREBOR MON),
"AWDWR NODION O GAERGYBI," &c.
ARGRAPHWYD, TROS YR AWDWR, GAN W. GWENLYN EVANS.
CAERNARFON:
1904.
AT Y DARLLENYDD.
Yn y tudalenau canlynol caiff ymwelydd â Dolgellau wahanol leoedd i'w dewis i ymhyfrydu ynddynt: nid yw pob dyn o'r un chwaeth i ymddifyru a hel hanes, a dengys hyn fawr ddoethineb Awdwr Natur. Am hynny credais am arlwyo bord helaeth a chyfoethog o amrywiaeth,—61 o fanau gwahanol, gogyfer â lleng o ymwelwyr â'r dref, yn ystod dyddiau'r hafau, fel na byddo prinder ymborth teilwng ar gyfer y dyeithriaid hynny o Gymry, —yr un fantais ag a gaiff y Sais o'r traethawd Seisonig.
Teg yw hysbysu ddarfod i'r traethawd hwn gael ei hel at ei gilydd gogyfer ag Eisteddfod Meirion, Calan, 1902, fel ag y gosodwyd allan ar y wyneb-ddalen a'r dynodiant "Hanesydd," a phan oeddys ar ei anfon allan wedi'r holl lafur a phleser o'i linynu ynghyd, gwelwyd wedi craffu'n fanylach ar y rhaglen ddarfod i'r Pwyllgor arfaethu y gwaith i fod yn y Saesonaeg!—arlwyaeth i Saeson o ymwelwyr ar fisoedd goreu'r haf. Ac felly ni anfonwyd ef i'r gystadleuaeth, er fy meio gan amryw am hynny, eithr cyhoeddir ef yn y wedd hon rhag i'm llafur fyned yn ofer. Hefyd, cydnabyddaf wasanaeth tra angenrheidiol "Cantref Meirionydd," gan y diweddar Mr. R. Prys Morris, i gyflawni diffygion y Traethawd, gan ba awdwr y ceid mantais helaethach ar hynafiaethau Dolgellau a'r cylchoedd.
Tachwedd, 1902.
YR AWDWR.DIWRNOD YN NOLGELLAU.
ARWEINIAD I MEWN.
ID oes gangen o wybodaeth yn fwy dyddorol, a derbyniol gan y darllenydd nag hanesiaeth. Trwy hanes y caiff yr efrydydd deithi y pethau a fu, cymeriad y gwrthddrychau a egyr o'i flaen, a dylanwad yr hynodion hynny mewn natur a chymdeithas ar bersonau a chyfeillachau, fel ag i newid osgo a thueddfryd y sylwedydd er ei "well, neu er ei waeth." Yma mae'r perygl yn clorianu, i dda neu i ddrwg, gan y gwrthddrych allanol ar a huda serch neu ddymuniad yr ymwelydd, gan ei berthynas â phechod, neu ddaioni, eithr o bydd gras a rhinwedd yn y galon, yn yr ysbryd a'r pen, yna tebyg y bydd i hoffwr gwrthddrychau fyw ar degwch, neu werth yr unrhyw er ei leshâd, gan achub ei hun rhag y drwg a'r niweidiol. Addefir gan yr hanesydd a'r hynafiaethydd nad oes lanerch fwy dyddorol, mwy amrywiol ei harddangosiadau gan natur gain yn Nghymru na Dolgellau. Y mae ei hamrywiaeth gan natur, ac encilfa dawel i anwesu pob meddwl o bleser, a fuasai olaf yn ildio ei Chymraeg i estron, ac yn ddiweddaf yn y byd i achlesu unpeth o eiddo meib Hengist, gan mor selog a ffyddlawn ydyw i ddefion Cymreig a gwladgarwch Gymröaidd. I ymwelydd â Dolgellau am ddiwrnod, cenfydd y sylwedydd craff, ac a fyn werth ei geiniog, fanau i fwynhau ei hun yn ei ymyl, ar werth pa rai y casgl fêl i'w gwch, tra caiff y teithydd pymthegnos, neu fis, leoedd o hyfrydwch i chwaeth dda a phur, pellach allan i hel mwynhad a chyfoeth meddyliol a ad-dala iddo ar eu degfed, fel y caf nodi yn y tudalenau canlynol.
DOLGELLAU YN EI HENW A'I NHODWEDD.
Saif y dref hon, sydd farchnad-dref a phlwyf, yn nghwmwd Tal-y-bont, a Mawddwy, rhwng dwy afon o'r enwau Wnion ac Aran, braidd ar ymuniad y ddiweddaf â Mawddach, ac ar fynwes dyffryn ffrwythlawn a phrydferth o amrywiaeth natur, gan gusanu
troed Cader Idris, ac a fedr, fel hen Fam hybarchus yn sir Feirionydd, roddi her i unrhyw dref arall yn Nghymru am fangre dlysach i orweddian, yn nghanol teleidion natur a chelfyddyd, llaio droseddau cymdeithasol, a mwy o ymlyniad mewn pobpeth a ddyrch gymeriad Gwalia a'i thrigolion. Bu "cyll" (lluosog o "collen") mewn helaethrwydd yma unwaith, os nad eto, a dyma'r rheswm i'r hen Gymry syml a llygadog roddi yr enw hwn i dref a orweddai ar ddol lawn o'r coed hynny, a rhoi enw arall estronol iddi fuasai "cyrchu dwfr dros afon," a cheisio gwadu'r ddawn Gymreig. Saif Dolgellau ar brif-ffordd Trallwm ac Abermaw, a rhestrir hi yn fwy poblog a chanolog ei sefyllfa nag un dref arall yn y sir. Mae perffeithiad celfyddyd mewn adeiladu wedi gwneyd i ffordd â'r hen anedd-dai tô gwellt, ac ereill anolygus a rhyfedd, a thai heirdd a chostfawr wedi eu codi ar ei heolydd afreolaidd, culion, croesion ac anghyson eu gosodiad. Ysgrifenydd arall a ddyry'r darnodiad canlynol o'r dref: Un o brif drefi sir Feirionydd ydyw Dolgellau, ac nid oes yn y sir gydgasgliad digonedd o annedd-dai i wneyd bwrdeisdref-tref wedi ei chodi ar yr hyn oedd gynt yn Ddol o gyll,' a dyna paham y gelwir y fan yn Dolgellau." Y mae yn lle dyddorol ar lawer ystyr. Gelwir hi weithiau yn ben tref y sir, am, mae'n debyg, fod yno neuadd sirol, er fod y Bala yn ymffrostio yn yr unrhyw urddas, ac am i'r carchar sirol fodoli yno am gyfnod maith; ond y mae Dolgellau wedi colli hyd yn nod yr " anrhydedd" a'r flaenoriaeth honno. Perthyna i'r lle ar hyn o bryd "fwrdd lleol," neu, os gwelwch yn dda, "gynghor dinesig" erbyn hyn; ond sefydlwyd y cyfryw, mae'n ddiau, yn rhy ddiweddar i osod trefn a dosparth ar gynlluniau y dref, yr hon sydd yn hynod am ei heolydd culion, croesion, a gosodiad anghyson y tai, amryw o'r rhai ydynt henafol a dilun. Dywedir gan Mr. Bingley, efrydydd colegawl o Ddolgellau, yr hwn yn ystod ei ymdaith yn un o drefi Lloegr, a ymffrostiai yn nhegwch ei dref enedigol, iddo gael hèr i ddesgrifio sut le oedd Dolgellau. "Wel, mi a ddangosaf i chwi," meddai, gan gymeryd gafael mewn costrel oedd yn ymyl, ac yna torodd amryw gyrc yn fân ddarnau. Wedi hyn bwriodd y cyrc ar ben y botel nes oeddynt yn blith draphlith ar y bwrdd. Dyna Ddolgellau," meddai: "yr eglwys ydyw y botel, ac y mae'r tai a'r heolydd yn union yr un modd ag y mae'r darnau cyrc ar y bwrdd." Saif y dref ddyddorol hon ar lan yr afon Wnion, cyn iddi ymarllwys i'r Mawddach, a rhed yr afon Aran, a ffrydiau hynod ereill, yn amgylchoedd ereill y dref. Ymgyfyd Cader Idris a'i thrumau ar un llaw iddi, tra y mae palasau enwog Hengwrt, Nannau, Caerynwch, Bronygadair, Brynadda, Garthyngharad, a nifer ereill ar wahanol lechweddau y bryniau sydd yn amgylchynu y Ddôl. Yn y dref ar un cyfnod y bu Owen Glyndwr yn cadw ei Senedd, ond y mae olion yr adeilad hwnw bron wedi diflanu. Adeilad pwysig ynddo yn awr, ac a welir yn ein darlun o'r dref, ydyw Ysgol Dr. Williams, sefydliad addysgol i enethod, a godwyd o arian a ewyllysiodd Dr. Williams yn gyntaf i dref Caernarfon, ond oherwydd claiarineb y trefwyr yno a gymerwyd i fyny yn aiddgar gan drigolion sir Feirionydd, ac a sefydlwyd ar lan yr Wnion. Gallwn sicrhau ein darllenwyr nad oes anad le yn Nghymru mor doreithiog mewn golygfeydd rhamantus, hanesyddiaeth ddyddorol, a swyn-gyfaredd—canys onid. yn yr ardal hon y mae lle yr aur?—na'r doldir hyfryd ar ba un y saif Tref y Cyll.
Gwnaed adgyweiriadau pwysig yn y lle Meh., 1830, gan Syr R. Vaughan, gydag adeiladu heol o'r enw Eldon—terrace, ac y mae ereill wedi codi'r cynllun, a mynu heolydd o dai annedd glanwedd a theg, ag sy'n addurn gan gelf a gwybodaeth. Ceir dwy farchnad wythnosol yma ar ddyddiau Mawrth a Sadwrn, a chynhelir 14 o ffeiriau, dyddiadau pa rai, a chyfnewidiadau y rhai hyn, os digwydda hynny, a chwilia'r ymwelwr yn dra buan o'n Halmanaciau. Cynhelir Sesiwn yr haf, Chwarter Sesiwn y Pasg, a Gwyl Mihangel, tros y sir, yn y lle, ond fel rheol, ychydig a fydd nifer y rhai a brofir, ac aml heb un i'w ddwyn ger bron, yn y "Sesiwn wâg," am drosedd o unrhyw fath. Ymlapia'r dref o dan fynyddau uchel a bryniau ban; ar lethrau y rhai hyn y ceir coedwigoedd helaeth, yn llawn o adar gwylltion yn cadw'r cyngherddau goreu a fedd ein byd. Dyfrheir godreu pob coedfa gan yr Wnion, yr hon a chwardd wrth daflu ei phen ar fynwes ei chwaer—afon Maw, yn ymyl Llanilltyd, a'r hon afon eto sydd y darlun cywiraf o sarph, yn ei cham-ystum a'i thröadau aml a sydyn. Naid hon allan trwy groen daear Trawsfynydd, ac a ymwylltia i lawr trwy'r Ganllwyd. Odditan y Pistylloedd ymferwa'r Cain iddi. Yn narnau ucha'r Ganllwyd, yn Nglyn Eden, neidia'r Eden i'w mynwes, yna rhed yn llawn gwenau trwy Waelod y Glyn, pan y cofleidir hi wrth Lanilltyd gan yr Wnion. Am brydferthwch hyhi a'i gororau ystyrir y cyfryw yn nesaf at lenydd y Rhine, o un lle yn Mhrydain, a geiriau Syr R. C. Hoare am danynt yw, eu bod "yn anarluniadwy o arddunol a thlws." Mae pentref Llanilltyd fel ar haner tyfu,—fel plentyn a'r rickets arno, heb nemor i alw sylw namyn ysgol ddyddiol ar yr ochr ddeheu i'r bont, siop a'r Eglwys blwyfol, ac i'w mynwent yr "hidlwyd llawer cenhedlaeth," a bu llawer o'i dyddiau yn cydredeg âg eiddo'r hen Fynachlog hybarch ac unig a orphwys draw ar ei chyfer, oddiwrth ddyddiau ei gweinidogaeth. Mae'r Eglwys yn gysegredig i Illtyd Farchog (Iltutus), fab Bicanys, o chwaer Emyr Llydaw, ac un a wnaeth enw iddo ei hun yn moreu oes am ei orchestion milwraidd. Brodor o Lydaw ydoedd, a daeth efo Garmon hyd Lys Arthur Frenin, ac yn fuan perswadiwyd ef gan Gatwg Ddoeth i arwedd buchedd grefyddol. Bu'n benaeth ganddo ar athrofa Côr Tewdws, yr hon a sylfaenwyd gan yr Ymherawdwr Tewdws (Theodosius). Dinystriwyd athrofa Llanilltyd Fawr (Caerworgorn) gan y Gwyddelod paganaidd, a dygasant Padrig gyda hwynt i'r Iwerddon, a dyma eu hapostol wedi hynny. Dygodd Illtyd welliant mewn garddu, yn lle ceibiau a'r aradr orsang dygodd gyfryngau mwy pwrpasol i aredig. Ystyrid ef yn noddwr pymtheg o eglwysi a chapeli. Yn ol y Cambrian Biography, gan Dr. W. Owain Puw, bu farw yn y flwyddyn 480 O.C., a chladdwyd ef, medd traddodiad, yn Bedd Gŵyl Illtyd," yn sir Frycheiniog. Coffheir ei wyl, yn ol Cressy, Chwef. 7. Mae golygfeydd teg ac amrywiaethol Llanilltyd hyd y Bermo yn brydferthwch byw dolydd, dyffrynoedd, y man fryniau bàn, a'r creigiau crôg y'nt mewn cystadleuaeth beunydd i ryfeddu'r ymwelydd o chwaeth bur.
Mae dyffryn Dolgellau yn un o'r rhai glanaf a phrydferthaf ag y gellir meddwl am dano, yn meddu ar olygfeydd ar ardaloedd pell hyd gyflawnder, yn eu cyfoeth, mawredd ac amrywiaeth. Mae rhodfeydd y fangre swynol yn rhamantus a niferog, a dyma a rydd gyfrif, yn ddiau, am y lluaws ymwelwyr a ddaw yma bob haf o wahanol fanau o'r deyrnas. Ystyrir plwyf Dolgellau yn 16 milltir o hyd a 4 o led; gwelir felly mai rhimyn cul ydyw, a llawer ohono'n fynyddig a bryniog, yn llawn o lwybrau defaid ac ebolion, a nifer helaeth o fân lynau ynddo, o ba rai y caiff y bobl dylodion gynud tân—mawn a choed. A'r weithred Seneddol, yn 1811, enillwyd chwe' mil o aceri o dir gwael ac ysgymun: ac y mae Dolgellau wedi cael y blaen ar bob lle arall am ei brethyn a'i gwlanen, neu y "Wê Gymreig," a bu cynifer a 1400 o ddynion mewn cyflawn waith a'r gorchwyl hwn. Cychwynwyd y gweithfäoedd yma cyn teyrnasiad lago I., a daeth eu rheoleiddiad i gyfrif pwysig yn nheyrnasiad Siarl I. Gwelwyd 130,000 o ysgubau, neu fwrneli (bundles), yn cynwys 110 o latheni mewn hyd, ar loriau y gweithfäoedd hyn, y rhai a ddanfonid mewn llongau i Lerpwl, Carolina Ddeheuol, Charleston, a manau ereill; eithr daeth y cludiadau hyn i lwyr derfyniad oddeutu y f. 1793, pryd yr ail- gychwynwyd y fasnach ag Amwytbig, gyda chario'r brethyn yno mewn pedrolfeni. Y mae crwynyddiaeth yn fasnach bwysig yma hefyd, mŵnyddiaeth mewn plwm, efydd ac aur (Gwynfynydd, cofier), eithr mae'r draul o agor coffrau y trysorau wedi llesteirio yr anturiaethydd er's llawer dydd, fel nad oes son mwyach am ail gynyg am y buddianau cuddiedig, oddieithr am " Waith Aur" nodedig Llanfachraith. Yn 1862 dyry Mynydd y Clogau, a saif cydrhwng Dolgellau a'r Bermo, aur a chopr i logellau yr antur- iaethwyr gwerthwyd gwerth oddeutu £70,000 o'i aur i Ariandy Lloegr. Tybir, ar adeg gwrthryfel mawr 1642-46, i'r gronfa Gymreig uchod mewn aur gyfranu llawer o'i darganfyddiad gwerthfawr i Siarl I., tra na sonir am hyn ond mewn traddodiad, eithr sir Aberteifi a gaiff y clod am hynny, ac am y talpiau euraidd a ddygid i fathdy Aberystwyth i wneyd penaduriaid o'r teyrn a enwyd. Dygid darnau teir-punt allan a bwysent 411 o ronynau, a'r dyddiad 1644 arnynt. Dygai dair pluen ar un wyneb, a'r plu a nod y bathdy ar y llall. Yr argraff yn llawn ydoedd:- "CAROLVS D:G:M. AC: BRI: FRA: ET HIBER: REX." Yna ardeb o ran uchaf o'r brenin, a'i ochrau yn troi i'r dde, wedi ei goroni ag arfogaeth. Yn ei law ddehau y mae cleddyf, a changen olewydden yn ei aswy. Ar y wyneb arall ceir-"EXVRGAI. DEVS. DISSIPENTVRINI MICI." Yn llinellau ar y canol ceir "RELIG: PRO: LEG: ANG: LIBER. PAR." Yna y rhif 111, a'r plu uwch ben, a'r dyddiad 1644 oddidanodd. Credaf fod llawer o'r bathau hyn yn gadwedig ynghudd yn Nolgellau a'r cylchoedd.
Wedi trem frysiog fel yna ar y dref yn rhanol, cymeraf yr ymwelydd yn erbyn ei law i weled desgrifiad Fuller o Ddolgellau yn ei "Worthies in Wales":-
"1. The walls thereof are three miles high.
2. Men go into it over the water; but
3. Go out of it under the water.
4. The steeple thereof doth grow therein.
5. There are more ale-houses than houses."
13 Y modd yr eglurir y pum' dychymyg (enigmas) uchod ydyw fel hyn: "The first is explained by the mountains which surround the place; the second implies that on one side of the town there was a bridge, over which all travellers must pass; and the third, that on the other side they had to go under a wooden trough, which conveyed water from a rock, at a mile distant, to an over- shot mill. For the fourth he says, the bells, if plural, hung in a yew tree; and for the last, that tenements were divided into two or more tippling-houses, and that even chimneyless barns were used often for the same purpose."
Bala | ...... | 18 Milltir |
Abermaw | ...... | 10 " |
Caerlleon | ...... | 57 " |
Machynlleth... | ...... | 15 " |
Maentwrog | ...... | 18 " |
Towyn | ...... | 16 " |
Yn ol Cary Itenarary of the Great and Cross Roads in England and Wales, 1798, trafaelid â'r stage coaches fel y canlyn o Ddolgellau i Lundain a Manceinion: ä'r hen ffordd heibio capel Bethel (A.), Dwyryd, ac oddidan Rhug, a Chorwen:—
Llwybr y Llythyr-gerbyd o'r Brifddinas hyd Ddolgellau a olygid uchod, a'r pellder o'r lleoedd a nodir mewn milldiroedd a ffyr- longau. Wele'n canlyn eto groesffyrdd y goach fawr o Fanchester i Ddolgellau.
A'r tafarnau y byddys yn aros ynddynt er diwallu'r teithwyr, a newid ceffylau oeddynt: Dolgellau: "Golden Lion." Drws y Nant: "Howel Dda." Bala: "Bull." Corwen: "Owen Glendwr." Llangollen: "Hand." O'r ochr arall: "Cannon Office Inn;" Caernarvon: "Hotel." Yn awr galwaf sylw'r ymwelydd at y gwrthddrychau canlynol :-
YR WNION [1] (GWYNION)
Dyfrheir coedwigoedd a dyffryn y dref gan yr afon dlos hon, ag sydd fâs a llydan, ac a rêd oddidan Ddolgellau, tros ba un y ceir pont o saith-bwa-maen, a sylfaenwyd yn 1638, ond yn ddiweddar a helaethwyd, ac a ëangwyd. Una â'r afon Mawddach yn ymyl Llanilltyd, oddeutu dwy filltir islaw. Rhêd y Maw, neu'r Fawddach, o'r mynyddau, yn y gogledd-ddwyrain, gan gyfeirio a rhedeg hyd Lanilltyd, ac y mae hi a'r Wnion yn gyfoethog o ëogiaid a brithylliaid. Medi 8fed a'r 9fed, 1903, trwy dymhestl enfawr o wynt a gwlaw, bu i'r Wnion a'r Aran neidio dros eu herchwynion a haner boddi'r dref. Yn Heol-y-bont mesurwyd y dyfroedd yn yr annedd-dai yn chwe' throedfedd. Nofiai counters y maeldai a dodrefn y tai, a gwelwyd yr Aran yn gwneyd llwybr newydd iddi ei hun ger Swyddfa'r "Goleuad." Cyfrifid dyfnder y dyfroedd cythryblus ger Pont y dref yn 15 troedfedd, a bu i'r genllif ddinystriol dori'r bont yn ddwy. Y grog-bont newydd o haiarn, a godwyd a'r draul o £100 gan y dref, a gariwyd oll ymaith, a chwalwyd oddeutu 150 o latheni o Reilffordd Cwmni'r Great Western cydrhwng Dolgellau a Drws y Nant. Ger pont yr Wnion saif Gorsaf Rheilffordd Cwmni y Great Western o Gaerlleon i'r "Bermo," lle ei cysylltir â'r Cambrian. Agorwyd y darn rheil- ffordd o'r Bala i Ddolgellau oddeutu 34 mlynedd yn ol.
LLYS Y DREF.
Cyfodwyd yr adeilad rhagorol hwn yn 1825, gyda'r draul o £3000. Mae'r oll o'r ystafelloedd wedi eu trefnu allan yn y modd goreu gogyfer a'r oll o'r hedd-swyddogion. Ceir yn y brif-ystafell ddarlun godidog o Syr R. W. Vaughan, o waith brws a phaent y talentog Syr M. A. Shee, R.A., gynt Llywydd yn yr Athrofa Fren- hinol. Hyd y Llysdy ar ei wyneb yw 72 tr. ac 8 mod., a saif yn nghyraedd murmuron dibaid yr Wnion. Ceir yr hen Lysdy, dan nodau trymion henaint, ger porth dwyreiniol y corphlan, yn Lombard Street, a'i wasanaeth heddyw yw bod yn swyddfa cyf- reithwyr.
