Neidio i'r cynnwys

Dringo'r Andes/Cyrraedd Teca

Oddi ar Wicidestun
Brodorion Patagonia Dringo'r Andes

gan Eluned Morgan

Troed yr Orsedd

PENNOD VIII.

CYRRAEDD TECA

 HAGFYR 12fed.—Cyrraedd Teca, o fewn deuddydd i ben ein taith. Dyffryn cul porfaog, a'r afon Teca mewn gwely of racan mân yn prysur rhedeg tua'i harllwysiad gyda'i dwfr o risial yr ia oesol. Yma y cawsom ni olwg agos ar fawredd y mynyddoedd gyda'u llethrau coediog bytholwyrdd. Er ei bod yn ganol haf, yr oedd y mynyddoedd yn wyn a'r gwynt yn oer gethin; yr oeddym wedi teithio drwy'r dydd yn ei ddannedd, ac yn cyrraedd Teca tua machlud haul yn oer a blinedig. Yr oedd yno fasnachdy bychan gan Eidalwr, a chafodd Mair a minnau addewid o loches dan y counter dros nos, a lloches glyd oedd hefyd: yr oedd yno ddigonedd o grwyn pob anifail gwyllt o fewn y mynyddoedd, a tho diddos i gadw allan fin y gwynt. Cawson noson ardderchog, ac 01 yr oedd haul y bore ar y mynyddoedd gwyn yn gwneud y byd i gyd yn wyn,—teimlo'n ddedwydd, diboen, a dibryder,—a phêr awelon y pinwydd fel bywyd o wlad well.

Bore drarnoeth yr oeddym yn ymwahanu; y menni a yn mynd gylch y mynyddoedd daith tridiau, a ninnau'n mynd trostynt daith diwrnod a hanner, dringo fry, fry oedd ein hares am oriau meithion y dydd cyntaf. Tua chanol dydd daethom at lyn hyfryd, glas ei ddwfr, yn llechu yng nghilfach y mynyddoedd, a'r fflamingos gyda'u gwisg o liw'r haul yn dotio at dlysni ac urddas eu hymgyrch o amgylch—ogylch y llyn mawr llydan. Gyda'r dringo parhaus yr oedd dyn ac anifail yn lluddedig, a melus oedd disychedu ar fin y dwfr, ac i'r ceffylau gael mwynhau'r glaswellt ir, ac i ninnau gael llechu yng nghysgod y llwyn bedw a pharatoi byrbryd. Pan oeddym fel hyn yn ein mwynhau ein hunain ynghanol. mawredd ac unigedd ein cylchynion, clywem swn carlamiad march yn agoshau: a daeth atom ddau frodor a bachgen bychan, yn dod yn ol o'r helfa guanacod. Dyna yw eu cynhaeaf hwy, yr amser y bydd y guanacod yn barod i'w lladd, a bydd y merched yn brysur yn gwneud pob math o rugs o'r crwyn, yn barod i'w gwerthu. Teimlwn fod ein byrbryd yn berffaith wedi cael yr hen Indiaid yno gylch y tân i gydfwynhau; 'anghofiaf fi byth fel yr oedd y crot bach yn mwynhau'r siwgr; nid oes gennyf ond gobeithio na fu raid iddo dalu treth drom am ei wledd o felusfwyd.

Wedi caru ffarwel â phlant natur, bu raid cychwyn eilwaith, canys yr oedd gennym daith flin cyn cyrraedd noddfa'r nos. Dal i ddringo yr oeddym o hyd nes oedd ym yn teimlo ein bod bron cyrraedd byd y cymylau. O'r diwedd daethom at ddibyn fel mur ty, ac islaw, ar y dyffryn bychan gwyrdd oedd draw mewn cilfach gysgodol, gwelem fwthyn clyd a mŵg y simdde yn ymgodi tua'r copâu gwyn.

"Dyna ben y daith heno," meddai'r arweinydd.

"Ond sut mae mynd yno?" meddem, yn syn ar fin y dibyn erchyll.

"Yn syth i lawr ffordd hyn."

