Pant y Celyn (Cartrefi Cymru OM Edwards)
← Gerddi Bluog | Cartrefi Cymru, O. M. Edwards gan Owen Morgan Edwards |
Bryn Tynoriaid → |
Mae Pant y Celyn yn bennod yn Cartrefi Cymru casgliad o ysgrifau gan Owen Morgan Edwards (1858–1920) a chyhoeddwyd gyntaf gan Hughes a'i Fab, Wrecsam, ym 1896.
Testun
[golygu]PANT Y CELYN.
"Ym mhle mae Pant y Celyn?" ebe athro yn un o golegau'r Methodistiaid Calfinaidd wrthyf unwaith. Yr oedd ton gwerylgar yn ei gwestiwn, oherwydd ei fod yn gorfod gofyn peth oedd yn dangos cymaint o anwybodaeth. Nid oeddwn yn ddigon rhagrithiol i ddweud fy mod yn synnu at ei anwybodaeth, oherwydd ni wyddwn fy hun, cyn mynd yno, ym mha un o bedair neu bum sir yr oedd Pant y Celyn. Er hynny nid oes odid aelwyd yng Nghymru nad ydyw Pant y Celyn yn air teuluaidd arni.
Ryw ddiwrnod yn yr haf diweddaf yr oeddwn yn teithio o fynydd diroedd Llanwrtyd drosodd i ddyffryn Tywi, ac i lawr ar hyd y dyffryn enwog hwnnw. Wedi rhediad chwyrn i lawr hyd ochrau'r mynyddoedd, daethem i Lanymddyfri gyda'r nos. Ni welwn fawr o dref na dim, o'r orsaf; a throais i'r gwesty cyntaf gefais. Yr oedd yno dân braf, - yr oedd yr hin yn oer a glawog, er mai haf oedd. Yr oedd yno fwyd da ac iachus mewn ystafell lan hefyd. Fel rheol, pur anghysurus ydyw lletyai Cymru o'u cymharu a lletyai gwledydd eraill, yn enwedig tai dirwest. Gadewir y ffenestri yng nghau ddydd a nos, nes y bo arogl anhyfryd ar yr ystafelloedd ac ar y dodrefn; gadewir llwch i hen gartrefu ar bob astell ac ym mhob cornel; a bydd rhigolau duon, digon i ladd archwaeth y cryfaf, ar y cream-jug o wydr tawdd. Ond, yn y gwesty hwnnw ger gorsaf Llanymddyfri, yr oedd popeth gyn laned â'r aur; yr oedd ôl dwfr grisialaidd ar bob peth. Yr oedd y lliain gwyn fel yr eira, yr oedd y siwgr fel pe'n disgleirio yn y llestr gwydr mawr, taflai'r tân oleuni rhuddgoch ar gwpanau glan fel y cwrel. Yr oedd y bara can, yr ymenyn, a'r caws yn flasus, yr oedd yr hufen yn felyn dew, yn ddigon tew, chwedl Kilsby, i geiniog nofio ar ei wyneb yn ddi- brofedigaeth. Ac am y tê, wel, tê, oedd; nid y trwyth roddir o'm blaen yn aml, trwyth nas gwn ar ddaear wrth ei hyfed beth sydd yn y tebot gyda'r dŵr, - pa un ai ffa'r corsydd ai dail carn yr ebol ai sug tybaco.
Wedi dadluddedu o flaen y tân, bûm yn darllen gweithiau S. R. Oedd yn yr ystafell. Ymgollais yn y rhai hynny hyd nes y daeth gŵr y gwesty i ddweud fod y tân bron a mynd allan. Cefais hanes y wlad ganddo, yn grefyddol a gwleidyddol yn bennaf, o safle Bedyddiwr Arminaidd. Cefais bob manylrwydd hefyd am y ffordd orau i gyrraedd Pant y Celyn. Yr oedd pobl fonheddig o Saeson yn aros yn yr un tŷ, a thybiwn unwaith, gan eu bod hwythau'n mynd i'r un cyfeiriad, y medrem cyd - logi cerbyd. Ond, erbyn cael ymgom, trwy ŵr y tŷ, nid oeddynt hwy wedi clywed gair erioed am Williams Pant y Celyn. Yr oeddynt wedi clywed llawer o sôn am Dwm Siôn Cati, ac i chwilio am ei ogof ef yr oeddynt yn mynd. Pe buasai Twm Siôn Cati yn ei ogof, os gwir pob stori, ni fuasai'r brodyr hyn mor awyddus am fynd yn agos ati.
