Neidio i'r cynnwys

Dringo'r Andes/Brodorion Patagonia

Oddi ar Wicidestun
Y Ffrwd Gyntaf Dringo'r Andes

gan Eluned Morgan

Cyrraedd Teca

PENNOD VII.

BRODORION PATAGONIA

 EDI bod yn treulio y prynhawn yng nghwmni yr hen bennaeth brodorol, bum yn meddwl llawer beth oedd hanes Indiaid Patagonia tybed yn y gorffennol pell, cyn dyfod y dyn gwyn i aflonyddu ar eu heddwch ac i ladrata eu hetifeddiaeth.

Dengys wynebpryd, maint ac anianawd y brodorion, eu bod yn perthyn i bedair cenedl,—

(1) Pampiaid, sef trigolion gwastadeddau eang talaeth Buenos Aires.

(2) Arawcanod, a breswylient lethrau'r Andes o'r ddau tu.

(3) Tehuelches, brodorion tal a chorffol y canolbarth.

(4) Fuegiaid, sef pobl gorachaidd gwaelod eithaf dehau y cyfandir.

Pan sefydlwyd y Wladfa (1865), yr oedd y brodorion yn arglwyddi ar yr holl wlad o Cape Corrientes i lawr hyd Cape Horn, a'r holl berfeddwlad oddiyno i'r Andes. Gyda'r Arawcanod a'r Tehuelches y bu a fynno'r Wladfa yn fwyaf arbennig, yn enwedig yr olaf: hen gewri rhwth, tawel, ydynt hwy.

Yn 1520 y darganfuwyd Patagonia gan yr enwog Ferdinand Magellan, a rhoddodd ei enw ar Gulfor Magellan hyd heddyw; yna daeth Francis Drake yn 1578, ond gwibdeithio gyda'r arfordir a wnae'r teithwyr hyn, heb gael fawr cyfle i weld y brodorion na'r wlad.

Yn ystod y can mlyredd dilynol i ymweliad Drake, bu Narborough, Byron a Wallis yn gwibdeithio tua'r un cyffiniau. Ond ni chafwyd fawr iawn o hanes credadwy hyd ymweliad Darwin yn 1833, er na chafodd yntau nemawr gyfleusdra i dreiddio i'r gwastadeddau diderfyn a'i cylchynnai ar bob llaw, ond ganddo ef y cafwyd yr hanes credadwy cyntaf am Indiaid Patagonia. Mae ei nodiadau dyddorol ar ddaeareg a llysieuaeth y wlad yn hysbys ddigon i bawb bellach, fel na raid manylu. Ond i G. C. Musters y perthyn y clod o roi ar gof a chadw hanes a thraddodiadau yr Indiaid, y Tehuelches yn fwyaf arbennig. Bu efe fyw am ddeunaw mis yn eu mysg fel un o honynt, gan godi ei babell o wythnos i wythnos, a theithio cannoedd o filltiroedd drwy'r eangderau distaw, dyrus, a'i fywyd yn hollol at drugaredd y brodorion. A phan ddaeth yn ol i wareiddiad wedi hir bererindod, yn 1871, cyhoeddodd ei lyfr, "At Home with the Patagonians," a diau nad oes hyd yn oed yn y dyddiau cyfoethog hyn un llyfr mwy angherddol ddyddorol i bawb sy'n hoff o hanes y pell a'r dieithr. Bu i mi fel helyntion Robinson Crusoe i blant Cymru, a theimlaf yn sicr pe ceid cyficithiad Cymraeg o lyfr Musters y byddai yn gymaint ffefryn ag y bu stori Defoe erioed.

