Tŷ Coch (Cartrefi Cymru OM Edwards)
← Dolwar Fechan' | Cartrefi Cymru, O. M. Edwards gan Owen Morgan Edwards |
Gerddi Bluog → |
Mae Tŷ Coch yn bennod yn Cartrefi Cymru casgliad o ysgrifau gan Owen Morgan Edwards (1858–1920) a chyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, ym 1896.
Testun
[golygu]TY COCH
Anaml y bu neb mor hoff o gartref ag Ap Fychan, ac anaml iawn y bu i neb gartref tlotach. Ymysg mawrion gwlad, soniai am gymdeithion dinod ei ieuenctid; ac o balasau ehedai ei ddychymyg i'r tŷ to brwyn yn yr hwn y dioddefodd eisiau bara, ac o'r hwn y gorfod iddo gychwyn i gardota aml dro.
Saif y Tŷ Coch yn agos at aberoedd o ddwfr tryloyw, yn ymyl hen ffordd Rufeinig, dan gysgod castell rhy hen i neb fedru adrodd ei hanes, ar fin mynydd sy'n ymestyn mewn mawredd unig o Lanuwchllyn i Drawsfynydd. Y mae'n anodd cael taith ddifyrrach na'r daith o orsaf Llanuwchllyn i Gastell Carn Dochan, os gwneir hi yn yr haf, a chan un hoff o dawelwch ac awel iach oddi ar eithin a grug y mynydd.
Dyma ni'n gadael yr orsaf, gan syllu ar brydferthwch yr Aran draw. Toc trown ar y de, a cherddwn dan goed sy'n taflu eu cysgodion dros y ffordd. Dyma'r "adwy wynt," a hen gapel y Methodistiaid wedi ei droi'n dai. Wrth y tai hyn, yn enwedig wrth y siop draw, digon tebyg y cewch rywun y gellwch dynnu sgwrs ag ef, os ydych yn hoff o ymgom. Hwyrach y tarwch ar hen ddiwinydd a'i bwys ar ei ffon. Hwyrach y cyfarfyddwch a rhywun bydol, - hen ŵr a gwallt fel nadroedd sonia wrthych am ddyfais newydd i wneud cribiniau, neu am ryfeddodau gwledydd pell. Hwyrach y cewch hen hanesydd i ddweud wrthych fel y byddem ni yn Llanuwchllyn yn byw yn yr hen oesoedd. Os na fydd neb yno, a bydd y lle heb neb yn yr haf weithiau, cerddwch ymlaen ar hyd y Gwaliau, ac wedi croesi'r bont cawn ein hunain yng nghwr y Llan, rhwng y fynwent a thai fu unwaith yn dŷ tafarn. Yn y fynwent honno, y tu hwnt i'r eglwys, gorwedd Ap Fychan hyd ganiad yr utgorn. Ac yn y tŷ tafarn hwnnw temtiwyd ef, pan yn laslanc tlawd, i yfed ei glased cyntaf o gwrw mewn cyfarfod beirdd.
Wedi gadael y Llan yr ydym yn dod i ffordd y Bala, ac yn cerdded yn ein blaenau ar hyd-ddi, hyd nes y down at y Bont Lliw a phentref bychan Pen y Bont. Cyn croesi'r bont yr ydym yn troi ar y chwith, ac yn cymeryd ffordd drol sydd yn ein harwain i gyfeiriad tarddle'r afon Liw. Ar un ochr i ni y mae gwrych; ac ar yr ochr arall y mae dôl lydan werdd, a'r afon yn ddwndwr gyda'i godre. Yr ochr arall i'r afon y mae'r Cei, ffordd gul wedi ei chodi'n uwch na'r tir gwastad o boptu iddi. Ar hyd y cei noethlun hwn, dyfal gyrcha'r pererinion Annibynnol i'r Hen Gapel a welwn draw. Anodd cael rhodfa fwy dymunol na'r Cei yn yr haf, pan fo'r brithylliaid i'w gweled yn chware yn yr afon, a phan fo awel ysgafn gynnes yn crwydro dros laswellt a meillion aroglus. Ond yn y gaeaf, pan fo dŵr oer rhewllyd o boptu, pan chwyth awel lem finiog oddi ar fynydd sydd dan ei lwydrew, y mae golwg triglyd truenus ar lawer hen Gristion ffyddlon yn tynnu yn erbyn y rhew-wynt tua'r cyfarfod gweddi.