Bore drannoeth, nid cyn i fwyafrif pobl Llanymddyfri godi, yr oedd cerbyd wrth ddrws y gwesty, a gyrrwr ynddo, yn barod i'm cludo tua Phant y Celyn. Nid oedd y gyrrwr yn un siaradus; yn wir, pur anodd oedd cael ystori o honno. Rhoddodd ei ddistawrwydd fwy o hamdden i minnau edrych o'm cwmpas, a meddwl am emyn ar ôl emyn ddoi i'm cof wrth deithio ymlaen hyd gynefin ffyrdd y per ganiedydd. Rhedodd y merlyn, a'i fwng yn yr awel, hyd y ffordd o'r orsaf i'r dref, heibio i ysgol Llanymddyfri. Yna trodd am y gornel tua'r gogledd; gan fynd yn chwyrn trwy'r brif ystryd. Gadawsom gapel prydferth ar y chwith, capel coffadwriaethol Williams Pant y Celyn, - capel Saesneg ysywaeth. Ymhen tipyn, wrth fynd o'r dref i'r wlad agored, yr oeddem yn pasio adeilad arall. Ar y de yr oedd hwn, ac yr oedd golwg urddasol arno, er gwaethaf ei henaint a'i dlodi. Gofynnais i'r gyrrwr a'i hwnnw oedd tŷ'r Ficer, a dywedodd yntau mai ie. Dol werdd lydan a Llanfair ar y bryn i'w weld drosti, — dyna welsom gyntaf wedi gadael y dref. Gwyddwn mai yn y Llanfair hwnnw y claddwyd Williams. Collodd Llanfair ar y bryn o'n golwg, a dilynasom ffordd wastad hyfryd gydag ymyl y ddol a than gysgod bryn creigiog. Daethom i gwm cul, lle'r oedd yr afon wedi torri ffordd iddi ei hun i adael y mynyddoedd. Dyma ddol wastad eto, a choed o boptu iddi, lle hyfryd ddigon. Dacw fynydd yn codi o'n blaenau; daeth awydd canu drosom, -
Ar ddisgwylfa uchel gribog
Disgwyl 'rwyf er's hir brydnawn,
Edrych am yr hindda hyfryd
'Nol cawodydd geirwon iawn,
Ac i'm hysbryd,
Trwy'r cymylau, weld y wlad.
Hyd yn hyn yr oedd wedi bod yn bwrw gwlithlaw, ac yr oedd y wlad dan niwl llwydlas. Fel yr oeddem yn agosáu at y mynydd hwnnw, daeth awel o'r de, a dechreuodd y niwl dorri a chilio. Llawer gwaith y gwelodd yr emynnwr awyr lâs drwy'r cymylau ar y ffordd hon, a llawer gwaith yr hiraethodd am dani, —
"Pa bryd caf deimlo'r awel gref
Sy'n chwythu i ffwrdd gymylau'r nef,
I mi gael gweled Salem bur?
Gogoniant dwyfol uwch y rhod
Nas gwelodd llygaid dyn erioed,
A nas mwynheir mewn anial dir."
Dyma'r ffordd yn troi i'r ochr arall i'r dyffryn; dacw'r afon yn troelli, ôl a gwrthol, fel pechadur yn yr yrfa trwy'r anialwch. Ond y mae sŵn dedwydd yn ei dwndwr, wrth adael ei gyrfa wyllt yn y bryniau a dechrau llifo'n esmwyth gydag ymyl y ddol,—
"Mi deithiais ran o'r anial maith,
'Dwy'n deall pellter pen fy nhaith,
Mewn gwledydd sychion, dwr nid oedd;
Yn awr rwy'n disgwyl, fore a nawn,
O'r nefoedd ddŵr a sypiau grawn,
Wna'm henaid egwan wrth ei fodd."
Dacw'r ffordd yn rhedeg yn syth yng nghyfeiriad y mynydd unig hwnnw. Ni wyddem beth oedd y bryn yn cuddio,—dyffrynnoedd, gwlad wastad, ynte mynyddoedd uwch. Dyma drofa yn y ffordd, o honni gwelem draw, heibio'r mynydd, fynyddoedd eraill, uwch o lawer, heb rif,—
Er c'uwch y bryniau uchel fry,
A sŵn tymhestloedd tywyll, du.
