Neidio i'r cynnwys

Gerddi Bluog (Cartrefi Cymru OM Edwards)

Oddi ar Wicidestun
Tŷ Coch' Cartrefi Cymru, O. M. Edwards

gan Owen Morgan Edwards

Pant y Celyn



GERDDI BLUOG

.

Yr oeddwn wedi meddwl llawer am weld cartref Edmwnd Prys, y cartref sydd yng nghanol y mynyddoedd, y cartref lle cyfieithwyd Salmau Israel i'r iaith Gymraeg. Tybiais mai canol haf oedd yr amser gorau i fynd yno ar draws y bryniau, gan fy mod yn meddwl bob amser mai haf yng Nghymru ydyw'r tymor darlunnir yn y Salmau, pan hiraetha'r byd am yr aberoedd dyfroedd, a phan fo'r porfeydd gwelltog yn hyfryd ar lan dyfroedd araf. "Gefn trymaidd yr haf," chwedl pobl Harlech, y dechreuais ddringo'r bryniau serth sydd rhwng glan y môr a'r cartref yn y mynyddoedd.

Pan eisteddais i orffwys gyntaf, yr oeddwn ar fryn uwchlaw Castell Harlech,- y môr oddi tanaf a'r mynyddoedd uwch fy mhen, y mynyddoedd sydd rhwng glan y môr a gwastatir uchel Trawsfynydd. Llecyn hyfryd odiaeth oedd hwnnw. Dros gaeau o datws gwyrddion, gydag ambell flodeuyn piws ar y cae gwyrdd, gwelwn donnau gwynion afrifed y môr, a'r haul yn goreuro eu hewyn. Os wyt yn ymhyfrydu mewn lliwiau, buasai yn dda gennyt fod gyda mi yno,- i weled y gwyrdd yn dy ymyl, a'r gwyn gyda gwawr aur arno draw drosto. Tybiwn ei fod yn gyfuniad o liwiau prydferthaf nef a daear; ac yn y cyfuniad yr oedd ei swyn. Heibio'r garreg yr eisteddwn arni rhedai dyfroedd grisialaidd o ffynnon y Bedyddwyr, dwr clir wedi codi'n fore ym mro y creigiau a'r grug. Hyd ochrau sych hyfryd yr afonig, blodeuai'r coesgoch a'r rhedyn, gan wasgaru eu perarogl hyfryd gwan. Ac ar ael y bryn o'n blaenau gwelem Gutiau'r Gwyddelod, fel ysbrydion hen amseroedd.

Nid oeddwn fy hun yn y llecyn hwnnw. Yr oeddwn i a gŵr ieuanc, oedd yn treulio ei wyliau gartref yn Harlech, wedi dod yn ffrindiau mawr. A chan ei fod yn gwybod am bob troedfedd o'r ardal, yr oeddwn wedi erfyn arno ddod yn gwmpeini i mi. Ni fuasai'n bosibl cael diwrnod na chwmni gwell. A rhag bod fy nghydymaith yn meddwl fy mod wedi blino eisoes, troais fy nghefn ar olygfa oedd mor swynol i mi.

O'n blaenau yr oedd gallt serth, ac yr oedd corn simne unig i'w weled drosti, fel pe buasai'n codi o'r ochr draw. Corn simneCefn y Filltir oedd, a chlywais fod yno bregethwr unwaith, pregethwr y Bedyddwyr, yn meddu dylanwad ar yr ysbrydion drwg. Hawdd gennyf fi gredu hynny, ac ni rown fawr am bregethwr os na fydd ar yr ysbrydion drwg dipyn o'i ofn ambell i dro.

Yr oedd yr allt yn drwm a'r dydd yn boeth, ac wrth ddringo igam-ogam i ben y bryn safem yn aml, a thaflem aml olwg yn ôl ar y castell a'r môr. Yr oedd sŵn y môr yn dod yn fwy gwan a siòl o hyd, a phrin y clywem ef pan ddoi sŵn gwenynen i'n clustiau, wrth iddi grwydro dros flodau man y mynydd.