Llawer gwaith y clywais fy nhad yn adrodd hanes gŵr tew yn cerdded hyd y Cei yn nyfnder gaeaf oer. Er mwyn cynhesrwydd, yr oedd wedi gwthio ei ddwylo i bocedi ei lodrau, ie, i'w gwaelod, oherwydd yr oedd yn erchyll o oer. Pan ar ganol y Cei, llithrodd ei droed ar y rhew, a syrthiodd ar ei wyneb ar y llwybr. Yno yr oedd mewn enbydrwydd mawr. Yr oedd ei ddwylo'n ddwfn, fel y dywedwyd, ym mhocedi ei lodrau. Os ymegniai i dynnu y naill law allan, treiglai oddi ar y llwybr i'r dwr ar y naill ochr, oherwydd yr oedd y llwybr yn gul iawn. Os tynnai'r llaw arall, ai drosodd yr ochr arall, ac yr oedd dwfr yr ochr honno hefyd, yr un mor oer, a rhewllyd. Nid oedd dim i'w wneud ond aros yn llonydd hyd nes y delai rywun heibio. Ni fedrai neb, fel y Lefiad a'r offeiriad y sonnir amdanynt yn yr Ysgrythur, fyned "o'r tu arall heibio" a daeth rhyw Samaritan o'r diwedd i fwrw ei anwyd trwy godi'r gŵr oedd yn methu tynnu ei ddwylo o'i bocedi.
Ond haf ydyw'n awr; y mae'r, defaid yn y mynydd, nid ydyw Awst wedi darfod, y mae'r glaswenwn a blodau'r taranau hyd y cloddiau, ac y mae'r corn carw hyd lethrau'r mynydd. Dyma'r llwybr yn dod â ni at yr afon eto, a dacw'r "Hen Gapel" yr ochr draw, - hen gapel Lewis Rhys ac Abraham Tibbott, Dr Lewis a Michael Jones. O'n blaenau y mae craig serth yn ymgodi i'r nefoedd, ac ar ei hael y mae muriau toredig Castell Carn Dochan. Dywedir fod telyn aur wedi ei chuddio dan y llawr ar ben y graig uchel acw; ond daw'n fellt a tharanau ofnadwy os dechreuwch, gloddio ati. Nis gwn i sicrwydd a oes telyn aur dan lawr yr hen amddiffynfa, ond gwn fod gwallt y forwyn yn tyfu yn rhigolau'r muriau, a gellir syllu ar ei brydferthwch heb ofni mellt na tharanau na dim.
Ond dyma ni wrth y Deildref, cartref John Parry, athro barddonol Ap Fychan, - "bardd rhagorol, llawn o athrylith a than awenyddol, fu farw o'r darfodedigaeth yng nghanol ei ddyddiau Ychydig yn uwch i fyny dyma'r Deildref Ucha, cartref Cadwaladr Jones Dolgellau, hen olygydd y Dysgedydd. Ar y chwith, rhyw ddau hyd gae o'r ffordd, y mae'r Wern Ddu, cartref yr hen Gadwaladr Williams garedig fu'n ceisio darbwyllo Ap Fychan pan yn hogyn nad ai plant llygaid gleision i'r nefoedd, ac mai Deio'r Graig oedd yn achosi'r taranau trwy fynd o ben y castell i lawr y nefoedd, a gyrru olwyn ar hyd iddo. Ymhellach ymlaen, wedi mwynhau golygfeydd rhamantus, dyma ni wrth y Tŷ Mawr lle y daeth Ap Fychan yn hogyn cadw pan yn ddeg oed, a'r lle y bu am saith mlynedd, yn mwynhau llawer o fanteision crefyddol, dan lywodraeth gref gariadlawn y wraig fwyaf deallus mewn diwinyddiaeth a welodd erioed.
