Neidio i'r cynnwys

Dolwar Fechan (Cartrefi Cymru OM Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Cynhwysiad' Cartrefi Cymru, O. M. Edwards

gan Owen Morgan Edwards

Tŷ Coch

Mae Dolwar Fechan yn bennod yn Cartrefi Cymru casgliad o ysgrifau gan Owen Morgan Edwards (1858–1920) a chyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, ym 1896.

Testun

[golygu]

CARTREFI CYMRU.

________


DOLWAR FECHAN.

Yr wyf yn eistedd mewn ystafell hirgul, gyda nenfwd isel, a ffenestri yn edrych allan i dri chyfeiriad, yn unig westy Llanfihangel yng Ngwynfa. Dyma brif ystafell y pentref, - yn hon yr ymgyferfydd pob pwyllgor gwledig, yn hon y bydd cinio rhent Syr Watcyn, yn hon yr ymgyferfydd y clwb, yn hon y traethwyd doethineb cenedlaethau o ffermwyr ar adeg priodas a chynhebrwng. Ond heddiw y mae'n ddigon gwag, nid oes ynddi ond y ddwy res hir o gadeiriau, y ddau hen fwrdd derw, a minnau deithiwr blin yn ceisio dadluddedu ac ymlonni trwy yfed trwyth rhinweddol dail yr India. Trwy'r drws agored gwelaf goesau meinion yr hen glochydd sy'n hepian wrth bentan y gegin, a thrwy'r tair ffenestr gwelaf y glaw yn ymdywallt i lawr trwy'r coedydd tewfrig deiliog, trwy'r onnen a'r fasarnen, a hyd gadwyni aur banadlen Ffrainc. Y mae cerbyd gwlad yn fy nisgwyl, ond ni wiw cychwyn trwy law taranau mor drwm,- er hyfryted ydyw ar ôl poethder llethol un o ddyddiau olaf Mehefin. A thra bo'r glaw taranau'n peidio, a'r coed yn gorffen diferu, mi ysgrifennaf hanes digyffro taith y dydd.

Yn weddol fore cychwynnais o Lanfyllin i weld gwlad Ann Griffiths, - ei bedd, a'i chartref, os medrwn. Nid oedd y ffordd yn rhwydd i'w cherdded ar ôl y glaw, a phan ofynnais i hen fforddolyn tâl, ai honno oedd ffordd Llanwddyn, atebodd yn awgrymiadol mai dyna ei dechrau hi. Ond yr oedd perarogl y gwrychoedd a'r caeau, a'r lliwiau tyner, yn gwneud iawn am drymder y ffordd. Wedi cerdded tua thair milltir dywedodd bachgennyn arafaidd wrthyf fy mod yn Llawr y Cwm, lle gwelwn gapel Methodist bychan yn ymnythu rhwng torlan ac afonig. Cyn i mi fyned nepell ymlaen, cyfarwyddodd torrwr cerrig fi i ffordd gul oedd yn gadael y ffordd fawr, ac yn dirwyn i fyny hyd ochr y bryn. Toc cyrhaeddais ben y tir, a gwelwn droliau gwaith dŵr Llanwddyn yn ymlusgo i fyny'r dyffryn hyd ffordd y gwaelod.

Wedi gadael cysgod coed, does i gaeau agored, ar ben y gefnen, a gwelwn hen ŵr rhyngof a'r goleu, yn sefyll, ac fel pe'n disgwyl. Yr oedd yn disgwyl ei fab adref o Loegr, ond buan y trechwyd ei siomedigaeth gan gywreinrwydd. Nid rhyw lawer o sôn sydd am Ann Griffiths ar ororau Maldwyn yn awr, ebe'r hen ffarmwr, ac ac nid rhyw lawer o ganu sydd ar ei hemynau, dim hanner cymaint â chynt. Wrth i ni ymgomio yr oedd llwyni o goed ar fryncyn o'n blaenau, a gwelwn oddi wrth eu duwch fod ywen ymysg y coed. "Dacw Lanfihangel," ebe'r hen ŵr, "a dacw fur y fynwent lle mae'r hen Ann wedi ei chladdu."