Y CARCHAR.
a'i ystafellau aml ac eang, a adeiladwyd yn 1811, gyda'r draul o £5000. Bu i'r carchar hwn gael ei hynodi trwy ddienyddiad yr "Hwntw Mawr," am ladd lodes o forwyn, ger Talysarnau, oddeutu 90 mlynedd yn ol; yna Cadwaladr Jones, am lofruddio a darnio Sarah Hughes, oed 37, morwyn i'w dad, yn Nghefnmwsoglog, Meh. 4, 1877. Dienyddiwyd ef ar ddydd Gwener, Tach. 23, a'r croesaw a ga'dd y crogwr (Marwood) gan y dosbarth isaf o'r trefwyr ydoedd, ei hwtio, a'i ddilyn â chawod o dywyrch, pa un wedi ei ddiogelu gan yr heddgeidwaid a chael i'r trên, a'u llongyfarchai â "Dydd da," a gobeithio y cai ddyfod i ymweled â hwy oll yn fuan drachefn.
Bu y diweddar Ieuan Ionawr yn turnkey yma am hir flynyddau. Gŵr sarug, ac o dymherau blinion ydoedd Ieuan, a phan garcharwyd y diweddar Ddewi Hafhesb am adael ei wraig a'i blant, yn ddiamddiffyn, disgwyliai'r englynydd medrus fwy o diriondeb ganddo nag i ereill o'i gyd-garcharorion, yn nghysgod llên a barddas, ond yn hyn fe'i siomwyd ef. "Gwneuthum englyn iddo," meddai Dewi, "ac adroddais ef wrth y cythraul yn y drws wrth wrth ymadael, a diau yr ysgyrnygai'r hen warder hynny o ddannedd oedd ganddo ar yr englynydd pert. Weler englyn :—
Hen wyneb Ieuan Ionawr.— o'm blaen
Saif i'm blino'n, ddirfawr
O'r hen dennyn melynwawr,
Gwag ei fol, efo'i hen geg fawr.
Nid gwiw i'r ymwelydd ddisgwyl taro'i lygaid ar unrhyw droseddwr o fewn i'r adail enfawr hon heddyw, na chlywed sŵn troed torrwr deddf yn myned i mewn na dyfod allan, oblegid y mae hen garchar Dolgellau, wedi ei hir wasanaeth, yn cyfrannu rhyddid, anrhydedd a mwynhad cyfreithiau Prydain Fawr, fel ag y gellid ei osod i lawr ar fap Meirion a'r byd.
Y Crocbren o'r nennawr a dynnwyd i lawr
Fe'i gwnaed gynt i grogi; yr — hen Hwntw Mawr,—
A weithian heb arswyd fe'i Codwyd mewn cell
Swydd newydd roed iddo, ddiguro, ddau well
Ni chrogir ym Meirion ddim lladron rhag llaw —
Na chreulon, annhirion lofruddion dan fraw
Alltudir hwy bellach fel bawiach y byd.
I ganol gwlad estron, yn gaethion i gyd.
Y PERIGLOR DY
A genfydd y teithydd am yr afon Wnion a'i phont, ar lethr chwith y ffordd a arweinia am y Bala. Mae'n dy^ cryf a rhagorol ei olwg, ac y mae wedi newid preswylwyr yn lled aml yn y blynyddoedd diweddaf. Yr un a fywiai ynddo yn ystod helynt y Parc ydoedd y diweddar Hybarch Canon E. Lewis (Deon Bangor, wedi hyn), ac efe oedd cysurydd ysbrydol Cadwalader Jones. Meddai Mr Lewis ar ysbryd lletygarol, a throdd allan draethawd ar yr Olyniaeth Apostolaidd, yn y fl. 1869, ond ei arddelwad wrtho ydyw "Offeiriad Cymreig" yr hyn i'm tyb i, a arwyddai nad oedd gan yr awdur fawr o gred yn ei nerth ei hun. Ceir rhifires fawr o esgobion, &c.yn ffurfio'r gadwyn, ond ugeiniau ohonynt yn bydredig trwyddynt. Cynnyrch y ddadl frwd a fu cydrhwng y Deon a'r diweddar Dr W. Davies (W.), Bangor, ar faes yr Herald Cymraeg, ym 1859, ar Uchel—Eglwysyddiaeth yw y llyfr uchod, a'r ddarlith ar y testun uchod a draddodwyd ym Methesda gan Mr Davies, ac a gyhoeddwyd yn llyfryn 6ch. Perigloriaeth yw y fywoliaeth, yn Archddeoniaeth Meirionydd, ac esgobaeth Bangor, ac yn nhadogaeth y Goron. Neilltuwyd tua phum erw o dir, a achubwyd oddi ar afradlonedd yn y fl. 1811, o gylch tair milltir i'r dref, at wasanaeth gweinidogion yr Eglwys Wladol. Y periglor presennol yw J. Lloyd.
EGLWYS ST. MAIR
Sydd adail brydferth, ac wedi ei gwneud o galchfeini amrywiol, o gynllun Groegaidd, ar uchaf y tir, yng nghanol y dref, yn helaeth gyda thwr ysgwâr, clychau, ond heb addurniadau mewnol nac allanol. Ym mynwent hon tery'r ymchwilydd â chofadail hen a hynod, yn dwyn ardeb (portrait) o fonheddwr mewn arfogaeth a chi yn ei ymyl, yn coffáu teulu henafol Fychaniaid o Nannau, sef Meurig ap Fychan ab Ynyr Fychan, y pumed mewn achau o Cadwgan ap Bleddyn ap Cynfyn, preswylydd Nannau, a disgynnydd o honno ef yw boneddigion y lle hwn heddiw. Darlinir ef mewn gwisg fail (hollow dress), cledd yn ei law, arf-dariain yn cario llew, ac yn drwyn yr arwyddair, HIC JACET MAURIC FILIUS YNYR FYCHAN, hynny yw Yma gorwedd Meurig fab Ynyr Fychan. Y mae parwydydd yr eglwys yn orlawn o dabledi, rhy luosog i'w gosod yma, o un i un am wahanol foneddigion, hen a diweddar, o'r plastai a geir yn britho cymoedd y dref, ac yn eu plith feddargraff helaeth yn y Lladin,i'r Parch. J. Jones, Archddeon Meirionnydd. At yr oll cyfeiriaf Ymwelydd â Dolgellau, er diddori ei feddwl a meddiannu rhagor o gyfoeth i'w ben, i'r cysegr hwn, i'w darllen oll yn ystyriol
YR YSGOL RAMADEGOL.
Saif yr ysgol hon yn Penbryn, a sylfaenwyd yn 1665, gan y Parch. John EIlis, D.D., periglor y plwyf, gan roddi cymynrodd o dyddyn o enw y Penrhyn yn Llanaber, er addysgu 12 o fechgyn tlodion : gadawodd Y Parch Ellis Lewis waddol, a gyfrifir yn ddyddiedig Awst 21ain, 1727, yr hwn ficer hefyd a roddodd dyddyn a elwir Cilgwyn, yn Llandrillo-yn-Rhos, a £50 at adeiladu ysgoldy. Ychwanegwyd drachefn £300 gan yr Hybarch Tamerlain, y periglor diweddar. Eglwyswr a benodir Swydd hon gan offeiriaid Dolgellau, a gofynnir iddo raddio yn Rhydychen neu Gaergrawnt, ac nid all dderbyn swydd Eglwysig ar wahân i'w alwedigaeth. Gwnaed atgyweiriad cyflawn ar yr ysgol hon yn 1852.
CWRT PLAS YN Y DREF
Sef gweddillion hen Senedd-dy Owain Glyndŵr, a erys ym mhlith siopau eang, ger gwesty'r Ship. Cynhaliodd Owain ei Senedd yma yn 1404, wedi iddo syrthio i gynghrair gyda Siarl I, brenin Ffrainc. Yn ystod y rhyfeloedd cartrefol, pa rai a fu'n achos, neu achlysur i farwolaeth Siarl, ymgymerodd dosbarth neilltuol, oddeutu 100 o'r milwyr brenhinol, âr gorchwyl o godi gwarchae'r dref, er ei amddiffyn oddi wrth y galluoedd Seneddol, ond hyn a rwystrwyd gan Ed. Fychan, yr hwn oedd arweinydd ei restr ymosodol, ar un hefyd a chwalodd y terfysgwyr, gan gymeryd eu blaenor yn garcharor.
Gair am Owen Glyndŵr. Ganwyd yr arwr byd enwog hwn Mai 28ain, 1349. Hanai o du ei dad, Gruffudd Fychan, o Bleddyn ab Cynfyn, tywysog Powys, ac o du ei fam, Elin, ferch Tomos ab Hywel, o Llewelyn, tywysog olaf Cymru. Talfyriad yw Glyndŵr o Glyn Dyfrdwy, a cheir ei dreftadaeth ac olion ei balas yn aros eto ger Llansantffraid-Glyndyfrdwy; ond ei brif balas ydoedd Sycharth, wrth Lansilin.
Ei wraig oedd Margaret, merch i Syr Dafydd Hamner, o Sir Fflint, un o farnwyr ieuainc Rhisiart II. Dengys wrhydri dihafal fel cynghorydd mewn câd, ac fel cyfaill i'w gydgenedl, dros ei hiawnderau cynhenid, a'i hannibyniaeth genedlaethol. Anfonodd ei Ganghellydd, Gruffydd Younge, LL.D., Archddeon Meirionydd, a Syr John Hanmer, ei garennydd, yn llysgenhadon drosto i Baris at Siarl, a ffurfiwyd cynghrair rhyfel, ym mha un yr ymgyfenwai yn Dywysog Cymru.
Dechreuai ei gylchlythyr o[2] Senedd-dy Dolgellau fel hyn:— Owinus Dei gratia Princeps Walliæ. Datum apud Doleguelli 10 die mensis Maii, MCCCC., quarto, et principatus nostri quarto. Arwyddwyd eu papyrau yn Nolgellau, a chadarnhawyd hwy gan Glyndŵr yn nghastell Llanbadarn, Ion. 12fed, 1405, a chawsant y derbyniad mwyaf brwdfrydig gan y Canghellydd Ffrengig ai gyd-swyddogion. Wedi hyn, safodd Ffrainc o'i blaid fel y graig ddiysgog, a a bu iddynt daflu y cynorthwyon gorau iddo ef ai gydgenedl orthrymedig, mewn gwahanol gadau o'r pwys mwyaf mewn buddugoliaeth. Dangosodd y gwroldeb uchaf ar y cadfaes efo Rhisiart II. a Harri IV., ac nad dyn ydoedd i chware ag ef, pan roddid rhyddid gwlad ac iawnder cenedl gyfan yn y clorian, er — gwaethaf y ddau frenin a nodwyd, a Reginald de Grey, Ieuan ab Meredydd o Gefn y Fan, a Hwlcyn Llwyd o Lynllifon, dau elyn calon iddo. Gwnaeth "Y Croesau", dernyn o dir gerllaw Rhuthun, yn asgwrn y gynnen i dynnu gorsedd Prydain a'i phenaduriaid yn ei ben, er amddiffyn ei wlad, a tharo traha y Saeson i'r llawr, a bu llwyddiannus am flynyddau i dorfynyglu anghyfiawnder estroniaid, ac i dynnu gyddfau yr hen genedl o iau caethiwed. Llosgodd Rhuthun,—lladdodd ugeiniau o Saeson o gylch mynydd Pumlumon. Dioddefodd swydd Drefaldwyn yn enbyd ganddo; llosgodd y brif dref ar Trallwm, a lladdodd 60 o geidwaid Castell Maesyfed, — chwalodd y Saeson ar lannau'r Hafren,—lladdodd 2000 o Saeson o dan Grey ar lannau'r Fyrnwy,— cymerodd Grey yn garcharor a deolodd ef yn garcharor i Eryri, llosgodd Gefn y Fan, a Glynllifon, a mynachlogydd Bangor a Llanelwy,—gorchfygodd Syr Edm. Mortimer,—daliodd Syr Dafydd Gam, ei fradwr ai frawd-yn-nghyfraith, a chaethiwodd ef am 10 mlynedd, — bu'n ymguddio'n min môr wrth Langelynin, yn Ogof Owen, lle porthid gan gyfaill o fonheddig o'r enw Ednyfed ab Aron, a chanodd Iolo Goch, ei fardd, Gywydd i Owen Glyndŵr wedi ei fyned ar ddifancoll. Gwersyllodd ar Woodbury Hill, naw milltir o Worcester, gan gael ei gynorthwyo gan y Ffrancod, i wrthladd y Saeson, yn 1405 (Awst 7fed), a daliodd ei dir i wrthsefyll holl allu Lloegr gydag arfau Ffrainc (yn achlysurol), a gwenau'r Ysbaeniaid, hyd 1415. Bu Glyndŵr farw yn nhŷ ei ferch yn Monington, Medi 20fed, 1415, yn 61 mlwydd oed, a'r holl genedl a alarodd am dano Dechreua cywydd Iolo Goch i Glyndŵr fel hyn:—
Y gwr hir, nith gâr Harri,
Adfyd aeth, a wyd fyw di?
Ceid cywyddau eraill iddo gan yr un awdur—y naill cyn iddo godi mewn rhwysg yn erbyn Harri, ar llall pan oedd ef fwyaf ei ddylanwad. Gwel "Gorchestion Beirdd Cymru," tud. 114-7-9, Arg. H. Humphreys. Ni chaniata gofod i ni gyfleu ei Lythyrau ef a H. Percy oddiyma at Frenin Ffrainc, er cystal eu dyddordeb, eithr ymofyned y darllenydd am danynt yn yr hen" Wladgarwr," "Cantref Meirionydd," a llyfrau ereill. Methai y diweddar Mr. Wynne, Peniarth, a chael y Cwrt" yn foreuach na'r 16eg ganrif, na Mr. A. B. Phipson ef tros y 15fed ganrif, ond adnabyddid ef o hynny i lawr gan y bobl â'r enw "Senedd-dy Owain Glyndwr:" ond, modd bynag, tynodd y Bwrdd Lleol ef i lawr yn 1881. Pe troisid ef yn gywreinfa, buasai'n gaffaeliad gwerthfawr i'r dref.
YR ADDOLDAI YMNEILLDUOL.
Y METHODISTIAID CALFINAIDD.
Saif "Bethel," capel prydferth a helaeth y Methodistiaid Calfinaidd, yn Smithfield Street, ac a adeiladwyd yn y flwyddyn 1877, gyda'r göst o £2500. Deil gynulleidfa o 2000. Rhif yr eglwys yw 260, a'r gweinidog yw y Parch. R. Morris, M.A., B.D. Ymddengys i'r Methodistiaid Calfinaidd bregethu eu hathrawiaeth gyntaf yn Nolgellau yn 1766, a phan ymwelodd y cenadon cyntaf cawsant y dref mewn cyflwr ysbrydol tra isel, ac felly y parhaodd hyd y Diwygiad Methodistaidd. Dywed "Methodistiaeth Cymru " na chafwyd hanes gymaint ag un offeiriad duwiol a glän ei foes wedi bod yn gweinyddu yn y dref, ond fod yr oll yn treulio bywyd anllad a phenrydd! Bu y llafurus a'r hynod Hugh Owen, Bronyclydwr, a Mr. Kenrick yma yn pregethu yn y Ty Cyfarfod," fel ei gelwir hyd heddyw; ond er eu hymdrechion a'u diwydrwydd ni chaed yr ysgogiad cyffredinol: achubwyd ambell un trwy eu gweinidogaeth, eithr yr un oedd ansawdd foesol y dref hyd ddechreu'r 18fed ganrif. Bu Howel Harris, Daniel Rowlands (lletyai ef mewn siop yn ymyl y Liverpool Arms), Vavasor Powel, Peter Williams, Mr. Ffoulkes (o'r Bala), Mr. Evans (Llanuwchllyn), Mr. Jones (Llangan), Lewis Evan (Llanllugan), a John Owen (Berthen-gron), yn cynyg y "newyddion da" i'r trefwyr. Danfonwyd yr olaf allan o'r dref heb gymaint a chael rhoi gair o gynghor i'r ychydig saint a'r bagad erlidwyr, a dywedir mai mewn corlan defaid ar Fryniau'r Eglwys, yn Llanilltyd, y bu ef a nifer fach of frodyr yn cynal cwrdd eglwysig, gan ddechreu oddeutu haner nos. Bu i ymyriad deddf gwlad leddfu gryn lawer ar fôr tonog erledigaeth, a chawn i'r Efengyl daflu ei dylanwad ar galonau a phenau y bobl, fel ag y bu i erlidwyr crefydd ddyfod i ganmawl goruchwyliaeth grâs a gweinidogion y Testament Newydd. Hefyd, mae gan yr enwad hwn ei" Salem," ar ffordd Y Gader," dan ofal ei gweinidog llafurus, y Parch. R. Ernest Jones—eglwys amlwg mewn gweithgarwch a rhif.
Y TREFNYDDION WESLEYAIDD.
Cenfydd yr ymwelydd gapel tlws a gwerthfawr yr enwad hwn yn Wesley Street. Addoldy mor ddiweddar a'r f. 1880 ydyw; gwariwyd £3000 arno, a chynwysa 600 o eisteddleoedd, a rhifa'r eglwys 160. Y gweinidogion ydynt y Parchn. D. Thomas, Dolgellau; J. Cadvan Davies, 'Bermo, &c., a nifer o bregethwyr cynorthwyol. Cylchdaith Dolgellau, a gweinidogaeth symudol. Yn y f. 1802, daeth y Parchn. O. Davies, Wrecsam, a J. Hughes, Aberhonddu, i'r dref, a phregethodd Mr. Hughes oddiar y garreg-farch ger y Plas-newydd, oddiwrth Ioan iii. 16. Pregethodd yn gryf ar Gariad Duw." Wedi hyn ymwelodd y Parch. E. Jones, Bathafarn, a Mr. W. Parry, Llandegai, a'r lle, a phregethodd y naill oddiwrth Actau xxviii o a'r llall oddiwrth Jona xi. 9. Pregethasant drachefn gerllaw y Plas-isa, a'r nos Sul a'r Llun canlynol yn nghapel y Crynwyr, yr hwn oedd ddwy filltir yn y wlad. Yr ymweliad nesaf ydoedd eiddo'r Parchn. J. Maurice a G. Owen, a phregethasant ill dau yn y Plas-isa, ac yn fuan drachefn daeth Mr. E. Jones, a nodwyd, a phregethodd gydag arddeliad mawr. Pregethodd drachefn wrth y Bont-fawr, yn nhy Howel Jones, lle buwyd yn cynal odfeuon grâs am 25 mlynedd; yna symudwyd i Fronheulog, a Mr. Jones oedd y cyntaf i sefydlu. y gyfeillach eglwysig, a'r noson y'i galwyd gyntaf ymunodd 52, ac yma buwyd yn pregethu am ddwy flynedd, sef hyd y cafwyd y capel cyntaf, yn 1806. O hynny hyd yn awr bu llawer codiad a chwymp yn nglŷn â'r enwad hwn; profodd aml un o'r aelodau yn anffyddlon, daliodd ereill eu tir yn rhagorol. Bu baich o ddyledion a chyfrifoldeb yn drwm ar ysgwyddau'r brodyr ffyddlon, ond trwy râs ac amynedd lloriwyd y pethau hyn gan gariad Duw, fel ag y daeth yr Arch i orphwys yn ysgafnach ar feddyliau a chyd-wybodau y rhai ffyddlawn a selog, fel y gallasent lawenhau a dyweyd, "O'r Arglwydd y mae hyn oll, a rhyfedd yw yn ein golwg ni."
YR ANNIBYNWYR.
Yn ol Annibyniaeth Cymru." tud. 452, ceid Dolgellau yn un o orsafau arbenig yr hyglodus H. Owen, Bronyclydwr, bob tri mis, yn y Ty Cyfarfod." Bu gweinidogaeth yr Annibynwyr yn absenol yma am gan' mlynedd wedi marwolaeth Mr. Owen, ond wedi ymsefydlu o Mr. Pugh yn weinidog yn y Brithdir, pregethid ganddo ef a gweinidogion y cylchoedd yn y dref. Pregethid yn Llanilltyd cyn dechreu yma, a deuai aelodau oddiyno i gynorthwyo'r brodyr. Yn Mhen-bryn-glas y dechreuwyd pregethu gyntaf (Ebrill, 1808), pryd y prynodd Mr. Pugh addoldy'r Methodistiaid Calfinaidd yn y dref, a'r tai perthynol am £500, a bu'r ddwy blaid yn pregethu yn yr un lle, hyd nes yr oedd capel y M. C. yn barod. Evan Jones, tad Ieuan Gwynedd, oedd y cyntaf i ddechreu'r aelodaeth eglwysig. Gwelodd yr achos aml chwyldroad chwerw, rhai aelodau brwdfrydig ar y cychwyn, ond yn flin a'u gilydd, ac yn cefnu ar eu Duw a'u haddoldy, ond ereill yn dal y ddrycin fel y derw diysgog ar lawr dol. Bu ymdrechion Mr. Pugh yn rhagorol yn mhlaid yr achos: talodd £60 trwy gasgliad yn Llundain. Bu Mr. Pugh farw Hydref 28ain, 1809. Ymledai darn o wlad 18 milltir o hyd, a 12 o led, o Ddrws-y-nant i'r Abermaw, ac o Fwlchoerddrws i'r Ganllwyd heb weinidog i'r achos hwn ar y cyntaf, a'r holl eglwysi dan ddyled, oddigerth Rhydymain: £230 ar gapel Brithdir, trwy'r ty newydd a adeiladwyd gan Mr. Pugh; £20 ar Lanilltyd; £160 ar gapel y Cutiau, a £300 ar gapel Dolgellau. Casglodd Mr. W. Hughes, Dinas Mawddwy, £100 yn Neheudir Cymru; Parch. J. Roberts, Llanbrynmair, £20 yn yr Amwythig; Parch. W. Williams, y Wern, £40 mewn gwahanol leoedd. Mr. Cadwaladr Jones, myfyriwr yn Athrofa Gwrecsam, ydoedd y gweinidog cyntaf yma, yr hwn a fu'n haul a thad i'r achos yn ei holl ranau, a than ei weinidogaeth ef y cychwynodd y Mri. O. Owen, Rhesycae, ac E. Evans, o Langollen, i faesydd eu gweinidogaeth. Y diweddar Mr. Thomas Davies, o'r "Green," a gyfrifid yn Apostol yr Ysgol Sabbothol. Gwr o'r Castellmarch, Llanrhaiadr-Mochnant, ydoedd, ac awdwr "Hyfforddwr yr Ysgol Sul," o'r hwn yr argraphwyd gwerth £100 o gopiau. Ei olynydd ffyddlon oedd Mr. Thos. Davies, o Athrofa Aberhonddu, a urddwyd Gorphenaf 21, 22, 1858. Symudodd ef yn mhen pedair mlynedd i eglwys Saesonaeg Painswick, Caerloyw, a bu'r eglwys heb weinidog am flynyddau. Caed addoldy newydd prydferth ar ffordd Penybryn, o werth £2000, trwy'r tir, ac agorwyd ef Meh. 4ydd a'r 5ed, 1868, a'r flwyddyn ganlynol daeth Mr. E. A. Jones, Llangadog, yn weinidog iddo, yr hwn a urddwyd gan y Parchn. J. Williams, Castellmawr; J. M. Davies, Maescwnwr; J. Jones, Machynlleth W. Griffith, Caergybi; J. Roberts, Llundain; W. Roberts, Aberhonddu; N. Stephens, Sirhowy, a W. Rees (Gwilym Hiraethog) Ganwyd Cadwaladr Jones yn Deildreuchaf, Llan- uwchllyn, Mai, 1783, a bu farw Rhagfyr 5ed, 1867, yn 85 mlwydd oed. Cyhoeddwyd cofiant dyddorol am dano gan y diweddar Barch. R. Thomas (Ap Fychan). Y gweinidog presenol-Parch. W. Parri Huws, B.D., er y flwyddyn 1896.