Cyn hir, gyda ein bod wrth droed craig y castell, dyma ffordd yn croesi ein ffordd ni, ac yn rhedeg ar draws y cwm. Trown ar y chwith ar hyd-ddi, a dyma ni wrth Hafod y Bibell. Clywodd llawer un Ap Fychan yn dweud mai yn Hafod y Bibell y dymunai fyw. Darluniai'r golygfeydd welid o'r hafod honno, - y mynyddoedd, gwaelod dyffryn Penanlliw a Llanuwchllyn, a Llyn Tegid hefyd am wn i. Tybiai pobl ddieithr, wrth glywed Ap Fychan yn darlunio'r lle, mai palas y gellid ei alw'n Ddymunol, yng ngwlad Beulah, oedd Hafod y Bibell. A dyma'r lle. Y mae'n dechrau adfeilio erbyn hyn, — nid oes yno ond to diferllyd a ffenestri gweigion, fel tyllau llygaid ysgerbwd. Y mae dâs o hen wair yn y gadlas yn ymyl, a llwybr glaswelltog i'r caeau, llwybr nad oes erbyn hyn fawr o wahaniaeth rhyngddo a'r cae. Pe gwelai Ap Fychan ef yn awr, hawdd fuasai iddo ddweud geiriau Dafydd ab Gwilym am y murddun welodd mewn lle y buasai unwaith "yn glyd uwchben ei fyd mwyn," —
"Yn ddiau mae i'th gongl ddwy—och,
Gwely im oedd, nid gwal moch."
Oddiyma awn i fyny hyd y caeau, gan adael gwaith aur y Castell ar y de. Toc croeswn gae, ac y mae'r Tŷ Coch draw yn ei gwr uchaf. Y mae mawredd gwaith bysedd Duw ar y creigiau sydd y tu cefn i'r Tŷ Coch, ond tlodaidd iawn yw'r olwg ar y tŷ ei hun.
Gadewch i ni ddynesu ato. Y mae'n eithaf clyd a glan, er mai bechan iawn yw ei ffenestr a phur anwastad ei lawr. Dyma ddau ŵr ieuanc yn dod o'r tŷ i'n cyfarfod, ac yn cymeryd diddordeb mawr ynom pan ddeallant ein bod ar bererindod i wlad Ap Fychan. Peth digon hawdd i bobl ddieithr fel y ni, a ninnau wedi darllen papurau newyddion ac yn medru siarad Saesneg, ydyw ei lordio hi dipyn, fel y dywed pobl y fro hon, yng ngŵydd pobl wledig. Gwell i chwi beidio mewn cwm fel Penanlliw; y mae'r gŵr ieuanc gwallt ddu yna wedi gweled mwy ond odid, nag a welsoch chwi; ac y mae aml un trahaus wedi gwingo dan ffrewyll awen chwerw'r llall.
Dan gyfarwyddyd dau nai Ap Fychan awn o amgylch y tŷ. Yn y pen uchaf iddo yr oedd tad Ap Fychan yn byw, darn sydd eto dan ei do brwyn. Dyma'r drws diaddurn o'r hwn y cerddodd Ap Fychan i'r byd gyntaf, i ymdrechu'n galed am ei damaid bara i ddechrau, ac i gyfrannu bara'r bywyd i lawer enaid newynog wedyn. Dacw'r ffenestr eto'n aros drwy yr hon y gwelodd oleuni dydd Duw gyntaf erioed rywbryd tua diwedd y flwyddyn 1809. Dyma'r lle y bu ei dad, - dyn duwiol, diwinydd, a llenor da, - yn ymladd yn galed yn erbyn yr amseroedd enbytaf welodd y llafurwr Cymreig, efallai, yn holl hanes ei wlad. Dacw'r mynyddoedd, y naill y tu hwnt i'r llall, y mynyddoedd sy'n ymddelwi yn enaid pob Cymro. Bûm yn meddwl lawer gwaith fod Ap Fychan, wrth ddarlunio ieuenctid Cadwaladr Jones, yn darlunio, - na, nid ei ieuenctid ei hun, - ond y peth ddymunasai'r bachgen tlawd fod. Yr oedd bywyd Cadwaladr Jones, "mab ffarm," yn fywyd yr hiraethai'r "hogyn cadw" am dano.