Cerddais o amgylch y fynwent i ganol y pentref. Y mae ar fryn gweddol serth, a'r eglwys a'r fynwent yn uchaf man. O ddrws y fynwent rhed y ffordd i lawr rhwng ychydig o dai, siop pob peth, tŷ tafarn, ysgol waddolwyd gan un o Fychaniaid Llwydiarth, a choed ddigon. Es i mewn i'r fynwent, sychodd pladurwr oedd yn torri gwair y beddau ei chwys, a dywedodd, -"Ie, dacw gofgolofn yr hen Ann." Peth digon rhyfedd fod y bobl yn ei galw'n hen Ann, a hithe wedi marw'n saith ar hugain oed.

Cyn i mi gael hamdden i sylwi ar y fynwent, gwelwn lu o blant yr ysgol, plant iach a llawn bywyd, yn prysuro i edrych ar y dyn dieithr. Byddaf yn hoff iawn o blant gwlad, - nid ydynt yn hyfion ac yn dafotrwg fel plant tref, - a bûm yn holi plant Llanfihangel yng Ngwynfa am hoff ddaearyddiaeth Cymru. Yr oeddynt yn ddeallus, a gwelwn yn eglur fod eu hathro yn medru Cymraeg ac yn meithrin eu meddyliau. Pan oedd arnaf eisiau cael y fynwent drachefn heb neb ynddi ond myfi a'r meirw, gofynnais faint oedd pris plant yn y pentref, — plant tewion graenus fel hwy, — a chyda bod y cwestiwn dros fy ngwefusau, yr oedd eu cefnau oll tuag ataf, a llu o draed bychain yn cyflymu i lawr y llwybr hir sydd rhwng porth yr eglwys a drws y fynwent. A gadawyd fi'n unig ymysg y beddau.

Safle caer yw safle mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa, - saif ar fryncyn, nid yr uchaf yn y gymdogaeth, ond un o'r rhai uchaf. O'r porth sy'n wynebu ar y pentref rhed llwybr hir rhwng mangoed at ddrws yr eglwys,- adeilad newydd. Wedi cyrraedd hanner y llwybr, os edrych y teithiwr ar ei aswy, gwêl gofgolofn o wenithfaen,- nid un fwy na cholofnau ar filoedd o feddau dinod ym mynwentydd Cymru, ac arni'r geiriau, -

ER COF
AM
ANN GRIFFITHS,
DOLWAR FECHAN,
GANWYD 1776.
BU FARW 1806.

Nid oes Gymro fedr sefyll ger bedd Ann Griffiths heb deimlo ei fod ar ddaear sancteiddiaf ei fynyddoedd. Ac mor dawel ydyw'r fynwent! Ni chlywir sŵn ond su'r bladur wrth nofio trwy'r glaswellt draw,- y mae pob aderyn yn ddistaw ar y bore hafaidd heulog, ni chlywir sŵn y plant sydd yn yr ysgol lwyd gerllaw, prin y medrir clustfeinio digon i glywed dwndwr yr aber sydd yn isel oddi tanodd yn y dyffryn. Gorwedd y wlad fel breuddwyd angel oddi amgylch, - yn dawel, dan ei blodau, ac yng ngoleuni disglair haul. Rhwng y coed sydd gydag ymyl y fynwent, gwelwn ddyffrynnoedd a choedydd, a'r mynyddoedd sy'n gwahanu Maldwyn a Meirionnydd. Ac arnynt i gyd gorweddai tangnefedd canol haf. Ac i rai sy'n huno ym mynwent ael y bryn y mae tangnefedd mwy. Wedi ieuenctid nwyfus, wedi pryder priodi a dechrau byw a geni, wedi tymhestloedd ac ofnau, wedi cyfarfod Angau ymhell cyn i hwyrnos bywyd guddio hagrwch ei wedd, wedi hyn oll, -

O ddedwydd ddydd, tragwyddol orffwys
Oddi wrth fy llafur, yn fy rhan,
Yng nghanol mor o ryfeddodau,
Heb waelod, terfyn byth, na glan:
Mynediad helaeth mwy i bara
O fewn trigfannau Tri yn Un.
Dwfr i nofio heb fynd trwyddo,
Dyn yn Dduw, a Duw yn ddyn.