Ar ol dyfodiad yr Hispaeniaid i Dde America (1560) y gwybu'r brodorion ddim am geffylau. Crwydro ar draed y byddent cyn hynny, ac y mae eu hen wersylloedd a'u celli yn efrydiaeth ddyddorol i'r hynafieithydd. Mae'n debyg mai eu cyrchfarnau pennaf oedd y rhanbarthau tyfiannus gyda godrau'r Andes; ond gan fod yr hinsawdd yno a'r gweryd yn lleithach, nid hawdd yn awr taro ar eu holion. Yr Arawcanod yn bernaf breswylient y rhannau mynyddig, gan erlid yr hen Tehuelches rhwth tua'r de a'r dwyrain, y man y mae tiriogaeth y Gamwy heddyw. Oddiwrth y gweddillion geir yno, a'r traddodiadau yn eu mysg pan seiliwyd y Wladfa, gellid casglu mai arfau cerryg a challestr a arferent; mai pysg a chregyn oedd eu cynhaliaeth pan yn y cyrraedd; fod cyfnod wedi bod arnynt. pan y claddent eu meirw, a chyfnod arall pan y llosgent hwynt, ac mewn mannau cerrygog mai dodi carneddi arnynt wneid. Lle y mae hen gladdfeydd heb fod yn dra henafol, y mae hyd yn awr bentyrrau o sglodion callestr, pennau saethau, pernau tryferi, a gweddillion llestri pridd amrwd, ond addurnol; ceir hefyd fwyeill cerryg, a morteri a phestlau.

Mae ar y ffarm yn fy hen gartref un o'r claddfeydd dyddorol hyn, a threulid oriau dedwydd gennym ni, blant yr ardal, ar ein ffordd i'r ysgol, yn chwilota am greiriau yn yr hen drysorfa frodorol. Blin iawn gennyf erbyn. heddyw na fuaswn wedi bod yn llawer mwy dyfal gyda'r gwaith, yn lle gadael i naturiaethwyr gwledydd ereill ysbeilio yr hyn a berthynnai yn gyfreithlon i amgueddfa y Wladfa Gymreig. Pan ddeffroais i werth hanesyddol yr hyn oedd megys ar drothwy fy nghartref, yr oedd y pethau gwerthfawrocaf wedi eu cludo ymaith i amgueddía Buenos Aires.

Beth oedd diben yr holl bridd-lestri tybed? Ai llestri lludw y meirw oeddynt, ynte llestri offrymau i'r meirw, yn ol defodau dwy neu dair canrif yn ol ? Claddent eu meirw yn eu heistedd, gan ddodi yn y bedd gyda hwy, eu celfi mwyaf prisiadwy, a pheth bwyd a diod; yna lladdent geffylau a chŵn y marw; gwleddent ar gig y ceffylau a'r cesyg; llosgent ddillad ac addurniadau y marw; torrai y menywod eu hwynebau nes gwaedu a bacddu, ac oernadent alar mawr.

Pam y dodir y bwyd a'r celfi yn y bedd? "Bydd ein brawd yn teithio'n bell, drwy wlad dywell ac unig, a bydd arno newyn a syched cyn cyrraedd glan yr afon fawr,— ac wedi croesi, bydd angen yr holl gelfi i ail-ddechren byw mewn gwlad o lawnder dihysbydd." Amlwg yw fod ganddynt ryw ddrychfeddwl am arall fyd, a rhyw obaith cael ail-gwrdd maes o law. Prif syniad yr hen Indiad am nefoedd yw, gwlad lle nad yw'r game byth yn brin. Mae wedi crwydro'r anialdiroedd mawr ar hyd ei fywyd i chwilio am gigfwyd (ei unig ymborth), ac wedi gorfod mynd yn newynnog ganwaith o herwydd prinder.

Cof gennyf pan yn blentyn fod yna frodor yn marw mewn pabell gerllaw fy nghartref. Yr oeddym ni wedi gwneud yr hyn a allem drosto yn ol ein gwybodaeth, a hwythau'r hen Indiaid wedi gwneud a allent i yrru'r ysbryd drwg o hono, drwy eu gwahanol seremoniau, ond gwywo 'roedd yr hen gyfaill, a'm tad yn ceisio egluro iddo, mor dyner a syml ag y gallai, nad ocdd eisieu iddo ofni marw, mai dim ond taith fêr oedd tros yr afon: a dau gwestiwn olaf yr hen frodor oedd,—A fuasai yno Gymry, ac a fuasai yno gyflawnder o game. Nefoedd ffrwythlon, Gymreig,—dyna nefoedd Indiaid Patagonia heddyw.