Y BEDYDDWYR.
Saif eu capel yn Heol y Gader, o'r brif-ffordd, ychydig latheni ar y chwith. Dwg y dystiolaeth ganlynol:
Capel Juda,
A adeiladwyd A.D. 1800.
A ail-adeiladwyd 1839.
"O Arglwydd ein Duw, yr holl amlder hyn a barotoisom ni i
adeiladu i ti dy i'th enw sanctaidd; o'th law di y mae, ac
eiddo ti ydyw oll."
Agos ar ei gyfer, ar y chwith, fel yr eir i'r dref, ceir capel Seisonig yr Annibynwyr (Rev. H. N. Henderson).
Y SWYDDFEYDD ARGRAPHU.
Saif Swyddfa Y Goleuad" (perchenog, Mr. E. W. Evans) yn Smithfield Lane, ar gyfer gorsaf rheilffordd y Great Western, er y fl. 1877; a Swyddfa "Y Dysgedydd" a'r "Dydd," yn Heol Meurig: perchenogion, Mri. W. Hughes a'i Fab. Dyma hen argraphdy R. Jones, John Pugh, tad y diweddar Mr. D. Pugh, cyfreithiwr, Treffynon; Evan Jones, a'r argraphydd presenol yn gwneyd y pedwerydd. Troir o'r Swyddfeydd hyn weithiau safonol, mewn arddull ragorol, ac nid oes yn Nghymru weithfäoedd i argraphu llyfrau o nodwedd uwch gan un cyhoeddwr nac anturiaethwr.
Y LLWYN.
Saif y palasdy henafol ac anfeiliedig hwn ar fin y dref, o fewn ergyd dryll i Ddolgellau, ac yn y darn gogleddol o honi, a ger y ffordd a arweinia y teithydd i ac o'r dref i'r Bala. Y trigianydd yw John Evans. Y mae i'r ty hwn ei hanes hynod a ganlyn: Yn nheyrnasiad Harri'r VIII. preswylid y Llwyn gan Lewis Owen, neu y Barwn Owen, fab Owen ab Hywel ab Llewelyn, Ysw. Hanai o'r cyff anrhydeddusaf yn Nghymru. Meddai ar etifeddiaeth o £300 y flwyddyn, yr hyn y pryd hynny oedd yn swm gwych ac uchel.
Am y naill gyfrif a'r llall, penodwyd ef gan Harri'r VIII. yn Is-ystafellydd a Barwn-Ganghellydd Gwynedd. Bu'n Sirydd Meirionydd o 1546 hyd 1555, ac yn Aelod Seneddol o 1547 hyd 1552 a '54. Ceid cym'dogaeth Llanymawddwy, y pryd hwn, yn llawn o wehilion cymdeithas, dyhirwyr lladronllyd, yn cael eu gwneyd i fyny o herwhelwyr (poachers) ac yspeilwyr wedi ffoi i'r parth hwn o'r wlad, i ddilyn eu harferion drygionus, trwy ladrata neu ladd; a'u bod ar waith, yn ol y Brut, yn amser Cadwgan ab Bleddyn ab Cynfyn, ac Owain ei fab, yr hwn a elwid "Owain Fradwr," a Syr Owain, oblegid iddo fyned i Lys Lloegr a chael parch ac urddas. Ar ol dianc oddiyno, a gwneyd llawer byd o ystrywiau anfad, efe a ddechreuodd y Gwylliaid; a bernir i epil ei garenydd Gwilym Goch, Arglwydd Mawddwy, fod yn cadw i fyny'r ysbeiliaeth am oesoedd. Bernir mai cwlion anfad Rhyfeloedd y Rhosynau oedd y ffoaduriaid hyn, wedi taraw ar fangre dawel ac unig i fanteisio ar eu harferion drwg. A y rhai hyn i faes ffermwr a dygent oddiyno fuwch, neu ddafad, ac ni feiddiai neb eu beio, ac yr oedd y parth hwn wedi ei droi yn lloches lladron, ac yn encilfa yspeilwyr o'r fath waethaf. Ond wedi hir gwyno a dioddef, anfonodd y Llywodraeth orchymyn i'r Barwn Siôn Owen, a Wyn ab Meredydd o Wydir, i wneyd cais at lanhau y wlad oddiwrth y giwaid ysgymun hyn, a'u chwalu, bob copa walltog, yn hen ac yn ieuanc, trwy rym deddf, a gorchymyn y brenin.
Gorchymynodd L. Owen i fagad o wyr arfog wneyd eu hymddangosiad ger ffauau'r drwgweithredwyr, a rhuthro ar "Wylliaid Cochion Mawddwy," ar y 25ain o Ragfyr—nos Nadolig; a'r canlyniad fu i 80 ohonynt, ar lanerchau Mawddwy, y Dugoed, a Mallwyd, gael eu cymeryd yn garcharorion, a chael eu cospi yn ol eu haeddiant. Y rhai a ddiangodd a benderfynasant ymddial o'u cuddfanau yn y Dugoed. Yn mhen ychydig amser wedi'r rhuthr hwn, bu raid i'r Barwn fyned i Frawdlys Maldwyn (i'r Amwythig, neu Drallwm, meddid), ac i aflwyddo ei ffordd taflodd y mileiniaid ddarnau o goed ar draws y fynedfa mewn glyn coediog, er manteisio ei ddyfodiad ef a'i osgordd a'u gwyliadwriaeth ddyfal. Pan wnaethant eu hymddangosiad, danfonodd y gwaed-gwn gawod o saethau atynt, un o ba rai a aethai trwy ben L. Owen, fel ag y bu farw'n ddioed. Ffödd pawb am eu bywydau oddigerth câr iddo, John Lloyd o Geiswyn, gan amddiffyn y corff, ac ni cha'dd ef un niwed nac anhap. Dyddiad yr anffawd farwol ydoedd Hyd. 11, 1555. Wedi hyn, cododd y wlad oll yn eu herbyn, a mynwyd eu diwreiddio oll, wreiddyn a changen; lladdwyd llawer o honynt fel creaduriaid direswm, a gweddillion angau o honynt a ddiangasant i Wanas, at gâr iddynt o'r enw Siôn Rhydderch, yr hwn a'u cuddiodd mewn tâs wair, dros yspaid, ond a'u bradychodd wed'yn i law deddf, eithr ereill a adawsant y wlad, ac ni chlywyd air am danynt mwyach. Dywed Gwilym Berw yn "Y Perl" Awst, 1901, fod Mr. O. Owen, Hendre, Abergynolwyn, a brodor o Dalyllyn, Meirion, ac a anwyd yn 1812, yn ddisgynydd o'r Barwn Owen, ac "y gall olrhain linach ei henafiaid rai canoedd o flynyddau yn ol; ac y medr iachau dyn ac anifail, asio esgyrn, trwsio briwiau, a thynu dannedd cystal a nemawr feddyg." Fel y canlyn yr englynodd Meurig Ebrill i'r plas uchod:—
Llwyn eirian, gwiwlan, golau,—Llwyn siriol,
Llawn o sawrus flodau!
Llwyn enwog gerllaw Nannau,
Llwyn y beirdd a'u llawen bau.
Llwyn hen ydyw'n llawn hynodion—llachar,
A lloches cantorion:
Llwyn deiliog dan frigog fron,
Llwyn curawg yn llawn acron
Llwyn prydferth, mawr werth i Meirig—nesu
Bob noswyl arbenig:
Llwyn destlus, trefnus, lle trig
Difalch a rhydd bendefig.
Man anwyl yw'n min Wnion,—y ffriwdeg
Loyw ffrydiawl afon:
Canfyddir mewn cain foddion
Lwyni heirdd hyd lanau hon.
Gerddi rhosynog urddawl. — a llawnion
Berllenydd cynyrchiawl,
Per ffrwythau, llysiau llesawl,
Dillynion gwychion mewn gwawl.
Da adail pur odidog—yw'r annedd
Gywreinwych a chaerog
Mae coed fyrdd, mewn glaswyrdd glög.
O'i gwmpas yn dra gwempog
LLYS BRADWEN.
I henafiaethydd byddai gweled gweddillion hen balas Ednowain. Bendew, ger Dolgellau yn wledd a difyrwaith. Mab i Bradwen oedd Ednywain, a phenaeth un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, ac yn ei flodeu yn y 12fed ganrif, neu yn nheyrnasiad Llewelyn ab Iorwerth, o gylch 1194, a meddai lawer iawn o feddianau yn sir Feirionydd. Ceir gweddillion yr hen Lys hwn ger glan ogleddol afon Pant y Llan, a'r lle a elwid "Maes Pant y Llan," ond yn amser Bradwen gelwid y fangre Maes Crygenan, oddiwrth (a) pherthynai gynt (b) dyddyndy o'r enw hwn. Yr oedd y Llys yn un eang ac yn arddangos adeilad dwbl, yr adran fwyaf, yn y pen lletaf yn 100 tr., a'r pen arall yn 91 tr. Yr adran arall a fesura ffordd arall oddeutu 96 tr., ac ar yr ochr gyferbyniol oddeutu 92 tr. Saif y ddosran arall mewn un pen iddi 38 tr., neu efallai ychydig lai. Ceir ei hyd oll yn 44 tr., ac oddifewn y mesurir fel uchod. Pan ymwelodd T. Pennant (Tours in Wales) â'r lle safai, meddai, ddwy garreg ar bob tu i'r fynedfa, ond erbyn heddywi (1904) y maent wedi eu dymchwel o'u safle henafol,—syrthiodd y naill yn 1863, a'r llall yn 1876. Dywed traddodiad a hanes y byddai'r hen L. Morris yn cymeryd yr ail faen i orphwyso ei fraich pan fyddai, yn 1808, yn pregethu'r Efengyl i'r lluaws yn y lle. Rhoddir ar ddeall mai yn y darn helaethaf o'r palas y bywiai'r penaeth, ac mai llys barn ydoedd y gyfran arall o hono. Gelwir Bradwen yn Arglwydd Dolgellau, ond a ydyw yn rhywbeth oddi— eithr dynodiant y Llys hwn? Ychydig, os nad dim, a geir am Bradwen mewn hanes,—ei enw sydd fwyaf adnabyddus, ac ymwthia felly ger bron fel person ffugiol, eto gelwir y Llys ar ei enw, a cheir rhifres helaeth o bersonau yn perthyn i'w achau, mal y gwelir ar y terfyn. Ceid Bradwen yn wr o urddas mawr, yn ol yr achau, serch fod henafiaethwyr yn gwahaniaethu ychydig parthed y llinellau. Y mae'r Parch. Ed. Jones, Llandegai, yn ei alw'n Arglwydd Llys Bradwen, ac yn Arglwydd Meirionydd, tra y ceisia Robert Fychan, o Hengwrt, ei wneyd yn ddim ond Arglwydd Llys Bradwen yn unig, tra y ceid y tywysogion a'u disgynyddion, meddai, yn arglwyddi Meirionydd yn olynol a rheolaidd, serch y perchenogai yr oll o Dal y Bont, a rhai tiroedd yn Nghantref Ystumaner. Achau Llys Dolgellau: Ednowain ab Bradwen, ab Idnerth, ab Dafydd Esgid Aur, ab Owain Aurdorchog, ab Llewelyn Aurdorchog ab Coel, ab Gweryd, ab Cynddelw Gam, ab Elgyd, ab Gwerysnadd, ab Dwywe Lythyr Aur, ab Tegog, ab Dyfnarth, ab Madog Madogion, ab Sandde Bryd Angel, ab Llywarth Hen, ac Ednowain oedd dan Gruffydd ab Cynan, tywysog Aberffraw, yn Môn,
Yn ol y Cam. Regis., dyma arf-bais Ednowain:—"Gules three snakes enowed in a triangular knot argent." "Tair neidr arianaidd. mewn cwlwm trionglog yn y maes rhuddgoch." Yn ol Gwilym. Lleyn ar Achau Arglwydd Mostyn, deillia y pendefig hwn o Ednowain ab Bradwen (Golud yr Oes, tud. 459).
LLETY'R LLADRON.
Ar ochr ddeheuol Bwlch Oerddrws caiff y teithydd fangre fechan o ymgudd, lle'r arferai haid o ddrwgweithredwyr ymguddio, er manteisio ar ddiniweidrwydd ac eiddo'r sawl a elai heibio, mewn cyfnodau pell yn ol. Cyfeiriai eu ffau at dri phwynt: Dolgellau, Rhydymain a Dinas Mawddwy, a gwae'r bobl hynny at ddelid ganddynt. Yr oeddynt o wehelyth "Gwylliaid Cochion Mawddwy."
CAERYNWCH.
Yn ddiau, cara'r ymwelydd gael cipolwg ar y palasdy prydferth uchod, a saif ar esgynlawr deg, ac yn cael ei gysgodi gan wigfa urddasol, uwchlaw rheilorsaf fechan Bont-newydd. Yn hen ddeddfau'r Cymry sonir am Maeldaf ap Ynhwch Unarchen ap Ysbwys ap Ysbwch, ac mai tramoriaid oeddynt, a'u dyfod yma gydag Uthr ac Emrys, gan ymsefydlu ohonynt yn Moel Esgidion (Esgityawn), gan awgrymu "Moel Caerynwch." Dywed traddodiad y byddai marchnadoedd Dolgellau yn cael eu cynal ger y Foel hon yma ceir y "Farchnad Fawr," a'r Farchnad Fach."
Caerynwch ydoedd breswylfod y Barwn Richards, y cyfreithiwr enwog a anwyd yn nghym'dogaeth y Brithdir, Tachwedd, 1752. Addysgwyd ef yn Rhuthyn; aeth i Rhydychen, a dringodd risiau Ilwydd hyd ei etholiad i Gymrodoriaeth Michael yn Ngholeg y Frenhines. Cyn hir sangodd ddadleufa Cymdeithas Anrhydeddus y Deml Fewnol. Bu'n brif ynad Caerlleon yn 1813, ac yn y flwyddyn ganlynol yn un o Farwniaid yr Argedlys, a bu i farwolaeth Syr Alexander Thompson yn 1814, fod yn achlysur i'w dderchafu'n Arglwydd Brif Farwn y llys dywededig. Ei wraig ydoedd Catherine, merch ac etifeddes R. Vaughan Humphreys. Caer Ynwch, a breintiwyd hwy å deg o blant. Bu farw'n Llundain Tachwedd 11eg, 1823, yn 71 mlwydd oed, a chladdwyd ef yn Eglwys y Deml. Fel cyfreithydd a barnwr ceid ei benderfyniadau yn ddiysgog, ac fel cyfaill safai'n uchel yn ngolwg yr holl wlad. Y Barwn Richards oedd prif destyn Cymreigyddion Caernarfon Mawrth 1af, 1824, pan yr enillodd y diweddar henafiaethydd a bardd, Mr. Owain Williams o'r Waunfawr y wobr am yr Awdl Farwnad oreu iddo, ar ei gydymgeiswyr Gwilym Cawrdaf of Ddolgellau; Robert Owen, Caernarfon, a W. Williams, Dinbych.
"Y PARC."
Ceir yr annedd-dy diaddurn hwn mewn llanerch anghysbell a rhamantus, uwchlaw'r afon Arran, lle tyf llawer o goed; ac os bydd i'r teithydd gymeryd dyddordeb yn y llofruddiaeth a fu yma, tros 20 mlynedd yn ol, fe fwria ymaith yr helbul a gaiff wrth ddringo'r llwybr budr a charegog a'i harweinia hyd ato. Oni bai am yr amgylchiad hwn ni ddodasid engy'r Parc" ar lechres. hanesiaeth i geisio hudo'r ymwelydd tuag ato, ar a ddaw i Ddol- gellau a'r cylch.
Cadwaladr Jones oedd ŵr ieuanc tua 25 mlwydd oed, ac ymddengys oddiwrth amryw dystiolaethau a ddygwyd o'i blaid ar y prawf, gan feistriaid a chydweithwyr iddo, ei fod yn gymeriad eithaf dymunol ar y cyfan-yn ŵr ieuanc o dymher hynaws, ac o duedd ewyllysgar i wneyd cymwynas pan ofynid hynny oddiar ei law. Tua blwyddyn cyn y llofruddiaeth ymbriododd C. Jones, a chymerodd fferm fechan a elwir y "Parc," yr hon a saif mewn mangre wyllt a mynyddig uwch Dolgellau, a'r hwn lecyn sydd wedi ei ddu-nodi am oesau a chenedlaethau i ddyfod. Yn gwasanaethu gyda thad y carcharor yn Coedmwsoglog," yr oedd dynes o'r enw Sarah Hughes, tua 37 mlwydd oed, yr hon, yn ol addefiad ei chwaer, Margaret Hughes, ar y prawf, oedd yn fam i ddau o blant anghyfreithlon, y rhai ni thadogodd ar neb. Dydd. Sadwrn, yr 2il o Fehefin, 1877, ymadawodd S. Hughes o'r Coedmwsoglog, a daeth i dŷ ei chwaer grybwylledig, M. Hughes, lle yr arhosodd hyd ddydd Llun, ar yr hwn ddydd yr aeth ar ryw negeseuon i'r dref: a dyna y dydd diweddaf y gwelwyd hi yn fyw a thestyn y siarad drwy yr holl gymydogaeth, y dyddiau dilynol, oedd S. Hughes ar goll. Ac er dyfal a manwl chwilio y glynoedd, yr afonydd, a'r coedwigoedd, tywyllwch a orchuddiai yr amgylchiad. Ond fel y dywed yr hen air, Llofruddiaeth a fyn ddyfod i'r amlwg." Yn mhen tua chwech wythnos, sef ar yr 16eg o Orphenaf, canfyddwyd rhanau o gorph dynol yn nofio mewn gwahanol fanau o'r afon Arran, y rhai a adnabyddwyd fel gweddillion corph y ddynes golledig, Sarah Hughes; ac nis anghofir y rhawg y cyffro a'r arswyd a syrthiasai ar drigolion hen gwmwd tawel Dolgellau wrth weled y naill ran ar ol y llall o gorph y lofruddiedig yn cael eu hestyn o'r afon, Ilifeiriant yr hon a ymddangosai fel yn anfoddog i guddio y llofruddiaeth yn nyfnder y môr, Bellach, dyma sicrwydd fod llofruddiaeth wedi ei gyflawni, ond pwy oedd y llofrudd ? Oherwydd rhesymau neillduol, wele weision cyfiawnder, yn foreu ar y 18fed o Orphenaf, yn neshau at Y Parc," cartrefle fyrbarhaol C. Jones.. Haws yw i'r darllenydd ddychymygu nag ni ddysgrifio y teimladau a raid fod yn meddianu y gwr ieuanc pan edrychodd drwy y ffenestr, a gweled y swyddogion yn sefyll yn wyliadwrus o flaen ei anneddle. Mae yn ddiameu iddo glywed llais croch cyfiawnder yn taranu drwy ei gydwybod euog, "Ti yw y dyn!" oblegid cawn ef yn ebrwydd yn cyffesu, gan ddywedyd wrth y swyddwyr, "Waeth i chwi heb drafferthu yn mhellach: yr ydw i yn dymuno dyweud mai fi ddaru"! A chan arwain y swyddogion i ardd fechan gerllaw ei dy, dangosodd iddynt y llecyn y bu gweddillion y druanes lofruddiedig yn gladdedig am tua chwech wythnos; ac yn y fan wele fedd yn agoryd ei safn ac yn cyd-dystiolaethu â chyffesiad y carcharor.
A dyna olygfa gwerth i ieuengctyd i fyfyrio am dani yw meddwl am y gwr ieuanc, C. Jones, yn cefnu am byth ar ei gartref, priod ieuanc ei fynwes, a'i blentyn bach diniwed; yn cael ei gymeryd i'r carchar, a'r Llyfr ddiystyrasai, sef Gair Duw, yn ei logell. Da genym ddeall mai ei brif waith yn ystod y pedwar mis y bu yn aros ei brawf ydoedd darllen y Beibl, a gwrandaw ar weinyddiadau ei gynghorwyr crefyddol.