Byw heb wres, na haul yn taro,
Byw heb ofni marw mwy;
Pob rhyw alar wedi darfod,
Dim ond canu am farwol glwy';
Nofio yn afon bur y bywyd,
Bythol heddwch sanctaidd Dri,
Dan dywyniadau digymylau
Gwerthfawr angau Calfarî.

Yn yr unig lythyr o'i heiddo sydd ar gael, llythyr ysgrifennodd wedi priodi, a phan oedd ei bywyd byr ymron ar ben, dywed, — ANNWYL CHWAER,—'Rwif yn gweled mwy o angen nac erioed am gael treilio y rhan su yn ôl dan rhoi fy hyn yn feunyddiol ac yn barhaus, gorph ac enaid, i ofal yr hwn su yn abal i gadw yr hyn roddir ato erbyn y dydd hwnnw. Nid rhoi fy hun unwaith, ond byw dan roi fy hun, hyd nes ac wrth roi yr tabarnacle hwn heibio. Annwyl chwaer, mae meddwl am i roi o heibio yn felys neillduol weithiau,—nid marw ynddo ei hun, ond yr elw mawr sudd yw gael trwyddo.

Syrthiodd cysgodion tragwyddoldeb ar ei henaid pan nad oedd eto ond ieuanc iawn; daeth y mynyddoedd tywyll i'r golwg pan oedd yn teithio rhan rhosynnaidd heulog ei llwybr, a'i hysbryd yn ysgafn a'i ffurfafen heb gwmwl; y mae nwyf a melystra ieuenctid yn ei chan, a mawredd tragwyddoldeb hefyd. Am bob un o'i hemynau gellir dweud y geiriau sydd ar ddiwedd ei llythyr,—

Hyn oddi wrth eich chwaer yn cyflym deithio trwy fyd o amser i'r byd mawr a bery byth.

Ac wedi ofni grym pechod, wedi cario corff o lygredd, wedi wynebu'r afon donnog, aeth heibio i'r byd mawr a bery byth.

O'r fynwent trois tua chartref Ann Griffiths. I'm cwestiwn parthed hyd y ffordd cawn amrywiol atebion,- pedair milltir a hanner ebe un, tair milltir ebe un arall, a sicrhau y trydydd fi mai dwy filltir a hanner union oedd i Dolwar Fach. Cerddais i lawr y bryn , croesais afonig red dan goed cysgod fawr, a dringais ochr bryn sydd ar gyfer y pentref. Cefais fy hun ar ffordd fryniog, weithiau'n dringo bryn ac yn disgyn yn ebrwydd wedyn, gan syllu ar aeddfedrwydd cyfoethog y wlad, a'r haul yn gwenu drwy gymylau ar y gwlith, —

"Gwlad dda, heb wae, gwlad wedi ei rhoi dan sêl,
Llifeirio mae ei ffrwyth o laeth a mêl;
Grawn sypiau gwiw i'r anial dir sy'n dod,
Gwlad nefol yw, uwch law mynegi ei chlod.