- "Gallwn yn hawdd ddychmygu iddo dreulio llawer dydd teg, yn hafau dyddiau ei faboed, ar lan y nant sydd yn myned heibio i'r Deildref Uchaf, a'r afon Lliw, sydd yn golchi un ochr i ddôl a berthyn i'r tyddyn, yn chware, ac yn ceisio dal y pysgod gwylltion a heigient ynddynt. A gallwn farnu, yr un mor naturiol, ei
- fod yn ddiwyd yn ymlithro ar hyd ei rhewogydd yn y gaeafau, ac yn cael ei geryddu gan ei fam pan ddigwyddai gael codwm, a tharo ei wegil yn y blymen, neu pan wlychai ei draed, oblegid torri o'r rhew o dan ei bwysau, a dyfod i'r tŷ, ati hi, i gwyno oblegid y damweiniau. Gallwn feddwl mai dyddiau pwysig yn ei olwg ef, fel eraill, oedd dyddiau dasu y mawn, golchi y defaid a'u cneifio, dyddiau cael y gwair a'r ŷd, ffair Llan yr haf, a dydd cyfarfod blynyddol yr Hen Gapel. Gallwn feddwl y chwaraeodd lawer tua 'Chwrt y Person', wrth ddychwelyd yn y prynhawniau gydag eraill, o ysgol ddyddiol Rhos y Fedwen; a'i fod yn aml yn ofni ac yn petruso wrth geisio myned dros y sarn, pan fyddai y llif ychydig dros y cerrig, ac wedi cyflawni y gamp honno, yn neidio ac yn llemain o lawenydd am lwyddiant ei wrhydri, yn hynny o beth. Digon tebyg ei fod ef, fel ei gyffelyb o ran oed, yn brysur tua Chalan mai yn chwilio am nythod adar, ac ym Medi, yn chwilio am y cnau yn y byrgyll. A hawdd i ni gredu ei fod ar lawer min nos yn ddyfal wrando ar isalaw ddofn Rhaeadr Mwy, ac yn dyfod yn ei ôl i'r tŷ yn llawer mwy sobr nag yr aethai allan. Bu lawer noswaith, mae yn debyg, yn cael y fraint o aros ar yr aelwyd, yn lle myned i'w wely, pan fyddai cymdogion yn dyfod i gyfarfod nosol i wau hosanau, i dŷ ei rieni. Bu yn gwrando eu chwedleuon am amgylchiadau yr ardal, y rhyfel â Ffrainc, helwriaeth, ymddangosiad ysbrydion, dewiniaeth, llofruddiaethau, ymladdfeydd rhwng personau unigol, yng nghyd ag ychydig o helyntion crefyddol yr Hen Gapel."
Y mae'r Tŷ Coch ar fin y mynydd, - "y tŷ agosaf i'r mynydd." Rhwng y dŵr glan a'r mynydd-dir iach sydd yn ymyl, y mae'n lle wrth fodd Cymro athrylithgar fo'n magu plant. Ond, yr oedd yr adeg honno'n gwasgu'n drwm ar fythynwyr, yn enwedig rhai'n deulu o ddeuddeg. Dyma'r hanes fel yr adroddir ef gan Ap Fychan ei hun, -
"Yn fuan wedi terfyniad rhyfel Ffrainc, aeth ein bwthyn bychan ni, yr hwn oedd wrth dalcen y Tŷ Coch, yn rhy gyfyng i'r teulu cynyddol a gyfanheddent ynddo, a chafodd fy nhad ganiatâd gan oruchwyliwr Syr Watcyn i ail adeiladu hen dŷ adfeiliedig yn yr ardal o'r enw Tan y Castell. Yr wyf yn cofio mai tŷ newydd tlawd iawn oedd ein tŷ newydd ni. Yr oeddem erbyn hyn yn deulu lluosog; a swllt yn y dydd, ar ei fwyd ei hun, oedd cyflog fy nhad
yn yr hanner gaeafol o'r flwyddyn, ac yr oedd hanner pecaid o flawd ceirch yn costio i ni ddeg swllt a chwe cheiniog. Felly, prin y gallem gael bara, heb sôn am enllyn, gan y ddrudaniaeth. Buom am un pythefnos heb un tamaid o fara, caws, ymenyn, cig, na chloron. Digwyddodd i ni gael ychydig o faip, a berwai ein mam y rhai hynny mewn dwfr, ac a'u rhoddai i ni i'w bwyta gyda'r dwfr y berwasid hwynt ynddo, ac nid oedd ganddi ddim oedd well iddi ei hun, er bod un bychan yn sugno ei bron ar y pryd. Yr wyf yn cofio ei bod yn wylo am ei bod yn gorfod rhoddi i ni ymborth mor wael." Nid un ymffrostiai yn ei dlodi oedd Ap Fychan. Y mae ymffrost ambell un yn ei dlodi mor annerbyniol ag ymffrost un pen ysgafn yn ei gyfoeth. Ond adroddiad diaddurn, diymffrost o dlodi, adroddiad dyn ddagrau o lygaid y caletaf, ydyw yr hanes rhydd Ap Fychan wrth ddarlunio tlodi ei gartref ef. Dywed haneswyr am ogoniant a bri buddugoliaeth y blynyddoedd hynny; yr oedd mawredd yn ymwisgo, fe feddylient, ag anrhydedd tragwyddol. Ond yn nhlodi'r bwthyn wrth dalcen y Tŷ Coch yr oedd dyn gonest yn gorfod edrych ar ei wraig a'i blant heb angenrheidiau bywyd, oherwydd uchelgais pechadurus y milwr a'r uchelwr.