Wedi cyrraedd pen y bryn, wele wastatir hir o'n blaenau,- cae hir eithinog glas o'r enw y Fonllech Hir. Yr oedd awel adfywiol yn crwydro o'r mynyddoedd i'n cyfarfod, wedi casglu perarogl mewn cannoedd o gaeau gwair. Oddi tanom yr oedd cwm rhamantus Nancol, a morfa'r Dyffryn. Dros y rhain y gwelem Fochras a'i gregyn, a Sarn Padrig yn y môr. Ehedai aml wylan tua'r tir rhyngom a'r awyr las, arwydd fod storm yn y môr. Yr oedd gorchudd o niwl dros yr Wyddfa a'r Rhiniog a'r Moelfre o'n blaenau.

Daethom i ffordd uniondeg yn rhedeg ar hyd y Fonllech, debyg i'r ffordd Rufeinig, o Lanfair i Feddgelert a Nanmor. Cerddasom ennyd ar hyd hon, gan droi ar y chwith o'r llwybr gerddem o'r blaen. Oddi tanom gwelem ffermdai Drws yr Ymlid a Chil y Bronthyr. Dilynai aber ni, gan fynd dan y ffordd weithiau; efallai i ti ei gweled, darllenydd hoff, yn disgyn yn gawod wen dros y graig yn ymyl castell Harlech.

Troesom o'r ffordd hir union wedi ei dilyn am beth amser, gan gyfeirio ar y de tua Chwm Bychan. Yr oedd tarw'r Ffridd ar ein llwybr, ond ni wnaeth fwy na rhuo. Yr oeddwn wedi edrych o'm cwmpas am le i ddianc, ac wedi methu canfod yr un. Hyfryd i mi oedd gweled y tarw'n rhoi ei ben i lawr, ac yn ail ddechrau pori mewn heddwch. Bûm mewn ffos unwaith, ag ochrau cerrig iddi, a tharw yn bwrw a'i ben ataf, ond fod yr ochrau cerrig yn rhy gul i'w dalcen ddisgyn arnaf. Yr wyf yn cofio ei anadl boeth ar fy wyneb o hyd; a pho leiaf o deirw fo'n y byd, gorau oll gen i.

Caeau bychain caregog oedd yno, gyda darnau o dir amaethiedig ymysg corsydd a brwyn. Yr oedd ffrydiau ardderchog o ddwfr gloyw ymhob man. I lawr oddi tanom gwelem gaeau gwyrddion dyffryn yr Artro, a'r môr dyfnlas draw dros y morfa llydan a'r traeth. Yr oedd gwres yr haul wedi codi cymylau i hulio'r nen. Doi ambell heulwen danbaid trwy'r cymylau, ac yr oedd lliw pob peth yn troi yn ogoneddus tan ei gwen,- lliw melynwyn brenhines y weirglodd, coch gwan blodau'r grug, melyn tanbaid yr eithin, a'r lliwiau afrifed rhwng coch-wyrdd y gwair aeddfed a glaswyrdd yr egin ŷd. Yr oedd llawer o'r gwair wedi ei gynhaeafu oddi ar rosydd y Ffridd a Rhyd yr Eirin, a'r syndod i mi oedd sut yr oeddynt wedi medru lladd y byrwellt rhwng y twmpathau caregog, os nad a siswrn. Ac yr oedd arogl y mynydd yn dod i'n cyfarfod dros y caeau cyneifiedig, arogl crawcwellt a grug.

Wedi croesi'r gefnen hon eto, daethom i olwg y Cwm Bychan, ac wele wlad Edmwnd Prys o'n blaenau. Natur yn ei pherffeithrwydd sydd yno, ni welir ond ychydig o ôl llaw dyn arni, ac y mae'n sicr fod yr olwg a gawn ar y Cwm Bychan yn union yr un fath a'r olwg gâi Edmwnd Prys arni wrth gyfieithu'r Salmau, dair canrif yn ôl.

Gyda'n bod yng ngolwg y cwm, gwelem fynyddoedd yn codi'n sydyn o'n blaenau, a golwg ddu fygythiol arnynt. Pan welais y cwm gyntaf, nid fel cyfieithydd y Beibl y daeth Edmwnd Prys i'm meddwl, ond fel y swynwr fu'n ymryson a Huw Llwyd Cynfel. Ond buan y cynefinodd fy llygaid a'r mynyddoedd geirwon serth, a gwelais y llyn tawel sy'n gorwedd wrth eu traed. Yr oedd rhes o goed rhyngom ag ef, a gwelem ei ddyfroedd gleision tawel rhwng y canghennau. Y tu hwnt i'w gwr uchaf gwelem gaeau llechweddog a rhai gwastad. Y tu hwnt iddynt yr oedd y mynyddoedd o hyd; yr oedd niwl ar ben Carreg y Saeth a'r Rhiniog Fawr, a nis gallem weled pa mor uchel oeddynt.