Toc does at groesffordd ar waelod cwm; trois ar y de hyd ffordd a'm denai i'w chysgodion. Ar y naill law yr oedd craig, weithiau'n noeth, weithiau'n dwyn baich o goed a blodau; ar yr ochr arall yr oedd caeau gwyrddion serth. Rhedai afonig yn dryloyw, dan furmur yn ddedwydd. Uwch ei phen ymblygai bedw a chyll; estynnai y coesgoch ei phen dros y lan, i weld ei llun mewn llyn tawel; aml lecyn gwyrdd welais ar fin y dŵr, llawn o lysiau'r neidr a llafrwyn a'r olcheuraid, gyda chwys Mair a'r feidiog las dipyn ymhellach oddi wrth y dŵr, a rhedyn tal yn edrych ar eu prydferthwch oddi ar ochr y bryn. Canai miloedd o adar,- ni wiw i mi ddechrau enwi'r côr, - oddigerth pan ddistawent tra canai'r gog, yr hon oedd heb weld gwair wedi ei dorri yn unlle. Sylwn yn fanwl ar bopeth, oherwydd gwyddwn fod Ann Griffiths wedi cerdded y llwybr hwn filoedd o weithiau; gwyddwn mai wrth syllu ar ryw afonig neu fynydd y byddai'n dechrau canu, ac yna ehedai ei meddwl ymhellach bellach oddi wrthynt at bethau byd a bery byth. Pwy a ŵyr nad yn sŵn yr afon hon y canwyd gyntaf, —

Ffrydiau tawel, byw rhedegog,
O dan riniog tŷ fy Nuw,
Sydd yn llanw, ac yn llifo
O fendithion o bob rhyw;
Dyfroedd gloyw fel y grisial,
I olchi'r euog, nerthu'r gwan,
Ac a ganna'r Ethiop duaf
Fel yr eira yn y man.

Ac ym miwsig yr afon, gyda'i nodau llon a lleddf, dychmygwn glywed geneth yn canu o lawenydd ei chalon,—

"Byw i weld yr Anweledig,
Fu farw ac sydd eto'n fyw;
Bythol, anwahanol undeb,
A chymdeithas a fy Nuw."

Yn nes ymlaen y mae'r afon, fel merch ieuanc yn wynebu treialon byd, yn disgyn i lawr glynnoedd dyfnach,—weithiau yn y dyrys leoedd, fel pe mewn anobaith; weithiau'n llithro'n wyllt dros greigiau, fel pechadur afradlon ar ei yrfa; weithiau'n gorffwys mewn llyn tawel, dan wenu ar yr haul neu lechu'n wgus dan goed. Ychydig y mae Ann Griffiths wedi canu am droeon yr yrfa,—Williams Pant y Celyn a'u darlunia hwy o'u canol, a David Charles Caerfyrddin o fryniau Caersalem, - yr oedd ei hiraeth cryf am Dduw yn gwneud iddi hi anghofio blinder ac ofnau'r daith. Ni sonia hi am demtasiynau, ond er mwyn cael canu am goncwest; ni chan am flinder, ond er mwyn cael canu am yr Hwn a'i cysurai,—

"Digon mewn llifeiriant dyfroedd,
Digon yn y fflamau tan."

Toc gadawodd yr afonig a minnau gwmni ein

gilydd; aeth hi trwy gwm dwfn tua'r Fyrnwy, dechreuais innau ddringo bryn lled serth, a gwelwn Dolwar Fawr ar y llaw dde i mi, dipyn o'r ffordd. Yr oedd y cymylau erbyn hyn wedi clirio, yr oedd yr hin yn boeth orlethol, ac yr oedd tarw mewn cae cyfagos yn beichio dros y wlad ac yn dilyn ar fy ôl. Daeth i'm meddwl bennill welais, wedi ei ysgrifennu gan Ann Griffiths a'i llaw ei hun, —

"Er mai cwbl croes i natur
Yw fy llwybr yn y byd,
Ei deithio wnaf, a hynny'n dawel,
Yng ngwerthfawr wedd dy wyneb pryd;
Wrth godi'r groes, ei chyfri'n goron,
Mewn gorthrymderau llawen fyw,
Ffordd yn uniawn, er mor ddyrys,
I ddinas gyfanheddol yw."