Ni cheisiodd Cymry'r Gamwy broselytio na gwareiddio yr Indiaid, ond estynasant iddynt law brawdgarwch, a buont yn eiriol trostynt dro ar ol tro o flaen senedd y brifddinas, pan oedd trais a brad Hispeinig yn eu llethu, ac yn bygwth eu difodi'n gyfangwbl. Deallodd etifeddion y paith nad oedd y newydd—ddyfodwyr wedi dod i'w gwlad i'w hysbeilio na'u gorthrymu, ond i gyd-fyw mewn tangnefedd. Dysgodd yr Indiaid y Cymro i hela'n fedrus, a thrwy hynny achub y Wladfa rhag newyn lawer tro; bu'n ddyfal yn ei ddysgu i wneud pob math o gêr ceffylau o grwyn yr anifeiliaid gwylltion, fu mor werthfawr i'r sefydliad ieuanc ar ddechreu ei yrfa amaethyddol mewn. estron fro, mor bell o gyrraedd pob cyfleusderau.

Bu'r ddwy genedl yn marchnata'n ddiwyd am flynyddoedd plu, crwyn, a charpedau cynnes yr Indiaid yn. gyfnewid am fara maethlon y Cymry, etc. A buan y daeth yr hen frodorion i hoffi cwpaned o de a bara menyn Cymreig gystal â'r un Cymro yn y wlad. Ni fyddai'n beth diethr o gwbl gweled rhes o wynebau melynddu, astud, mewn capel ar y Sul, neu gwrdd llenyddol, neu 'steddfod; a phan fyddai cwrdd te a chlebran, byddai yr un croeso wrth y ford i'r hen frodorion a phawb arall. Byddai ambell bennaeth yn gadael rhai o'r plant ar ol yng ngofal teulu Cymreig er mwyn iddynt fynd i'r ysgol, a buan y deuai'r crots i siarad Cymraeg rhugl; mewn llaw ysgrif nid oedd neb a'u curai: yr oedd eu dwylaw mor ystwyth, a'u hamynedd fel y môr.

Bu un o honynt—y Pennaeth Kengel erbyn heddyw—a minnau yn cydefrydu wrth yr un ddesg am flwyddyn, a buom yn helpu'r naill y llall lawer gwaith. Nid yw wedi anghofio ei Gymraeg hyd heddyw, a phan ddel ar ymweliad â'r Wladfa o dro i dro, o'i gartref pell, mynyddig, bydd croeso cynnes, siriol, iddo ymhob cartref gwladfaol.

Byddai tymhorau neilltuol gan y brodorion i ddod i lawr i'r sefydliad i farchnata; deuent yn llu banerog, gant neu ddau gyda'u gilydd; cannoedd o geffylau, cannoedd o gŵn, ugeiniau o blant bach wedi eu pacio mewn cewyll gwiail, un bob ochr i'r fam, ar y ceffylau rhadlon, y pebyll, a'r pyst, a'r nwyddau gwerthadwy yn bynnau mawrion ar y ceffylau gedwid yn arbennig at y gwaith hwnnw; a'r helwyr ar eu meirch chwim, bywiog; prif uchelgais llanciau Indiaidd yw cael gyr da o geffylau hela, a'r gêr wedi eu plethu'n gelfydd—gywrain, a'u haddurno â modrwyau arian.

Wedi cyrraedd, byddent yn dewis y mannau addasaf i wersyllu, ac yna deuai negesydd oddiwrth y pennaeth at y ffermwr yn awgrymu y buasent yn hoffi cael gosod eu pebyll ar ei ffarm, ac ni fyddai byth unrhyw wrthwynebiad.

