Tyred, Arglwydd, tyrd yn fuan

Oddi ar Wicidestun
Deued dyddiau o bob cymysg Tyred, Arglwydd, tyrd yn fuan

gan William Williams, Pantycelyn

Draw mi welaf ryfeddodau
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


85[1] Ymostwng i Benarglwyddiaeth Duw.
87. 87. D.

1.TYRED, Arglwydd, tyrd yn fuan,
Dim ni'm boddia dan y ne',
Dim ond Ti a ddeil fy ysbryd
Gwan lluddedig yn ei le;
Neb ond Ti a gyfyd f'enaid
Llesg o'r pydew du i'r lan;
Os Tydi sy'n gwneud im ochain,
Ti'm gwnei'n llawen yn y man.

2.Hwyl fy enaid sy wrth d'ewyllys,
Fel y mynnych mae yn bod.
Oll o mewn, ac oll oddi allan,
Ddigwydd imi is y rhod:
'N awr Ti'm codi i'r lan i'r nefoedd,
Eilwaith Ti'm gostyngi i lawr;
Mae dy gerydd, mae dy gariad
Im yr un rhyfeddod mawr.


3.Tyrd, rho gerydd im, neu gariad,
'R un a fynnych Di dy Hun;
Ond trwy'r cwbwl cadw f'ysbryd
Yn sefydlog wrth dy glun:
Dros y bryniau gwna i mi gerdded
Tuag adre'n ddinacâd,
Heb yn unlle imi edrych
Ond ar degwch tŷ fy Nhad.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 85, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930