Ni welwn o'm blaen ddim, cyfannedd nag anghyfannedd, ond y llwybr syth yn mynd i fynu'r bryn, a'r gwrychoedd o boptu'n gwywo yng ngwres llethol yr haul poeth. Ond yn y man, wrth edrych ar hyd y llwybr, fel yr oeddwn yn dynesu at ben y rhiw, gwelwn fynyddoedd pell, fel breuddwyd gwr ieuanc, yn ymgodi'n brydferth a gwyrdd. Cerddais hyd ffordd weddol wastad hyd nes y does at lidiart y mynydd. Ar yr aswy yr oedd y mynydd rhydd braf, gydag eithin a danadl poethion a brigau'r twyni'n tyfu ar hyd-ddo, a bryniau Maldwyn yn hanner cylch y tu hwnt iddo. Ar y dde gwelais lidiart, a banadlen Ffrainc, yn holl gyfoeth ei chadwyni aur o flodau, yn crogi uwch ei phen. Es trwy'r llidiart hwn, ac wedi cerdded ychydig funudau gwelwn Dolwar Fechan o'm blaen. Nid oes dim yn hynafol nac yn rhyfedd yn y lle, gwelir ugeiniau o ffermdai tebyg rhwng bryniau hyfryd Maldwyn. Y mae'r tŷ'n newydd, a golwg lan a chysurus arno yng nghanol ei erddi blodau ar lethr y bryn. Ychydig yn nes i lawr, ar waelod y dyffryn bychan, y mae'r adeiladau, — yr ysguboriau, y beudai, yr helm drol, — rhai ohonynt fel yr oeddynt pan oedd Ann Griffiths yn dysgu cerdded gyda'u muriau. Yn nes i lawr y mae'r cadlesoedd, dan gysgod pinwydd, ac yna weirgloddiau dan eu gwair.

Prysurais i lawr at yr adeiladau, gan groesi'r ffrwd sy'n rhedeg o'r ffynnon, — dyfroedd gloyw fel y grisial welodd Ann Griffiths lawer blwyddyn cyn darllen hanes y dwfr yn tarddu dan yr allor yn seithfed bennod a deugain Eseciel. Oddi wrth yr adeiladau hyn, dringais i fyny at y tŷ, gan geisio dyfalu pa fath bobl oedd yno. Es trwy lidiart yr ardd, a phan oeddwn yn edmygu'r blodau, daeth hen wraig hardd, a'i wyneb yn wenau i gyd, i'm croesawu.

"Dyma Dolwar Fach, ynte?"

"Ie, dowch i fewn o wres yr haul. Ydech chwi'n dwad o bell, gen mod i mor hyf â gofyn?" "Mi gerddais o Lanfyllin; sawl milltir gerddais i?"

"Wyth. Y mae arnoch chwi eisio bwyd; dowch at y bwrdd i gymeryd tamed o ginio."

Ni fynnwn ginio, ond gofynnais a roddai hi i mi gwpanaid o ddŵr oer. Daeth a gwydriad o lefrith i mi, a'r hufen melyn yn felys arno. Lawer gwaith wedyn, pan yn yfed llefrith a'i hanner yn ddwfr a'i hufen wedi ei hel yn ofalus oddi arno, bûm y'n hiraethu am y glasiad llefrith a gefais yn Nolwar Fechan. Tra'r oeddem ni'n sgwrsio, clywem droediad ysgafn ar y llofft uwchben. Gwelodd y wraig fy mod yn dyfalu pwy oedd yno, a chododd ei llais i alw, —

"Ann!"

"Ann," ebe finnau, "a ydyw teulu Ann Griffiths yn yr hen gartref o hyd?"

"O nag ydyw, ar ôl ei theulu hi y daethom ni"

"A oes rhai o ddodrefn yr hen deulu wedi aros?"

"Nag oes ddim, ac nid wn i a oes rhai o'r hen deulu yn aros ychwaith."