Yn ystod ei brawf yn Mrawdlys Caerlleon, ymddygodd C. Jones yn yr un dull tawel a hunan-feddianol ag a'i hynododd o'r dechreu. Cafodd brawf teg ac anrhydeddus; rheithwyr diduedd a deallus; amddiffynydd galluog. Barnwr doeth a chymedrol; yn nghyda chyfieithydd medrus yn mherson y diweddar Mr. Pugh, cyfreithiwr, Treffynon, ond brodor o Ddolgellau, yr hwn a wnai yr holl weithrediadau yn ddealladwy i'r carcharor. Eithr, er pob ymdrech galluadwy o eiddo y dadleuydd dysgedig dros yr amddiffyniad, a chrynhoad cymedrol y Barnwr, nis gallodd y rheithwyr gonest yn amgen na dychwelyd rheithfarn o Euog yn erbyn y carcharor anffodus. Yr oedd cadwen y tystiolaethau, yn nglŷn â'i hunan-gondemniad, mor orthrechol fel nad oedd modd osgoi y canlyniad. A chyda theimladau dwysion y cyfryw a ddadguddiai y dyn gystal a'r barnwr cyhoeddwyd dedfryd marwolaeth ar y truan C. Jones.
Prin y gallaf feddwl i ddyn o deimladau tyner, ac o arweddi Gristionogol fel C. Jones, fwriadu y llofruddiaeth hwn; ond iddo, trwy gael ei ddigio a'i gythruddo, ar funyd gyffrous daraw Sarah Hughes â chareg yn ei phen, a'i lladd. Pe buasai C. Jones wedi rhoi ei hun i fyny a chyfaddef ei drosedd, credaf y daethai trwyddi yn lled ysgafn. Gwnaed deisebau ar ei ran gan dri lle-Dolgellau, un tros wyth mil o enwau; a Chaerlleon ac Aberystwyth, yn cynwys eu heddynadon a'u maerod.
Y VIA OCCIDENTALIS RUFEINIG.
Wrth syllu'n fanwl cenfydd yr ymwelydd ddarnau o'r uchod yn rhedeg trwy y dref, o'i gorsaf yn Menapiǣ (Ty Ddewi) i Seguntium (Caerynarfon): rhed ger Trawsfynydd, ac mewn lle a elwid "Pen- y-stryd," gwelir dernyn ohoni'n lled blaen. Rhedai y ffordd uchod ar hyd yr holl sir, o gyfeiriad y De, o orsaf Loventium, yn sir Aberteifi, gan redeg i'r Gogledd, heibio gwersyll mawr Pennal, a gorsaf Hereri Mons, hyd Segontium, a chyn cyrhaedd yno ceir darnau eraill ohoni. Ond ymdngys imi fod dwy sarn Rhufeinig yn rhedeg trwy gantref Meirionnydd, ac un ohonynt wedi ei gwneu mor foreu a'r ganrif gyntaf o'r cyfnod Cristionogol, h.y. wedi dyfodiad Agricola yma yn 78 O.C
Rhęd y Via Occidentalis ar lan Fawddach, trwy blwyfi Llanfachreth a Thrawsfynydd, hyd i afael a Dyfi ym Mhennal, ac y mae'n hawdd i lygaid yr hynafieithwr ei dilyn yn y lleoedd hyn. Rhęd y sarnau gyda'u gilydd am rai milltiroedd o Gastell Tomen y Mûr (Heriri Mons), yn nghyfeiriad Pen-y-stryd, ac un arall ymganghena trwy Gwm Prysor, tros y mynydd i Gaer Gai,[3] hyd Lanuwchllyn, ac yma ymwahana â'r lleill.
Ond y ddwy gyntaf. Yn Pen-y-stryd yr ymwahana y rhai hyn, neu efallai ger Dolgain; yna cyfeiria trwy goed Cefndeuddwr, hyd Rhyd Meirion, ac a heibio'n orllewinol i Gadair Idris. Yna a trwy Drawsfynydd hyd Lan Fachraith, tros fynydd Bwlchrhoswen, tua Nannau tros yr Wnion, tros Lwybr Cam Redynen am fynydd Gwastadfryn. Wedi hyn ceir hi ar Ffridd Nancaw Fawr, ger Nancaw Bach; yna croesa Gwm Llanfihangel, Cwm yr Aber, a thrwy Daran yr Hendre a'r Daran Fach, i ochr tir Pennal. Yna cyfeiria am afon Dyfi hyd Gefn Cader, lle yr oedd gorsaf Rufeinig
Yr ail Sarn o Domen y Mûr a ręd trwy Gae Mawr, trwy Drawsfynydd, trwy fangre y saif gorsaf y G. W. yn y Bala, trwy Gae Deintur, trwy Rhos Ucha, y Tyddyn Bach, Gilfach Wen, Pen-y-stryd; o'r lle olaf am Gwm Dolgain, ger Bedd Porus a Maen-hir (Llech Idris), gan groesi y Cain i dir Dol y Mynach. Yna cerdd heibio Pistyll Cain hyd Fryn y Gâd, trwy dir Pant-glas a Brynllin, gan groesi y Fawddach i Lan Fachraith, hyd fynydd Rhiwfelen. Wedyn gwelir darnau ar fynydd Dolcynafon, Cefn yr Eryr, ac yn Rhyd-y-main. Yr ochr arall i Rhyd Wnion, enwir hi'n Ffordd Elen, ac ä trwy Gotres Lwyd, Pantpanel, hyd Ty'n-y-coed heibio Ty Newydd Ucha, trwy Bwlch Oerddrws.
Croesa un arall Gwm Prysor, ac aiff dan yr enw Ffordd Elen, trwy Goed Cae Du trwy Gae Eithin, Pant-seler, Dola-dinas, Nant Bwlch, Nant Moel Croeso, tros fynydd-dir Bryn Du, trwy ffridd Naid Filltir heibio i Lyn Aethlun a Bryn Clynog. Cyn yma ond yn y man cyfeiria at afon Prysor, a Chastell Bryn Clynog. Gwelir darn ohoni wrth Foel Dôl Haidd, Moel yr Wden a chroesa Foelydd y Tŵr a'r Geifr, gan redeg i blwyfi Trawsfynydd a llanuwchllyn Rheda drachefn heibio Gwter Ddu, uwchlaw Cors Moel Llechi, trwy sarn y Frenhines, Cefn Amnodd trwy Ffridd Castell, Hendre Blaenlliw, Ffridd Bach, LIiw a Buarth y Meini tros Fanciau Beddau y Cawri, Castell y Waen, hyd Gae'r Gai - hen orsaf y Rhufeinwyr,-hyd ben Llyn Tegid (Ab Baran), trwy Dyddyn y Gyrn &c., &c.
Yn fwy o gywreinrwydd y dodais y llinellau henafol uchod i fewn, nag o feddwl y cymer unrhyw ymwelydd y drafferth i ganlyn un droedfedd o'r ffordd, oddieithr na byddo yn henafěaethydd brwd o galon a phen.
FFYNON FAIR.
Perthynai i bob plwyf a llan eu ffynnonau cysegredig gynt: pa le bynag y byddai sant yn cyhoeddi ei fendith a'i râd byddai ffynon yn bwrw ei dyfroedd bendithiol i iachau anhwylderau amrywiol yr ardal ; ac i wneud pethau yn well enwid yr unrhyw ar enw y sant a fyddai yn gosod i lawr sylfeini yr Eglwys, a byddai hyn yn sicr o asio Cręd y lluaws ofergoelus ynddi yn well fyth. Ac ond i'r teithydd sylwi, gelwid hon ar enw y Wyryf Santaidd, mam ein Gwaredwr a dyna enw hefyd hen Eglwys y plwyf, St. Mair, ac nid oes odid Lan yn Nghymru na cheir ffynon sanctaidd gan y saint hynny a fu'n gosod i lawr gręd a bedydd, fel ag y tueddir fě i gredu weithiau fod cymaint o rwymau ar ddyn i gerdded at ffynon am fendith corph ag a fyddai cychwyn am y Llan am amgeledd ysbrydol! Er yr ofergoel ynglŷn hon, bu ei dwfr pur yn feddyginiaeth at wahanol afiiechydon a thrachefn ni fu namyn "Ystęn Duw i estyn dŵr" Rai blynyddau'n ol cafwyd amryw fathodau ynddi, a rhai yn dwyn delw ac argraff o Trajan ac Hadrian, Ymerhawdwyr Rhufain Ar y naill ceid y geiriau hyn:—
IMP. TRAIANO AVG. GER DAC. P.M.TR.P COS.
V.P.P.S.P.O.R. OPTIMO PRINC.
Acar y llall y llythyrenau canlynol:—
IMP. CAESAR TRAIAN. HADRIANVS AVG.P.M. TR.
P. COS' 111.
Gwnaed maenwaith i ddiogelu y ffynon, ac i hwyluso y ffordd i ymwelwyr â hon, yn y blynyddau 1838—50, trwy arian y cyhoedd, ond er hynny y mae Ffynon Fair wedi syrthio i annhrefn, ac yn ddiwerth yn nghyfrif y trigolion ac ereill.
FFYNON Y GRO.
Rhęd y ffynon hon yn ffrwd loew ar wastadedd tir y Llwyn, gan daflu ei dwfr yn gawodau i'r Wnion, ger y Bont Fawr, ar y tu gogleddol iddi. Bu i'r ffordd haiarn newid gwely y darddell hon, fel nad ymddengys fel yn y dyddiau o'r blaen Bu Dafydd Ionawr awdwr hyglod cywyddau y Drindod, yn nyfroedd rhedegog ffynon, ar gyfer y Llwyn, ac oddiwrth ei englynion canmawl yn Ngwaith y bardd a gyhoeddwyd gan Mr. R. O. Rees, ymddengys i'r awenydd gael meddyginiaeth oddiwrth rhyw afiechyd anhysbys i ni, ac mai ger gwyneb yr hen blasdy a nodwyd y chwarddai ei dyfroedd tan wenau haul. Dyfynaf ei englynion :
O flin haint ac o aflan hwyl—farwol
Adferodd fi eilchwyl:
Cefais iechyd, hyfryd hwyl
Yn y ffynon hoff anwyl.
Yn min dwyffordd mewn dyffryn — gwyrdd y tardd
Gerddi teg gyferbyn;
I fardd ac i oferddyn
Yn gan' gwell nag yw gwin gwyn.
Brenhinbren derwen sydd dyst — haul eurwawr
Sydd laraidd oleudyst
D'wedant (a digon deudyst)
Ewch i hon a dim ni chyst
FFYNON Y FFRIDD ARW
Mae y darddell lygadlon hon i'w chael ar graig, ar fin y ffordd, yn nghyfeiriad Pont yr Aran, tua milltir o'r Bont Fawr. Ac os gwnai dwfr Ffynon Fair iachau y gewynwst, byddai i hon gryfhau yr holl gyfansoddiad dynol. Sonid am "Ffynon Rydd" a "Ffynon Lygaid," mangre y naill yn mynyddau "Cymru Fu" ydoedd mewn clawdd yn muarth Brynmair a'r llall ger plasdy o'r enw The Rock Cottage.
LLETY'R MWRDRWR
Ceir yr annedd adfeiledig hon ar lethr y mynydd, uwchlaw ffordd yr hen stage coach o Ddolgellau i'r BaIa, ac ar gyfer Y Llwyn a gorsaf y rheilffordd. Ca'dd yr enw uchod, medd traddodiad, am i'r "Hwntw Mawr" ddianc o gell ei garchar, lle saif Gwesty'r "Einion" hyd yma a chysgu noswaith ynddo cyn ei ddienyddiad. Dywed yr hen Bobl fod gweddillion o'r trawst crogi yn aros eto yn neu odeuty adfeilion yr hen garchar
Y FARCHNADLE
Fel mynychwyr lluosog trefi eraill Cymru cyrchai lluaws gwlad a gwerthai y maelwyr eu nwyddau amrywiol—ymenyn, cigau, dofednod, &c.—ar yr heol a lleoedd anghyfleus ereill, yn nghanol gwynt a gwlaw, cyn y fl. 1870, pryd yr agorwyd y marchnad—dy â chiniaw cyhoeddus yn ei phrif lofft — 76 tr. wrth 39 tr. Dyddiau ei marchnad ydynt Mawrth a Sadwrn
DOLSERAU
sydd balas harddwych, ac yn meddiant Charles Edwards, Ysw., er y fl. 1858. Disgyna, fel ei hynafiaid-Oweniaid Dolserau, a Lewis Owen, y barwn o'r Llwyn, o Ednywain Bendew ab Bradwen. Pendog, un o Bymtheg Llwyth Gwynedd; ac o'r ochr arall of Ednowain ab Bendew, un o Bymtheg Llwyth Gwynedd, ac o Madog Meredydd, Tywysog Powys Fadog, yr hwn oedd yn ŵyr i Bleddyn ab Cynfyn. Nis gellid dilyn y teuluoedd hyn trwy eu. llin hir o achau amrywiol, mewn traethawd o derfynau prin fel hwn, eithr ymfoddloned yr ymchwilydd a'r ymwelydd â'r hyn a fynegwyd, gan gyfeirio llygad a meddwl at waith helaethach, "Cantref Meirionydd," gan y diweddar R. Prys Morris.
BRONWNION.
Preswylfod eang a harddwych Cyrnol Wicklam a saif ar lethr dymunol, ar ffordd Rhyd-wèn, ac fe ddichon i'r englynion clodforus canlynol o eiddo Meirig Ebrill greu awydd yn rhywun am wel'd yr adail gadarngref a wena mewn hoen a balchder uwch dyfroedd tryloewon yr Wnion henafol:-
Bronwnion bery'n enwog-am oesau
Uwch meusydd blodeuog;
Mor wiwddest a mawreddog
Mae'n edrych dan glaerwych glôg.
O'i gwmpas mae teg wempog-gadeiriaw!
Goed irion gwyrdd-ddeiliog;
Lle hawddgar i'r gerddgar gôg,
A'r eos fwyngu rywiog.
Band hyfryd ar hyd yr haf-eu gwelir
A golwg prydferthaf:
Parhant yn eu tyfiant daf,
Nis gwywant hirnos gauaf.
Llonwych rodfeydd dillynion-sy' yno,
Rhwng rhosynau gloywon:
Oll yn ferth, mor brydferth bron
A sawrus flodau Saron.
Ei syw fâd addurniadau—a'i harddwch
A urddant Ddolgellau:
Gwir ethol ragoriaethau
Ddyry'n blagur pur i'n pau.
Sylwer mai Williams haelwedd—ŵr anwyl,
Yw'r uniawn etifedd;
Caffed fyd hyfryd a hedd
I'w einioes yn ei annedd.
A'i seirian deulu siriawl—hynawsaidd,
Fo'n oesi'n grefyddawl,
Ac esgyn wed'yn i wawl
Cain wiwfyg Gwynfa nefawl.
BRYN Y GWIN
sydd annedd urddasol a saif ar lecyn tra dymunol gerllaw i'r dref. Bu y plas hwn yn gartref i amryw deuluoedd o nôd uchel, ac yn neillduol i'r diweddar H. Reveley, Ysw., un o brif ynadon swydd Feirion, yr hwn a fu farw Tach. 9, 1851, yn 79 mlwydd oed. Trwy y boneddig hwn y daeth Reveley yn gyfenw yn nheulu Bryn y Gwin, yr hwn a briododd â Jane, ferch R. H. Owen, Yswain, o Fryn y Gwin. Ganwyd i'r ddeuddyn hyn H. J. Reveley, Ysw., ac Is-gadben Dirprwyol swydd Feirionydd, ac Uchel-Sirydd yn 1859. Priododd ei gyfnither Siân, ferch Agernon Reveley, Ysw., a wasanaethai yn Bengal. Disgynai o du ei fam o Lewis Owain, y barwn a lofruddiwyd gan Wylliaid Cochion Mawddwy, ac o du ei dad o'r Perciaid, gynt duciaid Northumberland, y Selbys, yr Ordes, y Burells, a'r Miltfords, o Gastell Mittford, ac o'r Greys, o Gastell Chillingham. Dywed achau y Reveleys, y gallant trwy y Mowbrays, duciaid Norfolk, a'r Plantagenets, olrhain eu disgyniad o'r teyrn Iorwerth I., treisiwr y Cymry a'u gwlad! a thrwy Marged ei wraig, ferch Phylip, y "calon-galed," Brenin Ffrainc. Mae ein gofod yn rhy brin i ddilyn achau y gŵr enwog hwn trwy Owain Glyndwr, Madog Foel, y Pulestoniaid, hyd Annie Clara, a briododd H. Llwyd Williams, Ysw., meddyg a heddynad yn Nolgellau. Fel y canlyn y canodd Meurig Ebrill ar ddydd. priodas H. J. Reveley, Ysw.:—
Wele iawn achos i lawenychu,
Heddyw priodwyd, gwaith hawdd yw prydu,
Hugh Reveley, Yswain, a'i fungain fwyngu,
Ein beirdd hyfedrus wnan' beraidd fydru
Eu priodasgerdd, felusgerdd lwysgu,
A mila unant i ymlawenu,
Gan weddaidd deg weinyddu yn barchus,
Ar duedd ddawnus, er eu dyddanu.
Ac ar farwolaeth H. Reveley, Ysw., yr englynodd fel hyn:—
Ymdaenodd, lledodd trallodion—trosof,
Tra isel yw 'nghalon;
Clwyfwyd, merwinwyd fy mron,
Gan aethus gyni weithion.
Ingawl genadon angau—ergydiant
Eu rhwygiadol saethau;
Gwŷr mawrion, pigion ein pau,
Orfyddant i oer feddau.
Daeth chwerwder, blyngder, cur blin,—oer athrist,
Fel aruthrol ddrycin:
Sef noswyl, arwyl erwin,
Frwynawg, erch, i Fryn y Gwin.
Arddelid ei wir ddilys
Eiriau llad gan wŷr y llys;
Gnawd i bob gradd oedd addef
Eglurdeb ei burdeb ef;
Yn ben astud bu'u eistedd,
Enyd hir, fel Ynad Hedd,
A blaenawr llwyddfawr a llon,
Da'i nôd, i'w gydynadon;
Cawr o ddyn cywir oedd ef,
Teg wiwfryd, sad, digyfref;
Diornaidd bor cadarnwych,
Caed erioed, yn cadw'i rych.
Gwae ni bawb gau yn y bedd
Ganwyll ynadon Gwynedd
Y FONWENT NEWYDD A'I BEDDARGRAFFAU.
I hoffydd llên y fonwent, ac i un a gâr rodio'n fyfyriol yn mhlith y beddau gan ystyried breuolder bywyd ac ansicrwydd dyddiau dyn i fyw, dichon y bydd y beddargreiff canlynol yn at-dyniad digonol i rywun i dd'od i "erw Duw" am fyfyr a thawelwch. Agorwyd y corphlan hwn yn y flwyddyn 1815, ac er hynny mae rhif y lladdedigion yn llu mawr o dan draed teyrn marwolaeth.
(Tu Dwyreiniol.)
BEDD DAFYDD IONAWR.
Bu farw Mai XII.,
MDCCCXXVII.
Ei Oedran,
LXXVII.
(Tu Gogleddol.)
M. S.
Bardi Christiani
Ob. A.D. MDCCCXXVII.
Aetat Suae LXXXVII.
Ddarllenydd, pan sylwi ar fedd Dafydd Ionawr gelli fod yn sicr i ti edrych ar fangre a geidw weddillion un o feib hynotaf yr Awen Gymreig hen lanc a fu "tros ei ben a'i glustiau" mewn cariad à rhian dêg unwaith, ond a siomwyd ynddi, ac un a ddibrisiai gyfoeth a helyntion masnach i ymhwedd â'r Awen (hon fu ei dduwies bellach), a dyddorol iawn ydoedd ei weled ar lanau'r Wnion yn dra mynych yn cyflawni ei gampau,-lluchio ei ffon a neidio fel gwallgofddyn, pan ddygai greadigaethau newyddion, mewn llên a barddas ar fyrddau'r byd. Cofir ei "hearty laugh," a phan ddisgynodd y "tân sanctaidd" ar ei ben, un tro, anghofiodd ei hun ar lwybr peryglus, a lawr ag ef i ddyfroedd yr afon, yr hyn a'i cadwodd ar dir gwell a phellach o'r Wnion yn y dyfodol. Dewi Wyn a'i galwai'n "hen ddyn trwynsur," am na chawsai dderbyniad i mewn i'w dŷ a chroesaw ganddo, pan alwodd âg ef yn Nolgellau; ac nid oedd J. Jones, Glanygors, werth botwm corn gan D. Ionawr oherwydd ysgafnder ei awen. Cyhoeddwyd prif waith ei oes—Cywydd y Drindod, yn 1793, a chrwydrodd trwy chwe' sir y Gogledd mewn "sporting jacket" lâs, laes, gyda llogell anferth i gadw ysgrif o'r gwaith mewn copperplate, fel yr ysgrifenai ef, a het a chantel lydan, a ffon anferth yn ei law—un na fuasai undyn yn ddiolchgar o gael ei fesur â hi. Ond er ei holl lafur ni chafodd ond 52 o enwau am 53 o gopïau—dim ond 13 allan o sir Feirionydd! tra y gwerthasai Twm o'r Nant 2000 o "Gardd o Gerddi," ychydig amser cyn hynny. Ei aflerwch mewn llawer dull a modd a barodd ei golled hon. Cyfarfyddodd â dau dro trwstan yn Llanelwy: camgymerodd Esgob Bagot am un o'i wasanaethddynion, a sathrodd droed y prelad yn y drws, yr hyn a surodd y clerigwr fel na roddodd ei enw yn danysgrifydd at ei lyfr. Nid ystyriai fod yr un o offeiriaid ei oes yn werth eu gwrando, a hynny, mae'n ddiameu, ar gyfrif eu cam—fuchedd, canys Eglwyswr ydoedd ef; ond gwrandawai gyda blas ar John Elias, Christmas Evans, a Charles o'r Bala.
Gwledd frâs i galon ac ysbryd Dafydd Ionawr ydoedd yr englyn canlynol:—
Caed blodau gorau ac aeron—gynau
Yn ein Gwynedd ffrwythlon:
Ganwyd Ionawr mawr Meirion
Yr un mis a Gronwy Mon.