A'r holl freuddwydion ofnau sy,
Anturiaf eto 'mlaen;
Mae nerth y nefoedd fry yn fwy
Na myrdd o'u dychryniadau hwy;
Mae haeddiant dwyfol marwol glwy
Yn drech na dŵr a thân.
Gydag inni gael golwg ar y wlad y tu hwnt i'r mynydd, caeodd gorchudd o wlaw am dani. Dechreuodd y gwlaw yrru dros y dyffrynnoedd, ac yr oedd y gwynt yn dolefain wrth ysgubo dros fryn a phant. Pe buaswn yn hollol ddieithr i'r wlad, tybiaswn mai dros ryw wastadedd mynyddig, heb ddim ond pyllau mawn a chrawcwellt ac ambell ddafad esgymun, yr oer anadlai'r awel. Ond yr oeddwn wedi cael golwg ogoneddus ar y wlad dan haul nawn y dydd cynt; a gwyddwn, oddi wrth emynau Williams, fod ei gartref mewn gwlad brydferth, —
Dyma'r man dymunwn drigo,
Wrth afonydd gloywon, llawn,
Sydd yn llifo o ddŵr y bywyd
O las fore hyd brydnawn,
Lle cawn yfed
Hyfryd gariad fyth a hedd.
Oddi wrth olygfeydd yr ardal hon y cafodd Williams ei liwiau i ddarlunio gwlad yr hedd, —
Mi welaf draw, o bell,
Baradwys hardd ei gwedd,
A phrennau llawer gwell
Yn perarogli hedd;
O hyfryd wlad, tu draw pob gwae,
Gwyn fyd gawn heddyw dy fwynhau.
Ond y mae'r gwynt yn dolefain, a'i sŵn fel sŵn cornchwiglen, ond ei fod yn fwy parhaus ac yn fwy lleddf. Daethom at le yr oedd yr afon a'r ffordd yn ymrannu'n ddwy. Troesom ni ar y chwith i lawr ffordd serth, a gwelem ffordd union o'n blaenau, a bryn uchel, a chlawdd ar ei draws, fel cadwyn wedi ei thaflu drosto. Ond ychydig ymlaen fedrem weld, gan y niwl a'r gwlaw. Mynych ddymuniad oedd am i'r niwl godi, ac am gael gweled gogoniant y wlad, -
Rwyf yn dechrau teimlo eisoes
Beraroglau'r gwledydd draw
Gyda'r awel bur yn hedeg,
Diau fod y wlad ger llaw,
Tyrd, y tir dymunol hyfryd,
Tyrd, yr ardal sydd heb drai.
Dy bleserau o bob rhywiau
Gad im bellach eu mynhau
A chyn bo hir daeth awel eilwaith o'r de, ysgafnhaodd yr awyr, a gwelem rimyn glas o fynyddoedd pell o'n blaen. Yr oedd y ffordd erbyn hyn yn debycach i ffordd dre ddegwm nag i brif-ffordd, yn dirwyn i fyny hyd ochr bryn serth. Wrth i ni godi i fyny, yr oedd yr olygfa'n ehangu o hyd, gan roddi teimladau hyfryd i ninnau, a gwneud inni feddwl ein bod yn gadael gwlaw a'r gelltydd serth ar ein hol —
Rwyf yn teimlo gwynt y deheu,
Yn anadlu awel bur,
Ac yn ysgafn gario f'enaid
Draw i fryniau Canan dir;
Aeth y gaeaf garw heibio,
Darfu'r oer dymhestlog wynt;
Na ddoed mwy'r cawodydd duon
I fy mlino i megis cynt.
O'r diwedd daethom i ben yr allt, a chawsom olwg ogoneddus ar y bryniau dan orchudd ysgafn tyner o niwl. Llawer gwaith y bu Williams yn syllu arnynt oddi ar y ffordd hon, ac nid rhyfedd fod ei emynau gorau mor llawn o honynt.
Rwyf yn gweled bryniau uchel
Gwaredigaeth werthfawr lawn,
O na chawn i eu meddiannu
Cyn machludo haul brydnawn;
Dyma'm llef tua'r nef,
Addfwyn Iesu, gwrando ef.
