Draw mi welaf ryfeddodau

Oddi ar Wicidestun
Tyred, Arglwydd, tyrd yn fuan Draw mi welaf ryfeddodau

gan William Owen (Gwilym Alaw)


golygwyd gan Morris Davies, Bangor
O! Am dreiddio i'r adnabyddiaeth
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


86[1] Bwriad grasol Duw.
87. 87. D.

1.DRAW mi welaf ryfeddodau
Dyfnion bethau Tri yn Un,
Cyn bod Eden ardd na chodwm—
Grasol fwriad Duw at ddyn:
Ethol meichiau cyn bod dyled,
Trefnu meddyg cyn bod clwy',
Caru gelyn heb un haeddiant;
Caiff y clod tragwyddol mwy.

2.O! dragwyddol iechydwriaeth,
Yn yr arfaeth gafodd le,
I gyfodi plant marwolaeth
I etifeddiaeth bur y ne':
Cariad bore, mor ddiddechrau
Ag yw hanfod Tri yn Un,
Yn cofleidio meibion Adda
Yn yr Alpha mawr ei Hun.

P 1. O gasgliad 1af Morris Davies.Bangor
P 2 William Owen (Gwilym Alaw)

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 86, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930