"Ar gof—golofn Dafydd Ionawr," medd Cell Meudwy (Elis Owen, F.S.A., Cefn-y-meusydd), "y ca'r darllenydd yr englyn canlynol:—
Dafydd Ionawr, mawr fydd Meirion—yn hir
lawn, herwydd ei meibion ;
Y Bardd oedd fardd i feirddion,
I goffhau ei fedd gaiff hon.#
Hefyd, toddeidiodd Hwfa Môn ac ereill yn rhagorol am dano. Cyhoeddwyd holl weithiau'r bardd yn gyfrol dlôs, yn 1851, dan olygiaeth y diweddar Nicander, ac a argraffwyd gan Mr. E. Jones, Dolgellau, yn gyflwynedig i'r Parch. J. Jones, M.A., Borthwnog. Eto,―
In Loving Memory
of
THOMAS HARTLEY,
Youngest Son of Robert N. Williams, and Elizabeth his Wife,
Who Died January 25th, 1893,
Aged 10 Years.
Also the above
ROBERT NANNEY WILLIAMS,
Who Died April 2nd, 1896,
Aged 54 Years.
Yr olaf uchod (a drigianai yn Y Llwyn) ydoedd ysgolhaig gwych, a boneddwr calon-garedig a llogell-agored at bob achos teilwng.
Eto,
'I will lay me down in peace and my rest."
Sacred
To the Memory of
THOMAS PAYNE,
Born January 16, 1797, Died April, 1854,
The only son of Thomas Payne, once of Furness Compton, andof Eliza (Healch), his wife.
At sixteen he was Ensign in the Carnarvonshire Militia, under
Colonel T. Asheton Smith, whence he volunteered for service
in the Peninsula. He was present at Salamanca, Vittoria,
The passage of the Biddoossoa (when he had two horses killed
under him), and at St. Jean De Livez. In this parish he lived
many years as a Surveyor, Civil Engineer, and Land Agent.
The Torrent Walks were designed by him, &c., &c.
Eto,-
Sacred to the Memory
Of the Rev. RICHARD HUGHES, B.A.,
One of His Majesty's Justices of the Peace for this County,
Rural Dean of Estmaner,
And Rector of this Parish 30 years.
(Yna ei rinweddau amrywiol mewn bywyd. Mynegir yr arferai Mr. Hughes lanw swydd cwnstabl, pan y byddai eisiau hynny gyda meddwon a dynion anhydrin ereill yn y dref.)
BRYNHYFRYD, NEU "PLAS Y PERSON."
Yma'r erys Dr. Walker, a dyma hen annedd holl glerigwyr Dolgellau, cyn adeiladu'r persondy presenol yn 1873, ac yma carai aros holl Farnwyr Brawdlysoedd Meirionydd ar a ddelai i Ddolgellau.
EGLWYS LLANFAIR BRYN MEURIG.[4]
Dyma Eglwys Dolgellau, yn ogystal ag Eglwys Sant Mair. Saif ar Fryn Meirig, enw a ddeillia oddiwrth Meurig ap Ynyr Fychan ap Cadwgan, un o henafiaid teulu anrhydeddus Nannau. Camden a ddyddia'r eglwys hon cydrhwng y blynyddau 1551 a 1623; ei bod yn lled daclus yn allanol, ond oddifewn yn debyg i ysgubor, polion yn ddwy rês yn dal i fyny'r tô, a brwyn (pabwyr) yn daenedig tros ei lloriau. Tynir sylw'r ymwelwr at faen yn dwyn y darlleniad hwn:—
"Yr Eglwys hon a adeiladwyd 1716, ac a adgyweiriwyd 1864.
Gwylia ar dy droed pan fyddech yn myned i dŷ Dduw, a bydd barotach i wrando nag i roi aberth ffyliaid.' Preg. v. 1."
Ac ar lechfeini yn ymyl ceir yr englynion canlynol yn gerfiedig:—
Anneddfawr sanctaidd noddfa,—gôr breiniol,
Ger bron Duw a'r dyrfa:
Er dim na thyred yma,
Y dyn, ond â meddwl da.
Awn i'w Borth a'n aberthau,—gwedd dduwiol,
Gweddiwn ar liniau:
Am drugaredd breisgwedd brau
Yn un nod i'n heneidiau.
Bu eglwys lai yn sefyll gynt ar lawr yr eglwys hon. Bu llawr yr eglwys bresenol yn loriedig drwyddi â beddfeini, canlyniad aflerw ac anheilwng o gladdu meirwon yn yr eglwysi, yn yr 8fed ganrif. Dynodir yr unrhyw heddyw â beddfeini lliwiedig, ac à choed, a'r llawr hwn a ystyrir yn uwchlawr, er y flwyddyn 1856. Cyfrifir mai adeiladydd yr eglwys hon yw yr Archddiacon G. Lewis, yr hwn sy'n gladdedig yn ei changell (chancel)'. Ei roddion iddi ydynt bwrdd yr allor o farmor du, &c. Perthynai llofft iddi gynt ar ei chŵr gorllewinol, ond symudwyd yr uwchrodfa hon yn 1809. Clochdy petryal a fedd, yn cynwys wyth o glychau, o'r flwyddyn a enwyd; eithr yn flaenorol ni cheid namyn un, pa un a chwilfriwiwyd wrth ddathlu clod aer ac etifedd Caerynwch, pan y daeth i'w oed. Y mae'n gorphwys yn ei llawr, ar ei thu gogleddol, weddillion yr Archddiacon White, odditan fynor—faen caboledig lliwiedig, ac yn dwyn ei enw a'i amryfal rinweddau mewn bywyd. Efe a anrhegodd yr eglwys â'r ffenestr orwech nesaf i'w orweddfa. Cyfansoddwyd marwnad ryglyddus am yr Archddiacon gan Robert Lewis, un o destynau Cyfarfod Llenyddol Gwŷr ieuainc Dolgellau.
"CAPEL GWANAS"
a saif ar fferm yr Erw Goed. Adeiladwyd hwn oddeutu'r flwyddyn 1740, gan foneddwr nas gwn ei enw, gogyfer à gwasanaeth Eglwysig, ond ni ddefnyddiwyd ef i'r cyfryw amcan. Am i un Elis Jones drigo ynddo y ca'dd ei enwi fel uchod.
"TWLL Y FLEIDDAST"
sydd yn nghlawdd terfyn Cefn yr Ywen Isa' a'r Uchaf. Ysglyfid defaid ac wyn i rif mawr yn y gymydogaeth hon, gan fleiddiaid, tua 150 mlynedd yn ol, fel y penderfynwyd gan y colledwyr wneyd ymchwil, a gwneyd dinystr cyflawn a llawn ar y giwed lofruddiog hono, a letyai mewn ogof gerllaw. Y canlyniad a fu, lladd yr oll -yn benau-teuluoedd a chenawon. Bu bleiddiaid mor luosog ar fynyddau Meirion fel ag y bu i Edgar, y brenin, dalu teyrnged o 300 o grwyn bleiddiaid ar dywysogion Gwynedd, am dri thro, ac i Iorwerth I. anfon Peter Corbet yn ddinystrydd arnynt.
"LLYN Y FFRIDD FAWR."
Dyma "Lyn yr Hwylfa" gan y werin, a nodedig am ei hesg a'i babwyr y naill i wneyd cefn-dresi (back-bands) a choleri i geffylau, ac o'r llall y gwneid canwyllau. Dygid y pethau hyn i'r farchnad mor ddiweddar a 1844, a'u pris (y gêr gyntaf) ydoedd 18 ceiniog. Meddai llethr y llyn hwn amddiffynfa led ëang, gynt.
"RHOS TY'N LLIDIART"
sydd ddarn o fferm, yn mha un, yn y flwyddyn 1832, y cafwyd delw hynod mewn math o ysgrîn. Tebygai i berson dynol, a dygai argraff annealladwy. Tybir mai eilun-dduw oedd, feallai o'r un cymeriad a'r un a gloddiwyd yn Llanfihangel Din Sylwy, Môn, yn 1831. Bu i grefyddwr penboeth, o'r enw Shion Gruffydd, gipio hon o ddwylaw ei blant, a'i thaflu i'r tân, "rhag (meddai) iddynt ei haddoli"!
"CAE CARREG Y BIG."
sydd ger Pont Dyffrydau a'r Afon Gôch. Safai dau faen hir ar y maes hwn gynt, ond yn y flwyddyn 1822, breuddwydiodd rhywun am grochan aur oddidanynt, fel ag y bu i Vandaliaid ddiorseddu'r talaf o'r ddau er d'od o hyd i'r trysor breuddwydiedig; eithr tebyg fu y cyfoeth hwn i gostrel y Gwyddel gynt, pan ddeffrodd nid oedd na chostrel na chwisgi ger bron, am yr hyn yr edifarai Paddy, na buasai'n gallach gyda'i hyfed cyn deffro! Modd bynag, cafwyd bedd rhwng y "meini," ac esgyrn ynddo—gweddillion Derwyddol yn ddiau.
"CRAIG Y CASTELL"
a welir ar dir "Tyddyn-islaw'r-dre," a ger troed Cader Idris. Bu caerfa salw yma'n foreu, wedi ei gweithio heb galch, gan y dengys y gweddillion na fu cymrwd yn cuddio asenau'r cyfryw erioed. Meddianai'r gaer goryn y bryn, ond y mae y gwarchglawdd wedi diflanu agos oll. Ceid dwy fynedfa yn perthyn iddi, a'r rhai hyn yn ymgolli yn eu gilydd. Ger llethr y mynydd hwn gwelir olion Sarn Rufeinig yn gyfeiriedig igam-ogam ei llwybr anhygyrch, a dyma a rydd gyfrif am ei galw gan y werin yn Llwybr Cam Rhedynen." Gerllaw ca'r teithydd dyddyn o'r enw "Erw'r Gwyddy!" (Gwyddelod), yr hwn a wna i mi feddwl mai y genedl hon a luniodd y ffordd hirgul dan sylw.
"BRYN MAWR."
Enwid yr amaethdy hwn i sylw'r ymwelwr am y caed bedd ynddo, esgyrn maluriedig, a darn o bren yn dwyn hoelion pres ceuol, rai ohonynt ar ffurf calon, ac ereill yn cario cynllun o rif. nodau. Gorchuddid y bedd â llechfaen yn dwyn y prif lythyrenau A. H.," ond y darganfyddwr, yn ei frys am arian a gredai a gaffai yma, a dorodd y garreg yn ddeuddarn, ac felly a golledodd rif ein creiriau henafiaethol.
"LLYN Y GADER GOCH."
Gorwedda hwn yn yr Wnion, ger y Bont Fawr, a defnyddid ef yn yr hen amserau i drochi troseddwyr y gym'dogaeth. Delid y pechadur a rhoddid ef mewn math o gadair goch er ei hwyluso i'r dyfroedd islaw, trochid ef yn ei wrthol gan amryw mwyaf hylaw o'r dorf ymgynulledig. Pan ddelid troseddwyr ar odineb, neu bechod arall, codai tyrfa allan, ac elai ereill, nid llai eu trosedd, feallai, ar eu holau mal gwaedgwn: delid un neu ddau o'r ffoaduriaid hyn, a dygid hwy yn ddiymdroi i'r drochfa dan floedd a chrechwen yr erlidwyr. Eu cario ar "ystol" a wnelid yn Môn ac Arfon yn yr oes o'r blaen, ond eu bedyddio "tros ben a chlustiau" a wneid yma, a byddai'r trochedig wedi haner ei foddi cyn y cai allan o ddwylaw ei farnwyr! A'r englyn canlynol bygythid y gêr gleplyd â'r gadair, gan y bardd,—
Y gwragedd rhyfedd eu rhôch—ysgeler,
Ysgowliwch pan fynoch:
Eich bwrir a'ch bai arnoch,
Gwedi'r gair, i'r "Gadair Goch."
Bu y Bedyddwyr yn trochi eu deiliaid yma wedi hyn.
YR YSGOL GANOLRADDOL.
Saif hon ger Tylotty'r Undeb (Hugh Roberts), a'r Ysgol Frutanaidd (O. O. Roberts), ac ar lethr iach a dymunol. Gwariwyd. £2,500 arni, a rhif ei hysgoleigion yw oddeutu 90. Ei hathraw yw H. Clendon, M.A.
ABBATTY'R CYMER,
ond a elwid gan y werin yn "Abbey'r Faner." Eir i hon trwy ffordd Llanilltyd[5] yn hylaw a hwylus gan ddyn dyeithr, ond i fyrhau y daith, pe äi'r ymwelydd heibio'r Ysgol Genedlaethol (J. James, Ysgolfeistr), y Periglordy, Penarlag, a chymeryd y llwybr ar y chwith iddo ar uchaf yr allt elai i lawr hyd ati, gan dori milltir, agos, ymaith o'i siwrnai. Saif y Fonachlog oddeutu milltir a thri chwarter trwy'r brif—ffordd o Ddolgellau, a haner milltir o Lanilltyd. Sylfaenwyd hon yn y flwyddyn 1200, gan Llewelyn ab Iorwerth Drwyndwn, medd Tanner yn ei Notictia Monastica, tra y dywed eraill mai yn O.C. 1198, y bu hynny, gan Meredydd a Gruffydd, meibion Owain Gwynedd. Perthynai i'r
dosparth o fynachod a enwid "Cisterciaid," ac yr oedd yn gyf- Iwynedig i St. Mair. Ymwelais à llanerch lle saif gweddillion yr. hen Fynachlog hyglodus, Medi 10fed, 1901, a chefais fod ei godid- owgrwydd cyntefig wedi cwbl gilio ymaith. O flaen ei ffenestri darniog a chysegredig gwelais foneddiges ieuanc a theg o Seis'nes yn paentio y gweddill fawrwychder a arosai o'r deml henafol, ac yn gwerthu cynyrchion ei thalent i ymwelwyr am elw mawr. Yna arweiniwyd fi gan gyfaill i weled yr adfeilion haeddbarch a safai o'm blaen. Sylwais ar lawer o gysylltiadau o'i heiddo'n gymysgedig âg adeiladau ffermdy'r Faner; eithr cedwid yr eglwys, fel ei golygid, gyda gofal parchus yn lled gyfan. Saif y pen dwyreiniol i fyny'n dalgryf er gwaethaf ystormydd, yn nhalcen pa un y ceir tair ffenestr bigfain, agos yn llawn o eiddew, tra'r mur deheuol a ddengys fwäau meini Gothaidd a philerau, yn aros er ymosodiadau oesau; a cheir yn agos ardeb o ben dyn wedi ei weithio'n gelfydd mewn maen. Dywed Hanes a Thraddodiad i Fynachod Abatty y Cwm Hir ddyfod i breswylio yma. Fel hyn y mynegir y peth:— "Hysbysir i gynulleidfa y Cwm Hir ddyfod i bresswylaw y y Cymer y Nannav y Meirionydd." Wrth hyn y golygir i nifer o aelodau ymadaw o'r gyntaf ac ymunaw â'r olaf, canlyniad, feallai, i ymosodiad Owain Glyndwr ar Abatty y Cwm, byddin yr hwn a'i hanrheithiodd.
Carnhuanawc, yn ei "Hanes Cymru," tud. 656, a edrydd yr ymgyrch canlynol, ar awdurdod Math. Paris: Pan ddeallodd Harri'r III. fod y Cymry o dan eu Tywysogion yn anrheithio'r ardaloedd Seisonig gyda llwyddiant parhaus, ac ddarfod i De Burgh dori penau rhai o'r gorchfygwyr Cymreig, a'u danfon i'w frenin i'w dangos: i Llewelyn, pan glywodd hyn, ffromi'n aruthr, ac ymosod ar diroedd yr Arglwyddi Seisnig, gan wneyd galanastra dirfawr. Pan glywodd Harri hyn digiodd yn enbydus: cynullodd fyddin fawr yn Rhydychain, wedi ysgymuno ohono Llewelyn, câd- deithiodd rhyngddo ag Henffordd, gan brysuro'n mlaen am gastell Trefaldwyn, lle gwersyllai'r Tywysog, mewn mangre isel gerllaw cors. Ac yma, medd M. Paris, y dichellodd faglau i filwyr y castell; ond Llewelyn a anfonodd fonach o fonachlog Cymer i daflu trem ar helyntion y câd-gyrchiad; a'r castellwyr pan welsant ef a aethant allan gyda brys i ymddiddan âg ef parthed tynged y Tywysog Llewelyn, yntau a'u hatebodd hwynt iddo weled Llewelyn mewn diffynle islaw, yn galonog, ac yn disgwyl am nifer ychwan- egol o filwyr ac adnoddau rhyfel. Gofynodd y milwyr drachefn a allai y marchogion fyned i'r gors ddywededig gyda diogelwch, pan yr atebodd y monach fod Llewelyn wedi tori'r bont, rhag eu rhuthriad hwy a'i ddiogelwch yntau; ond eto y gallent yn hawdd groesi y gors â'u ceffylau, ac ag ychydig farchogion orthrechu y Cymry, neu eu gyru ar ffo. Ar dderbyniad y genadwri archodd Wallter de Godarville, ceidwad y castell, i'w wŷr godi eu harfau, a chan esgyn eu meirch daethant gyda brys i'r lle. Ond y Cymry, mewn modd cyfrwys, a gymerasant arnynt ofni eu dyfodiad, gan ffug-ddianc i'r coed, a'r marchogion yn falch o hyn a yspardun- asant rhagddynt; ond nid cynt hynny nag y suddasant oll hyd at dòrau eu hanifeiliaid yn y llaid a'r anhrefn: a'r Cymry yn gwylied hyn a ddychwelasant yn eu holau, gan ladd y marchogion a'u meirch â'u gwaewffyn. "Os drwg cynt, gwaeth wed'yn." Dywed M. Paris i'r dialedd hwn o eiddo'r Cymry ffyrnigo'r Saeson fel ag y bu iddynt, mewn ysgarmesoedd tra mynych wedi hyn, fwrw eu llid ar yr hen genedl mewn moddau tra blinderus; ond y Cymry, fel y mae'n rhaid iddo gyfaddef, oeddynt drechaf gan amlaf. Wedi hyn bu iddynt gymeryd gedicis mab Rhichard de Argenton, câdwr galluog, ac ereill o lai nôd. Oddiwrth fynegiad yr awdwr Seisnig, ymddengys fod holl allu eu brenin yn ymgynulledig ar y maes, a'i holl fwriadau at ddarostwng y Cymry a'u gwlad; ond y brenin wrth weled anhyblygrwydd gwarau deiliaid Llewelyn i ymostwng i estroniaid, a chan gofio dichell yr abbad a bender- fynodd losgi'r Fonachlog: ond yr abbad a ddaeth i heddwch âg ef, gydag addewid y talai ef iddo dri chant marc o arian, ac mewn canlyniad ca'dd yr abbad-ty heddwch y tro hwn, trwy ddichell ac addewid.
Yn y flwyddyn 1244, bu ysgarmesoedd blinion a gwaedlyd cyd- rhwng y Saeson a'r Cymry o dan eu tywysog Dafydd ab Llewelyn, pryd y daeth Mynachlog ac Abbad y Cymer i'r wyneb yn dra amlwg. Pan oedd arfau yn methu darostwng yr hen genedl, ceisiodd brenin Lloegr, Harri'r I., gan Esgob Caerwrangon (Worcester) esgymuno Dafydd, a hynny a wneid "oddiar sail cytundeb ei ymostyngiad iddo fel ei uchdeyrn, a chadarnhad yr unrhyw trwy fygythiad o gerydd eglwysig, os byddai iddo ei dori." Credai Dafydd yn gryf yn nylanwadau'r Eglwys yn neillduol yn ngwedd. ïau'r mynachod, a rhag digwydd aflwydd iddo, anfonodd at y Pab am ei amddiffyniad yn erbyn Harri, gan geisio ganddo ei ryddhau oddiwrth ei lŵ o fod yn ymostyngol i frenin Lloegr. Tyngai mai ei orfodi a gafodd i wneyd y llw, ac addawai ddal a chadw ei Dywysogaeth yn ymostyngol i'r "Esgobaeth Sanctaidd," a thalu i'r Pab bob blwyddyn 500 o farciau (pob marc, neu morch yn 13s. 4c.) fel teyrnged. Ond ei Sancteiddrwydd y Pab, yn gyfrwys, er yn awyddus i'r cynygiad arianol, a betrusai benderfynu heb chwilio'n gyntaf am gyfiawnder ar wahan i honiad a deisyfiad Dafydd, a daflai ryddid i ddwylaw Abadau Cymer ac Aberconwy, trwy ysgrifenu, Gorphenaf 26ain, 1244, i chwilio'n fanol drwy'r holl achos apeliedig. A dywed Rapin, yn ei "History of England," i'r Pab awdurdodi Penau'r Abbattai hyn ddirymu'r llw, os ymddangosai'r ymchwiliadau iddo gael ei ddwyn oddiamgylch drwy ddirwasgiad. Gohebodd yr Abbadau hyn â'r brenin,—ar iddo eu cyfarfod yn Ngheri[6], ger y Drefnewydd, ar noswyl Agnus Sant, Ionawr 20fed, 1245, os gwelai ef yn angenrheidiol, i ateb i'r cyhuddiad a ddygid yn ei erbyn. Gweler yma mor fawr oedd dylanwad y mynachod mewn cymdeithas y pryd hwnw, yr oedd yn llaw y Tad o Rufain yn peri i orsedd y teyrn grynu! Ond methodd y myneich y tro hwn: gwelai rhaib Harri gynysgaeth braf o'i flaen, ac i'w henill, ond medru ohono blygu Dafydd i'w ufudd—dod. Cynlluniodd a chasglodd fyddin fawr i ddarostwng y tywysog Cymreig. Dygodd trwy gyfrwystra cyfranu arian i'r gyfrwystra—cyfranu arian i'r Pab—foddion arall i ategu ei ymgyrch ryfelgar yn Nghymru, enill ei Sancteiddrwydd o Ddinas y Tiber o'i blaid, ac yn llwydd ar ei arfau; a'r canlyniad a fu, ciliodd gwenau a bendith yr "Hen. Lanco Rufain oddiwrth Dafydd, trwy ei gyhuddo a'i gollfarnu, a difuddio pob bendith a gweddi ar ei ran yn y mynedol, a galw'n ol yr amodau rhyddhäol hynny o du Dafydd yn ei ymostyngiad i'r brenin; ond ni chafodd y teyrn Cymreig mo'i arian na'i fuddiant fyth.