Wedi i mi gael y sgwrs a'r wraig am amaethyddiaeth, ac a'r ferch am flodau'r ardd, daeth yr ysgolfeistr, yr hwn a letyai yno, i'r tŷ. Y mae'n ŵr deallus, yn sylwedydd craff. Dywedai am ei anhawster i ddysgu plant Cymreig, oherwydd Sais uniaith yw, a mawr ganmolai gyflymder meddwl plant y bryniau rhagor plant Saeson y gwastadeddau. Ond ni chlywsai air erioed am Ann Griffiths; ac edrychai'n ddrwgdybus arnaf, fel pe bawn un heb arfer dweud y gwir, pan ddywedais wrtho ei fod yn byw yn nhŷ emynyddes gorau'r byd.

Ni welais erioed liwiau mwy gogoneddus na lliwiau'r blodau y prynhawn hwnnw; yr oedd y rhosynnau gwylltion, welwn rhyngof ag awyr Mehefin ar bennau'r gwrychoedd, yn orlawn o oleuni; yr oedd goleuni'r haul yn brydferthach pan adlewyrchid ef o'u gwynder hwy na phan yr edrychid ar yr haul ei hun, fel pan yn

"Disgleirio mae gogoniant Trindod
Yn achubiaeth farwol ddyn."

Wedi'r ffordd hir hyfryd oedd cyrraedd mynwent Llanfihangel yng Ngwynfa, a gadael y gwres annioddefol, a myned i mewn i'r eglwys dywyll oer. Nid oes dim neilltuol yn yr eglwys; ond tra yr oeddwn ynddi daeth cyfnewidiad dros y diwrnod,- yn sydyn duodd yr awyr, ymrwygai taranau dychrynllyd trwyddi, fflachiai mellt nes y byddai'r eglwys dywyll yn goleu a beddergryff teulu Llwydiarth yn ymddangos, fel ysgrif gwledd Belsasar, yn amlwg ar ei mur. Doi ryw ddarn emyn o waith Ann Griffiths i'm cof o hyd, -


"Pan fo Sinai i gyd yn mygu,
Sain yr utgorn uchaf radd,
Caf fynd i wledda dros y terfyn
Yng ngrym yr aberth, heb fy lladd."

Rhedais drwy'r glaw bras trystfawr i'r hen westy hwn, a dyma fi. Y mae amryw fforddolion fel y finnau wedi troi i mewn am nodded ar fy ôl, ac mewn hwyl sgwrsio a mi. Treiais dynnu sgwrs am ysbrydion a rheibio, ond cynnil iawn oedd eu hatebion,- yr oeddwn yn rhy debyg i bregethwr. Yr oedd yno un dyn deallus a llais dwfn mwyn, ffarmwr o ardal Pontrobert; nid oedd gan y clochydd air ond ambell i Amen yng nghanol sgwrs y lleill; yr oedd yno was ffarm, wedi gorfod ymadael o'i le oherwydd yr "wimwimsa," fel y galwai yr influenza. Efe oedd y prif siaradwr yn ein mysg. Cwynai nad oedd ganddo unlle ar y ddaear las i droi iddo, ie, ei bod "wedi mynd yn draed moch ac yn botes llo" arno. Wrth weled cot ddu am danaf, dechreuodd siarad ar bwnc dybiai oedd yn gydweddol a'm chwaeth, sef Siân Hughes, Pontrobert, glywais unwaith ar stryd y Bala, amser Sasiwn, yn pregethu yn erbyn y diafol a sol-ffa. "Mi fydde'n sôn am iffern, a pheth whithig o bethe, wrth fechgin ifinc," ebe'r gwas ffarm, yr hwn a ddychrynasid lawer o weithiau, mae'n debyg, gan bregethau'r hen wraig. Yr oedd y Siân Hughes honno, os nad wyf yn camgymryd, yn ferch i Ruth, morwyn Dolwar Fechan, ar gof yr hon y cadwyd emynau Ann Griffiths.