Gwaith y chinas, neu'r merched, fyddai dadlwytho a

gosod y pebyll i fyny, cynneu tân a gwneud bwyd; a'r llu

plant bach yng ngwisg natur yn chwareu ac yn prancio gan ystwytho eu cymalau wedi'r daith hirfaith, a ninnau'r plant Cymreig yn cyd—chwareu mewn hwyl, heb freuddwydio am eiliad fod unrhyw wahaniaeth rhyngom ni a'n cymdeithion bychain melynddu. Ymhen blynyddoedd wed'yn, wedi croesi'r Werydd, a darllen syndod ac anghrediniaeth ar ambell wyneb Prydeinig wrth i mi ddweyd fy stori seml, y deallais gyntaf nad yr un oedd y du a'r gwyn! A'r hyn a barai fwyaf o ofid i'm meddwl ieuanc anwaraidd i oedd,—pwy oedd wedi creu y dyn du? Nid oeddwn wedi clywed son ond am un Crewr ac un dyn, ac er i mi ddod i Gymru oleuedig, yn y tywyllwch yr wyf o hyd. Onid yw'r bychan melynddu, dyfodd fel blodyn gwyllt yng nghoedwigoedd yr Andes, ac a gusanwyd filwaith gan belydrau llachar haul y nef, onid yw yntau hefyd yn y byd y bu cymaint dioddef er ei fwyn? Nid yw dyrus bynciau'r greadigaeth yn aflonyddu rhyw lawer arnaf, ond mae fy hyder yn gryf y caf weled miloedd o hen Indiaid Patagonia wedi croesi'r afon fawr yn ddiogel, i wlad lle nad oes na du na gwyn, dim ond praidd y nef ac un Bugail.

Mae personoliaeth yr Indiad yn ddyddorol iawn; mae yna ryw dawelwch a gorffwysdra yn ei wynebpryd, a'i lygaid ddyfnddwys fel pe'n adlewyrchu'r eangderau distaw; mae pob osgo o'r corff lluniaidd mor naturiol a diymdrech a'r glaswellt dyf wrth ei draed, ac y mae nerth a mawredd y mynyddoedd yn y corff talgryf, allt cydnerth, fel engraifft o ddynoliaeth iach, ddilyfethair; diau nad oes ei debyg ar gael heddyw.

Maent yn lanwaith eu harferion mor bell ag y caniata eu bywyd crwydrol: ymdrochant yn ddyddiol, a chan fod eu holl wisgoedd yn gynwysedig mewn mantell groen seml, nid oes angen golchi na thrwsio; y fath wynfyd fuasai hynny i aml deulues drafferthus yn y dyddiau hyn.

Mae'r brodorion yn foesgar a gwylaidd ymysg estroniaid. Mae eu tân a'u bwyd yn rhydd i bawb a ddel, eithr gwae'r teithiwr hwnnw ddigwyddo amharchu'r croesaw.

Nid oes unrhyw awydd yn y brodorion i efelychu gwareiddiad; os byddant yn synnu neu ryfeddu at unrhyw beth, nid ydynt byth yn dangos hynny; mae wyneb Indiad yn hollol anarllenadwy.

Mae yna ryw ddieithrwch, rhyw gyfaredd, yn y wlad a'i phobl, pan eler i ddwys fyfyrio eu hanes. Ymhob gwlad arall, hyd yn ced mewn coedwigoedd tewfrig, ceir olion ac adfeilion hen ddinasoedd, lle y bu rhyw genhedloedd o'r hen oesoedd yn byw ac yn ffynnu, ond ym Mhatagonia, gyda'i harwynebedd o 300,000 o filltiroedd ysgwar, ni cheir maen ar faen. Ond er fcd gwledydd ereill yn hen, mae Patagonia yn hŷn. Mae'r llwythi crwydrol wedi bod yn cyniwair drwy'r pampa tawel er ys canrifoedd, a'r glaswellt yn tyfu dros olion tân eu gwersylloedd, ond byth yn newid nac yn nodi unrhyw ran o'u hen wlad; na, er fod Patagonia ar un ystyr yr hynaf o'r gwledydd—canys yma deuwn wyneb-yn-wyneb â'r amser cyn-hanesiol, ysgerbydau y bwystfiled mwyaf, ac eirf callestr y dyn cyntefig, heb ddim ond y blynyddoedd cydrhyngddynt, cenhedlaeth ar ol cenhedlaeth wedi tyfu ar fynwes natur, heb ddim i nodi eu haml bererindodau ord y mân lwybrau fel gwe'r copyn dros fynydd a dôl,—mor gul ac areglur ydynt, fel na all ond brodor eu dilyn.

