Duw anfeidrol yw dy enw 2

Oddi ar Wicidestun
'R wy'n dy garu, Ti a'i gwyddost Duw anfeidrol yw dy enw 2

gan William Williams, Pantycelyn

Darfu noddfa mewn creadur
Mynegai Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930


81 [1]"Dy Lwybrau yn y Dyfroedd Dyfnion."
87.87. 47.

1.DUW anfeidrol yw dy enw,
Llanw'r nefoedd, llanw'r llawr;

Mae dy lwybrau'n anweledig
Yn nyfnderoedd moroedd mawr;
Dy feddyliau—
Is nag uffern, uwch na'r nef.

2.Minnau'n ddyfal sy'n ymofyn
Ar yr aswy, ar y dde,
Ceisio ffeindio dwfwn gyngor
A dibenion Brenin ne':
Hyn a ffeindiais—
Mai daioni yw oll i mi.

3.Da yw'r groes, a da yw gwasgfa,
Da yw profedigaeth llym;
Oll a'm tyn i o'r creadur,
O'm haeddiannau ac o'm grym;
Minnau'r truan
Ffof dan adain Brenin nef.

William Williams, Pantycelyn

Ffynhonnell[golygu]

  1. Emyn rhif 81, Llyfr Emynau y Methodistiaid Calfinaidd a Wesleaidd 1930