Llawer gwaith, wedi taith flinderus, y bu Williams yn edrych tua bryniau ei gartref oddi ar y ffordd uchel hon, ac ar yr eangder o fynyddoedd welem y tu hwnt iddynt, -
Rhwng cymylau duon, tywyll,
Gwelaf draw yr hyfryd wlad;
Mae fy ffydd yn llefain allan, -
'Dacw o'r diwedd dy fy Nhad.
Digon, digon!
Mi anghofia'm gwae a'm poen.
Ond nid ydym eto ym Mhant y Celyn, er ein bod yng ngolwg y wlad. Rhed y cerbyd yn chwyrn i lawr y bryn, a dyma ni mewn dyffryn coediog, gyda chapel bychan uwch ben y nant. Capel Annibynwyr Pentref Tygwyn ydyw, ac y mae'r dyddiad 1719 arno. Ni chefais fawr o amser i edrych arno, ond yr wyf yn cofio gweled bedd Daniel Howells o Lanymddyfri, fu'n pregethu am bymtheng mlynedd a deugain.
Wedi gadael y pentref bychan hwn, yr oedd rhiw serth o'n blaen; ac erbyn i mi ddod o fynwent y capel, gwelwn y cerbyd tua hanner y ffordd i fyny'r rhiw, a'r ceffyl yn gorfod ei dynnu o ochr i ochr, er mwyn lladd yr allt rywsut. Deuai un o emynau Williams i'm cof innau o hyd, -
Wel, f'enaid, dos ymlaen,
'Dyw'r bryniau sydd gerllaw
Un gronyn uwch, un gronyn mwy,
Na hwy a gwrddaist draw;
Dy anghrediniaeth gaeth,
A'th ofnau maith eu rhi,
Sy'n peri it' feddwl rhwystrau ddaw
Yn fwy na rhwystrau fu.
Ond dyma fi wedi dal y cerbyd, ac ar ben y rhiw. O'n blaen, o boptu'r ffordd, yr oedd caeau gweiriog, ac awel esmwyth aroglus yn anadlu drostynt. Troesom trwy lidiart ar y de, a dilynasom ffordd oedd yn croesi'r cae gwair i gyfeiriad yr afon. Toc daeth yr afon i'r golwg, a gwelsom ei bod yn rhedeg gyda godrau'r cae. Wrth i ni droi gyda'r ffordd gwelem lwyn o goed o'n blaen, yr oedd coed hefyd yn nyffryn yr afon, a throstynt oll gwelem y mynydd yn dawel a thlws. Lle hyfryd, pell o dwrf y byd, ydyw Pant y Celyn, -
Dyma'r man dymunwn aros
O fewn pabell bur fy Nuw,
Uwch terfysgoedd ysbryd euog,
A themtasiwn o bob rhyw;
Dan awelon
Peraidd hyfryd tir fy ngwlad.
i'r buarth, gwelwn o'm blaen dy newydd, gydag un talcen i'r llechwedd a'r llall at yr afon. Rhyngddo a'r afon yr oedd glyn bychan swynol, llawn o goed. Yn union o'i flaen, i dorri grym y gwynt ac i gadw pethau, yr oedd hen dŷ to brwyn. Teimlwn, er nad oedd dim yn drawiadol iawn yn y tŷ, fod y fangre'n un hyfryd a thrawiadol iawn. Es ymlaen at y tŷ, cnociais, a daeth geneth lygat-ddu, rhyw bedair ar bymtheg oed, i'r drws. Yr oeddwn wedi gweled y darlun o Williams sydd yn llyfrgell Abertawe, a theimlwn fod yn rhaid fod yr eneth hon yn perthyn iddo. "Dyn dieithr o'r Gogledd ydwyf," ebe fi, "wedi dod i weld Pant y Celyn."
"Chwi gewch ei weld, a chroeso. Dowch mewn. Mae'n resyn eich bod yn cael diwrnod mor lawog."