Ni ddaeth tlodi ei hun, daeth clefyd trwm i Dan y Castell. Daeth mam y penteulu yno, a bu farw dan y clefyd. Daeth chwaer Dr Ellis Evans i'w gwylio y nos tra'n gweithio yn ei lle y dydd. Gorfod troi at y plwy am gymorth. Dyma ddernyn o hanes yr amser hwnnw, -
- "Yr oedd gan fy rhieni y pryd hwnnw wely pluf da; ond gan ein bod ar y pryd yn cael cymorth plwyfol, daeth overseer y plwyf, a'i fab gydag ef, i'n tŷ ni, a thynasant y gwely oddi tan fy nhad, yr hwn oedd i olwg ddynol ar y pryd bron a marw, a'i synhwyrau'n dyrysu'n fawr, gan rym tanllyd y clefyd, a gwerthasant y gwely i ddyn o'r ardal oedd ar gychwyn i'r America, a gosodwyd fy nhad i orwedd ar wellt."
Cyn hir daeth iechyd, a dechreuodd y plant ennill tipyn. Ond gadewch i ni groesi, dan gysgod craig y castell, drwy goed mafon duon a heibio cerrig enfawr sydd wedi treiglo o'r graig fry, at Dan y Castell. Yr oedd Ap Fychan a'i frodyr a'i chwiorydd yn adnabod pob un o'r cerrig hyn fel eu cymdogion. Un ffordd i ennill ambell geiniog oedd hel cen oddi ar gerrig. Defnyddid y cen i lifo dillad, ac nid oes bosibl cael lliw prydferthach. Crwydrodd Ap Fychan llawer, yn hogyn byrdew, gyda brawd hyn nag ef, i hel cen cerrig ac i gardota. Clywais hen frawd yn dweud yn ddiweddar ei fod wedi cyfarfod y ddau lawer gwaith. Byddai gan Ap Fychan got laes, - hen got oedd wedi disgyn iddo oddi wrth rywun hyn, - a dwy boced fawr y tu mewn iddi. Yn y naill boced byddai cen cerrig a chardod flawd, ac yn y llall byddai Beibl mawr.
Crwydrodd y ddau frawd unwaith cyn belled ag Aberystwyth. Cardotasant yn Sir Aberteifi, a chawsant lawer o ŷd. Ond cymerodd rhywun calon-galed digydwybod fantais ar y ddau hogyn deg ac wyth oed, a mynnodd eu blawd i gyd am y grôt oedd raid iddynt dalu am groesi'r afon Dyfi. Ond yn y cwch dywedodd rhywun tirion, - "Yr wyf fi'n talu dros y plant bach." "Ni ellais byth," ebe Ap Fychan lawer blwyddyn wedyn, "ar fy nheithiau pregethwrol, fyned heibio'r tai a'm lletyasent, heb deimlo diolchgarwch i Dduw, ac i ddynion hefyd, am y tiriondeb a dderbyniais yn nyddiau plentynrwydd a thlodi."
