Deued dyddiau o bob cymysg

Oddi ar Wicidestun
Ein nerth a'n cadarn dŵr yw Duw Deued dyddiau o bob cymysg

gan William Williams, Pantycelyn

Tyred, Arglwydd, tyrd yn fuan
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


84[1] Trugaredd Duw.
87. 87. D.

1.DEUED dyddiau o bob cymysg
Ar fy nherfynedig oes;
Tywynned haul oleudeg llwyddiant,
Neu ynteu gwasged garw groes,
Clod fy Nuw gaiff lanw 'ngenau
Trwy bob tymestl, trwy bob hin;
A phob enw gaiff ei lyncu
Yn ei enw Ef ei Hun.

2.Ynddo'n unig 'r wy'n ymddiried,
Hollalluog yw fy Nuw;
A ffieiddio'r wyf bob noddfa
Arall-annigonol yw;
Yn ei iechydwriaeth rasol
Yn unig 'r wyf yn llawenhau;
Dyma'r fan y tardd cysuron
Sy'n dragwyddol yn parhau.


3.Mae ei glustiau yn agored
I bob rhyw ddrylliedig lef,
Ac mae'r drom ochenaid glwyfus
Yn cyrhaeddyd ato Ef;
Pan fo twllwch ac anobaith
Yn amgylchu'r llwybrau cudd,
Fe ddaw 'mlaen, fe dry y cyfnos
Yn gan goleuach hanner dydd.

4.Boed fy nhafod fyth, gan hynny,
Yn seinio'i anghymharol glod,
Rhyfeddodau maith y cariad
Pennaf welodd dyn erioed;
Caiff angylion a seraffiaid
Blethu eu cân â mi yn un,
Gyda llu heb un rhifedi,
Am ogoniant Mab y Dyn.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 84, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930