Arweiniwyd fi i mewn, a gwelais fod lletygarwch Cymreig o'r iawn ryw ym Mhant y Celyn. Nid oeddynt wedi fy ngweled i erioed o'r blaen, ac ni wyddent a welent fi byth wedyn. Ond mynnent gael gwneud te i mi; a phan wrthodais,William Williams Pant y Celyn daethant a glasiad o lefrith oedd yn gwneud i mi sylweddoli dymunoldeb "gwlad yn llifeirio o laeth a mêl." Arweiniwyd fi i ystafell Williams, ystafell isel dan drawstiau mawr. Yr oedd cadair Williams yno, yn yr hon yr ysgrifennodd ei hanes ysbrydol mewn cynifer o ddulliau. Cynhigiwyd i mi eistedd yn y gader, ond yr oedd rhyw hanner ofn yn rhwystro i mi wneud hynny. Yr oedd IHS, - Iesus hominum Salvator, Iesu Gwaredwr dynion, - ar galchiad y nenfwd yn yr ystafell fechan unwaith. Trwy'r ffenestr yr oedd llecyn gwyrdd bychan i'w weled, a'r tŷ to brwyn dros ei ben.
Ar ben y grisiau, gwelais gloc Williams, gyda wyneb o bres gloyw, a thic trwm marw. Yr oedd yr hen gloc a'r hen gader yn dwyn i'm meddwl lafur ei oes ryfedd. Hwyrach fod llawer o'r Diwygwyr yn bregethwyr mwy nerthol na Williams Pant y Celyn. Ond ni weithiodd yr un o honynt yn galetach, ac ni fydd dylanwad yr un o honynt mor barhaol â'i ddylanwad ef. Efe, trwy ei emynau, sydd wedi gwneud y Diwygiad yn rhan o fywyd Cymru, ac wedi gwneud iddo esgor ar ddeffroad cenedl, - deffro i feddwl ac i fyw. Fel cydoeswyr Shakespeare yn Lloegr, nid edrychai cydoeswyr Williams Pant y Celyn arno fel y bardd na'r meddyliwr mwyaf yn eu mysg. Barnent ei emynau gan gofio am anawsterau cynganeddu, - gwaith, o fawr ofal Rhagluniaeth am ddyfodol Cymru, na cheisiodd efe ei wneud.
Yr oedd mwy o ramadeg yn emynau Thomas Jones o Ddinbych a mwy o gynghanedd yn emynau'r gŵr rhyfedd athrylithgar o Ramoth, ond Williams ydyw'r per ganiedydd er hynny. Clywais fod Dr Edwards wedi chwilio am un i ysgrifennu erthyglau ar emynau Pant y Celyn, a'i fod wedi gofyn i Eben Fardd ymgymryd a'r gwaith. Safodd Eben Fardd uwch eu pennau fel gramadegydd. Gwrthododd Dr Edwards ei feirniadaeth, a gofynnodd i Wilym Hiraethog sefyll uwch eu pennau fel bardd. Clywais ddweud fod Williams wedi ysgrifennu gormod, ac y buasai'n well iddo fod wedi aros mwy uwchben ei linellau, i'w gloywi gogyfer a'r beirniad gorfanwl byr ei lathen ddeuai gyda'r oes wannach oedd yn dod ar ei ôl. Dyna ddywedir hefyd am Wordsworth, dyna ddywedir am Geiriog, - ac y mae'n dangos mor ddiwylliedig ag mor fas ydyw tir meddwl y rhai a'i dywed.
Ond dyma ŵr tŷ Pant y Celyn. Diacon gyda'r Annibynwyr ydyw, ac un diddan iawn ei ystori. Gwyddai hanes John Penri'n dda, ac yr oedd yn cofio'r Siartwyr yn y De. Ond, rhag ofn i mi feddwl ei fod yn rhyw eithafol iawn, dywedodd, gyda gwen chwareus yn ei lygaid, ei fod yn talu'r degwm fel yr oen. Yr oedd hen gloc Pant y Celyn, gyda'i dipiadau trymion, yn mynd mynd ar ben y grisiau, a gorfod i minnau ymadael heb gael holi ond ychydig iawn. Ond dymunol i mi oedd teimlo fod teulu'r emynwr ym Mhant y Celyn o hyd.
