Ein nerth a'n cadarn dŵr yw Duw

Oddi ar Wicidestun
Darfu noddfa mewn creadur Ein nerth a'n cadarn dŵr yw Duw

gan Martin Luther


wedi'i gyfieithu gan Lewis Edwards
Deued dyddiau o bob cymysg
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


83[1] Ein Cadarn Dŵr.
87. 87. 55. 567.

1.EIN nerth a'n cadarn dŵr yw Duw,
Ein tarian a'n harfogaeth;

O ing a thrallod o bob rhyw
Rhydd gyflawn waredigaeth.
Gelyn dyn a Duw,
Llawn cynddaredd yw;
Gallu a dichell gref
Yw ei arfogaeth ef;
Digymar yw'r anturiaeth.

2.Ni ellir dim o allu dyn:
Mewn siomiant blin mae'n diffodd;
Ond trosom ni mae'r addas Un,
A Duw ei Hun a'i trefnodd.
Pwy? medd calon drist:
Neb ond Iesu Grist,
Arglwydd lluoedd nef;
Ac nid oes Duw ond Ef;
Y maes erioed ni chollodd.

Martin Luther, cyf. Lewis Edwards

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 83, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930