Ond y mae'r cerbyd wrth y drws yn disgwyl, rhyw fath o drol ysgafn gwlad, ac ystyllen ar ei thraws. Y mae'r awyr yn goleuo, y mae'r gwlaw wedi troi'n wlithlaw tyner, y mae'r aberoedd yn llawn at yr ymylon, y mae'r coed yn tyfu i'w gweled wedi'r gwlaw maethlon. Cyn hir bydd dau ar yr ystyllen ar ei ei thraws. Y mae'r awyr yn goleuo, y mae'r gwlaw wedi troi'n wlithlaw tyner, y mae'r aberoedd yn llawn at yr ymylon, y mae'r coed yn tyfu i'w gweled wedi'r gwlaw maethlon. Cyn hir bydd dau ar yr ystyllen groes, mewn trol glonciog, ar ffordd Llanfyllin; a bydd un o honynt, o leiaf, yn meddwl am emyn, os nad yn ei ganu, —

"Gwna fi fel pren planedig o fy Nuw!
Yn ir ar lan afonydd dyfroedd byw;
Yn gwreiddio ar led, a'i ddail heb wywo mwy,
Yn ffrwytho dan gawodydd dwyfol glwy."


Nodyn

[golygu]

Ganwyd Ann Griffiths yn Nolwar Fach, Llanfihangel yng Ngwynfa, yn 1776. Claddwyd hi Awst 12, 1805. Geneth nwyfus, hoff o ymbleseru oedd, nes clywodd bregeth gan Benjamin Jones, Pwllheli, yn Llanfyllin. Crwydrodd lawer i gymuno i'r Bala, dros y Berwyn maith unig. Ac onid oes beth o fawredd dieithr y mynyddoedd yn ei chan?

Llyfr bychan diddorol iawn yw Cofiant Ann Griffiths, gan Morris Davies, Bangor. Cynhwysa hefyd ei llythyrau a'i hemynau; cyhoeddir ef gan Mr Gee. Dinbych; ei bris yw dau swllt. Dyma ddau ddyfyniad o honno.

"Byddai golwg ddymunol iawn ar y teulu yn Nolwar yn nyddu, a'r hen ŵr yn gardio, ac yn canu carolau a emynau. Droeon eraill, byddai distawrwydd difrifol megis yn teyrnasu yn eu plith. Byddai Ann yn nyddu, a'i Beibl yn agored o'i blaen mewn man cyfleus, fel y gallai gipio adnod i fyny wrth fyned ymlaen a'i gorchwyl heb golli amser. Mi a'i gwelais wrth y droell mewn myfyrdod dwfn, heb sylwi ar nemawr ddim o'i hamgylch, a'r dagrau yn llifo dros ei gruddiau, lawer gwaith."

"Yn Hydref, 1804, priododd Miss Ann Thomas a Mr Thomas Griffiths, brawd i'r diweddar Barchedig Evan Griffiths, Ceunant, Meifod. Yr oedd efe yn ŵr ieuanc o deulu parchus, o'r un naws grefyddol a hithau; yr oeddynt hefyd yn agos i'r un oedran, ac yn annwyl iawn o'u gilydd, fel yr oedd eu hundeb priodasol yn cael edrych arno gan eu cyfeillion a'u cydnabod yn un hapus iawn. Daeth efe, ar ôl eu priodas, i fyw ati hi i Dolwar Fechan.

"Ymhen deng mis ar ôl priodi, esgorodd Mrs Griffiths ar ferch, yr hon o'i genedigaeth oedd yn blentyn gwannaidd iawn, a bu farw yn bythefnos oed. Ymadawodd y fam serchog ymhen pythefnos ar ôl ei merch fechan, er galar trwm i'w phriod trallodedig, a lliaws mawr o perthnasau a chyfeillion crefyddol."

Dolenni allanol

[golygu]