Synfyfyria'r teithiwr ar lan afonydd dyfroedd ac yng nghesail y llynnoedd llonydd, gan freuddwydio am y cenedlaethau fu'n gwersyllu ar eu glannau, a'r miloedd anifeiliaid fu'n drachtio'r dyfroedd. Ord nid oes dim yn aros ond y mynyddoedd yn eu glâs a'u gwyn, a'r pampa diderfyn gyda'i laswellt fel tonnau'r môr, a'r gwynt Patagonaidd nad yw byth yn cysgu. Cymoedd ar ol cymoedd, peithdir ar ol peithdir, y Werydd yn y Dwyrain a'r Andes yn y Gorllewin, a rhyngddynt, drwy'r holl eangderau, nid oes un arwydd dynol ond y llwybrau cul sy'n prysur ddiflannu am byth, fel y mae gwareiddiad yn difa'r brodor.

Trist yw meddwl fod hen genhedloedd mor dawel, mor addfwyn, o gynheddfau cryfion, iach, gorff a meddwl, mor hen eu haniad, mor swynol eu hanes,—mor anhraethol drist yw meddwl fod y dyn gwyn gyda'i Gristionogaeth a'i ddiod ddamniol yn ysu ac yn difa fel tân pa le bynnag yr elo. A raid i'r pethau hyn fod? Dyna gwestiwn sydd wedi dwys—lithro drwy'm calon ganwaith wrth synfyfyrio ar hanes brodorion crwydrol pob gwlad; Indiaid Cochion Gogledd America, Maories swynhudol Awstralia, a hen gyfeillion fy mebyd innau yn Ne America. Nid yw'r Hispaenwr un gronyn gwaeth na'r Ianci a'r Sais yn hyn o beth; difa brodorion a chenhedloedd bychain yw pechod parod pob un o honynt, ond sut mae cysoni eu gweithrediadau â dysgeidiaeth y Testament Newydd sy bwnc rhy ddyrus i mi ei gyffwrdd. Ond mae'r trueni a'r tristyd wedi suddo i eigion fy nghalon filwaith wrth deithio'r peithdir glân, distaw, yn nhawelwch nos ac yng ngoleu gwyn y lloer.

Pan ddechreuodd y Llywodraeth Ariannin erlid yr hen frodorion yn 1880, bu'r Wladfa yn eiriol trostynt dro ar ol tro, eithr hollol ofer fu pob ymgais i lareiddio dedfryd haearnaidd y llywodraethwyr; lladdwyd cannoedd yn y rhyfel anghyfiawr, anghyfartal; awd a channoedd ereill yn garcharorion i brifddinas Buenos Aires,a rhannwyd hwy rhwng mawrion y wlad fel caethion! A phed ysgrifennid hanes y teithio tros y môr garw mewn llongau bychain caethiwus, a'r creulonderau gyflawnwyd, a'r golygfeydd ar ddec y llongau ym mhorthladd y ddinas pan wahenid y plentyn sugno oddiwrth fron ei fam, i fod yn degan mewn rhyw balas gwych lle'r oedd pechod a moethau wedi lladd yr enaid, ac y cipid y bychan llygatddu, gydiai mor dyn yn llaw ei dad, gan ryw goegyn i'w roi ar flaen ei gerbyd o fewn cyrraedd hwylus ei chwip,—gwenai'r ddinas mewn dirmyg wrth ben y syniad fod gwr a gwraig frodorol yn caru ei gilydd, ac fod yn well ganddynt ddyfrllyd fedd dros ganllaw'r llong na chael eu gwahanu, —ped ysgrifennid ond y ganfed ran o'r pethau hyn, byddai yna "Gaban F'ewyrth Twm" yn Ne America hefyd; eithr ysywaeth nid oes eto un i'w ysgrifennu.

Yn y cyfwng hwn yn hanes yr Indiaid, ysgrifennai aml i hen bennaeth adfydus at fy nhad, fel yr un eiriolasai trostynt fwyaf o bawb, i ddweyd ei gwyn a gofyn am gyngor; ac fel engraifft o'r ysbryd mawrfrydig heddychol feddiannai'r hen Indiaid yn wyneb helyntion mor alaethus, dodwn yma gopi o lythyr y Pennaeth Saihueque, hen gawr tywysogaidd yr olwg arno, ac er yn agos i 70 mlwydd oed, sydd a'i wallt fel y nos, a'i ddannedd fel yr ifori, a'i gorff fel derwen y mynydd:—