Ar ddadgorphoriad y mynachdai yn nheyrnasiad Harri VIII., yn 1536, cyfrifid ei chyllid (revenue) blynyddol yn £51 13s. 4c.; yn ol arall, £58 15s. 4c.: pryd nad oedd yn 1291, namyn £11 14s. 11c. Llewelyn Fawr, yn 1209, a roddodd Freinlen i'r Abatty hwn, ac yn 1231, bu i'r arfynach godi 300 o farciau er prynu ei gollyngdod oddiwrth Harri III., yr hwn a'i cymerodd trwy frwydro â Llewelyn ab Iorwerth, ac oddieithr am ofal a meddylgarwch y casglydd a'r talwr uchod buasai'r Abatty hwn yn cael ei roddi i'r fflamau gan frenin Lloegr. Wedi hyn bu y Fynachlog a'i thiroedd yn nwylaw y Goron, yn y gwahanol deyrnasiadau dilynol heb ei chwbl roddi ymaith hyd ddyddiau Elsbeth Tudur, yr hon deyrnes a anrhegodd Robert, Iarll Leicester, â hi; ond ni wyddis yn sicr sut y treiglodd drachefn, nac i ba ddwylaw y syrthiodd. Oddeutu 1895 darganfyddwyd yn ddamweiniol lestri cymuno (Chalice and Paten), o aur pur, yr Abbadty hwn, gan ddau fwnwr, yn guddiedig rhwng dwy garreg ar Fynydd y Garn, agos gogyfer â'r deml addoli henafol hon. Feallai mai y Penmynach a'u dygodd ymaith i'w cuddio yn adeg cythrwfl y Dadgorphoriad. Bu darlun a'u harnodau Lladinaidd yn yr Illustrated London News, a chlywais mai'r Gywreinfa Brydeinig a'u meddianodd.
Pa sawl gwaith ar wawr a gosper, seiniai'r gloch ar hyd y glyn?
Pa sawl Ave, crêd a phader, dd'wedwyd rhwng y muriau hyn?"
Y PENTRE'.
lle safai unwaith
CASTELL CYMER,
yr hwn oedd wneuthuredig o goed, fel ereill o hen gestyll y genedl Gymreig, yr hwn a daflwyd i ffwrdd mewn ymrysonfa benderfynol, oddeutu y flwyddyn 1113.
HENGWRT.
Gwledd i feddwl a golwg a gaiff yr ymwelydd pan edy y dref, ar ddydd hirddydd haf, am filltir o daith yn nghyfeiriad Llanilltyd. Gwel Lys Mynach ar y dde iddo; yna ar y chwith, Dr. Williams' Endowment High School for Girls, a ddyga'r geiriau:—
"This Stone of the Dolgelley Girls' School was laid Sept. 21st, 1876, by Mrs. Holland, Caerdeon."
Wedi hyn denir ei sylw at y "Dolydd" (Wynne), a'r fron brydferth draw yn cynyg i'w sylw balasau heirdd o bob llun a maint. Swynir ei deimladau â cherddi digyffelyb a chyngherddau corau cymysg pob aderyn gwyllt yn rhoi ei salmau yn rhad ac am ddim. Wedi hyn, ar dröad y ffordd, wele Hengwrt, sydd yn hen bryseddfod olygus, a fu unwaith yn sedd i'r hynafiaethydd nodedig, Mr. Robert Fychan, ond sydd yn awr yn eiddo i Miss F. Cobbe. Ceir yma rif enfawr o Lawysgrifau Cymreig, a henafiaethau a hanesiaeth damlygol oreu'r Dywysogaeth. Ond heddyw ni chaiff henafiaethydd a'i drysorau fyned gam pellach na'r drws! Caed Miss F. P. Cobbe yn farw'n ei gwely Ebrill 5, 1904, yn 81 mlwydd oed. Undodiad oedd, a hanai o deulu Gwyddelig, ac yr oedd yn awdures y "Philosophy of the Poor Laws," "The Sick in Workhouses," a'r "The Workhouse as a Hospital." Yr oedd siars yn yr ewyllys ar i'r meddyg dori corn y gwddf cyn claddu'r corph er gochel perygl claddu'n fyw; yr oedd ei harch i fod o'r pren salaf, heb enw nac oed, ac na neb i wisgo du yn ei hangladd, a thrwy hyn gwelir mai dynes od ydoedd hon yn ei bywyd, yn ei marwolaeth, a'i chladdedigaeth. Claddwyd hi yn. Llanilltyd.
NANNAU
yw preswylfa harddwych Syr Robert Williams-Vaughan (Fychan), ac a saif oddeutu dwy filltir o Ddolgellau. Gorwedda ar fryn serth, uwch, meddir, na'r un palas boneddwr arall yn Mhrydain—702 tr. uwchlaw lyfel y môr, ac fe'i hadeiladwyd gan Syr R. Fychan, yn lle hen balas Hywel Sele, cefnder ffals a diegwyddor Owain Glyndwr. Mae parc Nannau yn un ëang, rheda am filltiroedd gyda ffordd y Bala, a hyd at odreu "Moel Offrwm," ac ynddo, cyn y flwyddyn 1813, ceid hen dderwen 27 tr. o gylchfesur, yr hon sy'n cario hanes hynod am ddiwedd H. Sele. Dywed Pennant iddo weled y dderwen hon, ar ei ymweliad â Syr R. V., yn y flwyddyn a enwyd, a phan oedd ar gymeryd ardeb ohoni, boreu y dyddiad hwnw, iddi-wedi noson tra phoeth-syrthio yn gruglwyth i'r llawr. Pan deyrnasai Harri IV., perthynai etifeddiaeth Nannau i Howel Sele, cyfaill calon a phleidiwr gwresog i deulu Lancaster, a gelyn anghymodlawn i Owain Glyndwr. Dyfeisiodd pen-mynach Abbatty'r Cymer gynllun i heddychu'r ddau hyn, ar iddynt, trwy ryw deler neu gilydd, gydgyfarfod yma; ac ymddangosai pobpeth fel wedi llwyddo. Ond tra yr oeddynt allan yn cydgerdded gwelai Glyndwr garw yn pori, a chan ei nodi yn nod i saeth Sele, yr hwn a ystyriai yn well saethydd. Ar eiliad plygodd Howel y bwa, gan gymeryd arno gyfeirio at y creadur: ond trodd oddiamgylch yn sydyn, ac a ollyngodd y saeth at Owain, ond ef a amddiffynwyd gan arfogaeth guddiedig, fel na dderbyn. iodd ddim niwed. Neidiodd Owain ato, gan gydio ynddo; rhoes ei balas yn dân ac yn lludw, ac ni welwyd H. Sele yn fyw fyth wedi hyn. O gylch 40 mlynedd ar ol hyn, darganfyddwyd esgyrneg (skeleton) dyn, a dybid mai y bradwr ydoedd, o fewn i geuedd y goeden enfawr a nodwyd uchod, yn môn pa un y dodasid ef gan ddwylaw digllawn O. Glyndwr. Adnabyddid y dderwen hon yn mhell ac agos, gan Gymry a Saeson, â'r enw ysgymun "Ceubren yr Ellyll." Ffurfiodd Glasynys chwedloneg ddifyrus o'r trychineb hwn, a ddyga y dynodiant "Ceubren yr Ellyll," cyhoeddedig yn "Cymru Fu," tud. 48.
"MOEL ORTHRWM."
Dyma fynydd cribawg sydd yn rhagfur oesawl ar fodrwy Parc Nannau, ar ba un y gosododd y diweddar Arglwydd Lytton beth hynodrwydd yn ei Ramant odidog ar "Arthur." Saif y Foel 2½ milltir o Ddolgellau, a 5 o Gadair Idris. Ei huchder yw 1200 tr., a phan ddaw teithydd i'r fro, awyddus am wel'd ceinion a rhyfeddodau rhamantus gwlad Meirion, ni wna'n well-pan fyddo'r Gadair a'i phen yn y niwl-na dringo yr uchelfa odidog hon, a fydd yn nes ato, a chaiff yn ad-daliad am ei dipyn blinder yr holl leoedd o werth a sylw ar a gofnodir yn y Traethawd hwn, yn un panorama fendithlawn yn cydgyfarfod o'i flaen. Dyga'r Foel gedyrn ragfuriau o'r oesau gynt, oddifewn i ba rai y ceir "cytiau," ac feallai'n wir mai "Cyttiau'r Gwyddelod" ydynt, gan eu bod yn dra thebyg i'r mathau hynny o adeiladau. Enwid y lle yn Foel Offrwm gan rai, ond nid oes un arwydd ar ei lloriau heddyw am na bwrdd nac aberth: eithr dyga ei henw ddyddiau blinion ein cyndadau atom, pan geid beunydd rhyw elyn o nod yn diweinio ei gledd yn ngwyneb y Cymro.
RHYD WEN.
Saif y lle hwn oddeutu milltir o'r dref ar ffordd Pen-y-bryn, yn mha le, Mawrth 31ain, 1881, y cyflawnwyd ysgelerwaith gan un Evan Jones, gynt argraphydd cyfrifol yn y dref, a diacon a ystyrid yn barchus gyda'r Annibynwyr. Bywiai Jones a'i wraig yn y lle a nodwyd ar eu moddion annibynol; collasant eu hunig blentyn, merch ieuanc dêg ac addawol, a byth wedi hyn ni chaid ei thad yr un dyn, ac aeth i gario syniad isel am ei wraig, ac wedi dychwelyd adref o bleser-rodio ac ymweled â chyfeillion ar brydnawngwaith, ymosododd ar ei wraig mewn modd llofruddiog, tra yr eisteddai hyhi o flaen y tân yn darllen papyr newydd. Holltwyd ei phen yn ddau â bwyell fechan, a rhedodd y llofrudd ymaith i ystafell uwchlaw, a diweddodd ei hun trwy dori ei wddf âg ellyn!
CADAIR IDRIS.
Dyma hen arsyllfa nodedig Idris Gawr, o fewn rhyw oesau pell yn ol. Cyplysir ef â Gwyn ab Nudd a Gwydion ab Don yn "dri gwyn serenyddion Ynys Prydain." Gelwid y cyntaf yn "gawr," yr ail yn frenin y tylwyth teg," a "phenaeth Gwlad Hûd a Lledrith," a'r trydydd yn "Buelydd Gosgordd" a "Gwyn Serenydd." Saif coryn y Gadair uwchlaw Dolgellau 2850 troedfedd, ac nid oes namyn dau drum yn Arfon yn uwch na hon.
Dywed un hanes y gellir cychwyn i'w phen oddiar lan y môr, gerllaw lle yr ymarllwysa'r afon Dysyni, oddeutu milltir o Dowyn, a pharha'n ddidor, i ddechreu ar yr ochr ogleddol am dair milltir, ac wedi hynny, am tua deng milltir, at y dwyrain-ogledd, gyda thröad am yn agos i dair milltir, gan ymestyn yn dde-orllewinol, yn gyfochrog â'r brif grib.
Y mae'r esgyniad o Ddolgellau yr hyn a gymer yn gyffredin tua thair awr yn dechreu tua milltir a haner o'r dref, ar ffordd Tywyn; ond trwy ymholiad gall y teithydd ddewis y llwybr canlynol: Eler i Perth-y-bryn, Bryn-y-gâd, heibio Tai Newyddion, Rhyd Wen, a'r Gilfach, gan basio Gwernan Villa, Llyn Gwernan, Ty Nant, Tyddyn Wnion, a'r Ffriddoedd, a dyna y tourist wrth droed y Gadair hyglodus.
Y mae'r Gadair yn gyfansoddedig o graig basaltig, ac ar gyfrif ei neillduolrwydd yn ffurf ei sefyllfa, y mae'n rhwym o fod yn fwyaf arluniol brydferth o'r holl fynyddau Prydeinig.
"Its most imposing aspect is on the south-east side, and it is seen to greatest advantage under gloomy lights. A pool, called Llyn y Gader, about a mile and a half on the high road to Towyn, may be taken as the commencement of the ascent, and after gradually winding up the steps of the mountain, passing several lakes by the way, an immense wreck of stones, is at last gained, presenting in many places so regular an appearance that they might be mistaken for Druidical remains; some of them stand erect like Meini Hirion, and one is dignified with the title Llech Idris. These basaltic formations vary in size, being usually from three to six or ten feet in length, some, however, are considerably larger, and measure sixteen or twenty feet. The peaks of this mountain consist of siliceous porphory, quartz, and felspar, enclosed in a green paste, with siliceous schistosa porphyry, intersected with veins of quartz and argillaceous porphyry in a mass, and a dark green paste. Several rocks contain component parts of granite and porphyry with a great proportion of white saponaceous quartz."
O ben y Gadair y mae golygfa ardderchog yn cyflwyno ei hun ger bron mewn amrywiaeth swynol, a phellder hirfaith, gydag ëangder o, yn y man lleiaf, tua 500 milltir, ac o fawreddigrwydd annychymygol. Ar y gogledd y mae'r drem yn cael ei therfynu gan y Wyddfa a'i chadwyni; ar y gorllewin y mae bau Aberteifi, yn cael ei ymylu gan fryniau Arfon; ar y ddehau y mae bryniau Maesyfed, a mynydd Plumlumon, gyda lled-olwg rhyngddynt, a bau Abertawe a Chaerodor, gyda phenau eglur Bannau Brycheiniog; ac ar yr ochr ddwyreiniol i Lyn Tegid, y ddau Arenig, a'r ddau Aran, a chadwyn hirfaith mynyddau y Berwyn, gyda bryniau Breiddin, a Wrecin, a hyd yn nod y Black Stone Edge ar ymylon swydd Lancaster. Ar ambell waith, pan y byddo y tywydd yn ffafriol, ceir golwg ar fryniau'r Iwerddon. O fewn cylch yr olygfa hon y mae amrywiaeth diderfyn o gyferbyniadau yn dilyn. eu gilydd, i ddifyru y llygaid ac i swyno y dychymyg, mewn cribau, pegynau, dyffrynau, llynau, porthladdoedd, trefi a phentrefi, yn uno i wneyd y darlun mwyaf tarawiadol i'r golwg.
Y mae y mynydd yn serth a chribog, ac yn llawn grug ar bob ochr, ac yn enwedig tua'r dê, hyd ymylon Tal-y-llyn, lle y mae y disgyniad o'r braidd yn unionsyth. Nid yw ei lêd yn dal cydmariaeth â'i hyd; pe tynid llinell o'i odreu dros y grib, prin y mesurai dros bedair milltir a haner; ac mewn rhai manau nid yw lled ei sail nemawr dros filltir.
Y mae y rhaiadrau sydd yn y gymydogaeth yn hynod a mawreddog, o'r rhai hyn y mwyaf yw y "Rhaiadr Du" (Rhaiadr Dolmelynllyn), yn gyfagos i'r bumed garreg filltir ar ffordd Traws- fynydd; cyrchir ato trwy lwybr yn arwain ar y chwith i'r brifffordd, i fyny hyd lwybr coediog, lle y gwelir yr afon Camlan yn bwrw ei dyfroedd dros glogwyn o tua 40 tr. o godwm, mewn dwy brif len, a thrwy gilfachau culion, i wely tywyll yn y graig, lle y rhuthra allan yn ewyn berwawg, digllawn, ac a gollir o'r golwg yn fuan yn nghoedydd cauadfrig y gymydogaeth. Y mae golwg eilwaith i'w gael arno wrth ddilyn trwy lwybr dyrus, nes dyfod i odreu y ceunant, lle yr egyr golygfa darawiadol iawn, gyda rhaiadr arall o tua 30 tr. o godwm gerbron; ar y chwith, gwelir y rhaiadr blaenorol yn ymluchio dros y clogwyni, yn cuddio y cyfan á gwisg o ewyn canaid rhwng creigiau wedi cael eu coroni ag addurniadau o goed tyfadwy. O fewn tua dwy filltir i'r rhai hyn, ar y gogleddddwyrain, mewn dyffryn cul, dwfn, llawn o goed, y mae ceunentydd Pistyll Cain," a "Phistyll Mawddach," o fewn ychydig o bellter oddiwrth eu gilydd; cyrhaeddir y cyntaf drwy groesi pont wledig, wedi ei llunio drwy gorph derwen wedi ei gogwydd o'r naill graig ar y llall, uwchlaw agen ddofn, gul, drwy yr hon y mae y "Cain" yn ymwthio gyda thrwst mawr, ac ymosodiad bygythiol; wedi disgyn i'r gwaelod, y mae'r afon i'w gweled yn ymyru rhagddi hyd estyll o'r graig, oddeutu 200 tr. o uchder, agos yn unionsyth, yn disgyn ar gerrig wedi eu treulio i ffurfiau cywrain a rhyfedd iawn.
Y mae Pistyll Mawddach" yn cynwys tri chodwm, y cyntaf yn ffurfio llen o ddwfr tua 20 tr. o lêd, ac yn agos i hyny o uchder, yr hwn sydd yn cael ei dderbyn i gelwrn naturiol, tua 30 tr. o draws-fesur, yna rhêd yr afon dros yr ail glogwyn, gyda chwymp o tua 30 tr. i ail gelwrn, mwy na'r cyntaf: ac oddiyno drachefn, gan ymgulhau, dros drydedd astell, gyda chodwm o 20 tr., i lyn eang, o'r hwn y rhéd yn ffyrnigwyllt nes ymuno â'r "Cain."
Y mae afon fechan "Clywedog," sydd yn codi ar lechwedd Cader Idris, o fewn y plwyf hwn, ac yn ei llwybr o tua dwy filltir, yn ffurfio amryw fân raiadrau, ond rhai ohonynt yn ffurfio cwympiadau o 50 tr., ac yn wrthddrychau o gryn ddyddordeb i bob ymdeithydd ymofyngar. Y mae'r afon yn rhedeg drwy diroedd amryw foneddion yn y gymydogaeth, gydag ymylon yr hon y mae Ilwybrau hyfryd i rodio, er cael mantais i weled y rhaiadrau; ac ar ol gwlawogydd trymion y mae eu trwst yn hynod drwy eu disgyniad,
Rhaiadr ar raiadr a rydd
Dwrw gwyllt drwy y gelltydd,"
Rhaid i'r day's trip tourist gael arweinydd cyfarwydd o Ddolgellau, neu le arall, hyd goryn y Gadair, gan na fydd ddiogel fel dyn dyeithr ar lwybrau dyeithr, rhag digwyddo'r hyn a fyddo gwaeth y mae aml un wedi colli ei fywyd trwy fympwy a chrintachrwydd, yn ymddiried gormod iddo ei hun, ac ofn y draul o ychydig sylltau am arweinydd da a gofalus, i'w gymeryd i esgynlawr y rhyfeddodau oll, lle y caiff ei dalu mewn modd triphlyg yn nheml fawr natur, yn arddangosfa odidog celfau cain y greadigaeth ddigoll.
Y diweddar Mr. John Parry, Caerlleon, yn ei Cambrian Mirror, p. 138—9, a ddyry ddarluniad dyddorol o arweinydd hên a hynod yn Nolgellau, a arferai dywys dyeithriaid i ben Cader Idris, yn ei ddyddiau ef fel hyn:"Here formally lived an eccentric old man, not unknown to many of those who have visited this place: he filled the office of guide to Cader Idris with so much credit to himself as pleasure to the stranger whom he conveyed. Mr. Pugh in his Cambria Deptica,' has given a portrait of him from life, seated upon his pony, conducting a party up the mountain. The following ludicrous description conveys a pretty accurate idea of the little fellow:— Robert Edwards, second son of the celebrated tanner, William Edwards, ap Gryffydd ap Morgan ap David ap Owen ap Llewelyn ap Cadwaladr, great, great, great grandson of an illegitimate daughter of an illustrious hero (no less famed for his irresistible prowess when mildly approaching under the velvet standard of the lovely Venus, than when sternly advancing with the terrible banners of the bloody Mars) Sir Rice ap Thomas!!! by Anne, alias Catherine, daughter of Howel ap Jenkyn, of Ynys-y-Maengwyn; who was the thirtieth in descent from Cadwgan, a lineal descendant of Bleddyn ap Cynfyn, Prince of Powys. Since the day of his nativity, full two and eighty times hath the sun rolled to his summer solstice! (He was 82 in March, 1805). Fifty years was he the host of the Hen and Chickens ale house, Penybont, twenty of which he was apparitor to the late Right Rev. Father in God, John, Lord Bishop of Bangor, and his predecessors; by chance made a glover; by genius a fly dresser and angler. He is now, by the all divine assistance, conductor to and over the most tremendous mountain Cader Idris to the stupendous cataracts of Caen and Mawddach; and to the enchanting cascades of Dolymelynllyn, with all their beautiful romantic scenery; guide-general and magnificent expounder of all the natural and artificial curiosities of North Wales; professor of grand and bombastic lexicographical words; knight of the most anomalous, whimsical (yet perhaps happy). order of hair—brained inexplicables.
Mark, traveller, what rarely meets thy view,
Thy guide, a giddy boy of eighty-two."
As this celebrated character, with all his titles of honour and appointments, is gone to his long home, we will endeavour to furnish the tourist with a sort of substitute; but as we do not possess the twentieth part of his abilities, the tourist, of course, will excuse all imperfections, and take the will for the deed." As this celebrated character, with all his titles of honour and appointments, is gone to his long home, we will endeavour to furnish the tourist with a sort of substitute; but as we do not possess the twentieth part of his abilities, the tourist, of course, will excuse all imperfections, and take the will for the deed."
HAFDY CADER IDRIS.
Fel y canlyn yr englynodd y diweddar Feurig Ebrill i'r Hafdy uchod:—
Gwnaethpwyd plâs addas dan sêr—i fawrion
Ddifyru eu hamser;
Hwyliwyd coed, a heliwyd cêr,
I'w godi'n mhen y Gader.
Tŷ clodwych, mawrwych, mirain,—tŷ iachus,
Tŷ ucha' yn Mhrydain :
Caerog adeilad cywrain,
Nerthawl, o anferthawl fain.[7]
Ei fuddiawl, ethawl dylathau—gwiwrwydd,
Sy' gerrig difylchau;
Byrddau trwchus, clodus, clau,
Odderwydd yw ei ddorau.