Cefais gynnyg cerdded i lawr ac arwain fy ngheffyl, ond ni welwn ryw lawer o ddewis rhwng i mi fynd i lawr gyda'm ceffyl nag i'r ceffyl ddod i lawr ar fy nghefn, a barnwn os oedd fy nghydwladfawr gyd-drotiasai i'r ysgol gyda mi yn mentro ar ei ben i'r dibyn, fod cystal cyfle i minnau gyrraedd y gwaelod yr un pryd a'm hysgrublyn. hest Beth pe caffech snap shot o honom yn gwneud y daith fythgofiadwy honno! Wedi mynd ychydig lathenni, byddai y cyfrwy a ninnau rhwng dwy glust y ceffyl, a phan fyddem yn mynd drosodd, rhoddai'r hen geffyl deallus hwb yn ol i ni â'i ben nes y byddem yn teimlo'n weddol ddiogel, ac fel yna, o lathen i lathen, gan droi a throelli igam-ogam nes cyrraedd y gwaelod. Ac yna, rhoed ochenaid ddofn, ddofn, o waelodion calonnau diolchgar; a phan aethpwyd i edrych yn ol, bu raid peidio, yr oedd yr hen fyd yma yn troi yn gyflymach nag arfer rywsut,—hwyrach ei fod o'n mynd yn gynt yn yr Andes.

Cawsom groesaw Cymreig, cynnes, gan deulu'r bwthyn. Yr oedd yno blant bach pert a gwrid y mynyddoedd ar eu gruddiau, a nwyf yr awel yn eu camrau chwim. Rhyfedd oedd cysgu mewn ty; yr oeddwn yn chwilio am y ser bob tro y deffrown, ac nid oedd fy nghyfeilles a minnau yn cysgu hanner cystal, nac yn deffro yn y bore fel ehedydd yn barod i ganu o wir lawenydd calon. Ond yr oeddym ar frys i gychwyn y bore arbennig hwn, canys onid dyma ddiwrnod olaf y daith? Byddem wedi cyrraedd Bro Hydref cyn machludo o'r haul, y sefydliad bychan Cymreig sy megys yn nythu o dan gysgod yr Andes wen.

Ond os oedd mur i fynd i lawr ddoe, yr oedd yna fur i fynd i fyny heddyw; dringo fel ceirw chwim yr Andes, a diau mai eu llwybrau hwy fu'n foddion i ddangos y ffordd i'r teithwyr cyntaf. Yr oedd perygl bod rhwng dwy glust y ceffyl ddoe, ond dyna'r unig fan diogel heddyw. Ond yr oedd pob mynydd a phant yn ein dwyn yn nes i ben y daith, ac felly yr oedd pob blinder a pherygl yn diflannu yn y dyhead am weled wynebau hen gyfeillion mebyd, a'r bythynnod coed a'r to gwellt y clywsem gymaint o son am danynt.

Er fod y mynyddoedd yn wyn, eto, wedi cyrraedd y gwastadedd, yr oedd yr hin yn hafaidd, a ninnau yn ei fwynhau yn fwy oherwydd yr adgof am wynt rhewllyd y Teca. Fel yr ymdeithiem ymlaen yn araf deuai rhai o'r bythynnod i'r golwg, ond ymhell oddiwrth eu gilydd, ryw dair llech cydrhyngddynt. Dechreuai ein harweinydd eu nodi allan. "Dacw'r Garreg Lwyd a'r Mynydd Llwyd y naill ochr iddo, a'r coed pinwydd yn harddu ei fron, doldir hyfryd o flaen y bwthyn, gyda nant loew, loew,— draw gwelwch y Parc Unig yn llechu yn ei fedwlwyn; mae'r pistyll sy'n disychedu trigolion y bwthyn acw yn un o'r rhai hyfrytaf yn y fro." Ond ymhell cyn dod i olwg

Capel y Llwyn

Capel y Llwyn, y Ty Coch, Afon Llwchwr, a Throed yr Orsedd, yr oeddwn wedi mynd yn fud; nid yr olygfa yn unig oedd yr achos o hynny—nid mewn munud awr y sylweddolir tlysni a mawredd yr olygfa—ond fy meddwl oedd wedi glynu wrth yr enwau Cymraeg swynol a phersain. Yr oeddwn dros naw mil o filltiroedd o Wyllt Walia, ac eto, mewn cilfach o'r Andes fawr, yn eithaf Patagonia, wele'r capel Cymreig syml a'r hen enwau cysegredig mewn adgof a hiraeth am Eryri wen a'r "bwthyn lle cefais fy magu."

Mae'r Wladfa fechan ar y goror rhwng Chili ac Archentina, dwy wlad fawr Babyddol, lle mae gwareiddiad ganrifoedd ar ol Cymru wen. Beth wna'r fagad fechan Brotestanaidd hon megys yn ffau'r llewod rheibus? Bu Daniel fan honno hefyd, ond yr un yw Gwyliwr y llew o hyd. "Yr Arglwydd yw fy ngoleuni a'm hiachawdwr— iaeth rhag pwy yr ofnaf? Yr Arglwydd yw nerth fy mywyd, rhag pwy y dychrynnaf." Dyna'r geiriau cyntaf glywais yng nghapel bach y Llwyn fore dydd Nadolig, 1899.