"Daeth i'm llaw eich nodyn gwerthfawr. Yr wyf yn trysori gyda hyfrydwch y cynghorion a'r hanesion a roddwch i'm llwyth i fod yn heddychol gyda'r Llywodraeth a chyda chwithan. Gyfaill, dywedaf wrthych yn onest na thorrais i yr heddwch a'r ewyllys da sydd rhyngof a'r Llywodraeth yn awr er's rhagor nag ugain mlynedd, ac ddarfod i mi gyfiawni fy holl ymrwymiadau wnaethwn yn Patagones yn ffyddlon. Eithr ni allwch chwi byth, fy nghyfaill, amgyffred y dioddefaint dychrynllyd gefais i a fy mhobl oddiar law yr erlidwyr. * * Daethant yn lladradaidd ac arfog i'm pebyll trigiannu, fel pe buaswn i elyn a lleiddiad. Mae gennyf fi ymrwymion difrifol gyda'r Llywodraeth er ys hir amser, ac felly ni allaswn ymladd nac ymryson gyda'r byddinoedd, a chan hynny ciliais o'r neilltu gyda'm llwyth a'm pebyll, gan geisio felly osgoi aberthau a thrueni, yn yr hyn y llwyddais am beth amser o leiaf. Nid wyf fi anwrol, fy nghyfaill, ond yn parchu fy ymrwymiadau gyda'r Llywodraeth, ac ar yr un pryd feithrin yn ffyddlon y ddysgeidiaeth a'r gofalon roddodd fy nhad enwog—sef y prif bennaeth Chocari—i beidio byth a gwneud niweidiau nac amharu y gweiniaid, eithr eu caru a'u parchu yn ddynol. Er hyn oll, yr wyf yn fy nghael fy hun yn awr wedi fy nifetha a fy aberthu,—fy nhiroedd, a adawsai fy nhadau a Duw i mi, wedi eu dwyn oddiarnaf, yn gystal a'm holl anifeiliaid, hyd i hanner can' mil o bennau. Oblegyd hyn, gyfaill, yr wyf yn gofyn i chwi roddi gerbron y Llywodraeth fy nghwynion yn llawn, a'r trallodion wyf wedi ddioddef. Nid wyf fi droseddwr o ddim, eithr uchelwr brodorol, ac o raid yn berchennog y pethau hyn. Nid dieithryn o wlad arall, ond wedi fy magu ar y tir. Oblegyd hynny ni allaf ddirnad y trueni sydd wedi disgyn arnaf drwy ewyllys Duw, ond gobeithiaf y gwel Efe yn dda fy neall o'i uchelderau, a fy amddiffyn. Ni wneuthum i erioed ruthr—gyrchoedd, fy nghyfaill, na lladd neb, na chymeryd carcharorion, a chan hynny erfyniaf arnoch gyfryngu droswyf gyda'r awdurdodau, i ddiogelu heddwch a thangnefedd ein pobl.

"Gobeithiaf ryw ddiwrnod gael ymgom gyda chwi, a gwneud rhyw drefniad cyfeillgar rhwng eich pobl chwi a'm pobl i. Hyn trwy orchymyn y Llywodraeth Frodorol,

"VALENTIN SAIHUEQUE."

Dyna i chwi bortread byw o'r hyn oedd hen frodorion Patagonia cyn i wareiddiad eu dirywio!

'Rwy'n teimlo mai dim ord cipolwg frysiog wyf wedi allu roi i chwi o'r hen frodorion; maent yn haeddu llyfr iddynt eu hunain, a gellid ei wneud yn angherddol o ddyddorol ond cael hamdden a heddwch i deithio eu gwlad a chasglu eu traddodiadau. Mae hyn yn un o- freuddwydion fy mywyd.

Ymhen ugain mlynedd eto, digon prin y bydd brodor yn troedio'r peithdir, a'r llwybrau cul fu gynt yn gyniweirfa pobloedd lawer wedi diflannu fel hwythau o dan las dywarchen yr hen ddaear. Fel y dyhea y meddwl dwys. am gael gwybod yr hanes fu; ond nid oes dim ddistawed â pheithdir Patagonia, na neb mor dawedog â'r hen frodorion.



Nodiadau[golygu]