Ond ymhle mae'r Gerddi Bluog?

Yn union oddi tanom, yr ochr yma i'r cwm. Byddwn yno mewn ychydig funudau. Dechreuasom ddisgyn hyd y llwybr serth, drwy gaeau bychain, llawn o goed gwern ac eithin a grug. A hyd ochr y nant gwelem y feidiog las a lliaws o flodau nad oedd gennym ni enwau arnynt. Yr oedd yno un math o goed bach oeddem yn adnabod yn dda, sef coed llus.

O'r diwedd cyraeddasom y gwaelod, ac aethom drwy lidiart bychan mewn mur o gerrig geirwon. Ac wele'r Gerddi Bluog o'n blaen. Wrth ei gefn yr oedd llond y nant o goed, a ffrwd gref yn rhedeg yn wyllt ar hyd y graig a'r graean oddi tanynt. Ar lan y ffrwd hon gwelem yr adeiladau,- yr helm drol a'r beudai a'r cutiau moch,- ac ymhellach draw na hwynt gwelem y tŷ. Y ddau gar mawn wrth gefn yr helm, y cunogau llaeth yn sychu ar y graig, y buarth glan, y coed cysgodol, yr olwg glyd a threfnus,- y mae'r Gerddi Bluog yn debyg iawn i lawer hendre Gymreig. Ond yr oedd y pinwydd yn taflu rhyw wawr henafol a dieithr ar y lle. Wrth i ni ddod i lawr ochrau'r buarth, yr oedd arogl ceilys yr eithin a chamomeil yn perarogli'r awel, ac yr oedd cymylau gwynion yr haf yn ymlid eu gilydd uwch ein pennau dros y cwm.

Croesasom yr afonig, a dechreuasom chwilio am enwau maswniaid ar hen furiau'r beudai. Ar garreg las fechan wrth ffenestr dalcen un beudy gwelsom hyn, -

Morgan Prys
HYDREF: 31
1728: W. H.
Pen.: Saur

O'r adeiladau daethom at y tŷ, a gwelsom yr enw M. P. a'r dyddiad 1667 ar ran cymharol newydd ohono. Yr oedd ei gefn atom, a throesom am ei gornel i gael golwg ar ei wyneb. Cawsom olwg hen a phatriarchaidd iawn arno. Gwelais ar unwaith mai o'r drws acw ac ar hyd y palmant hwn y doi archddiacon Meirionnydd pan ar ganol rhoi'r salmau mewn Cymraeg mor felodaidd. Lle tawel a chlyd ac unig yw. Y mae'r tŷ a'i dalcen i fryn caregog serth. Ar ben y banc y mae mur, a'r coesgoch yn tyfu gyda'i waelod, a choeden onnen yn gwyro uwch ei ben. Pan droesom am y gornel, yr oedd y mur a'r bryn yn union o'n blaenau. Ar y chwith yr oedd wyneb y tŷ. Yr oedd y drws yn isel, yn debycach i ddrws y dewin nag i ddrws archddiacon, ac yn hen iawn; yn amser ymosodiadau ar dai y cynlluniwyd drysau felly. Yn wyneb hir y tŷ yr oedd un ffenestr; ac un arall wedi ei chau yn amser y dreth ar ffenestri. Ar gyfer y tŷ, ac yn wynebu ato, yr oedd hen dy hyn fyth, wedi ei droi yn dŷ mawn. Rhwng y ddau yr oedd llawr o graig neu o balmant, oddigerth lle tyfai blodau cochion mawr o flaen y tŷ mawn. Safasom ger drws y tŷ i weled pa olygfa geir o hono. Yr oedd pinwydd duon yn ymyl, ac yr oedd awel ysgafn yn gwneud iddynt ysgwyd yn araf, fel hen wragedd y seiat dan awelon o Seion, fel pe buasent yn clywed sŵn y Salmau byth. Rhwng y pinwydd hyn gwelem fynyddoedd ardderchog,- fel y mil o fynyddoedd y sonia'r Beibl am danynt.