Er hyn oll, - cafodd Ap Fychan ieuenctid hapus. Wedi'r clefyd, bu'r tad a'r fam yn ddedwydd lawer awr. A phwy na fu wrth fagu plant? Dyma ddarluniad o Dan y Castell, -
- "Yn nechrau haf y flwyddyn 1818 yr oedd gŵr a gwraig, a'u haid o blant nwyfus a chwareus, yn byw dan gysgod craig fawr ac ysgithrog, ac mewn tŷ bychan, a'i do o redyn y mynydd-dir oedd gerllaw iddo, ac nid oedd haul yn tywynnu arno am rai wythnosau yn nyfnder y gaeaf. Yr oedd yn cael ei gysgogi'n dda rhag gwyntoedd o'r gorllewin ac o'r deheu; ond yr oedd awelon oerion y gogledd a'r dwyrain yn ymosod arno yn ddidrugaredd. Mynnai y mwg hefyd ymgartrefu yn y tŷ a'r to rhedyn, gyda'r teulu, ac nid ai allan o'i fodd, os na fyddai'r gwynt yn chwythu o ryw bwynt a ryngai ei fodd ef. Yr oedd megis un o'r teulu.
- "Yr oedd ffynnon o ddwfr iachus yn tarddu o ganol y mynydd mawr, yn union wrth dalcen y tŷ. Ceid digon o danwydd o fawnog oedd yn y mynydd uwchlaw'r tŷ, yr hyn a barai fod yr aelwyd, ar nosweithiau hirion y dyddiau byrion, yn hynod o gysurus. Eisteddai'r tad yn un gornel, a'r fam ar ei gyfer yn y gornel arall, a'r plant yn hanner cylch o flaen y tân, a phob un oedd yn ddigon o faint yn gwau hosan mor gyflym ag y gallai, fel y gallai'r fam fynd a hanner dwsin o barau i'r farchnad ar y Sadwrn, a'u cyfnewid yno am angenrheidiau teuluaidd."
Gadewch i ni adael Tan y Castell, a throi ein hwynebau tua'r Tŷ Cerrig, a "phulpud y Crynwyr." Sylwch ar y graig fygythiol ddanheddog, a'i chastell yn goron doredig ar ei phen. Yng ngwythiennau'r graig acw y mae aur. Pan oedd Ap Fychan yn cardota ei fara ymhell yn Sir Aberteifi, yr oedd gronynnau aur yn nhalcen ei dŷ.
O'n blaenau dacw Foel Llyfnant a'r Arennig, a dyna isalaw ddofn Rhaeadr Mwy. Dacw'r mynyddoedd y bu Ap Fychan yn crwydro hyd iddynt i hel cen cerrig, dacw dai hen breswylwyr Penanlliw, - pobl dal gyhyrog, pobl ddiwenwyn a heddychlon, pobl wedi eu trwytho a diwinyddiaeth gadarn ac iach. Llawer hanes rhyfedd adroddir am grefyddwyr y fro hon. Ond dyma ni wrth Dŷ Cerrig. Yn y cyntedd o flaen y tŷ dywed traddodiad fod y Crynwyr wedi ymgyfarfod laweroedd o weithiau. Byddai rhyw gyfaill crwydrol yn sefyll ar garreg agosaf i'r tŷ, ac yn traethu. Eisteddai'r cyfeillion mwyaf blaenllaw ar y garreg arall, a safai y dorf. Ni wyddys mawr o fanylion hanes y Crynwyr, ond y mae'n sicr eu bod wedi gadael rhyw dynerwch enaid, a rhyw hoffter greddfol o'r efengyl yn y fro hon.
Ffurfiwyd meddwl Ap Fychan dan ddylanwadau iach. Gadewch i ni droi i fyny tua, Chraig y Llan, lle y bu'n hogyn cadw'r caeau, ac mi adroddaf i chwi beth glywais gan hen bobl am dano. Bu am dymor pan meddylid nad oedd llawer iawn o ôl gras ar ei fuchedd. Pan oedd yn egwyddorwas yn y Lôn draw, yr oedd wedi ei brentisio i ŵr crefyddol, - Simon Jones y Lôn. Yr oedd gan Simon Jones fab, - un athrylithgar a direidus, - ac efe oedd hoff gydymaith y prentis go. Ambell dro canent i ryw elyn, -
"Yr un aeliau, a'r un olwg,
A'r un drem, a'r gŵr drwg"
Cedwid Ysgol Sul yng Nghaer Gai; a holai Thomas Ffowc y plant. Un tro gofynnodd i hogyn bychan sydd erbyn hyn yn ŵr cyfrifol yn yr America, —
"Oes gen ti adnod, fy mhlentyn i?"
"Oes."
"Wel, tyrd a hi."
"Bydded hysbys a gwir yw.
Lle crafa'r iâr, y piga'r cyw."