Wrth sefyll ger Pant y Celyn, teimlwn fy mod yn cael esboniad ar lawer emyn. Ar y llecyn hwn bu Williams, lawer tro, yn teimlo awel y deheu, fel y teimlaf finnau hi'n awr, ac yn ei chroesawu, —
Deuwch yr awelon hyfryd,
Deuwch dros y bryniau pell,
Dan eich aden dawel, rasol,
Dygwch y newyddion gwell;
Dygwch newydd at fy enaid, -
Fy enaid innau yno gaed,
Dedwydd enw'n argraffedig
Yn yr iachawdwriaeth rad.
Yma y bu'n disgwyl am y gwanwyn, ac am yr awel dyner o'r de, -
Na'd i'r gwyntoedd cryf dychrynllyd
Gwyntoedd cryf y gogledd draw,
Ddwyn i'm hysbryd gwan trafferthus
Ofnau am ryw ddrygau ddaw;
Tro'r awelon
Oera'u rhyw yn nefol hin.
Yma y gwelodd y wawr, lawer diwrnod hyfryd, yn torri ar y mynyddoedd draw, wedi noswaith o golli cysgu wrth ofni am ei ffydd, -
Draw mi wela'r nos yn darfod,
Draw mi welaf oleu'r dydd,
Yn disgleirio dros y bryniau,
Melys yn y man a fydd;
Ffy gelynion pan ddel goleu,
Ni all pechod, er ei rym,
A'i holl wreiddiau yn fy natur.
Sefyll haul cyfiawnder ddim.
O'r llecyn hwn y bu'n gweld y caeau'n tyfu, a'r blodau'n lledu eu hwynebau i oleuni cynnes yr haul. Dacw'r llygad dydd ar y weirglodd brydferth, a'r glaswenwn, a mantell Fair, a'r bengaled, a chynffon y gath, - ond
Ofer imi weld y ddaear
Yn egino'i hegin grawn,
Ofer imi weld yr heulwen
Fawr yn estyn ei phrydnawn,
Ofer imi weld y blodau
Yn datguddio'u dirif liw,
Tra fo neb rhyw un creadur
Yn cysgodi gwedd fy Nuw.
A dacw fynyddoedd yn ymestyn i'r gogledd, i gyffiniau Ystrad Ffin. Yma y bu'r hen emynwr, pan na fedrai deithio mwy, yn canu ei emyn bendigedig ei hun, —
Rwy'n edrych dros y bryniau pell,
Am danat bob yr awr;
Tyrd, fy anwylyd, mae'n hwyrhau,
A'm haul bron mynd i lawr
Teimlwn, wrth adael Pant y Celyn, fy mod yn troi fy nghefn ar un o lanerchi mwyaf cysegredig Cymru. Y mae golygfeydd y fro hon wedi ymddelweddu yn yr emynau sydd, yn eu tro, wedi rhoddi eu delw ar feddwl Cymru. Synnwn fod golygfeydd Pant y Celyn mor gartrefol i mi; yr oeddwn wedi eu gweled yn yr emynau, bob un. Trwy'r golygfeydd hyn y cafodd Williams
y darluniadau o'r nefoedd sydd, erbyn hyn, yn rhan o freuddwydion ac o obeithion pob Cymro. Gwened yr haul arnat byth, ti gartref per ganiedydd Cymru!Cyn y nos, ail gychwynnais o Lanymddyfri, a dringais i fyny i eglwys Llanfair ar y bryn. Y mae bedd a chofgolofn Williams wrth ochr Pant y Celyn i'r eglwys. Y mae golygfa brydferth oddi ar ben y bryn hwn, oddi wrth y bedd, ar y wlad oddi amgylch; ond ofer fuasai dechrau dweud hanes y fro hanesyddol hon. Y mae'r golofn o wenithfaen Aberdeen, ac y mae'r argraff sydd arni wedi ei godi oddi ar y garreg las oedd ar fedd Williams o'r blaen.
Cyn i mi adael Llanfair ar y bryn daeth un heulwen hyfryd euraidd ar yr yw ac ar wlith y beddau; ac yn fuan iawn gwelwn yr eglwys a'i bedd yn diflannu o'm golwg yn y pellter ac yn y gwlaw. Ddarllenais emynau Pant y Celyn wedi mynd adref gyda mwy o flas nag erioed. Ddarllenais hwy droeon wedyn, ac yr wyf yn barod i ddweud gydag Elfed wrth bob Cymro, -
Dante — dos i'w ddilyn;
Shakespere — tro i'w fyd;
Cofia Bant y Celyn
Yr un pryd.