Ond yr oedd yn bryd troi i'r tŷ. Yr oedd y gŵr wedi dod allan atom,- gŵr caredig prysur,- a rhaid i ffarmwr fod yn brysur iawn i fyw yn y dyddiau hyn, pan mae prisiau pob peth mor isel. Aethom i mewn dan y garreg fawr sy'n gapan i'r drws. Yr oedd cyntedd hir o'n blaenau, yn mynd ar draws y tŷ i gyd. Ar ein de yr oedd palis pren, a drws tua'i ganol. Troesom trwy'r drws hwnnw i gegin eang, gyda nenfwd isel hen ffasiwn. Yr oedd y llawr yn lan, fel yr aur, ac yr oedd golwg clyd ryfeddol ar y gegin. Draw ar ein cyfer yr oedd y simneiau fawr hen ffasiwn, a'r tân mawn, a'r crochanau.

Yr oedd plismon yn y tŷ, yn nillad ei swydd. Nid am fod drwg- weithredwyr yng Ngerddi Bluog yr oedd wedi dod, ond oddi ar ysfa lenyddol. Y mae aml blismon yng Nghymru'n llenor; ac yr oedd hwn yn dod o gyffiniau llenyddol Llanarmon Dyffryn Ceiriog. Y tu ôl iddo, gan sythed ag yntau, gwelwn gloc enwog Edmwnd Prys. Cas hir, o onnen, debygwn, yw cas y cloc. Nid yw'n mynd,- nid oes ohono ond pen a chas. Ni fynnwn daflu anghrediniaeth ar hen draddodiad, yn enwedig pan fo'r Glas Ynys wedi ei wneud yn destun can; ond paham na fuasai'r "Morgan Price of Gerthi Blyog," dorrodd ei enw arno yn 1734, yn torri ei enw ar rywbeth heblaw'r hen gloc.

Mam yn Israel oedd gwraig Gerddi Bluog, gallaswn feddwl. Gadawodd i ni weld yr holl dy, a mynd i'r llofft i weled pren gwely Edmwnd Prys. Aethom i fyny hyd risiau derw troellog, nes dod i'r llofft lle mae'r gwely. Beth bynnag am y cloc, nis gall fod amheuaeth am y gwely. Gall ei dderw du treuliedig fod yn llawer hyn nag Edmwnd Prys, er feallai fod y pyst wedi eu torri yn ei amser ef neu wedyn. Uwch ben lle'r gobennydd y mae'r pren wedi ei rannu'n banelau ac y mae ysgrifen o gwmpas y panel canol rhywbeth yn debyg i hyn,- E. P., 1592. O'm rhan fy hun, gwell gennyf i na dim yw edrych ar y golygfeydd y bu rhai enwog ein gwlad yn edrych arnynt. Ond, er hynny, yr oedd rhyw foddhad imi deimlo fy mod wedi gweld y gwely y bu Edmwnd Prys yn cysgu ynddo, a'r cloc allasai fod wedi tipian llawer cyn i Forgan Price dorri'r ffigyrau 1734 arno. Ond fy awydd oedd crwydro o gwmpas y Gerddi Bluog.

Yr oedd y diwrnod haf yn ddiwrnod tlws. Penderfynasom dynnu i fyny'r mynyddoedd yr ochr arall i'r Cwm Bychan, i weled y grisiau wnaeth y Rhufeiniaid, ac i gael golwg ar gartref a gwlad Edmwnd Prys. Gwrthodasom fwyd, heblaw llefrith i'w gofio; gan addo dod yn ôl at de. Cychwynasom i lawr tua gwaelod y cwm hyd lwybr troellog, a chawsom ein hunain mewn gwlad ramantus iawn. Unwaith daethom i hafan goediog gysgodol, gyda rhedyn tal yn dechrau melynu hyd ei hochrau, a heulwen wan ar ei brwyn ac ar y dwfr gloewlas araf oedd yn llithro gyda'i min. Ar ochrau'r meysydd y mae creigiau toredig, fel meini wedi eu paratoi i deml; ac yr oedd rhyw ddistawrwydd yn teyrnasu dros yr holl fro gysgodol, fel pe buasai unwaith wedi bod yn lle prysur a llawn o bobl, ac yn awr wedi adfeilio.