Ei gelloedd heb ddim gwallau,—dda hinon,
Sydd hynod o olau;
Lle braf tra bo i'r haf barhau,
Draw i edrych drwy wydrau.
Drychwydrau'n ddiau a ddwg—der hirfaith
Dir Arfon i'r amlwg;
Gwelir ar yr un golwg
Dir Môn, pan 'madawo'r mwg.
Gwelir golygiad gwiwlon—oddiyno
Hyd ddinas Caerlleon,
Ac o'r un lle ceir yn llon
Gweled mawredd gwlad Meirion.
Gwelir, pan dremir drwy'r drych—o'r celloedd,
Dir Callestr[8] a Dinbych,
A swydd Maldwyn werddlwyn wych,
Trwy wiwdrefn, ond troi i edrych.
Gwiwlwys oddiyno gwelir—yr un fath,
Ran fawr o'r Deheudir;
Mae'n werth (nid rhaid amheu'n wir)
Myn'd yno, y man adwaenir.
At yr hyn a ysgrifenwyd am Idris a'i Arsyllfa, gellid dyweyd yn ychwaneg fod y "Trioedd" a'r "Mabinogion " yn cynwys wmbredd o draddodiadau rhamantus a chwedlau ofergoelus parthed hynt y genedl Gymreig. Ymddengys cymeriadau hynod y dydd, ag sy'n dal perthynas hanesiol â'r gwahanol ddaroganiadau a dirgeledigaethau, yn nhrafodaeth aml eu gwlad, pa un bynag ai sylweddol ai dychmygol a fyddant. Dygir gerbron Feli ap Manhogan, penteyrn y Prydeiniaid, rhyw ddau canrif cyn Crist: Math ab Mathonwy, Gwydion ab Don, Menaw ab Teirgwaedd, Uthr Bendragon, Rhuddlwm Gawr, Eiddilic Gor, Cilfaethwy a'i feibion—
Bleiddwn Hydwn a Hychdwn,—
"Tri meib Gilfaethwy enwir,
Tri o ryfelwyr synir,
Sef Bleiddun, Hydwn a Hychdwn hir."
Llew Llaw Gyffes, Gronw Pebyr; ac ar lan afon Cynfael, yn Ardudwy, y mae llech a thwll ynddi, a gelwid hyhi'n "Llech Gronw," Mabon ab Modron, &c., &c. Ystyrir Math, Menaw, a Rhuddlwm yn "Driwyr Hud a Lledrith Ynys Prydain ;" yna daw Daronwy yn dwyn ymgiprys å'r cyntaf ar bren sy'n rhagori ar eiddo Daronwy, pan atebir ef fod ffon ddewiniol Mathornwy yn dwyn pereiddiach ffrwyth ar lan afon y Gwyllion. Wedi hyn ymddengys Gwydion ab Don yn swyno Math, ac yn gwneyd campau fel serydd, yn ogystal ag Idris Gawr, a Gwyn ab Nudd: a chan faint eu gwybodau am y sêr, a'u hanianau, a'u hansoddau, y daroganynt a chwenychid ei wybod hyd yn nydd brawd.- Tri O. G.
Pa un ai cymeriad gwirioneddol ai dychymygol oedd Gwyn fab Nudd nis gellid penderfynu, modd bynag, edrychid arno'n gymeriad tra nodedig gan y Derwyddon, a bu iddynt ar gyfrif gorchestion dihafal Gwyn ei wneyd yn Frenin y Tylwyth Teg. Am Idris, yr oedd ef yn serydd celfyddgar, a'i swyddfa i wylied y bodau. wybrenol ydoedd Cader Idris-coryn y mynydd uchaf yn ngwlad Meirion, 976 o latheni o lan y môr, is na'r Wyddfa o 352 of latheni i efrydu cylchdeithiau y sêr afrifed, a dysgu ganddo ef a Gwydion a Don, a Gwyn ab Nudd, dynged a damwain dyn, medd. y Trioedd. Golyga'r enw Cader sefyllfa amddiffynol neu filwraidd, ac felly o'r un ystyr â "gwerthyr," "dinas," a "gwarchle," medd y diweddar Owain Williams, o'r Waenfawr; a'r ystyr cyffelyb a ddyry'r diweddar Cynddelw yw "diffynle," "dinas," "eisteddfa," "sedd," "gorsedd," a "gorsedd bardd," yn ei "Eiriadur Cymraeg Cymreig." Y mae cafniad yn y graig ar ffurf cadair, man yr eisteddai yr hen ddewin, ys dywed traddodiad, i fyfyrio ac i olrheinio i helynt a hynt y lleuad newydd, ar hon y dibynai'r holl wyliau Derwyddol; a phwy bynag, meddid, a dreuliai noson yn yr eisteddfa hon, a geid yn y boreu, naill ai yn fardd, yn wallgof, neu yn farw. Rhoes y Parch. E. Evans (leuan Brydydd Hir) brawf ar hyn trwy gysgu noson ynddi, ond nis gwyddom a ragoriaethodd hyny ar ei ddoniau. Ystyrid Idris yn gawr mewn corph a meddwl, fel nad oedd Hector neu Goliath ond corachod yn ei ymyl, a beth a wneir son am gewri fel Adda, oedd yn 123 tr. a 9 m. daldra; Noah, 103 tr. 6% m.; Abraham, 28 tr. 38 m.; Moses, 13 tr.; dyn yn nyddiau Romulus, 8 tr.; dyn yn amser genedigaeth Crist, 7 tr. 2 m., medd y Mem del Academy Belles Lettres, gan yr enwog M. Henrien, nid oedd y rhai hyn namyn eiddilod i'w cydmaru âg Idris, wrth i ni feddwl am y "Tri Graienyn" cerrig yn amryw dunelli o bwysau yn ein hoes ni, ond yn nyddiau y cawr a ystyrid ddim ond graian yn ei esgidiau, pa rai a daflodd Idris ymaith i gyfeiriad y llyn pan gerddai i'w observatory ar y mynydd, medd traddodiad. Y mae gan yr Arabiaid Idris, serydd medrus, yr hwn a elwid ganddynt yn Enoch, un o drigolion cynddylifaidd ; ac y mae hanes a gweithredoedd Idris y Cymry ac Idris y Dwyrain mor debyg gan. draddodiad fel y tybia ambell un a ddarlleno eu hanes a'u hynt mai'r un ydynt. Diau fod y naill a'r llall yn hanfodi ar yr un adeg, a bod eu cyflawniadau synfawr ar gerdded o fewn yr un oes, oblegid dygant y dylif a'i ddinystr yn Nghymru ac yn y Dwyrain mor eglur a thebyg yr un pryd, a dichon fod enw Cader Idris cyn hyned a'r oes ddylifaidd, ond rhy anhawdd yw penderfynu ar ddyddiad dechreuol y pethau hyn, llawer llai ar dreigliadau hanesiol a rhyfeddol y cyfryw; eithr amlwg yw iddynt gael eu dechreuad rywbryd, a hyny ar wahan hollol i unrhyw fynegiad Ysgrythyrol am foddiad y byd. Sonir am gewri bodau annaearol o'r enwau "Gwyllion," a drigant mewn llynoedd, a'u daroganiadau a'u dirgeledigaethau hynod o'r eiddynt yn mrig yr hwyr ac yn nyfnder y nos. Am gåd waedlyd fu cydrhwng Gwydion ab Don a rhyw fodau erchyll ac annaearol un boreuddydd yn mynyddau'r Eryri, yn Nant Ffrancon.
Y mae genym filoedd o greaduriaid dychymygol a dychrynllyd ar glawr hanesiaeth fel "Ellyll Ciwdawl," "Ellyll Llyr Merini," ac Ellyll Gwrthmawl Wledig," a gyfrifid mal Tri Tharw Ellyll Ynys Prydain,"-Tri. 94. Hefyd, brithir dalenau llyfr hanes gwlad y Brython à chymeriadau hynodfawr fel Ceridwen (duwies awen), Afagddu ei mhab, o derfynau uffern yr hanai'r gwr hwn: Drych ail Cibddar, Dos ab Deigr, Gliniau ail Taran, Olwen (codai blodeu gwynion yn ôl traed hon), Grathach, Duach, a Nerthach (gwŷr o uffern ydoedd y rhai hyn), Henbedestyr a Henwas Adeiniog, nid allai dyn ar geffyl ganlyn y ddeuddyn hyn. Sgilti Ysgawndroed a äi i neges tros ei arglwydd, ac a gerddai ar frigau'r coed; Drem ab Dremidydd a welai o'r Gelli Wig yn Nghernyw (Cornwall) wybedyn yn codi efo'r haul yn Blathaon, yn Ngogledd Prydain. Gilla Coes Hydd, yr hwn a allai neidio tri chan' erw ar un naid. Gwadyn Osol, gan faint ei bwysau, a suddai y mynydd uwchaf: Sol a allai sefyll ar ei untroed am ddiwrnod cyfan: Henfydd Hen, Ellylw ach Niwl Cyngrog, Gair ab Geirion, Clust ab Clustfeiniat (pe claddesid ef naw cufydd yn y ddaear, gallai glywed gwybedyn ddeng milltir o ffordd yn codi o'i lwth yn y boreu), Gwrhir Gwastawd leithoedd (yr hwn a wyddai bob iaith), Medyr ab Methredydd o'r Gelliwig (gallai ef saethu y dryw rhwng ei ddwygoes hyd ar Esgair Oerfel yn Iwerddon), Gwiawn Lygad Cath (yr hwn allai dori pilen oddiar lygad gwybedyn yn ddiarwybod iddo), Ol ab Olwydd (saith mlynedd cyn ei eni lladratäwyd moch ei dad, ac ar ol iddo dyfu'n ddyn efe a'u holrheinies, ac a'u dygodd yn ol yn saith genfaint), Belwini Esgob (yr hwn a fendigai fwyd a diod Arthur Frenin), Gwenllian Dég (y forwyn fawrfrydig), Morfudd ferch Urien Rheged, Creiddylad ferch Lludd Llaw Eraint (y fenyw ardderchocaf yn nhair Ynys y cedyrn a'u tair rhagynys; ac am hono y mae Gwythyr ab Greidiawl a Gwyn ab Nudd yn ymladd bob dydd Calanmai hyd ddydd brawd), Ellylw ferch Neol Cyn-Crog (yr hwn a fu byw am dair oes); Olwen, cariadferch Cilhwch ab Cilydd (gwisg o sidan fflamgoch oedd am dani, a chad- wen o ruddaur a pherlau emerald oedd am ei gwddf; melynach oedd ei phen na blodau y danadl, a gwynach ei chroen nag ewyn y don. Tecach oedd ei dwylaw a'i bysedd na blodau'r anemoni yn ewyn ffynon gweirglodd dysglaeriach oedd ei llygaid na golwg y gwalch a'r hebog: gwynach oedd ei dwy fron na bron yr alarch gwyn, cochach ei dwyrudd na'r claret cochaf: pedair o feillion a dyfent yn ol ei throed, pa ffordd bynag y cerddai: ac am hyny y gelwid hi Olwen, a hi oedd ferch Yspaddeden Pencawr: Cai (gallai ef ddal ei anadl dan ddwfr am naw niwrnod a naw nos a byw am naw niwrnod a. naw nos heb gysgu). Sandde Bryd Angel (ni chyffyrddwyd ef yn mrwydr Camlan oherwydd ei brydferthwch pawb a dybient mai angel o'r nef ydoedd). Huarwas ab Aflawn, yr hwn ni cheid gwên ar ei wyneb ond pan fyddai wedi ymddigoni). Sugyn ab Sugnedydd (sugnai hwn fôr a thri chan long arno, hyd oni fyddai'n draeth sych). Rhagymwri, gwas Arthur (dangosid yr ysgubor a fynid iddo ef, os byddai cynyrch deg aradr ar ugain o'i mewn, efe a'i tarawai â ffust haiarn nes byddai'r trawstiau a'r tylathau mor fân a'r mân-geirch ar y llawr). Gwefyl ab Gwastad (y dydd y byddai efe drist, gollyngai ei wefus isaf i lawr hyd at ei fogail, a'r wefus uchaf a fyddai fel penguwch am ei ben). Uchtryd Faryf Draws (yr hwn a ledai ei farf goch annhrefnus tros wyth trawst a deugain llys Arthur), &c., &c. Bu'r cymeriadau hynod hyn yn ddolenau euraidd yn nghadwen werthfawr hanesiaeth ein gwlad, ac yn rhwymau o gadernid am helynt a hanes ein cenedl, y rhai a ddaliodd gymundeb cymdeithasol Cymru'n gyfan a digryn am ganrifau lawer, yn nadguddiad nerth pa rai y blodeuai gwladgarwch a ffyniant cenedlaethol bywiog, ymlyniad gwresog calonau y bobl â'u gilydd mewn unoliaeth. teimladau, a chwbl hunanymwadiad i reddf ac anian gorddewr yn mhlaid yr anianawd Gymreig, er gwaethaf holl ymosodiadau pob estron genedl.
Arweddau yn hanes cenedl yw y pethau uchod, ond os y'u cyfrifir yn ffolineb gan rywun, gallwn ninau hyf-ddywedyd eu bod yn ddoethineb o'u cydmaru âg hanesion dychymygol y Groegiaid, a chenhedloedd ereill, a dweyd y lleiaf. Yn oes Derwyddiaeth, wrth gwrs, yr oedd y cymeriadau hyn yn hanfodi, ac yn eu dydd- iau hwy hefyd y teflir pelydrau o oleuni ar y manau hynny o'n gwlad y claddwyd aml ŵr enwog, gydag Englynion Triban y Milwr. Rhwng Cader Idris ag Oerddrws y mae ardal o'r enw Gwanas, lle'r oedd plwyf ac eglwys o'r enw gynt, ond yn awr yn gysylltiedig a phlwyf Dolgellau. Ymddengys fod y lle mewn cyfrif mawr oddeutu y flwyddyn 1460 O.C., canys o fewn cylch yr amser a nodwyd crybwyllir am y lle gan Lewis Glyn Cothi yn ei awdl ardderchog i Gruffydd ap Nicholas o'r Dre'newydd, sef o Ddinefwr. Medd ef,—
Gwin llawn gwir a iawn, llyna'r gras—a gawn
Y gan fab Nicolas,
Ei darogan hyd Wanas
Ydd wyf ar ol Adda Fras.
Medd Owain Williams o'r Waenfawr yn "Ngheninen" Gor., 1892. Credir i'r Gader fod yn llosgfynydd rhyw oesau pell yn ol. Oddeutu y fl. 1861, ymddangosodd yr hanes canlynol (beth bynag am y ffaith ohono) mewn cyhoeddiad cyfrifol, pa un a ddifynwyd y flwyddyn ganlynol gan ddetholydd cynyrchion dyddorol "Cymru Fu," o dan y penawd "Cader Idris," pa un a ddyfynwn air am air, gan hyderu y bydd o fantais i'r ymwelydd â Dolgellau yn rhyw ystyr neu gilydd
"Gerllaw godreu Cader Idris y safai palasdy bychan y Talglyn, a breswylid gan ddarn o wr bonheddig o'r enw Gruffydd, yr hwn oedd wr gweddw ar y pryd, a chanddo ddau fab a thair o ferched. Yr oedd y merched hyn yn meddu cryn lawer o swynion personol, yn enwedig yr ieuengaf, yr hon, er mwyn hwylusdod a alwn yn Gwenlliw. Anfynych y cyfarfyddodd cynifer o ragorolion yn yr un person. Gwenlliw ydoedd canwyll llygad ei thad, gan mor debyg ydoedd i'w diweddar fam, a'i brodyr a'i chwiorydd a dybient nad oedd ei bath o fewn y byd. Nid oedd yn debygol chwaith y diangasai y ddau lygad gleision dysglaer hyny, a'r gwallt sidanog, arianaidd, a'r ffurf luniaidd, wisgi, ysgafndroed, rhag edmygwyr yn mysg cenedl sydd mor hoff o lendid a thegwch gwedd. Ond nid oedd Gwenlliw chwaith yn ddifai mwy na rhyw dlws daearol arall: ac os gweddus adrodd. ffaeledd delw mor bur o brydferthwch, bai y wyryf hawddgar hon oedd ei bod braidd yn rhy on a phenderfynol. Un haf daeth câr i'r teulu ar ymweliad â'r Talglyn o Loegr, gwr ieuanc o gyfreithiwr, a swynwyd ef gymaint gan degwch Gwenlliw fel y syrthiodd i gariad â hi tros ei ben. Trwy gydsyniad y rhieni o'r ddwy ochr dyweddïwyd y pâr ieuanc y pryd hwnw; eithr oherwydd ieuenctid y wyryf, gohiriwyd y briodas am flwyddyn neu ddwy yn mhellach. Dychwelodd Griffin (y boneddwr ieuanc) i Loegr i efrydu a thrin y gyfraith, ac a welodd flwyddyn cyhyd ag oes un o'r tadau cynddiluwaidd ; ac er fod amser fel pe wedi sefyll, daeth yr adeg hir ddisgwyliedig i ben, ac ail gyfeiriodd yntau ei gamrau tua Chymru i syllu ar ardduniant ei golygfeydd digymhar, ond yn benaf oll i weled ei anwylyd, i gynwys pa un, yn ol ei dyb orphwyllog ef, yr oedd Cymru wedi ei chreu, fel blwch ardderchog i gynwys y deimwnt gwerthfawr. Nid oedd absenoldeb o flwyddyn wedi oeri dim ar serch y naill at y llall; eithr i'r gwrthwyneb, yr oedd yn fwy angherddol, a phrofai yn ddiymwad fod eu dedwyddwch yn gorwedd yn nghwmni eu gilydd. Daeth y gwr ieuanc yn fuan i adnabod neillduolion cymeriadol ei gariadferch; a dyrchafodd hyny ei syniadau am dani-ystyriai ei beiddgarwch yn fath o rinwedd newydd yn ei nodweddiad. Treuliwyd yr wythnos gyntaf o ymweliad Griffin mewn rhodiana hyd fryniau a llechweddau yr ardal, a dawnsiai Gwenlliw ar grib clogwyn ag na buasai gafr yn meiddio sangu arno; hi chwareuai ar geulan rhaiadr ag y buasai llithriad ei throed bychan yn ei hyrddio ddegau o latheni i'r aig trochionog islaw. Yr oedd gwaed ei chyfeillion yn sefyll yn oer wrth sylwi ar ei heondra; ond pe ceisiasent ei darbwyllo o'r perygl ni buasai hyny ond ychwanegu ei beiddgarwch. Ar ol treulio diwrnod yn un o'r ymgyrchiadau hyn, yn yr hwyr cyd-eisteddai y cwmni oddeutu y tân, a throdd yr ymddiddan ar draddodiadau Cymreig. Yn mhlith ereill, dygodd Gwenllian y traddodiad am Gader Idris gerbron, sef, fod i bwy bynag a dreuliai noson yn y Gader fod naill ai "yn wallgof, yn fardd, neu yn farw " erbyn tranoeth. Dywedodd ddarfod i Taliesin a Myrddin fyned trwy y prawf llymdost, a dyfod i lawr o'r mynydd yn y boreu yn feirdd godidog. Dygodd Gwenlliw hefyd gerbron hanes Pendefiges y Gader' yn y 13eg ganrif, yr hon a benderfynasai brofi gwiredd y traddodiad yn y gobaith o gael eneiniad corn olew yr awen. Ymdrechodd ei chyffesydd a'i chyfeillion ei pherswadio o annoethineb ei phenderfyniad; ond nid oedd dim yn tycio: yn unig hi esgynodd y mynydd ar y noson appwyntiedig gan wynebu cynddaredd yr ystorm, ac aneirif ysbrydion y tywyllwch a ddawnsient yn yr oes hygoelus honno ar bob twmpath a bryn. Pan aed i ymofyn am dani boreu dranoeth, cafwyd hi yn welw a marw, a'r gwynt dideimlad yn siglo torchau ei gwallt du, sidanaidd, yn erbyn cerrig llwydion. y Gader; a'r difrifoldeb argraffedig ar ei gwynebpryd tirion yn profi yn ddiymwad mor galed fu angau wrthi. Gwrthodwyd iddi gladdedigaeth Gristionogol yn meddrod y teulu oherwydd ei hanufudd-dod i gynghorion ei hoffeiriad; ac o ganlyniad, ychydig o'i chyfeillion a'i pherthynasau galarus a'i claddasant hi yn ddistaw ac wylofus o dan domen o gerrig ar lechwedd y mynydd. Wedi adrodd y prudd—hanes uchod, cymerth Gwenlliw ei thelyn, a chwareuodd arni un o'r hen alawon syml a chynhyrfus Cymreig. a wefreiddiant yr enaid, ac a barant i Gymro anghofio ei ddyndod. Dylynai y fanon ieuanc y delyn mewn llais lleddf a thyner, yn gyntaf gyda geiriau gwladgarol rhyw hen fardd Cymreig; ac wed'yn mewn dernyn coeth teimladol o waith y farddones ddiguro honno, Mrs. Hemans. Yr oedd Gwenlliw wedi ei llyncu i fyny gan Hanes Pendefiges y Gader,'—ystyriai hi yn siampl i fenywod y byd, ac yn arwres deilwng i'w hefelychu.
"Ond nid felly am y gweddill o'r cwmni: un a'i beiai am ei rhyfyg, y llall a gondemniai ei hanufudd-dod i'w chynghorydd crefyddol, ac arall a wawdiai ei hofergoeledd yn y fath dyb wirionffol ond Griffin, oherwydd hynodrwydd yr hanes, ac yn unol âg arfer ei gydwladwyr call am bobpeth Cymreig, a wadai fodolaeth y Bendefiges o gwbl.
"Nid effeithiodd gwrthwynebiad ei brodyr a'i chwiorydd ond ychydig ar dymer Gwenlliw; ond chwerwodd geiriau diystyrllyd Griffin holl felusion ei henaid, a chan daflu golwg ddirmygus arno, hi a'i hanerchodd:—
"Nid ydych yn gwybod eto beth ydyw nerth penderfyniad merch; ond diamheu y cewch wybod cyn hir.' Ac er fod y geiriau yn cael eu llefaru gyda phwyslais dwys, a gwefr yn neidio o lygaid y ferch ieuanc wrth eu traethu, ni thybiodd neb o'r cwmni fod ystyr pellach iddynt nag arddangosiad o deimlad brwdfrydig ar y pryd.