"Da iawn, fy machgen i, pwy ddysgodd yr adnod ene i ti?"
"Twm Seimon a Robin y Go."
"Roeddwn i'n meddwl. Paid di a chymryd dy ddysgu gennyn nhw eto."
Un tro cafodd Mari Jones y Lôn, un o'r gwragedd duwiolaf welodd ei hardal, gan Robin addo dod i'r capel y Sul wedyn. Addawodd yntau ar yr amod ei bod hi'n rhoddi caniatâd iddo yn y bore. Nos Sadwrn cymerodd Twm siswrn a thorrodd un ochr yn unig o wallt hir Robin, ac eilliodd hefyd un gern iddo. Bore Sul ymddangosodd Robin ger bron Mari Jones, gyda gwallt hir ar un ochr i'w ben, a'r gwallt wedi ei dorri yn y gnec ar yr ochr arall. Ni welwyd Robin ymysg y duwiolion y bore Sul hwnnw.
Dro arall yr oedd Twm a Robin yn cychwyn i'r Bala i arddangosfa anifeiliaid gwylltion. Nid oedd gan Simon Jones arian parod i'w roddi iddynt yn eu pocedi, ond rhoddodd bapur i'w roi i hen wraig y King's Head, a ffigwr dau arno. Deallodd y ddau mai deuswllt oedd hynny'n feddwl, a rhoesant ffigwr un o flaen y ffigwr dau.
Gwahanwyd y ddau gyfaill mynwesol ac athrylithgar hyn yn eu marwolaeth. Y mae Ap Fychan yn huno ym mynwent Llanuwchllyn, yn ymyl Simon Jones a Mari Jones. Ac y mae Thomas Jones, mab y rhain, yn huno yr ochr arall i'r Werydd, yn Utica. Ond y mae ei enw yntau ar feddfaen ei deulu, — bu farw yn 1847, yn chwech a deugain oed.
Na feddylier oddi wrth hyn fod Ap Fychan wedi byw'n fachgen gwyllt. Ni chollodd ei dad ei ddylanwad ar ei gymeriad. Ychydig cyn ei farw, yr oedd yn adrodd breuddwyd wrth Ifan T. Davies. “Yr oeddwn i'n breuddwydio neithiwr, Ifan,” meddai, “'mod i'n gweld fy nhad, a dene'r tro cyntaf i mi i weld o er pan fu o farw. Yr oeddwn i ag ef yn cerdded ar hyd ffordd deg wastad-lefn. Yr oeddwn i'n blentyn ac yn cydio yn i law o. Hefo'r ffordd yr oedd aber o ddŵr grisialaidd yn ddwndwr. Dros y gwrych yr oedd drysni, o ddrain a rhedyn a mieri, fel y Wenallt, ac yng nghanol y drysni 'roedd dyn. A dyma fo'n gwaeddi ar fy nhad, — 'Ddyn annwyl, fedrwch chi ddangos y ffordd i'r bywyd tragwyddol i mi?' 'Medra,' medda nhad, ac yn dangos i fys at y ffordd deg, 'dyma hi, mae Rhobet a minnau wedi bod yn i cherdded hi ers blynyddoedd.” Y ffordd a'r aber wrth ei hochr oedd y ffordd y buoin y» ei cherdded at y Ty Coch. A dacw'r WenalJt. Ymlaen y raae golygfeydd mynyddîg rydd orffwys i'r meddwl Uuddedig, os crwydrir yn eu mysg. Byddaf fin hoff iawn o dreulîo dyddiau yn y cymoedd hyn, a byddaf yn meddwl yn aml, wrth bensynnu ar lannau'r aberoedd, am y bachgen fu'n ennill ei damaid prin wrth wylio'r defaid a diosg eu gwisg oddiam gerrig y mynyddoedd.
Nodyn
[golygu]Ar ôl tynnu'r darlun sydd yn y llyfr hwn, y mae'r Tŷ Coch, hen gartref Ap Fychan, wedi ei dynnu i lawr, ac y mae tŷ newydd ar ganol ei adeiladu. Bum heibio Dan y Castell hefyd ddiwedd yr haf diweddaf; cefais ef ar ei draed, ond heb neb yn byw ynddo. Y mae Castell Carn Dochan uwch ben mor gadarn ag erioed, a hen fro hanesiol Penanlliw mor rhamantus.