Cyn hir yr oeddem ar lan yr Artro, ffrwd wyllt o ddwfr grisialaidd yn rhedeg rhwng dolydd gwyrddion. Yr oedd y ffordd yn mynd yn fwy diddorol o hyd. Wele'r Graig Ddrwg a Charreg y Saeth o'n blaenau, a gwelsom raeadr ac aml lecyn rhamantus. Yr oedd y ffordd yn myned ar hyd min y llyn, ac yr oedd yr olygfa dros y dyfroedd tawel yn un i'w chofio. Ymgodi Carreg y Saeth yn fawreddog y tu arall i'r dŵr. Ar y de yr oedd llwyni o goed, a bryn yn codi y tu ôl iddynt. Ac ar y chwith yng nghyfeiriad yr amaethdy sydd ym mlaen y Cwm Bychan, yr oedd hesg rhwng y llyn a'r caeau gwair. Y mae'r amaethdy hwn mewn lle trawiadol, a dywedodd fy nghyfaill ystori eithaf cyffrous am rai o hen deulu'r tŷ. O amgylch y tŷ y mae hanner cylch o greigiau, fel y darlun o greigiau Edom sydd yn fy meddwl crwydrol i. Y mae y creigiau ar lun muriau anferthol, gwaith maswniaid oesoedd y cewri. Rhwng y creigiau a'r llyn y mae tir,- rhyw hanner gweirglodd hanner mawnog; a throsto gwelem y llyn o hyd fel arian crych, a phinwydd duon yn sefyll fel myfyrdodau y tu hwnt iddo. A thraw, dros y cwbl, yr oedd y mynyddoedd dan len denau o niwl.

Gadawsom yr amaethdy o'n holau, a dringasom i fyny gyda chlawdd mynydd. Buom yn teithio yn hir drwy hafan goediog; ond o'r diwedd daethom i'r mynydd agored, a daeth awel hyfryd dros y graig i'n cyfarfod. Yr oeddwn wedi clywed llawer am y grisiau Rhufeinig yn Ardudwy, ac yr oeddwn wedi meddwl mai rhyw ris neu ddwy oedd yno wedi eu naddu mewn craig. A mawr oedd fy syndod wrth weled llwybr o gannoedd, os nad miloedd, o risiau yn arwain i fyny i'r mynydd. Anhawdd iawn, hyd yn oed i'r ieuanc a'r brwdfrydig, fuasai dringo'r mynydd heb y grisiau; ond yr oeddem yn myned i fyny ar hyd iddynt mor hawdd ag ar hyd llwybr gardd. Anaml y bûm mor hapus wrth gerdded unrhyw lwybr ag wrth gerdded y llwybr Rhufeinig yn Ardudwy. Yr oedd yr awel yn adfywiol a thyner, yr oedd murmur y nentydd yn felodaidd, yr oedd y blodau'n orlawn o fywyd, ac yr oedd tawelwch distaw dwys y mynyddoedd yn adfywiol iawn. Yr oedd y dwfr mor risialaidd, y lliwiau mor danbaid, a'r hin mor heulog, fel mai prin y medrwn goelio fy mod yng Nghymru. Wrth weled y llwybr Rhufeinig, tybiwn er fy ngwaethaf fy mod ar lethrau'r Apeninau Disgynnai'r afonig fechan i'n cyfarfod, o graig i graig, gan fynd yn llai o hyd. Weithiau gwelem fedwen yn crymu uwch ben pistyll gwyn; dro arall gwelem y grug blodeuog wedi ymestyn dros y llwybr. Synnwn paham na threuliwn fy oes ar y mynydd, a daeth i'm meddwl mor ynfyd oeddwn pan oeddwn yn treulio fy oes ar yr iseldiroedd. Toc darfodd yr arber, a daethom at ffynnon loyw ymysg cerrig mawr. Ond nid oeddem eto ar ben y mynydd. Yr oedd ochrau'r mynydd, erbyn hyn, wedi cau at ei gilydd, yn furiau o gerrig enfawr.