"O hynny allan ni addurnodd gwên wyneb hawddgar Gwenlliw: hi edrychai yn synedig, fel pe buasai ei meddyliau wedi ymgladdu mewn rhyw gynlluniau pwysig. Yna daeth adeg y Nos da'wch,' ac Am y cyntaf i lawr yn y bore,' ac mewn prudd-der dyeithr yr ymadawodd Gwenlliw am ei hystafell-wely.
"Nid oedd meddwl Griffin chwaith yn gwbl dawel oherwydd ei amryfusedd yn gwadu un o hoff dybiau ei anwylyd. Y peth cyntaf a dynodd ei sylw wedi cyrhaedd o honno i'w ystafell, ydoedd chwiban cwynfanus y gwynt oddiallan; ac wedi codi llen y ffenestr, efe a welai yr awyr yn llawn cymylau duon mawrion bygythiol, a holl natur fel pe buasai yn y weithred o ddarllaw rhyw ystorm ddychrynllyd. Tynodd ei hunan yn ol mewn arswyd o ŵydd y fath olygfa gyffrous, a diolchai mai yn ystafell-wely gysurus y Talglyn yr oedd i dreulio y noson, ac nid ar fôr, neu ar un o lethrau digysgod y mynydd; ac, er i sŵn pruddaidd y gwynt ei süo yn fuan i gysgu, yr oedd ei feddwl yn llawn bywiogrwydd, yn crwydro o'r naill fangre i'r llall, a chreu mil myrdd o ddychymygion gwylltion a rhamantus.
"Ond y lle yr ymsefydlai arno yn fwyaf neillduol oedd Cader Idris. Breuddwydiai ei fod yn crwydro hyd ei chopa yn mhlith y cerrig mwsoglyd, gerllaw y gadair doredig yn y graig, a'r aphwys dychrynllyd islaw iddo. Ac nid oedd y Gader yn wâg. Eisteddai ynddi un o ymddangosiad fenywaidd. Efe a welai ei gwisg wen yn siglo trwy dywyllwch y nos; a'i gwallt rhydd yn ymdóni o flaen yr awelon, ac un llaw iddi fel pe yn gorchuddio ei llygaid rhag rhyw olygfeydd annymunol, tra yr ymgydiai y llall yn mraich yr orsedd. Rhuai y taranau yn y clogwyni fel pe buusent yn eu malurio yn deilchion, a fflachiai y mellt yn ffyrch flamllyd, gan amgylchu pen y foel â thalaith o dân, âc wed'yn disgynent yn is, gan daflu eu gwawl brwmstanaidd ar y druanes a eisteddai ei hunan yn nghanol cynddaredd yr elfenau. Yna ymdywalltai yr ystorm yn ei holl nerth ar ben y mynydd-yn gesair hyrddiedig gan wynt, a'r ffurf welw yn y Gader gyfareddol a oddefai y cyfan. Clywai y breuddwydiwr leisiau annaearol yn gymysgedig â gruddfanau y corwynt, a gwelai glytiau mawrion o iâ yn llithro heibio yn nghanol luwchfeydd, gwlaw a chenllusg; ac yn ngoleuni y fellten ddiweddaf, gwelai y ddrychiolaeth yn tynu ei llaw oddiar ei llygaid, ac yn datguddio gwynebpryd geneth ieuanc-gwyneb Gwenlliw-mor angeuol ei thremyn, mor llawn o drallod chwerw, fel y deffrodd y breuddwydiwr yn grynedig, a dafnau mawrion of chwys yn crogi ar ei ddwy ael.
"Bu yn myfyrio am enyd beth allasai fod ystyr y weledigaeth ryfedd, ond meistrolodd cwsg ef eilwaith; a deffrodd mewn bore brâf yr awyr yn lâs, yr adar yn llawen ganu, a'r coed a'r maesydd wedi adfywio ar ol y dymhestl. Aeth i lawr i'r ystafell foreufwyd gyda chalon ysgafn, lle yr oedd Gruffydd a'i ddau fab a'i ddwy ferch henaf, ac wedi cyfnewid moesgyfarchiadau, gwelwyd fod Gwen yn absenol.
"Anfynych y mae hi yn olaf,' ebe ei thad, anfonwch ei llaw- forwyn i'w hysbysu ein bod oll yn disgwyl am dani." "Daeth y forwynig yn ol, gan ddyweyd fod drws ei hystafell yn glöedig, ac iddi guro amryw weithiau, heb gael un ateb. Synasant at yr hysbysiad hwn: aethant oll i fyny ar frys, yn cael eu blaen- ori gan y penteulu; yr hwn a alwodd wrth ddrws yr ystafell, mewn llais crynedig:-
"Gwen! Gwenlliw, fy anwylyd.'
Dim ateb. Torwyd y ddôr, ac yr oedd yr ystafell yn wag, y ffenestr yn agored, a darn o riban ar yr astalch oddiallan wedi ei fwydo a'i ddrygliwio gan y gwlaw. Adwaenid ef fel eiddo Gwen- lliw; a chasglwyd oddiwrth hyn fod y ffoadures allan cyn i'r ystorm ddechreu, ac i hwn syrthio oddiwrthi ar ei hymdaith. Yr oedd pob mynwes erbyn hyn yn faes ymryson gwahanol opiniynau, a chrebwyll pob un ohonynt ar lawn waith; ymddangosai Gruffydd wedi ymgolli mewn syndod-nid ynganai air am enyd wrth neb.
"Rhaid ei bod wedi myned cyn yr ystorm,' ebai y ferch henaf.
"Neithiwr yn yr ystorm!' ebai ei thad o'r diwedd, rhaid fod fy anwyl, anwyl eneth yn wallgof; neu ai tric ydyw y cwbl? Na, ni feddai hi galon allai gellwair yn y dull yma.'
"Tra yr oedd y syfrdandod a'r penbleth hwn yn parhau, ym- saethodd drychfeddwl ofnadwy trwy enaid Griffin, gyda nerth a chyflymdra un o'r mellt a welsai yn nghwsg-ei freuddwyd-yn ymryson yn nghylch Pendefiges y Gader,' a'r penderfyniad diysgog hwnw yn argraffedig ar ei hwynebpryd pan ymadawodd efe à hi y noson flaenorol.
"Mi wn i yn mh'le y mae hi,' meddai, ar y mynydd ar Gader Idris yn wallgof, neu yn farw cyn hyn! a minau hurtyn, fu'r prif achos i'w hanfon yno!'
Fy anwyl gyfaill ieuanc, y mae eich pryder yn peri i chwi siarad yn ynfyd. Cader Idris! pa fodd y dichon iddi fod yno? Anmhosibl!' ebai y tad.
'Y mae hi yno,' ebai Griffin, ac argyhoeddiad dwfn o wirionedd yr hyn a ddywedai yn glywedig yn ei lais. Hi soniodd neithiwr am fyned trwy y prawf llymdost o dreulio noson yn y Gader; a ninau yn cysgu tra yr oedd hi yn marw yn y dymhestl. Dilynwch fi yn ddioed; a dygwch gyda chwi ryw gordial adfywiol, os nad yw o drugaredd yn rhy hwyr.'
"Llefarai gyda'r fath awdurdod fel y lladdodd bob gwrthwynebiad yn y fan, a chyn pen pum' munyd yr oeddynt yn prysuro at odreu y mynydd. Efe a'u blaenorai hwynt oll: yr oedd ei galon ar dân; a theimlai mor ysgafndroed a'r ewig buan. I fyny hyd y cerrig rhyddion, heibio i'r twmpathau eithin a'r llwyni grug, heibio i'r ffrydiau sidellog a'r creigiau brawychus, ar hyd llwybrau geifr a mân ddefaid y mynyddoedd, ac efe a safai gan ddyheu ychydig latheni islaw y Gader.
Sylweddolwyd ei freuddwyd. Yno yn ei gwisg o fuslin a'i mantell fraith, wedi ei llygru gan y gwlaw a'r pridd, yr eisteddai Gwenlliw mor oer a'r Gader ei hunan. Ei gwallt hir didrefn yn gorchuddio ei gwyneb prydferth; a'i dwylaw bychain wedi eu tyn-blethu yn eu gilydd. Gwasgodd hi i'w fynwes mewn dull haner. gwallgofus, galwodd arni wrth ei henw, gwahanodd y gwallt gwlyb oddiar ei hwyneb, a gwelai yno yr un ddelw o drueni-yr un argraff o gyfyngder ac arswyd ag a bortreadwyd iddi gan ei ddychymyg mewn breuddwyd.
"Ond yr oedd ei thafod hi yn rhy gaeth i ddyferu gair o gysur iddo yn ei adfyd, y llygad gloew bywiog megis wedi sefyll, gan hylldremu ar bethau dychrynadwy, a'r galon oedd ddoe yn chwyddo gan serch wedi oeri am byth. Claddwyd hi wedi machlud haul tu cefn i eglwys y plwyf,-lle beddrod estroniaid, a'r dosparth hwnw o ddynolryw a aberthant fywyd ar allor drychfeddwl. "Oherwydd amgylchiadau ei marwolaeth, ni ddarllenwyd y Gwasanaeth Claddu. Yr ochenaid yn unig a dorai ar ddistawrwydd y seremoni, hyd oni ddiangodd y geiriau hyn o enau y tad: "Gwyn ei fyd y puro galon;" ac yr atebwyd ei ddymuniad gan "Amen" pawb oedd yn bresenol.
"Teimlai Griffin ei galon yn hollti yn ysgyrion, a phob peth anwyl ganddo ar wyneb daear yn cael eu claddu gyda'i anwylyd. Aeth yn ol o Gymru, byth i ddychwelyd mwy; a seriwyd delw Cader Idris, a Gwenlliw brydferth farw yn eistedd ynddi, ar lechres ei galon nad all amser a'i amgylchiadau byth eu dileu."
Yn awr, rhoddaf y pleser o ymchwiliad i bob ymwelwr â Dolgellau a'i Chader, i gael allan y safleoedd a awgrymir yn yr hanes hwn, sef, yn gyntaf, Arsyllfa Seryddol Idris Gawr: yn ail, y llwybr oddiar ba un y taflai'r cawr y "graian" o'i esgidiau: yn drydydd, y mangrëoedd bu "Pendefiges y Gader," Gwenlliw a'r Prydydd Hir mewn cwsg ac ymchwil am wybodau yn bedwerydd, man y safai Eglwys Gwanas: ac yn bumed, safle etifeddiaeth Talglyn— cartref gwych Gwenlliw, cariadferch y Sais-gyfreithydd. Dygir Gwanas i sylw o'r cyfnod Derwyddol, gydag "Englynion y Beddau," neu gof-englynion Beddau Milwyr Ynys Prydain, megys,—
"Y beddau hir yn Ngwanas,
Ni chafas ac dioes
Pwy fynt hwy, pwy eu neges."
Hynny yw, "Pwy a'u myn, neu pwy a'u nacâ." Eto,—
"Bedd Gwrgi Gwychydd, a Gwyndodydd Ler,
A bedd llawr Lluofydd,
Yn ngwarthaf gwanas gwir y sydd."
Eto,—
"Teulu oeth ac anoeth a dyn y noeth,
Yeu gwr yeu guas,
Ae keissio uy calet guanas."
Credai Carnhuanawc fod y cyntaf mor hen fel nad oes son am dano hyd yn nod yn yr oesoedd cynar, ond fod y llall yn ddiweddarach. Mae'r beddau hir" wedi cau am ryw Dderwyddon o nod yn llosgedig, neu heb waith tân, canys cafwyd cynwysiad aml fedd yn y naill ffordd neu'r llall. Camp a fyddai cael deongliad cywir o'r trydydd uchod.
Eto, beddau ereill ar lan y mor,—
"Yn Abergenoli y mae bedd Pryderi,
Yn y tereu tonau tir
Yn Carrawe bedd Gwallawc Hir."
Wrth Abergenoli deallir Abergynolwyn. Pryderi ab Pwyll Pen. Annwn, penaeth Dyfed, a chymeriad hynod yr hen ramantau Cymreig. Lladdwyd ef gan Gwydion ab Don mewn brwydr law-law a gymerth le gerllaw Rhyd Melenydd ar yr afon Cynfael, yn Ardudwy. Un awdurdod a esyd ei fedd yn Maen Tyriawg, ger Ffestiniog. Geilw Lewis Glyn Cothi Dyfed yn "wlad Pryderi," a Dafydd ab Gwilym a'i geilw yn "Pryderi dir." Gwallawg ab Lleenawg oedd benaeth ar ran o Bowys, tua'r Amwythig, yn y 6ed ganrif. Rhestrir ef gyda Dunawd Fflur a Chynfelyn Drwsgl fel "tri phost câd Ynys Prydain." Dywed y Brutiau Cymreig ei fod yn un o'r marchogion oedd yn bresenol yn nghoroniad y brenin Arthur. Cwympodd yn nghâd olaf y teyrn hwnw â'r Rhufeiniaid. Ar lan afon Carrog, yn Arfon, yr huna.
Eto,—
"Bed Guydion ap Don yn Morva Dinllen,
Dan fain dyfeillion,
Garanawe y geiffyl Meinon."
Nis gall Carnhuanawc ddeongli namyn y llinell gyntaf. Gwna ymgais fel hyn:—"Dan y meillion man," medd rhai; "Dan feini a meillion," medd ereill; ac am y gair Garanawe, ni wyddys pa un ai enw priodol yw, ai nad e." Amryw flynyddau yn ol, arosai gweddillion nodedig a elwid Carneddi Hengwm, yn Ardudwy, a berthynent i'r Derwyddon, y rhai a amgauent am esgyrn rhai o ddewrion yr ardal honno, pan oedd yr hen genedl yn ei thrafferthion mwyaf gyda'i chrefydd a'i châdau âg estroniaid. Ond galarus yw adrodd ddarfod i ryw Vandaliaid o Gymry gario meini a wnai i fyny'r beddau uchod, i godi gwahan—furiau tyddyn gerllaw iddynt!!
"Gwanas pob urddas eurddull Padrig,"
a olyga gynhalydd, gan Fadawg fardd i esgob Bangor.
"Marchwiail bedw briglas,
A dyn vyn troed a wanas,
Nac addef dy rin y was,"
sy'n driban Derwyddol, yn golygu cyffion, neu sefyllfa o gaethiwed.
"Ac eur coeth ar ddiwanas."
A cheir ei ystyr yn foglam, ag ymddiddan rhwng Ugnach ab Mydno a Thaliesin,―
"Afallen peren pren hyduf glas,
Pywaur y chagev hy ae chein wanas."
Gwedd neu ffurf a olygir gan y diweddar Hybarch D. Sylvan Evans. Safai eglwys a chorphlan Gwanas gynt am yr afon a Thy Bach y Llan, a choffheir y naill âg ywen yn y blynyddau hyn, ac y mae'r penill canlynol a "Dol y Ddelw" yn coffhau'r un pethau,—
"Mae yno ynn ac ywen drefnus,
Mae yno ywen lân gariadus;
Mae yno gapel mawr ei rinwedd,
Lle mae'r ddelw lwyd yn gorwedd."
Fel yna y saif hanes lleoedd a phethau yn nghroniclau Cymru Fu, pan oedd Dolgellau fel ei phreswylwyr yn gwisgo unplygrwydd a symlrwydd Cymreig pobpeth mewn hanes personau a lle yn dwyn teithi plaen a gonest, ac os oedd llai o ddysg a defodaeth eglwysig ar gerdded, meiddiwn ddyweyd nad oedd hanes cymeriad gwlad fymryn îs mewn ystyr gymdeithasol nag ydyw heddyw, er ei bost mewn addoldai, colegau, ysgolion a chyfleusterau lu mewn cyfeiriadau ereill. Medr y pethau a enwyd wella penau dynion, ond rhaid cael yr Athrofa uchod i ddwyn calon dyn i drefn, a gwyn fyd yr ychydig bobl hynny a änt yn effeithiol trwy surgery. gras Duw. Sieryd "adgof uwch anghof" ynom am yr Ymwelydd â Dolgellau cyn i'r un argraphwasg gael y fraint o ddwyn enw y dref na'i Chader o flaen y cyhoedd, cyn i olwyniad trystfawr y gerbydres aflonyddu ar heddwch mynwentawl y gym'dogaeth, nac i newyddion y fro gael eu treiglo ymaith trwy gyfrwng y llythyrdy a'r mellt. Safai'r Gader—hen Arsyllfa Idris—y pryd hwnw mor dalgryf ag heddyw, ac a weithredai ei rhan fel Edna, neu Vesuvius, gan ei dirdyniadau (convulsions), er braw a rhyfeddod i Ddolgellau a'r cylchoedd. Yn mha gyfnod y chwareuai'r mynydd hwn ei gampau tanllyd a rhwysgfawr, nis gwn,—cyn neu wedi oes Idris Gawr, ni sieryd hanes na thraddodiad, gan na welodd un gohebydd yn dda gario'r digwyddiadau i Echo ei oes. Ond erys Cader Idris yn ddigryn y dydd hwn, er fod tònau amser wedi cario holl enwogion y fangre hynod i "ffordd yr holl ddaear." Y mae'r dref yn arddangos llawer o'i hen ddiwyg Cymreig, er cymaint o fyned i fewn ac allan y bu yr holl genhedloedd, a gwena'r Wnion a'r Aran ar bawb a phobpeth, fel arferol, gan awgrymu'n gellweirus nad posibl newid anianawd y Cymro i'w dynu i lawr, rhag niweidio ysbryd a thrâs y cymeriad cenedlaethol, a fu mor hynod yn nodweddu ei gyndadau.
Mor swynol yw Dolgellau, yn nghesail bryniau ban,
Dan wenau cóg a meillion, a thawel, fwynaf fan;
Mae'n sefyll wrth ei Chader, o dan henafol fri,
Tra'r Wnion dêg a'r Aran yn gwenu arni hi.—YR AWDWR.
Yn y blynyddau o'r blaen trafaelid, nid â thrên, eithr â'r stage coach, fel y nodwyd yn barod, ar y dechreu, i'r lleoedd o'r tu allan i Ddolgellau, a rhag i'r ymwelwr feddwl nad ellid cyfeirio corpws, bag and baggage," i'r pwynt deheuol o'r dref, y gellid rhoi hynt a llwybr cerbyd a cheffyl yn y wedd a ganlyn (yn ol teithlyfr Cary, yn 1798):-
Dolgelle to | M | F | M | F | |
Llan Eltyd | 1 | 4 | 211 | 3 | |
At Llan Eltyd on r a TR to Caernarvon on l to Barmouth | |||||
Llanbedr | 14 | — | 225 | 3 | |
Llanvair | 1 | 4 | 226 | 7 | |
Harlech | 1 | — | 227 | 7 |
INN, DOLGELLE-Golden Lion.
Within 2 miles of Dinas Mouthy on r. is Caerynwch, R. Richards, Esq. About a mile from Dolgelle, on 1. is Hengwrt Hall, G. Vaughan, Esq. About 2 miles on the r. of Dolgelle is Nanney Hall, Sir R. Vaughan. Mae'r seren (*) wrth enw Harlech yn golygu ei bod yn dref farchnad; ond beth am dani'n awr, yr hen ffordd, yn ei threfn a'i thwrw o drafaelio-pobpeth wedi newid, a'r manau oddiamgylch nid adwaenai eu hen breswylwyr," dull y byd hwn yn myned heibio," ydyw y gwirionedd nas gellir ei anwybyddu.
Os cymer yr ymwelydd ddyddordeb mewn "bwrw bach" i geg pysgodyn, wele orsafau cyfoethog i hynny
PELLDER O DDOLGELLAU.
Llanfachraith — 3½
Pont Dolgeflian — 8
Dol-y-gamwedd — 3½
Llyn Creginan — 4
Llyn y Gader — 1½
Llyn y Ceirw — 5
Tal-y-llyn — 8
CAERNARFON:
ARGRAPHWYD GAN W. GWENLYN EVANS, SWYDDFA'R "GENINEN
POOL STREET.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Ar faes llên a barddas arddelwa beirdd o fri eu hunain ar enw'r afon. brydferth hon, nid amgen Glan Wnion, Dolgellau, a'r Parch. E. Wnion Evans, Derwenlas, Machynlleth.
- ↑ Am hanes diddorol a darlun o'r Senedd-dy (gweddillion yr hwn a erys eto) ym Machynlleth, gweler Y Gwladgarwr, 1836, tud. 37; ar un yn Nolgellau yn Ngweithiau Glasynys, 1898, casgledig gan Mr O. M. Edwards, M.A
- ↑ Placed on an eminence. Camden says it was a castle built by onc Caius, a Roman. The Britons ascribe it to Gai, foster brother to King Arthur. It probably was Roman, for multitudes of coins have been found in the neighhourhood, and it is certain that it has been a fortress to defend this pass. Row. Fychan, Ysw., boneddwr a llenor, a chyfieithydd Ymarfer o Dduwioldeb, &c., a fywiai yma'n amser Siarl I.
- ↑ Robert Lewis, un o drigianwyr hynaf y dref, ac a fu'n canu clychau Eglwys St. Mair ar achlysur Coroniad tri o Benau Coronog Prydain Fawr, a noswyliodd trwy angau Rhagfyr 5ed, 1903, yn 87 mlwydd oed.
- ↑ Yn ol Mr. Wynne, o Beniarth, yn ei History of the Parish of Llanegryn, perthynai perigloriaeth a buddianau y lle hwnw a Llanilltyd a Llanfachraith i Fynachlog y Cymer; a Browne Willis a Dugdale a ddywed fod degymau y plwyfi uchod yn daladwy i'r unrhyw.
- ↑ A enwid felly oddiwrth "Ceri Hir Lyngwyn," taid Caradog, medd y diweddar Barch. John Jenkins, M.A., Ficer y plwyf.
- ↑ Meini.
- ↑ Fflint
Bu farw awdur y gwaith hwn cyn 1 Ionawr, 1924, ac mae felly yn y parth cyhoeddus ledled y byd gan fod yr awdur wedi marw ers dros 100 mlynedd yn ol.