Llawer o helynt a phryder parhaus sydd parthed y ffin rhwng Chili ac Archentina, ond y mae yna ffin Geltaidd yn tyfu'n ddistaw—ddwys, a Brenin Tangnefedd ar orsedd y cwmwl gwyn yn teyrnasu. Bu raid ymysgwyd o'r myfyrdodau hya, canys yr oeddym wedi cyrraedd y Ty Coch, a hen gyfeillion anwyl yn estyn deheulaw mewn croesaw a llawenydd, o'r henafgwr pedwar ugain oed hyd at y bychan penfelyn na welsai'r Gamwy droellog erioed.

Mefus addfed a blodau amryliw,—dyna'r pethau cyntaf dynnodd ein sylw ar ford y Ty Coch—croesaw natur i'r teithwyr ar ddiwedd y daith. Beth melusach, a pheth mor swynol? Blinedig iawn oeddym yn cyrraedd, ond yr oedd y croesaw mor gynnes, a'r gip gyntaf ar swynion yr Andes wedi gwneud i flinder ffoi.

Nid oedd danteithion y deulues groesawus yn abl i'm cadw o fewn muriau'r tŷ. Allan y mynnwn fyned i syllu'n ddiflin ar y coed hyfryd oedd gylch y tŷ, a'r oll yn plygu'n wylaidd o dan bwys eu blodau persawrus, a'r afon Llwchwr yn murmur ei neges wrth basio ar ei thaith. Carped o fwswgl sydd yng nghoedwigoedd Cymru, ond dyma wlad a'i charped o fefus ffrwythlon melus. Teithiais ugeiniau o filltiroedd ymhob cyfeiriad tra'n aros yn y fro, ond ni chollais fy nghyfeillion pêr yn unman: gwlad yn llifeirio o laeth a mefus yng ngwir ystyr y gair.

Yn Nhroed yr Orsedd yr oeddym wedi trefnu i wneud ein cartref tra yng ngwlad y mynyddoedd. Felly, yr oedd gennym i groesi'r afon Llwchwr eto cyn cyrraedd pen y daith. Rhydio'r afon a wneir, ac i'r rhai cyfarwydd mae'n waith digon hawdd. Yr oeddwn wedi arfer rhydio'r Gamwy, ond nid yw hi yn brysio ar ei thaith fel afonydd yr Andes.

Pan gychwynnodd ein harweinydd drwy'r Llwchwr, yr oeddwn i yn syllu ac yn dotio at y graean mân a gloewder y dwfr, a phan godais fy ngolygon, gwelwn fy nghyfeillion ar ganol yr afon yn mynd gyda rhyw gyflymder ofnadwy. Gwaeddais arnynt i anelu am y lan, ond chwerthin yn iachus wnaent, gan ddweyd mai am y lan yr oeddynt yn mynd, a phan euthum innau i ganol yr afon, mynd oeddwn innau hefyd fel nad aethwn erioed o'r blaen. Ynte'r dwfr oedd yn mynd? Barned y darllenydd.

Yr oedd ein ffordd yn mynd drwy'r coed yn awr, coed pinwydd, coed bedw, banadl, drain gwynion, a llu o rai dieithr nad oes ond enwau Hispeinig arnynt. Yr oedd y cwmni yn llawen, ond gwell fuasai gennyf deithio mewn -distawrwydd: yr oedd arswyd y mynyddoedd mawr arnaf, O mor druenus fychan oeddym, a dyma natur fel y daeth o law y Crewr cyn ei "gwella " gan ddynoliaeth eiddil, afiach. Buaswn yn hoffi rhoddi pwys fy mhen ar y ddaear werddlas gan sisial, "Pechais, nid wyf fi deilwng." Clywais lawer pregeth ar ostyngeiddrwydd a gwyleidd-dra, ond dyma bregeth! O na fuasai gennyf ysgrifbin o aur wedi ei wlychu yng ngwlith y wawr i ysgrifennu cenadwri natur at ei phlant. Mae ei llais mor ddistaw-dyner, mae ei dagrau ar bob deilen werdd, a'i miwsig lleddf, swynol, ymhob ffrydlif risialog.

Mawr y son am emynwyr Cymru: dowch gyda mi i'r Andes, dyma emynwyr y nef, fyrddiynnau ar fyrddiyn- nau o honynt,-beth maent yn ddweyd? Ah! dyna eu cyfrinach-"Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi." Y pur o galon a welant Dduw." "Yr addfwyn a eti- feddant y ddaear." Dyma'r gynulleidfa sy'n gwrando ar y Côr Mawr yn mynd trwy'r prif ddarn.

Torri Syched

Nodiadau

[golygu]