Darfu noddfa mewn creadur

Oddi ar Wicidestun
Duw anfeidrol yw dy enw 2 Darfu noddfa mewn creadur

gan William Williams, Pantycelyn

Ein nerth a'n cadarn dŵr yw Duw
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


82[1] Noddfa yn Nuw.
87. 87. 47.

1.DARFU noddfa mewn creadur,
Rhaid cael noddfa'n nes i'r nef;
Nid oes gadarn le im orffwys
Fythol ond ei fynwes Ef;
Dyma'r unig
Fan caiff f'enaid wir iachâd.

2.Dan dy adain cedwir f'enaid,
Dan dy adain byddaf byw,
Dan dy adain y gwaredir
Fi o'r beiau gwaetha'u rhyw;
'R wyt yn gysgod
Rhag euogrwydd yn ei rym.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 82, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930