Yr oeddem wedi edifarhau am wrthod bwyd yn y Gerddi Bluog. Er llawenydd i ni, yr oedd coed llus bob ochr i'r grisiau, ymron ar ben y mynydd. Cawsom wledd arnynt, cyn dringo i ben y golwg. Ac o'r diwedd, wele ni ar ben y fynedfa; a gwelem lwybr hir yn dirwyn i lawr i wastadedd Traws Fynydd. Clywem yr afon yn murmur yn ddedwydd i lawr yn y gwaelod. Ond tybiwn i mai ar ben mynydd yn unig y mae dedwyddwch.

Edrychasom yn ôl ar y llwybr gerddasem. Gwelsom fod y niwl yn prysur godi o'n holau. Gwelem greigiau duon ysgithrog, fel tyrau dinasoedd llosg yn codi ohono; ac yr oedd y niwl yn torri'n ddarnau wrth daro yn erbyn y creigiau hyn. Ac yr oedd y grisiau Rhufeinig yn arwain i lawr i'r niwl. Nid peth hawdd oedd colli golwg ar Drawsfynydd, a chychwyn i lawr hyd y grisiau drachefn. Cofiwn, wrth fyned i lawr ar hyd iddynt, eu bod yno cyn i'r efengylydd cyntaf ddod i'r wlad, a pheth hen iawn i deimlad Cymro yw peth hyn na'r efengyl.

Ni fedr dyn fyw ar lus yn unig. Mwyn oedd am y gwahoddiad hwnnw i'r Gerddi Bluog. Yr oeddem yn newynog,- yr oedd awel y mynydd wedi dwyn awydd am fwyd wrth roi terfyn ar ein lludded,- ond nid oedd y ffordd brydferth yn rhy hir gennym, hyd yn oed wrth ei cherdded yn ôl.

Heibio'r llyn drachefn a thrwy'r hafan unig cyraeddasom y Gerddi Bluog yn ôl. Yr oedd y wraig garedig wedi ein gweled yn dod. Arweiniwyd ni ar unwaith ar hyd y cyntedd hir hwnnw, ac i'r parlwr yn aden y tŷ. Cawsom de heb ei fath; nid wyf yn meddwl fod cystal hufen yn unlle, na chystal caws. Un o'r Bedyddwyr Albanaidd, hen ddiadell y gŵr rhyfedd o Ramoth, oedd y wraig. Holais lawer arni, oherwydd y mae llawer rhamant am John Jones o Ramoth. Cynnil iawn oedd ei hatebion, a distawach na llawer gwraig glywais yn adrodd hanes. Pan ofynnais iddi am wisgoedd pobl ei chapel, ni chefais yn ateb ond gwirionedd cyffredinol am ddynol ryw,- "Mae pawb gen grandied ag y medra nhw yrwan," ac yr oedd y symledd a'r caredigrwydd sydd yn nodweddu'r seiat fechan yn amlwg yn y tŷ hwn. Tawel, dirodres, a mwyn iawn y cawsom ni wraig un o'r Bedyddwyr Albanaidd yn y Gerddi Bluog. Hyfryd oedd meddwl wrth ymadael, fod hen gartref Edmwnd Prys yn un o gartrefi croesawgar Cymru hyd heddiw.

Dringasom ochr y mynydd, gan droi'n ôl yn aml i edrych ar wlad Edmwnd Prys, a buan y chyraeddasom y ffordd Rufeinig hir sy'n mynd fel saeth hyd y gribell. Yr oedd nant yn cyd dod â ni i lawr, gan ddawnsio a gwenu. Daethom i olwg y môr, a gwelem gastell Harlech yn ddu rhyngom a'r traeth melyn, fel angel coll yn crwydro ar ororau'r nefoedd. Codai cymylau melyn eurog i'r nen, yr oedd lliwiau bendigedig ar y tywod a'r ewyn mor. Nid oedd y castell ond megis corrach du bach ym mhresenoldeb y mynyddoedd a'r môr. Yr oedd y prynhawn yn darfod, ac yr oedd niwl a chysgodion yn dechrau ymdaenu dros yr Eifl a Moel y Gest a'r Wyddfa. A dyna ddiwedd fy nhaith innau i gartref Edmwnd Prys.